Jump to the Adviceguide home page
Adviceguide, advice that makes a difference
skip navigation
Jump to the Adviceguide home page
 England   Northern Ireland   Scotland   Wales   Cymru 
Eich arian
Eich teulu
Eich byd chi
Eich hawliau chi

:

 

(New window) Dod o hyd i'ch CAB agosaf

(New window) Ydyn ni wedi bod o gymorth? Plîs, cefnogwch ni

(New window) Gwirfoddolwch

 

Y tro diwethaf y diweddarwyd y safle oedd Ionawr 7 af 2009.

Fe fydd pob dolen gyswllt at wefannau eraill yn agor mewn ffenestr newydd.

Cymru    Y Teulu    Tystysgrifau geni  

Y Teulu - Yng Nghymru

 

 


Tystysgrifau geni

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon



Cofrestru genedigaeth

Fel arfer, mae'n rhaid cofrestru genedigaeth o fewn 42 diwrnod. Fel arfer, dylid cofrestru genedigaeth lle roedd y baban yn farw ar enedigaeth o fewn 42 diwrnod hefyd, a heb fod yn hwyrach na 3 mis wedi’r enedigaeth.

Os nad ydyw'r tad yn briod â'r fam ond mae'n cofrestru'r enedigaeth ar y cyd gyda'r fam, fe fydd yn sicrhau bod ganddo gyfrifoldeb rhiant.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfrifoldeb rhiant, gweler y pennawd Plant, yn Cydfyw a phriodas: gwahaniaethau cyfreithiol.

Os nad ydyw'r fam na'r tad yn gallu cofrestru'r enedigaeth, fe all un o'r canlynol wneud hynny yn eu lle:-

  • rhywun sy'n byw yn y ty lle cafodd y plentyn ei eni
  • unrhyw berson a oedd yn bresennol adeg yr enedigaeth
  • unrhyw berson sy'n gyfrifol am y plentyn.

Nôl i’r Brig



Sut i gofrestru genedigaeth

Mae'n rhaid cofrestru genedigaeth gyda'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau yn y rhanbarth lle ganwyd y baban. Mae'r cyfeiriad yn y llyfr ffôn.

Nid oes ffi ar gyfer cofrestru genedigaeth ond mae yna ffi am gopi ychwanegol o'r tystysgrif.

Enwi'r plentyn ar dystysgrif geni

Gall mam y plentyn ddewis unrhyw enw a chyfenw. Gall roi cyfenw'r tad i'r plentyn os mai dyna yw ei dymuniad ac nid oes rhaid cael caniatâd y tad cyn gwneud hyn. Yng Ngogledd Iwerddon, dim ond o dan amgylchiadau penodol y ceir cynnwys manylion y tad sydd ddim yn briod â'r fam.

Nid oes hawl gan ddyn sydd wedi'i gofrestru ar dystysgrif geni fel tad fynnu bod y plentyn yn derbyn enw penodol, er enghraifft ei gyfenw.

Gall pâr priod ddewis unrhyw gyfenw ar gyfer y plentyn. Nid oes yn rhaid iddo fod yn enw un o'r rhieni.

Genedigaethau tu allan i'r DU

Caiff pob genedigaeth ar gychod cofrestredig Prydeinig a hofrenfadau, a genedigaeth deiliaid Prydeinig ar gychod sydd wedi eu cofrestru dramor sydd yn mynd at gyrchfan yn y DU neu sydd wedi dod oddi yno, eu cofrestru gan Gofrestrydd Cyffredinol Cychod a Morwyr yng Nghaerdydd.

Caiff pob genedigaeth ar awyren gofrestredig eu cofrestru gan yr Awdurdod Hedfanaeth Sifil.

Fel arfer, gall genedigaethau dinaysddion Prydeinig, dinasyddion Tiroedd Dibynnol Prydeinig a dinasyddion Prydeinig Tramor gael eu cofrestru mewn gwledydd tramor yn y Conswl Prydeinig neu'r Uwch Gomisiwn.

Gellir cofrestru genedigaethau i aelodau o'r lluoedd arfog sy'n gwasanaethu tu allan i'r DU gan Swyddog Cofrestru Adran Gwasanaethau tramor.

