Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae'r wybodaeth yma'n sôn am eich hawliau pan fyddwch chi'n prynu nwyddau o wefan sy'n galw ei hun yn safle ocsiwn ar y we (internet auction site). Nid yw'n sôn am eich hawliau os ydych chi'n gwerthu nwyddau trwy un o'r safleoedd hyn.
Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol os ydych yn prynu nwyddau ar safle ocsiwn ar y we gan werthwr yn y Deyrnas Unedig, neu mewn gwlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd (UE). Os yw'r gwerthwr mewn gwlad tu allan i'r DU neu'r UE, efallai y bydd rheolau eraill yn berthnasol, hyd yn oed os yw'r safle ei hun yn y DU neu'r UE.
Mae'n bwysig gwybod ble mae'r gwerthwr er mwyn i chi fedru gwybod pa reolau sy'n berthnasol. Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu gan werthwyr mewn gwledydd eraill yn yr UE, ewch at wefan Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig yn: www.ukecc.net, neu ffoniwch 08456 040503.
Erbyn hyn, mae prynu nwyddau ar safleoedd ocsiwn ar y we yn ffordd boblogaidd iawn o siopa. Mae yna amrywiaeth eang o nwyddau ar gael i'w prynu gan nifer sylweddol o werthwyr, mewn sawl ffordd wahanol.
Efallai bod y safleoedd hyn yn eu galw eu hunain yn safleoedd ocsiwn, ond nid ydynt yn gweithio yn yr un ffordd ag ocsiwn traddodiadol, ac nid oes ganddynt yr un cyfrifoldebau. Pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth o safle ocsiwn ar y we, fel arfer, rydych chi'n prynu gan y gwerthwr, nid y safle, ac at y gwerthwr y byddwch chi'n cwyno os oes rhywbeth yn mynd o'i le. Efallai y bydd y gwerthwr yn unigolyn preifat neu'n fasnachwr busnes. Mae'n bwysig gwybod os yw'r gwerthwr yn unigolyn preifat neu'n fasnachwr busnes, oherwydd fe fydd hyn yn effeithio ar eich hawliau. Yn gyffredinol, fe fydd mwy o hawliau gennych os yw'r gwerthwr yn fasnachwr busnes, er, efallai na fydd yn bosib gwybod os yw'r gwerthwr yn fasnachwr busnes bob tro, ac mae'n medru bod yn anodd sicrhau eich bod yn cael eich hawliau ganddynt.
Ar safleoedd ocsiwn ar y we, mae yna wahanol fathau o werthiant. Mae rhai'n gwerthu mewn ffordd debyg i ocsiwn ac yn golygu cynnig am eitemau. Nid yw mathau eraill, er enghraifft 'Buy-it-now' ar eBay, yn werthiant ocsiwn o gwbl. Fe fydd eich hawliau'n dibynnu ar y math o werthiant yr ydych yn prynu ynddo. Fe fyddan nhw hefyd yn dibynnu a oes unrhyw amddiffyniad ychwanegol ar gael yn amodau a thelerau'r safle, neu trwy'r dull a ddefnyddiwyd i dalu am y nwyddau.
Am fwy o wybodaeth ar eich hawliau pan fyddwch chi'n prynu mewn ocsiwn traddodiadol, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am yr hawliau sydd gennych pan fyddwch chi'n prynu o safle ocsiwn ar y we a'r opsiynau sydd gennych os oes rhywbeth yn mynd o'i le.
Nid yw'n bosib dweud bob tro os ydych chi'n prynu gan fasnachwr busnes ar safle ocsiwn ar y we. Dylai gwerthwr sy'n fasnachwr busnes ddweud wrthych eu bod yn fasnachwr busnes cyn cytuno ar y gwerthiant. Ond, mae yna lawer o fasnachwyr sydd ddim yn gwneud hyn ac sy'n smalio eu bod yn werthwyr preifat er mwyn osgoi eu cyfrifoldebau cyfreithiol tuag at eu cwsmeriaid.
