Chwilio am canolfan leol

Chwilio am canolfan leol

Diweddarwyd y safle:

Mawrth 20 af 2010

  • Cymru
  • A yw methdaliad yn ddewis?

A yw methdaliad yn ddewis? - Yng Nghymru

Os ydych chi’n brwydro’n galed gyda’ch dyledion, peidiwch â digalonni. Gallwch gael help. Gallech gael nifer o wahanol ddewisiadau i ddelio â’ch problemau.

Os nad oes gennych ragor o arian yn weddill yn eich cyllideb, neu fod gennych cyn lleied y bydd yn cymryd sawl blwyddyn i chi ad-dalu’ch dyledion, gallech ddymuno edrych ar fethdaliad fel dewis.

Gall mynd yn fethdalwr gymryd pwysau credydwyr oddi arnoch. Caniateir i chi gadw rhai pethau, megis nwyddau cartref a swm rhesymol i fyw arno. Pan fydd y gorchymyn methdalu drosodd, gallwch gychwyn o’r newydd ac mae’ch dyledion fel arfer yn cael eu dileu. Fodd bynnag, mae anfanteision - byddwch yn colli’ch cartref os ydych yn berchen tŷ. Hefyd mae’n costio arian i fynd yn fethdalwr ac efallai na fyddai gennych ddigon o arian.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am eich amrywiol ddewisiadau a gweld a yw methdaliad yn syniad da i chi, gweler: Help gyda dyled.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth am fethdaliad, gweler ein taflen ffeithiau: (New window) Methdaliad.