Nôl i’r Brig



Mathau o dystysgrifau geni

Mae yna ddau fath o dystysgrif geni:-

  • y tystysgrif llawn, sef copi o'r gosodiad yng nghofrestr genedigaethau, sy'n cynnwys yr holl fanylion a gofnodwyd
  • y tystysgrif fer, sydd ond yn rhoi enw llawn y plentyn a'i ryw, dyddiad a lleoliad geni. Nid yw'n rhoi enw a manylion y fam na'r tad. Rhyddheir tystysgrif fer yn rhad ac am ddim pan gaiff y genedigaeth ei chofrestru'n gychwynnol ac mae'n ddigonol at y mwyafrif o ddibenion swyddogol.

Nôl i’r Brig



Beth ddylech chi ei wneud os nad yw genedigaeth wedi cael ei chofrestru

Mae'n bosib gwneud cais i gofrestru genedigaeth flynyddoedd wedyn. Bydd angen i chi roi cymaint o fanylion ag sy'n bosib, er enghraifft union ddyddiad a lleoliad y genedigaeth gan gynnwys enw a chyfeiriad llawn y plentyn neu eich henw a'ch cyfeiriad llawn chi. Dylech ysgrifennu at:-

GRO Corrections
PO Box 476
Southport
PR8 2WJ
Ffôn: 0151 471 4806
Ffacs: 01633 652729
E-bost: corrections.&.re-reg.section@ons.gov.uk
Gwefan: (New window) www.gro.gov.uk

Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n bosib y bydd y Cofrestrydd Cyffredinol yn medru awdurdodi cofrestru'r genedigaeth tra bod tystiolaeth foddhaol yn cael ei gyflwyno i gefnogi'r holl fanylion a ddangosir ar y gofrestr. Os ydych yn cofrestru genedigaeth, cwblhewch ffurflen GRO 205 sydd ar gael o Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol a chyflwynwch o leiaf dau ddarn o dystiolaeth ddogfennol ar gyfer dyddiad a lleoliad y genedigaeth.

Nôl i’r Brig



Pobl trawsrywiol

Fe all person trawsrywiol y cofrestrwyd ei (g)enedigaeth yn y Deyrnas Gyfunol, ac sy'n cael tystysgrif cydnabod rhyw llawn gan y Panel Cydnabod Rhyw, gael tystysgrif geni newydd sy'n adlewyrchu ei rhyw newydd. Fe fyddwch yn medru cael tystysgrif fer yn rhad ac am ddim. Fe fydd yn cynnwys manylion y dyddiad a lleoliad geni a'r manylion am eich rhieni sydd ar eich tystysgrif geni gwreiddiol, ynghyd â'ch rhyw newydd a'ch enw newydd. Ni fydd unrhyw un sy'n edrych ar y dystysgrif hon yn gallu gweld eich bod wedi cael rhyw newydd yn gyfreithiol.

Mae yna opsiwn hefyd i'r dystysgrif newydd ddangos eich cyfenw pan gawsoch eich geni, os yw'n wahanol i'r cyfenw ar eich tystysgrif cydnabod rhyw. Fe fyddwch hefyd yn medru prynu tystysgrif lawn ychwanegol, os mai dyna yw eich dymuniad.

Fe fydd eich tystysgrif geni gwreiddiol yn dal i fodoli, ond ni fydd ar gael i'r cyhoedd ei gweld.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael tystysgrif cydnabod rhyw, gweler Cwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch materion teuluol.

Nôl i’r Brig



Cael copïau o'r tystysgrif geni

Tystysgrifau o Gymru a Lloegr

Tystysgrifau Geni yng Nghymru a Lloegr

Gallwch gael copi o dystysgrif geni yn un o'r ffyrdd canlynol, a chodir ffi:-

  • drwy'r post neu ymweliad personol i’r swyddfa gofrestru yn y lleoliad ble ganed y plentyn
  • trwy'r post gan y Swyddfa'r Gofrestru Gyffredinol. Er mwyn talu’r ffi, anfonwch fanylion eich cerdyn credyd neu ddebyd, neu siec yn daladwy i IPS. Er mwyn anfon cais drwy'r post, rhaid eich bod wedi llenwi'r ffurflen gais. Rydych yn medru lawrlwytho ffurflen gais oddi ar wefan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn (New window) www.gro.gov.uk. Dyma’r cyfeiriad:

PO Box 2
Southport
Merseyside PR8 2JD

  • dros y ffôn o'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol, ond mae'r gwasanaeth yma ond ar gael i ddeiliaid cerdyn credyd a debyd.