Dyma rai pethau sy'n gallu dangos eich bod yn prynu gan fasnachwr busnes:
Os nad ydych yn si?r os yw gwerthwr yn fasnachwr busnes, gweler y pennawd Sut fedrwch chi wybod os yw'r gwerthwr yn fasnachwr busnes.
Os ydych yn prynu nwyddau ar safle ocsiwn ar y we ac mae'r gwerthwr yn fasnachwr busnes, mae gennych gymaint o hawliau a phetaech wedi prynu'r nwyddau mewn siop, o leiaf - weithiau fe fydd mwy gennych. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r nwyddau fod o ansawdd boddhaol a chyfateb â'r disgrifiad a roddwyd ar y wefan. Dylent fod yn rhydd o unrhyw namau, gan gynnwys namau bach. Dylent fod o'r un ansawdd a dylent bara cyhyd ag y byddai person rhesymol yn ei ddisgwyl. Rhaid eich bod hefyd yn medru defnyddio'r nwyddau at y diben y byddech yn ei ddisgwyl fel arfer ar gyfer y math hwn o gynnyrch.
Os oes rhywbeth o'i le gyda'r nwyddau, dylech gwyno at y gwerthwr. Gan ddibynnu pa mor ddifrifol yw'r broblem a pha mor gyflym yr ydych yn cwyno, efallai y byddwch yn medru:
Dylai'r gwerthwr dalu am unrhyw gostau postio sy'n gysylltiedig ag anfon nwyddau yn ôl neu eu hatgyweirio.
Os ydych wedi ceisio cysylltu â'r gwerthwr ac nid ydych wedi llwyddo i ddatrys eich problem, efallai y bydd opsiynau eraill ar gael - gweler y pennawd Yr opsiynau i ddatrys eich problem.
Os nad ydych yn medru cael hyd i'r gwerthwr, gweler y pennawd Beth os na allwch chi ddod o hyd i'r gwerthwr.
Am wybodaeth fwy manwl ynghylch eich hawliau siopa arferol pan fyddwch chi'n prynu gan fasnachwr busnes, gweler Prynu nwyddau - eich hawliau.
Yn ogystal â'ch hawliau siopa arferol, mae gennych rai hawliau ychwanegol hefyd wrth brynu nwyddau ar-lein gan fasnachwr busnes. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i gael enw a chyfeiriad y masnachwr busnes cyn i chi roi'ch archeb.
Efallai y bydd gennych rai hawliau ychwanegol hefyd, am eich bod chi wedi prynu rhywbeth gan fasnachwr heb gael cyswllt wyneb-yn-wyneb gyda nhw. Gelwir y broses o brynu yn y ffordd hon yn 'gwerthu o bell' neu 'distance selling'.
Yr hawl ychwanegol pwysicaf sydd gennych pan fyddwch chi’n prynu ar-lein gan fasnachwr busnes yn un o'r ffyrdd hyn, yw'r hawl i gyfnod 'oeri'. Mae hyn yn golygu eich bod yn medru canslo eich archeb os ydych yn newid eich meddwl ynghylch y nwyddau. Fe allwch wneud hyn o fewn saith niwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y mae'r nwyddau wedi eich cyrraedd. Fe allwch chi ganslo eich archeb o fewn y cyfnod hwn, hyd yn oed os nad oes unrhyw beth yn bod gyda'r nwyddau, a chael pob ceiniog o'ch arian yn ôl, gan gynnwys y gost bostio wreiddiol.
Mae'n rhaid i'r masnachwr ddweud wrthych fod hawl gennych i gyfnod oeri o saith niwrnod cyn i chi roi'ch archeb. Os nad ydynt yn gwneud hyn, fe fydd y cyfnod oeri yn dechrau pan fyddan nhw'n dweud wrthych yn ysgrifenedig am eich hawl i ganslo, neu dri mis ar ôl i chi dderbyn y nwyddau, pa bynnag sydd gyntaf.
