Pam mae hyn yn bwysig?
Dewis blwydd-dal
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- Ynglŷn â dewis blwydd-dal
- Pwy sydd angen blwydd-dal
- Sut mae blwydd-daliadau’n gweithio
- Dewis darparwr
- Faint o incwm fyddwch chi’n ei gael o’ch blwydd-dal
- Mathau o flwydd-dal
- Un swm di-dreth
- Ffyrdd eraill o dderbyn eich pensiwn
- Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ynglŷn â dewis blwydd-dal
Ar y dudalen hon, mae yna wybodaeth i bobl sydd mewn cynllun pensiwn prynu ag arian.
Fe fyddwch mewn cynllun pensiwn prynu ag arian os ydych:
- wedi trefnu eich pensiwn personol neu gyfranddeiliaid eich hun, neu
- yn rhan o gynllun pensiwn cyfranddeiliaid y gweithle neu gynllun pensiwn personol grŵp (a elwir hefyd yn gynlluniau cyfraniad diffiniedig).
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau personol a chyfranddeiliaid yr ydych yn eu trefnu eich hun, gweler Pensiynau personol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cynlluniau pensiwn y gweithle, gweler Pensiynau’r gweithle.
Os oes gennych un o’r mathau hyn o bensiwn, efallai y byddwch yn credu, wedi i chi ymddeol, y bydd darparwr y pensiwn yn dechrau talu pensiwn rheolaidd i chi. Ond, nid yw hyn yn hollol gywir. Fe fydd angen i chi gymryd yr arian yr ydych wedi ei gynilo yn eich cronfa bensiwn a’i ddefnyddio i brynu blwydd-dal. Dyma gynnyrch ariannol sy’n gwarantu y bydd yn rhoi incwm i chi ar gyfer eich ymddeoliad.
Os ydych chi’n dymuno, fe fyddwch yn medru cymryd hyd at 25% o’r arian yn eich cronfa bensiwn fel un swm di-dreth ac yna defnyddio’r gweddill i brynu blwydd-dal. Fe fyddwch yn medru defnyddio’r un swm di-dreth fel y byddwch chi’n dymuno ei ddefnyddio, ond ni fydd gennych gymaint o arian i brynu blwydd-dal. Felly fe allai’ch incwm o’ch pensiwn fod yn is. Y peth gorau yw gofyn am gyngor ariannol os nad ydych yn siŵr a ddylech chi gymryd yr un taliad di-dreth ai peidio.
Fe fydd angen eich bod chi’n medru gwneud rhai dewisiadau ynghylch y math o flwydd-dal yr ydych am ei brynu. Fe allech ddewis prynu’r blwydd-dal y bydd eich darparwr pensiwn yn ei gynnig i chi, ond nid oes rhaid i chi wneud hyn. Mae yna lawer o wahanol fathau o flwydd-daliadau ar y farchnad ac efallai y dewch o hyd i un sy’n cynnig cyfradd incwm uwch i chi ac sy’n well ar gyfer eich amgylchiadau personol chi.
Mae’n bwysig treulio llawer o amser yn dewis y math iawn o flwydd-dal i chi. Unwaith fyddwch chi wedi ei brynu, ni fyddwch yn medru newid eich meddwl a symud at un arall.
Ar y dudalen hon, mae yna wybodaeth i’ch helpu i ddeall sut mae blwydd-daliadau’n gweithio, pryd fyddwch chi angen prynu un, ble i ddod o hyd i ddarparwr, a pha opsiynau sydd gennych wrth ddewis blwydd-dal.
Er bod y rhan fwyaf o bobl sydd â phensiwn prynu ag arian yn dewis prynu blwydd-dal, mae yna opsiynau eraill ar gael er mwyn cael incwm wedi ymddeol. Mae ein hadran ar Ffyrdd eraill o dderbyn eich pensiwn [link to heading Ffyrdd eraill o dderbyn eich pensiwn] yn dweud mwy wrthych am y rhain.
Mae yna fanylion ynghylch cael mwy o wybodaeth ar bensiynau a gwybodaeth ariannol o fath arall, ar Adviceguide o dan Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.
<
Pwy sydd angen blwydd-dal
Fe fydd angen i chi feddwl am brynu blwydd-dal os ydych wedi trefnu eich pensiwn personol neu gyfranddeiliaid eich hun.
