Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 22 af 2010

Y Teulu - Yng Nghymru

Newid enw

Mae'r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr



Sut i newid eich enw

Os ydych yn dymuno cael eich adnabod gan enw gwahanol gallwch newid eich enw ar unrhyw adeg, ar yr amod nad ydych yn bwriadu twyllo neu gamarwain person arall. Nid oes gweithdrefn gyfreithiol i’w dilyn er mwyn newid eich enw. Yn syml iawn y cyfan sy’n rhaid gwneud yw dechrau defnyddio’r enw newydd. Gallwch newid eich enw bedydd neu eich cyfenw, ychwanegu enwau neu ail-drefnu eich enwau presennol.

Er nad oes modd cyfreithiol o newid eich enw, mae’n bosib y byddwch yn dymuno cael tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw, gweler y pennawd Tystiolaeth o Newid Enw. Fodd bynnag, nid ydych yn medru newid y manylion ar eich tystysgrif geni, ac eithrio amgylchiadau cyfyngedig.

Gall newid y manylion ar eich tystysgrif geni fod yn gymhleth. Os ydych yn dymuno gwneud hyn dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Pan fyddwch wedi penderfynu newid eich enw, gallwch ddefnyddio eich enw newydd at pob diben, er enghraifft, cyhoeddi gostegion priodas, gweithrediadau cyfreithiol, cael trwydded yrru neu basport, neu newid manylion ar drwydded yrru neu basport.

Newid enw plentyn

Gallwch newid enw eich plentyn ar unrhyw adeg, ar yr amod nad ydych yn bwriadu twyllo neu gamarwain person arall. Nid oes gweithdrefn gyfreithiol y mae'n rhaid ei dilyn er mwyn newid enw plentyn, ar yr amod fod pob un sy'n gorfod rhoi caniatâd wedi gwneud hynny. Yn syml iawn mae’r rhiant yn dechrau defnyddio’r enw. Gellir newid enw bedydd neu gyfenw, ychwanegu enwau neu eu hail-drefnu.

Er nad oes modd cyfreithiol o newid enw plentyn, mae’n bosib y bydd angen tystiolaeth fod enw’r plentyn wedi newid (gweler dan y pennawd Tystiolaeth o newid enw). Fodd bynnag, ni ellir newid y manylion ar dystysgrif geni y plentyn, ac eithrio mewn amgylchiadau cyfyngedig.

Gall newid y manylion ar dystysgrif geni plentyn fod yn gymhleth. Os ydych yn dymuno gwneud hynny dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghriafft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc o dan 16 oed nid oes yn rhaid cael eich caniatâd chi cyn y gellir newid eich enw. Fodd bynnag, os ydych yn gwrthwynebu newid eich enw gallwch wneud cais am orchymyn llys i atal y newid, ar yr amod fod y llys yn hapus fod gennych ddealltwriaeth digonol o’r hyn sy’n gysylltiedig.

Fel plentyn neu berson ifanc o dan 16 nid ydych yn medru newid eich enw heb ganitâd eich rhieni.

Unwaith y byddwch wedi newid enw plentyn gellir ei ddefnyddio at bob diben, fel dechrau yn yr ysgol neu gofrestru gyda meddyg teulu. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd angen tystiolaeth (gweler y pennawd Tystiolaeth o newid enw.

Pwy sy’n medru newid enw plentyn

Mae’n rhaid fod gennych gyfrifoldeb rhiant cyn i chi fedru newid enw plentyn. Fe fydd gan fam fiolegol gyfrifoldeb rhiant dros ei phlentyn bob tro, ond mae pobl eraill yn medru cael cyfrifoldeb rhiant hefyd. Er enghraifft, os yw rhieni plentyn yn briod, fe fydd gan y ddau gyfrifoldeb rhiant. Efallai y bydd tad dibriod wedi cael cyfrifoldeb rhiant. Neu os yw’r fam mewn partneriaeth sifil, efallai y bydd ei phartner sifil wedi cael cyfrifoldeb rhiant.

Os oes gan ddau berson neu fwy gyfrifoldeb rhiant dros blentyn, mae un ohonynt yn medru newid enw’r plentyn yn gyfreithiol os yw'r llall/gweddill yn cytuno yn unig. Nid oes yn rhaid i’r fath gytundebau fod yn ysgrifenedig.

