Mae effeithiau’r dirwasgiad yn medru cael effaith ddifrodus arnoch chi a’ch teulu. Efallai y byddwch yn colli eich swydd neu efallai y gofynnir i chi ddechrau gweithio amser byr. Efallai y byddwch yn brwydro i gadw’ch cartref. Mae pobl hŷn sy’n byw ar eu cynilion wedi gweld prisiau’n codi’n sylweddol tra bod eu hincwm yn gostwng. Efallai y byddwch yn teimlo bod eich problemau dyled allan o bob rheolaeth. Ond, waeth sut mae’r sefyllfa economaidd yn effeithio arnoch, mae yna ffyrdd o helpu’ch hun ac mae yna fudiadau sy’n gallu eich helpu i ymdopi os ydych yn cael trafferth. Dyma ambell air o gyngor syml i’ch helpu i gadw ar ben y dirwasgiad.
Mae anwybyddu problem ond yn arwain at broblemau gwaeth. Peidiwch ag anwybyddu galwadau ffôn neu lythyron gan unrhyw un y mae arnoch arian iddynt (eich credydwyr). Cysylltwch â nhw i esbonio pam yr ydych yn cael problemau. Gorau po gynted y gwnewch chi hyn - fe fydd mwy o opsiynau gennych i ddatrys eich problemau ariannol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch delio gyda dyledion, ewch at Help gyda dyled.
Mae yna sawl mudiad sy’n cynnig cyngor annibynnol rhad ac am ddim, fel y Ganolfan Cynghori, Shelter, y Llinell Ddyled Genedlaethol a’r Gwasanaeth Cyngor ar Gredyd i Ddefnyddwyr. Mae eu cynghorwyr yn medru asesu eich sefyllfa a darganfod pa gamau gweithredu sydd orau ar eich cyfer chi.
I fynd at wefannau’r mudiadau defnyddiol, rhowch glic ar Help pellach.
Os oes dyledion gennych, mae yna rai y mae’n rhaid i chi eu talu’n gyntaf, cyn y lleill, oherwydd mae’r canlyniadau’n medru bod yn fwy difrifol os nad ydych yn eu talu. Er enghraifft, mae dyledion morgais neu rent yn flaenoriaeth oherwydd os nad ydych yn eu talu rydych yn medru colli eich cartref. Mae cynghorwyr dyled yn medru eich helpu i gynllunio eich cyllideb a thalu eich dyledion sy’n flaenoriaeth yn gyntaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch delio gyda dyledion, rhowch glic ar Help gyda dyled.
Cyfrifwch faint o arian sy’n dod i mewn ac allan o’ch cartref ar gyfer treuliau hanfodol fel bwyd, biliau a theithio i’r gwaith. Rydych yn medru lawrlwytho ffurflen gyllideb i’ch helpu i wneud hyn. Edrychwch i weld os ydych yn medru arbed arian ar eich biliau, a ph’un ai eich bod yn hawlio eich holl fudd-daliadau (gweler isod).
Pan fyddwch wedi llunio eich cyllideb, cyfrifwch faint sydd ar ôl gennych i dalu eich credydwyr. Os nad ydych yn medru fforddio ad-dalu’r holl arian sy’n ddyledus gennych, cyfrifwch faint fedrwch chi ei fforddio a chynigiwch dalu hyn. Mae cynghorwr dyledion yn medru eich helpu i wneud hyn.
Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru arbed arian trwy gael help gyda’ch costau iechyd fel taliadau presgripsiwn a chostau deintydd. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau addysg fel cinio ysgol a dillad.
Efallai y byddwch yn medru cael grant i’ch helpu i dalu am bethau fel gosod inswleiddio yn eich cartref a gwella effeithlonrwydd ynni. Mae rhai pobl yn medru cael help rhad ac am ddim. Mae hyn yn medru helpu gostwng y biliau tanwydd.