Os ydych mewn cynllun pensiwn cyfranddeiliaid neu brynu ag arian yn y gweithle, efallai y bydd ymddiriedolwyr y pensiwn neu’r darparwr yn gwneud y penderfyniad hwn ar eich cyfer chi. Ond, mae gennych yr hawl i ddewis eich blwydd-dal eich hun gan ddarparwr arall ac efallai y cewch gyfradd well. Peidiwch â bod yn ofn gofyn iddyn nhw pa gamau y maen nhw wedi eu cymryd i gael y ddêl orau.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bensiwn prynu ag arian ai peidio, darllenwch drwy eich gwaith papur, siaradwch â’ch darparwr neu mynnwch gyngor.
Mae yna help ar gael gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol i edrych ar y gwaith papur ar gyfer eich pensiwn. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
<
Sut mae blwydd-daliadau’n gweithio
Pan fyddwch chi’n prynu blwydd-dal fe fyddwch chi’n cyfnewid yr arian yn eich cronfa bensiwn am incwm rheolaidd. Dyma fydd eich pensiwn.
Fe fyddwch chi’n cael incwm rheolaidd a fydd yn cael ei gyfrifo’n flynyddol. Mae’n medru bod yn swm penodol neu mae’n medru amrywio, gan ddibynnu ar y math o flwydd-dal y byddwch yn ei ddewis. Gelwir y blwydd-daliadau mwyaf syml yn flwydd-daliadau oes ac maen nhw’n gwarantu talu incwm i chi hyd nes i chi farw. Fe allwch chi ychwanegu opsiynau amrywiol at flwydd-daliadau oes, i ateb eich anghenion penodol chi.
<
Dewis darparwr
Mae cwmnïau yswiriant a darparwyr ariannol eraill yn gwerthu blwydd-daliadau ac opsiynau ymddeol eraill. Mae yna lawer o gynnyrch gwahanol, felly chwiliwch i weld beth sydd ar gael a chymharwch yr hyn sydd ar gael cyn i chi ddewis.
Rydych yn medru prynu eich blwydd-dal gan y cwmni a oedd yn darparu eich cronfa bensiwn. Ond, nid oes rhaid i chi brynu ganddyn nhw. Mae gennych hawl cyfreithiol, o dan yr hyn a elwir yn opsiwn y farchnad agored (neu ‘OMO’), i brynu eich pensiwn blwydd-dal gan unrhyw ddarparwr, waeth gyda phwy y mae eich pensiwn. Felly, cofiwch eich bod yn holi eich darparwr pensiwn presennol i weld beth mae’n ei gynnig, a chymharu hyn gyda darparwyr eraill rhag ofn i chi gael dêl well yn rhywle arall.
Dylai’ch darparwr pensiwn anfon gwybodaeth i chi am y pethau y bydd angen i chi feddwl amdanynt, tua phedwar i chwe mis cyn y dyddiad y byddwch yn ymddeol, fel eich bod yn medru dechrau paratoi. Mae hyn yn cynnwys rhagamcan o werth eich cronfa bensiwn a faint o incwm y gallwch chi ei ddisgwyl wedi ymddeol os ydych yn prynu blwydd-dal oes gyda’ch arian pensiwn.
Blaenoriaethu eich arian
Er mwyn eich helpu i benderfynu pa fath o flwydd-dal i’w ddewis, y peth gorau i’w wneud yn gyntaf yw meddwl am eich blaenoriaethau a pha anghenion fydd gennych ar ôl i chi ymddeol. Mae rhai o’r pethau i feddwl amdanynt yn cynnwys:
- a ydych chi eisiau incwm i chi eich hun yn unig, neu ar gyfer unrhyw un arall
- a fydd unrhyw un arall sy’n dibynnu arnoch yn ariannol angen incwm os digwydd i chi farw yn gyntaf
- a ydych chi’n holliach, ac am faint allech chi fyw
- a oes digon o incwm gennych o ffynonellau eraill fel cynilion neu swydd ran-amser i ohirio’r pensiwn a’i ddechrau yn nes ymlaen
- pa mor hyblyg hoffech chi i’r pensiwn fod, er enghraifft, ydych chi am gynyddu eich incwm wrth i chi fynd yn hŷn
- a ydych chi am barhau i fuddsoddi yn eich cronfa bensiwn ar ôl i chi ymddeol
- a ydych chi am adael etifeddiaeth i rywun.
Fe allwch ddefnyddio’r offeryn cymharu blwydd-daliadau ar Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian i’ch helpu i ddewis. Rhowch glic ar www.moneyadviceservice.org.uk.