Os oes yna orchymyn ymgartrefu mewn grym, ni ellir newid enw’r plentyn heb gytundeb ysgrifenedig gan unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant neu ganiatâd y llys.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gorchmynion ymgartrefu, gweler Dod â phriodas i ben, Dod â pherthynas i ben os ydych yn cydfyw neu Dod â perthynas sifil i ben.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyfrifoldeb rhiant, gweler Plant ar ddiwedd eich perthynas yn Dod â pherthynas i ben os ydych yn cydfyw neu Plant ar ddiwedd partneriaeth sifil yn Did â phartneriaeth sifil i ben.

Priodi neu gofrestru partneriaeth sifil

Os ydych yn newid eich enw pan fyddwch chi'n priodi neu'n cofrestru partneriaeth sifil, fel arfer fe fydd copi o'r dystysgrif briodas neu dystysgrif partneriaeth sifil yn ddigon o dystiolaeth eich bod wedi newid eich enw.

Ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil

Os ydych yn ysgaru neu'n diddymu eich partneriaeth sifil, efallai y byddwch chi am fynd yn ôl at yr enw a oedd gennych o'r blaen. Fel arfer, fe fydd copi o'r dystysgrif ysgaru neu'r dystysgrif ddiddymu yn ddigon o dystiolaeth eich bod wedi newid eich enw. Os ydych am fynd yn ôl at yr enw a roddwyd i chi adeg eich geni, efallai y bydd angen i chi ddangos tystysgrif geni.

Nôl i’r brig



Tystiolaeth o newid enw

Nid oes angen tystiolaeth cyfreithiol arnoch eich bod wedi newid eich enw, ar yr amod y gellir eich adnabod wrth yr enw newydd a ddewiswyd gennych. Fodd bynnag, mae yna rai amgylchiadau, er enghraifft, gwneud cais am basport,lle mae tystiolaeth ychwanegol o newid enw yn ofynnol. Mae’r wybodaeth sy'n ofynnol yn amrywio gan ddibynnu ar y pwrpas y mae ei angen a gall gynnwys:-

  • Llythyr oddi wrth berson cyfrifol
  • Cyhoeddiad cyhoeddus
  • Datganiad statudol
  • Gweithred newid enw

Llythyr

Yn aml, bydd llythyr oddi wrth berson cyfrifol, fel meddyg teulu, cyfreithiwr, gweinidog, offeiriad neu A.S, yn ddigon o dystiolaeth eich bod wedi newid eich enw. Dylai’r llythyr ddatgan fod y person wedi eich adnabod o dan y ddau enw a’ch bod yn bwriadu defnyddio’r enw newydd at bob diben. Ni fydd llythyr yn ddigon o dystiolaeth os ydych yn ceisio am basbort y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddiad Cyhoeddus

Mae’n bosib y byddwch yn dymuno cofnodi y newid enw drwy osod hysbyseb mewn papur newydd lleol neu genedlaethol. Dylai hyn ddatgan eich bod wedi peidio â defnyddio eich enw blaenorol a’ch bod wedi cymryd enw newydd. Yna, gellir defnyddio copi o’r papur newydd fel tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw.

Datganiad Statudol

At y mwyafrif o ddibenion, caiff datganiad statudol ei dderbyn, yn gyffredinol, fel tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw.

Mae datganiad statudol yn ddatganiad sy'n yn cofnodi eich bwriad i ddi-arddel eich enw presennol a mabwysiadu enw newydd.

Mae paratoi datganiad statudol yn medru bod yn gymhleth. Os ydych yn dymuno profi eich bod wedi newid eich enw drwy wneud datganiad statudol dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gweithred newid enw

Datganiad ffurfiol yw gweithred newid enw sy’n profi eich bod wedi newid eich enw. Nid yw gweithred newid enw yn angenrheidiol ar gyfer y mwyafrif o bobl fel tystiolaeth eu bod wedi newid eu henw. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd yna achosion pan fydd angen gweithred newid enw, er enghraifft, wrth gyflwyno cais i gael pasport.

Fel plentyn neu berson ifanc o dan 18 yr unig ffordd o gofnodi eich newid enw yw gweithred newid enw gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant drosoch. Fodd bynnag, os ydych dros 16 oed, nid oes modd gwneud hyn heb eich cymeradwyaeth chi.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chyfrifoldeb rhiant, gweler Plant ar ddiwedd eich perthynas yn Dod â pherthynas i ben os ydych yn cydfyw neu Plant ar ddiwedd partneriaeth sifil yn Did â phartneriaeth sifil i ben.

Gall newid eich enw drwy weithred newid enw fod yn gymhleth. Os ydych yn dymuno defnyddio gweithred newid enw fel tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio manylion am eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig