Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os nad ydych yn derbyn y safon ddisgwyliedig o wasanaeth oddi wrth eich darparwr post, mae’n bosib y gallwch hawlio iawndal. Gallwch hefyd gwyno. Er enghraifft, gallwch hawlio iawndal os yw eich llythyron yn cyrraedd yn hwyr iawn, wedi’u difrodi neu os nad ydynt yn cyrraedd o gwbl.
Fel arfer, y Post Brenhinol yw eich darparwr post. Gallwch ddarganfod sut i hawlio iawndal oddi wrth y Post Brenhinol: www.royalmail.com, neu ffoniwch nhw ar 08457 740 740.
Cewch wybodaeth am sut i wneud cwyn i’ch darparwr post ar wefan y corff gwarchod buddiannau defnyddwyr, Consumer Focus: www.consumerfocus.org.uk.
Cewch hefyd hyd i wybodaeth a chyngor ar broblemau gyda’r post oddi wrth Gyswllt Defnyddwyr ar 08454 04 05 06, neu ewch at www.consumerdirect.gov.uk.
Os nad ydych am dderbyn post uniongyrchol gan gwmnïau o’r Deyrnas Unedig, fe allwch gofrestru’n rhad ac am ddim gyda gwasanaeth o’r enw Mailing Preference Service (MPS). Dylai hyn eich stopio rhag cael post wedi ei gyfeirio atoch gan gwmnïau nad ydych wedi gwneud busnes â nhw’n flaenorol.
Nid yw’r gwasanaeth yn cynnwys pob math o bost uniongyrchol. Fe fyddwch yn dal i gael post gan gwmnïau yr ydych wedi eu defnyddio’n flaenorol a gan elusennau yr ydych wedi cyfrannu atynt yn y gorffennol. Fe fyddwch hefyd yn dal i gael unrhyw eitemau sydd wedi cael eu cyfeirio at Y Preswylydd.
Os ydych yn cofrestru gyda’r MPS, mae’n cynnwys unrhyw un yn eich cartref sydd â’r un cyfenw. Ond, fe fydd aelod o’ch cartref yn medru dewis parhau i gael post uniongyrchol wedi ei gyfeirio ato/ati.
Rydych hefyd yn medru dewis parhau i dderbyn post ynghylch testunau sydd o ddiddordeb i chi.
Unwaith fyddwch chi wedi cofrestru, mae’n medru cymryd hyd at bedwar mis i chi beidio â derbyn y post digroeso. Os ydych yn dal i’w gael ar ôl hyn, dylech gwyno i adran cwynion yr MPS. Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Mailing Preference Service
Freepost 29 LON20771
London
W1E OZT.
Llinell gofrestru: 0845 703 4599
E-bost:mps@dma.org.uk
Gwefan: www.mpsonline.org.uk
Eithrio o Wasanaeth Drws i Ddrws y Post Brenhinol
Mae gan y Post Brenhinol wasanaeth eithrio ar gyfer post sydd heb gyfeiriad arno, er, fe fydd yn dal i ddanfon post sydd wedi ei gyfeirio at Y Preswylydd. Ni fydd y gwasanaeth eithrio yn cynnwys post sy’n cael ei ddanfon gan gwmnïau danfon post eraill.
Unwaith fyddwch chi wedi cofrestru, dylai gymryd hyd at chwe wythnos i bost digroeso stopio eich cyrraedd. I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth eithrio, rhowch glic ar wefan y Post Brenhinol yn www.royalmail.com. Neu e-bostiwch eich enw a’ch cyfeiriad at: optout@royalmail.com.