Os ydych chi am ganslo eich archeb, mae'n rhaid i chi wneud hyn yn ysgrifenedig. Rhaid i'r masnachwr ddychwelyd eich arian o fewn 30 diwrnod. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gost dychwelyd y nwyddau, ond dim ond os yw'r masnachwr wedi dweud hyn wrthych cyn i chi eu prynu. Os oes rhaid i chi dalu am ddychwelyd eich nwyddau, gwnewch yn si?r eich bod yn dewis gwasanaeth postio sydd â digon o yswiriant i ddarparu ar gyfer unrhyw golled neu ddifrod.
Pan fyddwch chi'n prynu ar-lein gan fasnachwr busnes, yn gyntaf mae'n rhaid i'r masnachwr sicrhau eich bod yn derbyn eich nwyddau o fewn 30 diwrnod. Os nad ydych yn derbyn y nwyddau o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y rhoddoch eich archeb, mae gennych yr hawl i ganslo a chael ad-daliad llawn. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael iawndal ychwanegol ar ben hyn.
Am fwy o wybodaeth ar eich hawliau pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth gan fasnachwr busnes ar y rhyngrwyd a thrwy fathau eraill o werthu o bell, gweler Gwerthu o bell yn Prynu nwyddau - eich hawliau.
Pan fyddwch chi'n prynu nwyddau gan fasnachwr busnes, cyfrifoldeb y masnachwr yw unrhyw golled neu ddifrod sy'n digwydd cyn i chi eu derbyn. Nid oes rhaid i chi brynu unrhyw yswiriant post ychwanegol i warchod eich nwyddau yn erbyn colled neu ddifrod cyn i chi eu derbyn.
Os defnyddioch eich cerdyn credyd i brynu rhywbeth gan fasnachwr busnes ar safle ocsiwn ar y we, efallai y byddwch yn medru hawlio yn erbyn cwmni'r cerdyn credyd yn lle'r masnachwr os oes rhywbeth o'i le gyda'r nwyddau. Mae hyn yn medru bod yn ddefnyddiol ble mae'r masnachwr wedi mynd allan o fusnes neu nid oes arian ganddo i dalu iawndal i chi.
Er mwyn i chi fedru hawlio yn erbyn cwmni'r cerdyn credyd, rhaid bod y nwyddau wedi costio mwy na £100 a llai na £30,000.
Os defnyddioch eich cerdyn credyd i dalu, efallai hefyd y bydd yn bosib i chi gael taliad wedi'i wrthdroi – gweler Amddiffyniad ychwanegol pan fyddwch chi'n talu gyda cherdyn credyd neu gerdyn tâl o dan y pennawd Yr opsiynau i ddatrys eich problem.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddatrys problemau gyda nwyddau diffygiol a brynwyd ar gredyd, gweler Credyd.
Pan fyddwch chi'n prynu nwyddau ail-law gan fasnachwr busnes ar safle ocsiwn ar y we, mae gennych yr un hawliau a phetaent yn newydd. Ond, os oes problem yn codi, fe fydd angen i chi ystyried y pris a dalwyd am y nwyddau wrth benderfynu a fedrwch chi ddisgwyl i'r masnachwr wneud unrhyw beth yn ei gylch. Ni ddylech, o angenrheidrwydd, ddisgwyl i'r nwyddau fod o ansawdd berffaith, ac efallai y bydd eich disgwyliadau o ran perfformiad yn is.
O dan rai amgylchiadau cyfyngedig iawn, mae'n bosib colli rhai o'ch hawliau siopa arferol wrth brynu nwyddau ail-law trwy safle ocsiwn ar y we. Mae hyn yn medru digwydd os ydych yn cael cynnig gweld nwyddau'n bersonol. Er bod hyn yn brin, mae'n gallu digwydd. Yr enghraifft fwyaf cyffredin yw prynu ceir ail-law.
Pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth ar safle ocsiwn ar y we gan unigolyn preifat, ychydig iawn o hawliau sydd gennych.
Ni fyddwch yn medru cwyno os nad yw'r nwyddau o ansawdd boddhaol nac yn addas i'r diben y'u prynwyd. Hefyd, nid oes hawl gennych i ganslo eich archeb, ac nid oes gennych unrhyw rai o'r hawliau ychwanegol eraill sydd gennych wrth brynu ar safle ocsiwn ar y we gan fasnachwr busnes heb gael cyswllt wyneb-yn-wyneb (gweler y pennawd Eich hawliau pan fydd y gwerthwr yn fasnachwr busnes).
Ond, mae gennych yr hawl i gwyno i'r gwerthwr os nad yw'ch nwyddau'n cyfateb â'r disgrifiad a nodwyd ar y wefan. Mae hyn yn berthnasol i nwyddau ail-law a newydd. Os nad yw'r nwyddau'n cyfateb â'r disgrifiad, efallai y bydd hawl gennych i iawndal gan y gwerthwr. Ond efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r llys i geisio cael hyn, a hyd yn oed os fyddwch chi'n ennill eich achos, efallai na fydd gan y gwerthwr ddigon o arian i'ch talu. Cofiwch, efallai bod opsiynau eraill ar gael i ddatrys eich problem - gweler y pennawd Yr opsiynau i ddatrys eich problem.
Pan fyddwch chi'n prynu nwyddau gan werthwr preifat, efallai na fyddwch yn medru hawlio yn eu herbyn os yw'r nwyddau'n cael eu difrodi neu'n mynd ar goll cyn i chi eu derbyn. Ond, os yw'r gwerthwr wedi cynnig yswiriant post i chi a chithau wedi derbyn y cynnig, fe fydd disgwyl iddynt hawlio ar yr yswiriant ar eich rhan.
Mae gan rai safleoedd ar y we gynlluniau amddiffyn. Mae'r cynlluniau hyn yn medru delio gyda phroblemau fel nwyddau sydd heb eich cyrraedd neu nwyddau sydd ddim yn cyfateb â'u disgrifiad. Maen nhw'n medru bod yn ddefnyddiol os ydych am osgoi mynd i'r llys, neu os yw'r gwerthwr yn dod o dramor, ac felly mae'n werth holi os fedrwch chi hawlio o dan un o'r cynlluniau hyn.
Ond, mae angen i chi gofio'r canlynol:
Er mwyn hawlio, fe fydd gofyn eich bod wedi dilyn rheolau, polisïau neu gytundebau defnyddiwr y safle ocsiwn hefyd. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn medru hawlio os ydych wedi delio gyda'r gwerthwr yn uniongyrchol trwy e-bost yn lle trwy'r safle.
Mae rhai safleoedd ar y we yn cynnig gwasanaeth datrys dadleuon, sef cynllun a fydd yn eich helpu chi a'r gwerthwr i ddod i gytundeb. Mae rhai cynlluniau'n golygu cael gwasanaeth cyfryngwyr sydd wedi eu hyfforddi ac fe fyddant yn codi tâl. Mae'n bwysig cofio efallai na fyddwch yn cael yr hyn yr ydych yn ei ddymuno wrth ddefnyddio'r cynlluniau hyn. Hyd yn oed os yw'r gwerthwr yn cytuno i dalu peth arian i chi, efallai na fydd unrhyw ffordd o sicrhau ei fod yn talu.
Erbyn hyn, mae llawer o daliadau am bethau a brynwyd ar safleoedd ocsiwn ar y we yn mynd trwy wasanaethau talu arbennig, fel PayPal. Fe fydd gwasanaethau talu yn casglu eich arian ac ni fydd yn ei roi i'r gwerthwr nes i chi dderbyn eich nwyddau.
