Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Oedi wrth osod gwasanaeth

Os ydych chi'n credu i chi fod yn aros yn rhy hir am gael gosod eich gwasanaeth ffôn, rhyngrwyd neu deledu, mae'r hyn fedrwch chi ei wneud yn dibynnu pa mor hir yr ydych chi wedi bod yn aros.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi ei wneud os yw'ch darparwr gwasanaeth newydd yn rhy araf yn gosod eich gwasanaeth.

Am faint o amser fuoch chi'n aros?

Pan fyddwch chi'n prynu gwasanaeth, dylai eich darparwr ddweud wrthych pryd fydd yn dod i wneud y gwaith gosod.

Dylai fod gan ddarparwyr ffôn god ymarfer sy'n nodi faint o amser ddylai fod yn rhaid i chi ei aros i gael gwaith gosod. Os nad yw'ch gwasanaeth yn cael ei osod o fewn yr amser y cytunwyd iddo, dylech gwyno.

Os nad oeddech wedi cytuno ar raddfa amser ar gyfer gwaith gosod, yn ôl eich hawliau fel defnyddiwr rhaid i chi dderbyn gwasanaeth o fewn cyfnod rhesymol. Os ydych chi'n credu i chi fod yn aros am hirach nag y dylech chi, ffoniwch ddarparwr eich gwasanaeth a holi:

  • pam mae'r gwaith gosod yn cymryd cymaint o amser
  • pryd fyddan nhw'n gosod eich gwasanaeth.

Dywedwch, os na fydd wedi cael ei osod o fewn pythefnos arall, y byddwch yn cwyno'n ffurfiol.

Help ychwanegol os ydych chi'n agored i niwed

Efallai y byddwch chi'n medru mynnu ar gael y gwasanaeth wedi ei osod yn gyflymach am eich bod mewn mwy o berygl o fod yn ynysig neu o ddioddef straen neu anaf os na chaiff eich gwasanaethau eu gosod yn gyflym. Mae hyn yn berthnasol yn yr achosion canlynol:

  • rydych yn bensiynwr
  • mae gennych salwch hir dymor
  • mae gennych anabledd
  • mae gennych broblemau ariannol difrifol.

Os ydych yn credu y dylech fod yn medru cael yr help ychwanegol i bobl sy'n agored i niwed, dywedwch hyn wrth ddarparwr eich gwasanaeth pan fyddwch chi'n cysylltu â nhw. Efallai y bydd yn eu sbarduno i weithredu'n gyflymach.

Os ydych yn byw mewn lle gwledig, anghysbell

Os ydych yn byw mewn lle gwledig, anghysbell, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i gael eich gwasanaeth wedi ei osod. Dylai'ch darparwr gwasanaeth fod wedi dweud wrthych faint o amser y byddai'n ei gymryd i osod eich gwasanaeth.

Os nad ydych wedi talu taliadau gosod sy'n ddyledus gennych

Efallai y bydd eich darparwr gwasanaeth newydd yn codi tâl gosod arnoch cyn cysylltu eich gwasanaeth. Hyd nes i chi dalu’r tâl hwn, efallai na fydd eich gwasanaeth yn cael ei osod.

Camau nesaf

Sut i gwyno i ddarparwr eich gwasanaeth

Mae llythyr enghreifftiol ar gyfer cwyno ynghylch oedi yn narpariaeth gwasanaeth yn www.ofcom.org.uk

Os oes angen help arnoch

How to make a complaint to your service provider

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth