Pam mae hyn yn bwysig?
Prynu mewn ocsiwn ar-lein - sut mae'n gweithio
Mae ocsiwn ar-lein yn ffordd boblogaidd iawn o brynu a gwerthu nwyddau. Maen nhw'n medru bod yn llefydd gwych i ddod o hyd i fargen - o setiau teledu i ddillad a hyd yn oed tai! Mae eBay yn un enghraifft o wefan ble mae modd i chi brynu nwyddau trwy gynnig.
Yn lle prynu'r nwyddau yn y fan a'r lle, mae nifer o bobl yn cystadlu i'w prynu trwy gynnig am y nwyddau. Fel arfer, y person sy'n cynnig y mwyaf sy'n ennill ac yn prynu'r nwyddau.
Os ydych chi erioed wedi bod i ocsiwn go iawn, wyneb yn wyneb, maen nhw'n gweithio'n eithaf gwahanol ac mae ganddynt statws gyfreithiol wahanol. Mae'r dudalen hon yn esbonio sut mae ocsiynau ar y rhyngrwyd yn gweithio.
Gair o gyngor
Opsiynau 'Prynu nawr'
Mae gan rai safleoedd ocsiwn ar y rhyngrwyd opsiwn o 'brynu nawr'. Nid yw 'prynu nawr' yn cyfrif fel ocsiwn. Os ydych yn dewis 'prynu nawr', fe fydd eich hawliau arferol fel defnyddiwr - gan gynnwys hawliau gwerthu o bellter - yn berthnasol.
Beth mae Rheoliadau Diogelu'r Defnyddiwr (Gwerthu o Bellter) yn eu cynnwys?
Sut mae ocsiynau ar-lein yn gweithio
Mae gan wahanol wefannau wahanol reolau a ffyrdd o wneud pethau. Ond, dyma'r camau sylfaenol:
Cam 1. Mae'r sawl sy'n gwerthu'r nwyddau'n cofrestru gyda'r wefan. Fe fyddan nhw'n rhoi rhai manylion personol ac yn cytuno i ddilyn rheolau (amodau a thelerau) y wefan. Fe fydd gan y gwerthwr enw defnyddiwr y bydd yn ei ddefnyddio ar y wefan - fel arfer nid enw go iawn y gwerthwr fydd hwn.
Cam 2. Mae'r gwerthwr yn gosod manylion yr eitem y mae am ei gwerthu ar y wefan. Fe fydd y manylion hyn yn cynnwys disgrifiad o'r eitem, fel arfer ffotograff digidol a'r swm sydd ei angen ar gyfer y cynnig cyntaf. Weithiau, mae'r gwerthwr yn rhoi pris cadw ar yr eitem, sef y lleiafswm y mae’n dymuno’i gael am werthu'r nwyddau. Mae hefyd yn medru dewis yr amser y bydd y cyfnod cynnig ar yr eitem yn cau.
Cam 3. Os ydych chi am brynu eitem, fe fyddwch yn medru edrych i weld beth sydd ar werth ar y wefan. Fe fyddwch yn medru gweld faint o amser sydd ar ôl i gynnig ar bob eitem. Fel arfer, fe fyddwch yn medru edrych ar y nwyddau heb gofrestru. Ond, os ydych chi am brynu eitem a chynnig amdani, rhaid i chi gofrestru gyda'r wefan. Fe fydd yn rhaid i chi gytuno i ddilyn cyfres wahanol o reolau (amodau a thelerau) ac fe fyddwch hefyd yn cael enw defnyddiwr a chyfrinair.
Cam 4. Unwaith fyddwch chi wedi gweld eitem yr ydych am gynnig amdani, fe fyddwch yn medru cynnig am yr eitem honno. Fel arfer, gwneir hyn trwy glicio ar ryw fath o fotwm 'cynnig' gan nodi swm eich cynnig a chlicio ar 'cadarnhau' neu 'cynnig'.
Cam 5. Mae'r wefan yn trosglwyddo gwybodaeth eich cynnig i'r gwerthwr.
Cam 6. Os cynigiwyd mwy na'r pris cadw, fe fydd y prynwr sydd wedi cynnig y pris uchaf ar ddiwedd y cyfnod cynnig yn cael e-bost gan y wefan i ddweud ei fod wedi ennill. Fe fydd manylion cyswllt y gwerthwr wedi eu cynnwys fel bod y prynwr yn medru trefnu anfon taliad at y gwerthwr.
Fel arfer, nid yw gwefannau ocsiwn ar-lein yn cael eu categoreiddio fel arwerthwyr o dan gyfraith y Deyrnas Unedig.
Ydych chi'n medru newid eich meddwl ynghylch cynnig yr ydych wedi ei wneud?
Pan fyddwch chi'n cynnig mewn ocsiwn ar-lein, os mai chi sydd â'r cynnig uchaf ar ddiwedd yr ocsiwn, ac mae'r un pris â'r pris cadw, neu'n uwch, yna yn ôl y gyfraith, rhaid i chi brynu'r nwyddau.
Cyn diwedd yr ocsiwn
Os ydych yn cynnig ar eitem mewn camgymeriad, neu'n newid eich meddwl am eich cynnig, efallai y byddwch yn medru tynnu eich cynnig yn ôl cyn diwedd yr ocsiwn. Mae rheolau gwefannau ocsiwn yn medru amrywio. Darllenwch reolau'r wefan ynghylch cynnig, i weld a ydych yn cael tynnu eich cynnig yn ôl.
Ar ôl i'r gwerthiant ddod i ben
Os ydych yn newid eich meddwl ynghylch prynu'r nwyddau ar ddiwedd yr ocsiwn, yn gyfreithiol rydych wedi eich rhwymo i brynu'r nwyddau. Ond, mae'n werth cysylltu â'r gwerthwr i weld os yw'n fodlon gadael i chi ganslo. Ond nid oes rhaid iddo gytuno i hyn.
Os ydych yn amau nad yw cynnig arall yn gynnig go iawn
Weithiau, efallai y bydd gwerthwr yn gofyn i ffrindiau neu aelodau o'r teulu gynnig ar eu heitem i yrru pris y nwyddau i fyny. Gelwir hyn yn 'Shill-bidding'. Os ydych yn amau nad yw pob cynnig ar eitem yn gynnig go iawn, dylech riportio hyn i wefan yr ocsiwn. Os nad yw gwefan yr ocsiwn yn gwneud unrhyw beth ynglyn â’r peth, gallech ystyried riportio'r mater i safonau masnach.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Ar Getsafeonline mae yna wybodaeth ar sut i brynu’n ddiogel ar-lein. Rhowch glic ar y wefan www.getsafeonline.org.uk.