Efallai y bydd y cwmni sy’n cyflenwi eich nwy a’ch trydan yn medru eich helpu os oes dyledion tanwydd gennych. I ddarganfod os oes modd i chi gael help, rhowch glic ar wefan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydan yn: www.britishgasenergytrust.org.uk neu wefan Ymddiriedolaeth Ynni EDF: www.edfenergytrust.org.uk. Efallai y bydd hawl gennych i dariffau rhatach, a elwir yn ‘dariffau cymdeithasol’. Holwch eich cwmni tanwydd. Efallai y cewch fargen tanwydd gwell gyda chwmni arall.
Mae yna rai elusennau sy’n rhoi grantiau i bobl i helpu talu eu biliau neu brynu eitemau hanfodol. Mae manylion yr elusennau hyn ar wefan Turn2Us yn: www.turn2us.org.uk.
Ydych chi’n cael yr holl arian sydd ar gael i chi? Efallai bod budd-daliadau neu gredydau treth ar gael i chi ond nid ydych wedi eu hawlio eto.
Os ydych yn gweithio, efallai y cewch Gredyd Treth Gwaith hyd yn oed os nad oes plant gennych. Os oes plant gennych, ydych chi’n hawlio Credyd Treth Plant? Mae hyd yn oed pobl sydd â chyflogau eithaf uchel â hawl i’r budd-dal hwn. Efallai y byddwch yn medru cael Budd-dal Treth Gyngor neu Fudd-dal tai i’ch helpu i dalu eich treth gyngor a’ch rhent. Nid oes rhaid i chi fod allan o waith, o angenrheidrwydd, cyn i chi fedru cael y rhain.
Os ydych yn colli’ch swydd, ewch at eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol a dechreuwch hawlio budd-daliadau cyn gynted ag y medrwch. Efallai y bydd hawl gennych i fudd-daliadau fel Lwfans Ceisio Gwaith, a fyddai’n medru golygu bod hawl awtomatig gennych i fudd-daliadau eraill fel Treth Gyngor neu Fudd-dal Tai. Fe fyddwch hefyd yn medru cael help gyda’r llog ar eich morgais o fewn ychydig wythnosau i golli eich swydd.
Mewn rhai achosion, p’un ai y byddwch chi’n gweithio neu allan o waith, fe fyddwch yn medru hawlio yn ôl am fudd-daliadau, hynny yw, fe fyddwch yn medru cael arian am gyfnod yn y gorffennol.
Mewn rhai achosion, rydych yn medru gweithio am ychydig oriau’r wythnos heb iddyn nhw dorri yn ôl ar eich budd-daliadau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau, rhowch glic ar: Budd-daliadau.
Mae cynghorydd yn medru eich helpu i hawlio’ch budd-daliadau. Rhowch glic ar Help pellach am fanylion cyswllt y sefydliadau sy’n medru helpu.
Os fyddwch chi’n cymryd benthyciad arall, efallai y byddwch yn talu llawer yn fwy yn ôl nag a fenthycwyd gennych ac ar gyfraddau llog uchel iawn. Efallai na fyddwch yn medru fforddio ad-dalu’r benthyciad ac efallai y bydd y benthyciad wedi ei ddiogelu yn erbyn eich cartref, ac yna mae yna bosibilrwydd y medrwch golli eich cartref.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth yn union fyddai benthyciad newydd yn ei olygu i chi a’ch bod yn cael cyngor cyn i chi lofnodi unrhyw beth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch dyledion, ewch at Help gyda dyled.
Mae yna reolau ynghylch y camau y mae’n rhaid i fenthycwyr morgais eu cymryd cyn iddynt fedru dechrau cymryd camau yn y llys yn eich erbyn chi – felly ceisiwch gael cyngor cyn gynted ag y byddwch yn dechrau mynd i drafferth gyda’ch morgais.