<
Faint o incwm fyddwch chi’n ei gael o’ch blwydd-dal
Mae’r incwm y byddwch yn ei gael o’ch blwydd-dal yn dibynnu ar y math o flwydd-dal y byddwch yn ei ddewis a’r gyfradd a gynigir i chi ar gyfer eich blwydd-dal. Gosodir y gyfradd y byddwch yn ei chael ar gyfer eich blwydd-dal pan fyddwch chi’n ei gymryd allan. Ni fydd y gyfradd yn gostwng ar ôl i chi ei gymryd. Ond, os yw cyfraddau cyffredinol blwydd-daliadau yn cynyddu yn y dyfodol, ni fydd y gyfradd yr ydych yn ei chael yn cynyddu.
Cyfraddau blwydd-daliadau
Cyfradd y blwydd-dal yw’r gyfradd y telir eich arian i chi o’ch cronfa. Mae’r pethau canlynol yn effeithio ar y gyfradd a gynigir i chi:
- eich oed. Os digwydd i chi ymddeol yn gynharach, fe fydd angen i’ch pensiwn dalu allan am hirach ac felly fe fyddwch yn cael llai o incwm bob blwyddyn
- eich disgwyliad oes. Mae hyn yn seiliedig ar yr hyn sy’n digwydd yn y boblogaeth gyfan. Mae blwydd-dal yn eich yswirio chi yn erbyn byw’n hirach na’r cyfartaledd
- eich rhyw. Mae disgwyl i fenywod fyw’n hirach na dynion. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’ch cronfa bensiwn bara’n hirach ac felly fe fyddwch yn cael llai bob blwyddyn. Nid yw hyn yn cael ei gyfrif fel gwahaniaethu
- eich iechyd. Efallai y cynigir incwm blynyddol uwch i chi na rhywun arall os yw’ch iechyd yn wael neu os nad oes disgwyl i chi fyw’n hir. Dyma un achlysur pan fydd iechyd gwan neu eich ffordd o fyw, er enghraifft os ydych yn ysmygu, yn gallu bod o fantais i chi
- yr economi. Mae cyfraddau llog cyffredinol yn effeithio ar gyfraddau blwydd-daliadau ac maen nhw’n codi ac yn disgyn fel unrhyw fuddsoddiad arall
- faint o arian yr ydych chi wedi ei dalu i mewn i’ch blwydd-dal. Mae rhai darparwyr yn cynnig gwell cyfraddau i bobl sy’n medru buddsoddi symiau mawr, ac mae eraill ond yn derbyn symiau dros swm penodol
- y math o flwydd-dal ac unrhyw opsiynau ychwanegol yr ydych yn eu dewis, er enghraifft gwarantau, pensiynau i oroeswyr, neu gysylltiad at fynegai.
Fe fydd y darparwr yn edrych ar eich amgylchiadau unigol ac yn cynnig cyfradd i chi sy’n seiliedig ar eich amgylchiadau. Efallai y bydd darparwyr gwahanol yn cynnig cyfraddau gwahanol i chi, felly mynnwch amcanbrisiau gan nifer o ddarparwyr i weld pwy sy’n cynnig y ddêl orau.
Os oes mwy nag un gronfa bensiwn gennych, ystyriwch eu cyfuno pan fyddwch chi’n chwilio i weld beth sydd ar gael. Efallai y cewch well gyfradd ar gyfer eich blwydd-dal o gronfa mwy o faint. Os oes sawl cronfa bensiwn fach gennych, mae eu rhoi nhw mewn un pot yn medru eich helpu chi i gyrraedd yr isafswm y mae rhai darparwyr yn gofyn amdano cyn iddyn nhw werthu blwydd-dal i chi.
Mae cynghorydd ariannol annibynnol yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch cyfuno eich cronfeydd pensiwn a’ch helpu i ddod o hyd i’r opsiynau gorau ar gyfer eich sefyllfa chi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cyngor ariannol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol annibynnol.
<
Mathau o flwydd-dal
Unwaith fyddwch chi wedi prynu blwydd-dal, ni fyddwch yn medru newid at un arall, ac felly mae’n well edrych ar eich holl opsiynau’n ofalus iawn cyn penderfynu pa un sy’n iawn i chi.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dewis prynu blwydd-dal oes. Mae’r rhain yn flwydd-daliadau sy’n gwarantu y byddwch yn cael incwm am weddill eich bywyd. Mae yna sawl gwahanol fath o flwydd-daliadau oes ac fe fydd angen i chi benderfynu pa un sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion chi. Dyma’r prif gwestiynau y bydd angen i chi eu holi i chi’ch hun:
- ydych chi angen pensiwn i chi’ch hun yn unig neu ar gyfer partner hefyd?