    Ffôn: 0870 243 7788

  • ar-lein, os oes gennych fanylion llawn yr enedigaeth neu rydych yn gwybod (New window) cyfeirnod indecs y SGG. Rydych yn medru talu gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Am fanylion am y ffioedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni, gweler y pennawd Ffioedd am gopïau o dystysgrifau geni.

Dylech gynnwys gymaint o wybodaeth am yr enedigaeth ag sy'n bosib. Os nad ydych yn gwybod union ddyddiad eich geni, fe fydd modd chwilio un flwyddyn y naill ochr a’r llall i’r flwyddyn a geir gennych. Os nad oes modd olrhain genedigaeth, cedwir rhan o’r ffi a dalwyd a rhoddir y gweddill yn ôl i chi, tra bod y gweddill yn £2, o leiaf.

Os ydych yn darparu cyfeirnod indecs y gosodiad yn y gofrestr, bydd y ffi yn is. Gellir dod o hyd i'r cyfeirnod trwy chwilio drwy'r mynegai ar ficro-lun mewn rhai llyfrgelloedd mawr a swyddfeydd cofnodion cyhoeddus. Gellir chwilio’n rhad ac am ddim am fwyafrif y cyfeirnodau o 1837 hyd yn gynnar yn yr 20fed ganrif yn: (New window) www.freebmd.org.uk. Mae rhai swyddfeydd cofrestru lleol wedi gosod eu cyfeirnodau nhw eu hunain ar-lein: gweler (New window) www.ukbmd.org.uk. Dyma fanylion cyswllt Canolfan Cofnodion y Teulu:

1 Myddelton Street
London
EC1R 1UW
Gwefan: (New window) www.familyrecords.gov.uk/frc

Gallwch gael tystysgrif, at ddibenion nawdd cymdeithasol yn unig, gan y cofrestrydd lleol lle cofrestrwyd yr enedigaeth. Os ydych yn cael copi yn fuan wedi cofrestru'r enedigaeth, byddwch yn gorfod talu ffi is. Unwaith bydd y gofrestr wedi'i anfon ar y Cofrestrydd Uwcharolygu, codir y tâl llawn. Cedwir y tystysgrif gan yr yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Tystysgrifau o'r Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon

Gallwch gael copi o dystysgrif genedigaeth a gymerodd lle yn yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gweriniaeth Iweddon, a manylion y ffïoedd o:-

Yr Alban

General Register Office for Scotland
New Register House
3 West Register Street
Edinburgh EH1 3YT
Tel: 0131 314 4411
Website: (New window) www.gro-scotland.gov.uk

Gogledd Iwerddon

The General Register Office
Oxford House
49-55 Chichester Street Belfast
BT1 4HL
Tel: 02890 252000
Website: (New window) www.groni.gov.uk

Gweriniaeth Iwerddon

General Register Office
Government Offices
Convent Road
Roscommon
Tel: 00 353 (0)90 6632900
Website: (New window) www.groireland.ie

Tystysgrifau wedi i'r plentyn gael ei fabwysiadu

Os ydych yn 18 neu'n hyn ac wedi cael eich mabwysiadu yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon gallwch wneud cais am gopi gwreiddiol o'ch tystysgrif geni.

Os ydych yn gwybod holl fanlyion yr enedigaeth dylech wneud cais i'r Cofrestrydd Uwcharolygu yn y rhanbarth lle cofrestrwyd eich genedigaeth. Mae yna ffi am hyn.

Os cawsoch eich mabwysiadu cyn Tachwedd 12 1975, bydd angen i chi weld cynghorydd profiadol cyn i chi fedru cael gwybodaeth o'r dystysgrif geni gwreiddiol.

Os cawsoch eich mabwysiadu ar neu ar ôl Tachwedd 12 1975, gallwch ddewis a hoffech weld cynghorydd cyn cael gwyboeth am eich tystysgrif geni.

Gallwch hefyd gael copi o'r tystysgrif mabwysiadu a ryddhawyd wedi rhoi'r gorchymyn mabwysiadu.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch mabwysiadu, gweler Mabwysiadu yn y taflenni ffeithiau ar y Teulu. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Pobl ifanc a teulu.

