Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

  • Scotland
  • Legal system
  • Mae busnes yn dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn i adennill colledion o ganlyniad i ladrad

Mae busnes yn dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn i adennill colledion o ganlyniad i ladrad

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth yw achos sifil?

Os oes rhywun yn eich cyhuddo o beri i fusnes golli arian, efallai y byddan nhw’n dwyn achos sifil yn eich erbyn i gael iawndal. Mae hyn yn golygu efallai y byddan nhw’n ceisio mynd â chi i’r llys i gael arian a gollwyd ganddynt yn ôl. Ar y dudalen hon, fe allwch chi ddarganfod beth allai ddigwydd, a’r hyn allwch chi ei wneud os ydych yn cael gorchymyn am daliad.

Efallai y bydd busnes yn ceisio hawlio iawndal gennych yn yr achosion canlynol:

  • rydych chi wedi cael eich cyhuddo o ddwyn o siop
  • mae eich cyflogwr yn eich cyhuddo chi o ladrata
  • mae eich cyflogwr yn eich cyhuddo chi o esgeulustod, er enghraifft, am ddifrodi nwyddau.

Efallai y byddwch chi wedi cael gorchymyn am daliad gan gyfreithwyr Retail Loss Prevention neu Drydens, sy’n gweithredu ar ran llawer o fân-werthwyr yn y Deyrnas Unedig.

Efallai y bydd busnes yn dwyn achos sifil yn eich erbyn i gael yr iawndal gennych, yn lle achos troseddol, neu efallai y bydd yn gwneud hyn yn ogystal â dwyn cyhuddiadau troseddol yn eich erbyn. Os ydyw’n eich cyhuddo chi o ladrad, mae’r busnes yn dal i allu dwyn achos sifil yn eich erbyn am iawndal, hyd yn oed os ydyw wedi adennill y nwyddau y mae’n honni i chi eu dwyn.

Mae’r busnes ond yn gallu hawlio iawndal gennych os ydyw’n gallu profi yn y llys fod hawl ganddo i’r iawndal. Er enghraifft, os ydych wedi cael eich cyhuddo o ladrad, rhaid i’r busnes brofi eich bod wedi lladrata yn gyntaf. Mae’r safon ar gyfer y dystiolaeth yn is yn y llysoedd sifil nag yn y llysoedd troseddol, ac felly efallai y bydd yn haws i’r busnes brofi ei achos yn eich erbyn.

Nôl i’r brig


Pa golledion y mae’r busnes yn gallu eu hawlio?

Fe allai’r busnes hawlio arian gennych am:

  • swm yr arian neu’r nwyddau a gafodd eu lladrata
  • cost staff sy’n ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd
  • unrhyw gostau eraill sydd wedi codi yn y broses o ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd
  • costau gweinyddol
  • costau cyfreithiol
  • costau eraill sy’n gysylltiedig â’r hyn a ddigwyddodd, er enghraifft costau diogelwch.

Rhaid ei fod yn rhesymol i’r busnes hawlio’r costau hyn gennych. Os yw’r busnes yn hawlio’r gost o gael staff i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd, costau gweinyddol neu gostau diogelwch, mae’n rhaid iddo brofi faint oedd y costau hyn yn eich achos chi. Nid yw’r busnes yn medru hawlio costau sefydlog ar gyfer y rhain.

Nôl i’r brig


Beth fedra i ei wneud os ydw i’n cael gorchymyn am daliad?

Os yw’r busnes yn dwyn achos sifil i gael yr iawndal gennych, fe fyddwch yn cael llythyr ganddo yn dweud bod yn rhaid i chi dalu’r iawndal hwn. Fe fydd y llythyr yn dweud y bydd y busnes yn dwyn achos cyfreithiol yn y Llys Sirol os nad ydych yn talu, neu yn Llys y Siryf yn yr Alban, i gael yr arian yn ôl. Yn aml, mae hyn yn gallu bod yn sioc neu’n bryder i chi. Ond, os ydych chi’n cael llythyr fel hyn, mae yna opsiynau sy’n agored i chi.

Fe fydd angen i chi benderfynu os ydych chi’n mynd i dalu’r cais am arian ar unwaith. Mae yna lawer o bethau a allai effeithio ar eich penderfyniad.

Fe fydd angen i chi feddwl pa mor gryf yw’r achos yn eich erbyn. Efallai y bydd hyn yn dibynnu ar bethau fel:

  • cryfder y dystiolaeth yn eich erbyn
  • a ydych chi wedi cyfaddef eich bod yn euog trwy dderbyn rhybudd
  • a yw’r colledion y maen nhw’n eu hawlio yn rhesymol.

Fe fydd angen i chi feddwl pa mor gryf yw’r achos, yn erbyn y posibilrwydd na fydd y busnes yn cymryd unrhyw gamau pellach. Un rheswm pam efallai na fyddan nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach yw am eu bod ddim eisiau gwario mwy o arian ar fynd i’r llys a chithau, efallai, ddim yn mynd i allu talu yn y pendraw. Ond, nid oes unrhyw warant na fydd y busnes yn dwyn achos llys yn eich erbyn.