Efallai bod gwerthu eich cartref a’i rhentu yn ôl yn ymddangos fel ateb sydyn i’ch problemau dyled. Ond prin iawn yw’r sicrwydd y mae llawer o gynlluniau achub morgais yn ei gynnig. Mae’n bosib y byddwch yn talu rhent uchel iawn yn y pendraw, neu hyd yn oed yn cael eich troi allan o’ch cartref. Mynnwch gyngor cyn i chi lofnodi un o’r cynlluniau hyn.
Os ydych yn brwydro gyda’ch ad-daliadau morgais, efallai y cewch eich temtio i anfon yr allweddi at eich benthyciwr neu adael eich cartref. Peidiwch â gwneud hyn heb gael cyngor. Efallai y byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am y ddyled ar eich eiddo ac efallai y byddan nhw’n dod ar eich hôl amdano flynyddoedd yn ddiweddarach.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu unrhyw wrandawiadau yn y Llys eich hun, gyda chynghorydd os yn bosib. Nid yw achosion Llys yn golygu y byddwch yn colli eich cartref yn awtomatig. Mae proses y llys yn gweithredu fel gwiriad terfynol i sicrhau mai adfeddiant yw’r cam olaf. Mae gan rai llysoedd ddesgiau cyngor sy’n medru darparu cymorth funud olaf.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn ddylech ei wneud os ydych yn cael trafferth talu’ch morgais, rhowch glic ar Dyledion morgais.
Gwnewch yn siŵr fod eich cyflogwr yn rhoi eich hawliau cyfreithiol i chi os ydych yn colli eich swydd. Efallai y byddwch chi angen cyngor ynghylch eich hawliau cyflogaeth. Er enghraifft, ni ddylid eich diswyddo’n annheg ac ni ddylid eich dewis yn annheg i ddileu eich swydd. Efallai y bydd hawl gennych i dâl dileu swydd ac i arian arall sy’n ddyledus i chi, fel cyflog gwyliau nad chawsoch eich talu amdanynt.
Rydych yn medru cael help i edrych am swydd arall. Rydych yn medru cael cyngor ar sut i lenwi ffurflen gais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau am swyddi. Mae yna gymorth ychwanegol os ydych yn rhiant unigol, yn anabl, dros 50, yn gadael yr ysgol neu’r coleg, neu os ydych wedi bod yn ddi-waith ers amser hir. Mae dysgu sgiliau newydd yn medru gwella eich siawns o gael gyrfa yn barod erbyn diwedd y dirwasgiad. Mae rhai cyrsiau yn rhad ac am ddim, neu efallai y byddwch yn medru cael help ariannol.
Rydych yn medru cael cyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim ynghylch gyrfaoedd a hyfforddiant drwy ffonio: 0800 100 900.
Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau cyflogaeth, ewch at Hawliau sylfaenol yn y gwaith. Am fwy o wybodaeth ynghylch dileu swyddi, ewch at Dileu swyddi.
Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar eich awdurdod lleol i roi help i rai pobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref. Efallai y byddwch yn gymwys os ydych mewn angen sy’n flaenoriaeth. Efallai fod hyn am fod gennych blant dibynnol neu am eich bod yn feichiog. Neu efallai fod hyn am eich bod yn fregus, oherwydd rydych yn hen neu â salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd. Mynnwch gyngor arbenigol ynghylch sut i geisio am dŷ os ydych yn colli eich cartref.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael help yr awdurdod lleol gyda thai, rhowch glic ar Dod o hyd i lety.
Gwefannau
Dyma rai gwefannau a allai eich helpu i ymdopi gydag effeithiau’r dirwasgiad:
Taflen ddefnyddiol
Mae’r TUC, ynghyd â’r Ganolfan Gynghori, wedi cynhyrchu taflen newydd o’r enw Coping with economic downturn: a practical guide for working people and their families. Mae’n rhoi gwybodaeth i chi ynghylch:
Rydych yn medru lawrlwytho copi o’r canllawiau oddi ar wefan y TUC yn: www.tuc.org.uk.
Sylwer, er bod mwyafrif y canllawiau’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban, mae rhai o’r manylion cyswllt yn berthnasol i Loegr yn unig.