Tystysgrifau o dramor

Os cawsoch eich geni dramor, gallai'r enedigaeth fod wedi ei chofrestru yn y DU hefyd. Os felly, gellir cael copi o'r dystysgrif yn y ffordd arferol – gweler uchod.

Os nad yw'r enedigaeth wedi ei chofrestru yn y DU, mae'n bosib y byddwch yn medru cael copi o'r dystysgrif geni o'r wlad lle cawsoch eich geni. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â'r llysgenhadaeth berthnasol yn y DU. Neu fe all Adran Cofrestru Tramor Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol gysylltu â'r llysgenhadaeth ar eich rhan – gweler y pennawd Cael copïau o'r tystysgrif geni am y cyfeiriad.

Os nad ydych yn medru cael hyd i gopi o'ch tystysgrif geni o dramor, efallai y bydd Cyfarwyddiaeth Consyliaeth Swyddfa'r Gymanwlad a Thramor yn medru eich helpu. Codir ffi. Dyma'r cyfeiriad:-

Consular Directorate
Foreign and Commonwealth Office
Old Admiralty Buildings
London SW1 2PA
Ffôn: 0207 008 1500
E-bost: consular@fco.gtnet.gov.uk

Os cawsoch eich bedyddio yn is-gyfandir India cyn 1947 dylech holi Llyfrgell Swyddfa India (Ffôn: 020 7928 9531).

Ffïoedd ar gyfer copïau o dystysgrifau geni yng Nghymru a Lloegr

Math o gais

Math o dystysgrif

Ffi £

At y swyddfa gofrestru leol, adeg cofrestru neu os cofrestrwyd yn ddiweddar

Llawn

3.50

At y swyddfa gofrestru leol, adeg cofrestru neu os cofrestrwyd yn ddiweddar

Byr

3.50 (mae'r un cyntaf yn rhad ac am ddim)

At swyddfa gofrestru leol, os cofrestrwyd beth amser yn ôl

Llawn

7.00

At swyddfa gofrestru leol, os cofrestrwyd beth amser yn ôl

Byr

5.50

At swyddfa gofrestru lleol

At ddibenion nawdd cymdeithasol yn unig

7.00 (3.50 os cofrestrwyd yn ddiweddar)

At y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol, trwy'r post, ffôn/ffacs gyda chyfeirnod o'r SGC

Llawn/Byr

8.50

At y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol, trwy'r post, ffôn/ffacs heb gyfeirnod o'r SGC

Llawn/Byr

11.50

At y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol, trwy'r post, ffôn/ffacs, gwasanaeth blaenoriaeth gyda chyfeirnod o'r SGC

Llawn/Byr

24.50

At y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol, trwy'r post, ffôn/ffacs, gwasanaeth blaenoriaeth heb gyfeirnod gan SGC

Llawn/Byr

27.50

At y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol ar-lein, gwasanaeth safonol

Llawn/Byr

7.00

At y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol ar-lein, gwasanaeth blaenoriaeth

Llawn/Byr

23.00

At y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol, presenoldeb heb ei olrhain

Llawn/Byr

O 4.50

Ffïoedd ar gyfer Copïau o dystysgrifau geni yng Ngogledd Iwerddon

Math o gais

Math o dystysgrif

Ffi

Yn y person/trwy'r post

Llawn/Byr

12.00

Trwy'r post lle rydych yn medru darparu manylion llawn gan gynnwys cyfeirnod y gofrestr a'r dyddiad cofrestru

Llawn/Byr

6.00

Tystysgrif blaenoriaeth (a gynhyrchir o fewn awr i'r cais)

Llawn/Byr

29.00

Tystysgrif at ddiben statudol

Mae angen tystiolaeth o adran o'r llywodraeth

6.00

Chwiliad yn unig

Am bob pum mlynedd, neu ran ohono

6.00

Nôl i’r Brig



Testun Blaenorol Testun Nesaf
 
   
 

Disclaimer, Copyright and Privacy Policy. Copyright © 2002-2009 (New window) Citizens Advice. All rights reserved.
Cyngor Ar Bopeth Cymru is an operating name of the National Association of Citizens Advice Bureaux, Charity registration number 279057, VAT number 726 0202 76, Company limited by guarantee, Registered number 1436945 England, Registered office: Myddelton House, 115-123 Pentonville Road, London N1 9LZ