Mae'r gwasanaethau hyn yn medru bod yn ddefnyddiol, ond maen nhw'n cynnig lefelau gwahanol iawn o amddiffyniad ar gyfer eich arian. Edrychwch yn ofalus ar yr amodau a thelerau i weld beth mae'r cynllun yn ei wneud a beth nad yw'n ei wneud. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i ddefnyddio'r cynllun diogelu taliad, ac felly mae'n bwysig i chi chwilio am y ddêl orau.
Pan fyddwch chi'n defnyddio gwasanaeth talu ar-lein, efallai y gwelwch chi nad yw'ch taliadau wedi eu hamddiffyn yn llwyr mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft, os ydych yn delio gyda gwerthwyr o dramor. Efallai y gwelwch chi hefyd nad ydych wedi eich amddiffyn yn yr amgylchiadau canlynol:
Mae yna lawer o rwydweithiau cardiau, gan gynnwys cardiau credyd a chardiau tâl (charge cards), sy'n gweithredu trefniadau a elwir yn 'chargeback'. Mae hyn yn golygu, mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn medru cael taliad wedi'i wrthdroi. Holwch ddarparwr eich cerdyn credyd neu gerdyn tâl i weld a ydyn nhw'n gweithredu trefniadau 'chargeback'.
Mae cerdyn debyd Visa yn dod o dan gynllun ‘chargeback’ cardiau debyd Visa sy’n golygu eich bod yn medru hawlio’ch arian yn ol os nad yw nwyddau’n cyrraedd, os ydynt wedi eu niweidio neu os nad ydynt yn cyfateb i’w disgrifiad. Nid oes unrhyw gynllun tebyg ar gyfer cardiau debyd Maestro ond rydych yn medru gofyn am gael arian yn ol os ydych wedi archebu nwyddau o dramor ond nid ydynt wedi cyrraedd.
Mae terfynau amser 'Chargeback' yn medru bod yn dynn ac efallai na fydd y cynlluniau'n darparu ar gyfer pob math o hawliad. Ond, ble maen nhw'n weithredol, fe fyddan nhw'n berthnasol i daliadau a wnaed i werthwyr tramor yn ogystal â gwerthwyr yn y Deyrnas Unedig.
Os ydych wedi rhoi tro ar bob opsiwn arall ond heb lwyddo o gwbl, opsiwn arall yw hawlio yn erbyn y gwerthwr yn y llys. Dylech fynd i'r llys fel yr opsiwn olaf yn unig. Os nad ydych wedi gwneud ymdrech go iawn i sortio'ch problem cyn dechrau cymryd camau yn y llys, hyd yn oed os enillwch eich achos, efallai y bydd y llys yn gostwng eich iawndal.
Cyn i chi fynd i'r llys, mae angen i chi feddwl a oes gennych ddigon o dystiolaeth. Mae i fyny i chi i brofi'ch achos. Nid oes gwarant y byddwch yn ennill eich achos ac efallai y collwch eich arian yn y pendraw. Mae angen i chi ddarganfod hefyd a oes gan y gwerthwr ddigon o arian i dalu'ch hawliad. Nid oes diben erlyn rhywun sydd â dim arian.
Fe fydd angen i chi gael cyfeiriad y gwerthwr cyn i chi fedru mynd â nhw i'r llys.
Am fwy o wybodaeth ar fynd a masnachwr busnes neu werthwr preifat i'r llys, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.
Os nad ydych yn medru dod o hyd i'r gwerthwr, cysylltwch â'r wefan. Efallai y bydd y safle'n medru rhoi manylion y gwerthwr i chi. Nid oes unrhyw beth cyfreithiol yn eu hatal rhag gwneud hyn. Ond, nid oes rhaid iddynt roi manylion y gwerthwr i chi os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny.