Pan fyddwch chi’n penderfynu beth i’w wneud, mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor gan gynghorydd profiadol cyn gynted â phosib, er enghraifft mewn Canolfan Cynghori. Fe fydd cynghorydd yn eich helpu i benderfynu ar yr opsiwn gorau i chi, a beth i’w wneud nesaf. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn cael llythyr yn gorchymyn taliad am golledion, dyma rai o’r pethau y gallech eu gwneud:

  • anwybyddu’r llythyr - os wnewch chi hyn, rydych chi’n cymryd y siawns na fydd y busnes yn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol pellach yn eich erbyn. Ond, fwy na thebyg y byddwch chi’n cael mwy o lythyron yn mynnu taliad, ac yn bygwth achos llys yn eich erbyn
  • gwadu eich bod yn atebol - mae hyn yn golygu dweud wrth y busnes nad oes arnoch chi’r arian iddyn nhw. Yn gyfreithiol, ni fydd arnoch unrhyw arian i’r busnes. Os ydych am wneud hyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol.
  • cynnig talu – os ydych yn credu y gallai’r busnes ddwyn hawliad llwyddiannus yn eich erbyn am yr arian, efallai y byddwch am gynnig ei dalu. Os ydych yn penderfynu gneud hyn, rhaid i chi anfon llythyr cyntaf atynt yn gwadu atebolrwydd am y swm sy’n cael ei hawlio. Wedi hyn, fe allwch anfon ail lythyr yn cynnig talu. Ar y llythyr, dylech nodi’r geiriau heb ragfarn yn glir. Yn y llythyr hwn, fe allwch amlinellu unrhyw amgylchiadau personol fel problemau meddygol neu broblemau ariannol
  • talu’n llawn - os ydych am sicrhau na fydd unrhyw achos llys yn codi yn y dyfodol, fe allwch benderfynu talu’n llawn. Os ydych am wneud hyn, efallai y byddwch yn gallu trafod gyda’r busnes i weld os allwch chi dalu mewn rhandaliadau. Er mwyn gwneud hyn, fe allwch ysgrifennu at y busnes, yn cynnig yr hyn allwch chi ei fforddio yn eich barn chi. Dylech hefyd anfon peth tystiolaeth o’ch sefyllfa ariannol atynt, fel llythyr budd-daliadau neu slip cyflog.

Pan fyddwch chi’n penderfynu beth i’w wneud, mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor gan gynghorydd profiadol cyn gynted â phosib, er enghraifft, mewn Canolfan Cynghori. Fe fyddan nhw’n gallu dweud mwy wrthych am yr opsiynau sydd ar gael i chi a beth sydd orau i chi. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu eich helpu i ysgrifennu llythyron at y busnes. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Beth fedra i ei wneud os yw’r busnes yn mynd â fi i’r llys?

Os bydd busnes yn penderfynu mynd â chi i’r llys, fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn Canolfan Cynghori neu gan gyfreithiwr. Dylech gael cyngor cyn gynted â phosib. Efallai, hefyd, y byddwch wedi cael eich diswyddo ac efallai y byddwch chi angen cyngor ar eich hawliau. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch dod o hyd i gyfreithiwr a faint maen nhw’n ei godi, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch dod o hyd i gyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Dylech gofio, os bydd yr achos yn mynd i’r llys a’r llys yn profi mai chi sy’n anghywir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol yn ogystal â’r arian y mae’r busnes yn ei hawlio.

Nôl i’r brig


Y Gofrestr Anonestrwydd

Efallai eich bod chi wedi cael gwybod gan Retail Loss Prevention y bydd eich manylion yn cael eu cadw ar gronfa ddata genedlaethol o ddigwyddiadau anonest.

Efallai eu bod nhw hefyd wedi dweud wrthych fod yr wybodaeth yn gallu cael ei defnyddio gan gwmnïau, er enghraifft, wrth benderfynu a ydyn nhw’n mynd i’ch cyflogi chi ai peidio.

Mae gennych yr hawl i ddarganfod pa wybodaeth sy’n cael ei chadw ynglŷn â chi ar y gronfa ddata. Rhaid bod unrhyw wybodaeth ynglŷn â chi sy’n cael ei chadw ar y gronfa ddata, wedi cael ei phrofi, a rhaid ei bod yn berthnasol ac yn ymwneud â chi.

I ddarganfod mwy am eich hawliau neu os ydych yn teimlo bod yr wybodaeth sydd ar y gronfa ddata wedi effeithio arnoch, fe allwch ofyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth i ymchwilio i’r mater. Am fwy o wybodaeth ar gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler Defnyddio’r gyfraith i amddiffyn eich gwybodaeth.

Nôl i’r brig


Dywedwch wrthym beth sydd wedi digwydd i chi

Ydych chi wedi bod yn y sefyllfa hon? Yng Nghymru a Lloegr, mae Cyngor ar Bopeth wedi lansio ymgyrch ynghylch camau sifil ar gyfer iawndal, ac rydyn ni angen eich straeon chi. Dywedwch wrthym beth sydd wedi digwydd i chi, a helpwch ni i ymgyrchu yn erbyn annhegwch mewn camau sifil am iawndal – rhowch glic ar wefan Cyngor ar Bopeth yn (New window) www.citizensadvice.org.uk

Nôl i’r brig


Help pellach

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch achosion yn y llys sirol, gweler Y Llys Sirol.

Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch achosion yn llys y siryf, gweler Llysoedd.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch costau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch costau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch costau cyfreithiol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.

Nôl i’r brig