- sut ydych chi am dderbyn eich incwm?
- Ydych chi’n iach ac am faint o amser ydych chi’n debygol o fyw?
Ydych chi angen pensiwn i chi’ch hun yn unig neu ar gyfer partner hefyd?
Os ydych chi’n prynu pensiwn i chi’ch hun, fe fyddwch yn medru dewis blwydd-dal oes sengl.
Os ydych chi am i bartner, gŵr, gwraig neu bartner sifil barhau i gael incwm ar ôl i chi farw, fe fyddwch yn medru dewis blwydd-dal oes ar y cyd.
Mae blwydd-dal oes ar y cyd, a elwir hefyd yn bensiwn goroeswyr, yn talu peth o’r incwm o’ch blwydd-dal, neu’r cyfan honno, i bartner, pan fyddwch chi’n marw. Mae’r math hwn o flwydd-dal yn medru bod yn arbennig o ddefnyddiol pan nad oes pensiwn ei hun gan eich partner. Ond, os yw’n fwy na deng mlynedd yn iau na chi, efallai y bydd yn anodd i chi gael blwydd-dal ar y cyd.
Fe fydd oed eich partner, a’r incwm yr ydych am ei adael ar eu cyfer, yn effeithio ar y swm yr ydych yn ei gael. Os ydych am adael cyfran uchel o incwm pensiwn i’ch partner ar ôl i chi farw, fe fydd yr incwm y byddwch yn ei gael ar ddechrau eich pensiwn yn llai.
Ond, fe fydd rhai blwydd-daliadau ddim yn talu mwy na hanner incwm i’ch partner, gŵr, gwraig neu bartner sifil sydd wedi goroesi. Os ydych am iddyn nhw gael mwy, fe fydd angen i chi ddewis blwydd-dal sy’n caniatáu i ganran uwch gael ei dalu allan.
Fel arfer, fe fyddwch yn cael incwm llai na gyda blwydd-dal oes sengl, os ydych yn dewis y math hwn o flwydd-dal, oherwydd fe fydd y darparwr yn disgwyl i’r pot pensiwn bara’n hirach.
Os oes partner gennych ac nid ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, dylech holi’ch darparwr pensiwn a fydd eich partner sy’n goroesi yn cael derbyn pensiwn os digwydd i chi farw’n gyntaf.
Ar ôl eich marwolaeth, gellir talu pensiynau i ddibynyddion eraill hefyd, fel eich plant, er, mae taliadau’n medru dod i ben pan fyddan nhw’n cyrraedd oed penodol.
Sut ydych chi am dderbyn eich incwm?
Unwaith fyddwch chi wedi penderfynu a ydych chi am flwydd-dal sengl neu flwydd-dal ar y cyd, fe fydd angen i chi benderfynu sut yr ydych chi am dderbyn eich incwm.
Fe fyddwch yn medru dewis cael blwydd-dal a fydd yn talu swm penodol o incwm i chi am weddill eich bywyd, felly fe fydd y swm a gewch ar y dechrau'r un faint â’r swm y byddwch yn ei gael flynyddoedd yn ddiweddarach. Gelwir hyn yn flwydd-dal gwastad.
Neu, fe fyddwch yn medru dewis blwydd-dal sy’n rhoi mwy o incwm i chi bob blwyddyn. Gelwir hyn yn flwydd-dal cynyddol.
Mae blwydd-daliadau gwastad a blwydd-daliadau cynyddol yn medru bod yn flwydd-daliadau oes sengl neu ar y cyd.
Mae blwydd-dal gwastad yn ddewis da os ydych chi eisiau gwell incwm i ddechrau, er enghraifft tra’ch bod yn ifancach ar yn iachach. Ond, efallai y bydd cynnydd mewn costau byw yn nes ymlaen yn effeithio ar bŵer gwario eich arian, oherwydd ni fydd eich arian yn cynyddu. Efallai mai prin iawn fydd yr arian y bydd gennych i fyw arno os ydych chi’n disgwyl byw bywyd hir.