Os yw'n ymddangos bod y gwerthwr yn gweithredu ei wefan ei hun gyda'i enw parth ei hun, efallai y bydd yn bosib darganfod sut i gysylltu ag ef trwy ddefnyddio peiriant chwilio 'Pwy yw' , fel www.nominet.org.uk (parthau yn y Deyrnas Unedig yn unig).
Os ydych yn amau bod yna dwyll (fraud) yn gysylltiedig, yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, dylech ddweud wrth Cyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 05 neu ar-lein yn www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk. Fe fydd Cyswllt Defnyddwyr hefyd yn medru rhoi cyngor i chi ynghylch eich opsiynau.
Ffordd arall o adrodd ynghylch twyll yw dweud wrth yr heddlu. Mae manylion cyswllt gorsafoedd heddlu lleol a chyfle i adrodd ynghylch rhai pethau ar-lein yn: www.online.police.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, dylech riprtio achosion o dwyll wrth Consumerline ar 0300 123 6262 neu ar-lein yn www.consumerline.org. I gysylltu â'r heddlu, rhowch glic arxc www.psni.police.uk.
Ond, dylech gofio efallai na fydd rhyw lawer y bydd Consumer Direct Consumerline na'r heddlu'n medru'i wneud.
Byddwch yn ofalus gyda'r mathau canlynol o werthwyr yn arbennig:
Dylech hefyd ddweud wrth y safle ocsiwn ar y we os ydych yn amau bod yna dwyll. Mae yna sawl ffordd y maen nhw'n medru cosbi rhywun sy'n gweithredu tu allan i reolau'r wefan, gan gynnwys atal eu cyfrif dros dro.
Os ydych yn amau bod gwerthwr yn fasnachwr busnes sy'n smalio bod yn unigolyn preifat, dylech gwyno i Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar 08454 04 05 05.
Gwasanaeth cyngor i ddefnyddwyr, dros y ffôn ac ar-lein, yw Cyswllt Defnyddwyr, ac fe’i cefnogir gan y Swyddfa Masnachu Teg a gwasanaethau Safonau Masnach yr awdurdod lleol. Mae'r cyngor a'r wybodaeth yn rhad ac am ddim, ond codir tâl am alwadau ffôn i Cyswllt Defnyddwyr ar gyfraddau rhifau 0845.
Ar hyn o bryd, mae Cyswllt Defnyddwyr Cymru ar gael yng Nghymru, ac yn yr Alban a Lloegr (fel Consumer Direct).
Rhif Ffôn: 08454 04 05 05
Gwefan: www.cyswlltdefnyddwyr.gov.uk
Y gwasanaeth Safonau Masnachu a'r Cyngor Defnyddwyr Cyffredinol (General Consumer Council) sy'n rhedeg ConsumerLine ac mae'n rhoi cyngor i ddefnyddwyr yng Ngogledd Iwerddon.
Rhif Ffôn: 0845 600 6262
Gwefan: www.consumerline.org
Adran o'r llywodraeth yw'r OFT ac mae'n goruchwylio arferion masnachu i sicrhau eu bod yn deg a bod cwsmeriaid yn cael eu hamddiffyn.
Ar wefan yr OFT, mae yna wybodaeth ddefnyddiol ynghylch eich hawliau siopa, twyll ar y rhyngrwyd a phrynu'n ddiogel ar-lein a llawer o bethau eraill: www.oft.gov.uk.
Mae yna wybodaeth ddefnyddiol ar wefan Getsafeonline ynghylch sut i brynu'n ddiogel ar-lein: www.getsafeonline.org.uk.
Mae Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig yn helpu sortio problemau gyda masnachwyr mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae gwybodaeth bellach yn: www.ukecc.net, neu ffoniwch 08456 040503.
Mae Econsumer.gov yn wefan sy'n eich galluogi chi i adrodd ynghylch cwynion am werthwyr yn rhai o'r gwledydd sydd ddim yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Cyfeiriad y wefan yw: www.econsumer.gov.