Sut fedra i arbed arian ar fy miliau tanwydd?

Date: 5 October 2011

Pan fydd arian yn dynn, mae angen i chi chwilio am ffyrdd o arbed arian ar eich biliau tanwydd ond mae angen i chi gadw’ch cartref yn gynnes ac yn ddiogel dros y gaeaf hefyd.

Chwiliwch i weld os oes modd i chi gael gwell dêl gyda chwmni cyflenwi arall, neu drwy gael nwy a thrydan gan yr un cwmni. Mae’n bosib cael gostyngiad hefyd os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol neu’n rheoli eich cyfrif ar-lein.

Ymchwiliwch i grantiau a chynlluniau arbennig i’ch helpu i arbed ynni trwy inswleiddio eich cartref, neu beth am ddefnyddio bylbiau sy’n arbed ynni i dorri ar eich costau?

Os ydych yn derbyn rhan gwarant Credyd Pensiwn, efallai y cewch £120 oddi ar eich biliau y gaeaf hwn. Fe fydd pobl hyn hefyd yn cael Taliadau Tanwydd y Gaeaf yn ôl yr arfer. Ac, os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, mynnwch gyngor yn fuan. Efallai y bydd eich cwmni cyflenwi hefyd yn medru eich helpu chi drwy ymddiriedolaeth a sefydlwyd i helpu pobl gyda’u biliau tanwydd a biliau eraill y cartref.

Gweler Costau tanwydd ac arbed arian am fanylion pellach.