Mae blwydd-dal cynyddol yn ddewis da os ydych chi’n poeni sut yr ydych chi’n mynd i ymdopi’n ariannol gyda chynnydd mewn costau byw yn y dyfodol (chwyddiant). Mae blwydd-dal cynyddol yn eich amddiffyn chi rhag chwyddiant. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n dechrau gydag incwm blynyddol llai nag y buasech yn ei gael petaech wedi cymryd blwydd-dal gwastad, ond fe fydd yn codi bob blwyddyn. Mae hyn yn medru rhoi’r un pŵer prynu i chi trwy gydol eich ymddeoliad.
Gyda blwydd-dal cynyddol, mae’n medru cymryd amser hir i’ch incwm ddal i fyny gyda’r swm y buasech wedi ei gael petaech wedi dewis cyfradd blwydd-dal gwastad ar ddechrau eich ymddeoliad. Felly efallai y bydd yn werth ystyried hyn os ydych yn disgwyl byw bywyd hir ac rydych yn iach.
Blwydd-daliadau i bobl sydd ag iechyd gwael
Os oes cyflwr iechyd gennych yn barod, efallai y byddwch chi am ystyried prynu blwydd-dal oes mwy neu flwydd-dal oes diffygiol. Mae’r blwydd-daliadau hyn yn cynnig cyfraddau incwm uwch i bobl sydd â chyflyrau iechyd penodol fel hanes o glefyd y galon neu ganser. Fe fyddwch hefyd yn medru cael y math hwn o flwydd-dal os ydyn nhw’n eich gweld chi fel un sydd â risg uwch oherwydd eich ffordd o fyw, er enghraifft os ydych yn ysmygu’n drwm.
Mae’r darparwr yn talu cyfradd uwch i chi am nad ydyw’n disgwyl i chi fyw mor hir â hynny.
Rydych yn medru cael blwydd-daliadau oes diffygiol ac oes mwy sengl neu ar y cyd, gan ddibynnu a ydych chi am i’r pensiwn dalu am bartner ar ôl i chi farw.
Rydych hefyd yn medru cael blwydd-daliadau oes diffygiol a mwy gwastad neu gynyddol.
Blwydd-daliadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiad
Mae yna flwydd-daliadau sy’n eich caniatáu chi i gadw buddsoddi eich cronfa bensiwn yn y farchnad stoc tra’ch bod chi’n cymryd incwm. Gelwir y rhain yn flwydd-daliadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiad. Mae’r incwm yr ydych yn ei gael o flwydd-dal sydd wedi ei gysylltu at fuddsoddiad yn medru codi neu ddisgyn gan ddibynnu ar ba mor dda y mae’r buddsoddiadau’n perfformio, ac a ydych chi’n derbyn unrhyw fonws.
Mae yna ddau fath o flwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiad:
- blwydd-daliadau gydag elw
- blwydd-daliadau sy’n gysylltiedig ag uned.
Efallai bod yr arian o’r blwydd-daliadau hyn yn dal i gael ei fuddsoddi yn y farchnad stoc, ac felly mae yna berygl y bydd eich incwm yn disgyn os yw’r buddsoddiadau’n gwneud yn wael. Felly, mae’r mathau hyn o flwydd-daliadau ond yn addas i bobl sydd:
- â chronfa bensiwn fawr iawn, o leiaf chwe ffigwr
- yn barod i gymryd y risg y gallai eu buddsoddiad golli arian
- ag incwm o ffynonellau eraill fel cynilion a buddsoddiadau.
Os ydych chi’n ystyried prynu blwydd-dal sy’n gysylltiedig â buddsoddiad, dylech gael cyngor ariannol arbenigol annibynnol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael cyngor arbenigol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol.
Blwydd-daliadau wedi eu gwarantu
Mae blwydd-daliadau wedi eu gwarantu yn flwydd-daliadau sydd ond yn talu allan am gyfnod penodol o amser, er enghraifft pump neu ddeng mlynedd. Fe fyddan nhw’n talu allan waeth a ydych chi’n marw yn ystod y cyfnod yna ai peidio. Os ydych yn marw yn ystod y cyfnod sydd wedi’i warantu, mae’r taliadau y buasech wedi eu cael naill ai’n medru parhau i gael eu talu i aelodau o’ch teulu sy’n fyw neu’n medru cael eu crynhoi mewn un swm a’u hetifeddu gyda gweddill eich ystâd.
