Pam mae hyn yn bwysig? Mae'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn amrywio o wlad i wlad. I gael gwybodaeth ar gyfer eich gwlad chi, dewiswch o'r ddewislen.

Nid yw nwyddau'n cyfateb i'w disgrifiad

Pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth, yn ôl cyfraith defnyddwyr rhaid i'r eitem gyfateb i'w disgrifiad.

Er enghraifft, os yw label siwmper yn dweud ei bod wedi ei gwneud yn gyfan gwbl o wlân, rhaid ei bod wedi ei gwneud yn gyfan gwbl o wlân.

Os ydych yn sylweddoli nad yw eitem yn cyfateb i'w disgrifiad wedi i chi gyrraedd adref neu wedi i chi ei derbyn, efallai y bydd hawl gennych i'w dychwelyd a gofyn i'r gwerthwr am ad-daliad.

Darllenwch y dudalen hon i ddarganfod mwy am ystyr nwyddau sydd ddim yn cyfateb i'w disgrifiad a phryd y gallai fod gennych yr hawl i'w dychwelyd oherwydd hynny.

Beth yw ystyr 'rhaid i nwyddau gyfateb i'w disgrifiad'?

Mae bron pob gwerthiant nwyddau yn gysylltiedig â disgrifiad o ryw fath. Efallai mai'r label ar y nwyddau eu hunain yw'r disgrifiad, neu'r geiriau, neu'r ffotograff ar y pecyn.  Weithiau, mae'r disgrifiad yn un llafar neu ysgrifenedig a geir gan berson sy'n gweithio yn y siop. Er enghraifft, efallai bod person sy'n gweithio mewn garej yn disgrifio car ail law fel model 2003.

Mae disgrifiad yn arbennig o bwysig os ydych yn prynu nwyddau yr ydych wedi eu gweld yn cael eu disgrifio neu eu darlunio mewn catalog neu ar wefan. Rhaid i'r nwyddau yr ydych yn eu prynu gyfateb i unrhyw ddisgrifiad a gawsoch gan berson sy'n gweithio yn y siop a rhaid eu bod hefyd yn cyfateb i unrhyw ffotograff.

Labeli ar ddillad

Mae labeli ar ddillad yn medru achosi problemau oherwydd nid oes unrhyw ddiffiniad cyfreithiol ar gyfer meintiau nac ar gyfer y termau 'bach' canolig neu fawr'. Os nad yw dillad sy'n cael eu disgrifio fesul maint yn ffitio, nid oes hawl cyfreithiol gennych i ad-daliad er, fe fydd gan lawer o werthwyr bolisi ar gyfer dychwelyd eitemau. Ond, os oes labeli anghywir ar ddillad, yna mae hawl gennych i ad-daliad. Er enghraifft, rhaid i sgert sydd â label sy'n ei disgrifio fel sgert 90cm o hyd, fod yn 90cm o hyd.

Beth os ydych yn prynu rhywbeth trwy edrych ar sampl?

Os ydych yn prynu eitem trwy edrych ar sampl, rhaid i'r nwyddau gyfateb i'r sampl a hefyd eu disgrifiad. Er enghraifft, os ydych yn archebu carped ar sail sampl o wlân pur, rhaid bod y carped a dderbyniwch hefyd o wlân pur ac nid yn gyfuniad o wlân a ffabrig arall.

Cam-gyfleu

Os yw gwerthwr sy'n fusnes yn gwneud datganiad ffug i'ch perswadio i brynu nwyddau, efallai y bydd wedi troseddu. Efallai y byddwch chi am riportio'r masnachwr i Safonau Masnach, sydd a'r pwer i ymchwilio i'r math yma o drosedd. Er enghraifft, efallai y bydd masnachwr sy'n gwerthu larymau lladron yn rhoi datganiad ffug i chi yn dweud bod angen larwm arnoch am fod mwy o achosion o ladrata na'r cyfartaledd yn eich ardal chi.

Os ydych yn credu i chi brynu rhywbeth o ganlyniad i ddatganiad ffug gan werthwr sy'n fusnes neu werthwr preifat, efallai bod hawl gennych i ddiweddu'r contract neu gael eich arian yn ôl. Y ddeddf sy'n rhoi'r hawl hwn i chi yw Deddf Cam-gyfleu 1967.

Os ydych yn y sefyllfa yma, dylech gael cyngor.

Yr hyn fedrwch chi ei wneud os nad yw'r nwyddau'n cyfateb i'w disgrifiad.

Os nad yw nwyddau'n cyfateb i'w disgrifiad ac rydych wedi eu cael ers cyfnod byr iawn yn unig a heb eu defnyddio, dylech eu dychwelyd i'r gwerthwr a gofyn am ad-daliad.

Fe fyddwch yn medru gwneud hyn waeth ble prynwyd y nwyddau, er enghraifft mewn siop, ar y rhyngrwyd neu o gatalog. Nid oes gwahaniaeth hefyd a ydych wedi prynu'r nwyddau gan werthwr preifat neu gan fusnes.

Dylech ddweud bod y nwyddau wedi cael eu 'cam-ddisgrifio' a'ch bod yn dymuno cael ad-daliad dan y Ddeddf Gwerthu Nwyddau.

Os ydych wedi cael y nwyddau ers amser, efallai y byddwch wedi colli'r hawl i gael ad-daliad ond byddwch yn dal i fedru gofyn i'r gwerthwr am atgyweiriad, eitem arall yn lle neu beth o'ch arian yn ôl.

Yn ymarferol, mae'n medru bod yn anodd profi bod rhywun wedi rhoi disgrifiad ffug o nwyddau i chi os nad oes unrhyw beth gennych yn ysgrifenedig. Os oes gennych unrhyw beth yn ysgrifenedig o gwbl, er enghraifft llenyddiaeth gwerthu, hysbyseb neu dudalen ar y we, dylech gofio cadw copi fel prawf o'r disgrifiad a roddwyd o'r nwyddau.

Camau nesaf

Nwyddau diffygiol - os ydych chi am gael eich arian yn ôl

Nwyddau diffygiol - os ydych chi eisiau atgyweiriad neu nwyddau eraill yn lle

Riportio problem i Safonau Masnach

Os oes angen help pellach arnoch

Citizens Advice

Barnu'r dudalen hon Rhoi adborth