Os ydych yn ystyried hyn fel ffordd o ddarparu ar gyfer partner, sicrhewch eich bod yn cymharu’r manteision gyda chynnyrch blwydd-dal oes ar y cyd sydd efallai’n cynnig mwy i chi yn y tymor hir. Cofiwch, fe fydd blwydd-dal wedi ei warantu ond yn talu allan am gyfnod penodol o amser.
Efallai y byddwch chi hefyd am feddwl am brynu blwydd-dal wedi’i warantu os ydych chi am gadw peth o’ch cronfa bensiwn wedi ei fuddsoddi yn y farchnad stoc a chael incwm wedi’i warantu ar yr un pryd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch buddsoddi eich cronfa bensiwn tra’n cael incwm wedi ymddeol, gweler Pensiynau – tynnu incwm.
Os ydych chi am adael eich pensiwn yn eich ewyllys
Os ydych chi am adael eich pensiwn yn eich ewyllys, fe fydd angen i chi ddewis math penodol o fuddsoddiad a elwir yn flwydd-dal â gwerth diogel neu flwydd-dal diogel cyfalaf. Os digwydd i chi farw cyn cyrraedd 75 oed, fe fydd modd etifeddu’r arian sydd ar ôl yn eich cronfa bensiwn ynghyd â gweddill eich ystad. Ond, cymerir swm ar gyfer treth yn gyntaf.
Un swm di-dreth
Fe fyddwch yn medru cymryd hyd at 25% o’ch cronfa bensiwn fel arian di-dreth, ond rhaid i chi wneud hyn cyn i chi gyrraedd 77 oed. Ond, cofiwch fod hyn yn gostwng swm yr incwm y medrwch ei gael fel pensiwn o’ch cronfa bensiwn.
<
Ffyrdd eraill o dderbyn eich pensiwn
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â phensiwn prynu ag arian yn dewis prynu blwydd-dal oes wedi ymddeol. [link to heading Mathau o flwydd-dal]Ond, mae gennych rai opsiynau eraill hefyd.
Nid oes rhaid i chi brynu blwydd-dal ar unwaith wedi i chi ymddeol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch chi’n penderfynu aros am ychydig cyn prynu blwydd-dal, efallai am eich bod chi am barhau i weithio neu am fod gennych incwm o rywle arall.
Os fyddwch chi’n penderfynu peidio â phrynu blwydd-dal nawr, fe allech ddewis cymryd arian yn uniongyrchol o’ch cronfa bensiwn tra’n gadael peth ohono wedi’i fuddsoddi. Gelwir hyn yn dynnu i lawr neu dynnu incwm.
Cofiwch, nid ydych yn medru newid eich meddwl unwaith fyddwch chi wedi prynu blwydd-dal ac felly'r peth gorau fyddai edrych ar yr holl opsiynau cyn penderfynu.
Dylech gael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol cyn penderfynu’n derfynol ynghylch sut i fuddsoddi eich cronfa bensiwn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ble i ddod o hyd i gynghorydd ariannol annibynnol, gweler Cael cyngor ariannol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch tynnu incwm, gweler Pensiynau – tynnu incwm.
<
Cymorth a gwybodaeth ychwanegol
Ar Adviceguide
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau, gan gynnwys gwahanol fathau o bensiwn a’r hyn ddylech chi ei wneud wrth agosáu at eich ymddeoliad, gweler Pensiynau.
Efallai y bydd yr wybodaeth ganlynol ar Adviceguide yn ddefnyddiol i chi:
Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian
Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pensiynau, gan gynnwys teclyn cymharu blwydd-daliadau i’ch helpu i ddewis blwydd-dal. Mae yna amrywiaeth o daflenni hefyd, i helpu ateb eich cwestiynau ynghylch pensiynau ac ymddeol.
Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (TPAS)
Llinell Gymorth: 0845 601 2923 cyfradd leol
Gwefan: www.pensionsadvisoryservice.org.uk
Mae TPAS yn fudiad annibynnol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad rhad ac am ddim ar bob math o bensiwn, gan gynnwys pensiwn ymddeol y wladwriaeth, pensiwn y gweithle a chynlluniau pensiwn personol a chyfranddeiliaid.
Nid yw TPAS yn rhoi cyngor ariannol na chyngor ar fuddsoddiad nac yn argymell cynnyrch.
Mae cynllunydd blwydd-dal TPAS yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad cyffredinol i chi i’ch helpu i benderfynu wrth i chi drawsnewid eich cronfa bensiwn yn incwm.
Rhowch glic ar: www.pensionsadvisoryservice.org.uk.
<











