Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Gwahaniaethu ar sail anabledd

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth yw gwahaniaethu oherwydd anabledd

Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl mewn meysydd gwahanol yn eu bywydau.

Os oes gwahaniaethu ar sail anabledd yn digwydd yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol, efallai y byddwch yn medru cymryd camau ynglŷn â’r sefyllfa:

Mae yna rai meysydd pwysig ble nad ydyw'n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl, er enghraifft mewn mynediad at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae gwahaniaethu ar sail anabledd yn medru bod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd pan fyddwch chi’n cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd eich anabledd nag y byddai rhywun heb anabledd yn cael eu trin yn yr un amgylchiadau.

Dyma enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol oherwydd anabledd:

(Example box starts)
Mae tafarn yn gadael i deulu sydd â phlentyn sydd â pharlys yr ymennydd i yfed yn eu gardd gwrw ond nid yn yr ystafell i deuluoedd. Nid yw’r teulu sydd â’r plentyn anabl yn cael yr un dewisiadau â theuluoedd eraill.
(Example box ends)

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fydd rheol, polisi neu arfer yn ymddangos ei fod yn berthnasol i bawb yn yr un ffordd, ond, mewn gwirionedd, mae’n golygu bod pobl anabl ar anfantais annheg o gymharu â phobl sydd ddim yn anabl.

Dyma enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol:

(Example box starts)
Mae awdurdod lleol yn cynhyrchu taflen wybodaeth am ei wasanaethau ar gyfer pobl leol. Nid yw’n cynhyrchu fersiwn hawdd ei ddarllen, er mwyn arbed arian. Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy anodd i rywun sydd ag anabledd dysgu gael mynediad at y gwasanaethau, ac mae’n medru arwain at wahaniaethu anuniongyrchol.
(Example box ends)

Weithiau, mae’n bosib cyfiawnhau’r rheol, y polisi neu’r arfer sy’n golygu bod pobl anabl ar anfantais. Er enghraifft, efallai bod rheswm iechyd a diogelwch, neu rheswm busnes nad oes modd ei osgoi. Yn yr achos yma, ni fydd yn cyfrif fel gwahaniaethu.

Mae yna fath arall o wahaniaethu a elwir yn wahaniaethu sy’n codi o anabledd. Mae hyn yn golygu bod rhywun wedi eich trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd ac nid oes rheswm da dros wneud hyn. Er enghraifft, efallai bod angen defnyddio ci tywys ond ni chafwyd unrhyw addasiadau i ganiatáu hyn.

Mae hefyd yn wahaniaethu ar sail anabledd os na fydd rhywun yn gwneud addasiadau i ganiatáu i bobl anabl ddefnyddio gwasanaeth neu gyflawni swydd. Er enghraifft, darparu taflen wybodaeth mewn Braille. Gelwir hyn yn ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol.

Mae hefyd yn wahaniaethu ar sail anabledd os oes rhywun:

  • yn aflonyddu arnoch os ydych yn anabl, er enghraifft, trwy wneud jôc am eich anabledd
  • yn eich erlid chi os ydych yn dwyn achos cyfreithiol oherwydd gwahaniaethu yn eich erbyn, neu os ydych yn helpu rhywun arall i ddwyn achos cyfreithiol oherwydd gwahaniaethu
  • ddim yn cymryd camau i sicrhau bod pobl anabl yn medru cael mynediad at bethau fel nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, gweithle, sefydliad addysgol, cymdeithas neu adeilad cyhoeddus. Cyfeirir at hyn fel gwneud addasiadau rhesymol
  • yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd rhywun anabl y mae gennych gysylltiad â nhw, fel eich partner neu blentyn. Cyfeirir at hyn fel gwahaniaethu trwy gysylltiad.

Dyma enghraifft o wahaniaethu trwy gysylltiad:

Mae cyflogwr yn disgyblu menyw am ei bod wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd i ofalu am ei phlentyn anabl. Nid yw wedi disgyblu unrhyw weithwyr eraill sydd wedi cael nifer tebyg o oriau i ffwrdd o’r gwaith. Fe fyddai hyn yn cael ei weld fel gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.

Nôl i’r brig


Aflonyddu oherwydd anabledd

Mae rhywun yn gwahaniaethu ar sail anabledd os yw’n aflonyddu arnoch oherwydd eich anabledd. Efallai y byddwch yn medru dwyn achos mewn perthynas â hyn.

Mae rhywun yn aflonyddu arnoch os ydych yn teimlo bod eu hymddygiad tuag atoch yn sarhaus, yn eich dychryn, yn eich diraddio, yn eich bychanu neu yn eich trallodi mewn unrhyw ffordd. Mae enghreifftiau o aflonyddu yn medru cynnwys galw enwau, defnyddio llysenwau, poeni, tynnu ystumiau, dweud jôcs, chwarae triciau neu unrhyw ymddygiad arall sy’n eich ypsetio oherwydd eich anabledd. Hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad hwn eich brifo’n fwriadol, mae’n dal i fedru cyfrif fel gwahaniaethu os yw’n eich ypestio.

Mae’n dal i fedru bod yn aflonyddu, hyd yn oed os yw’r person sy’n aflonyddu arnoch yn gwybod nad oes anabledd gennych.

Dyma enghraifft o aflonyddu oherwydd anabledd:

(Example box starts)

Mae bachgen sydd â pharlys ymledol yn teimlo bod Arweinydd ei grŵp Sgowtiaid yn aflonyddu arno trwy ofyn iddo os ydyw’n teimlo’n iawn, drwy’r amser, er bod ei rieni wedi gofyn iddo beidio â gwneud hyn o flaen bechgyn eraill.

Er efallai bod Arweinydd y Sgowtiaid yn teimlo ei fod yn ymddwyn yn garedig, ac nad oes unrhyw fwriad ganddo i’w frifo na’i fychanu, mae’n dal i fedru bod yn aflonyddu os yw’r bachgen yn cael profiad trallodus.

(Example box ends)

Nôl i’r brig


Erledigaeth

Os ydych yn cwyno am wahaniaethu ar sail anabledd, ni ddylech gael eich erlid o ganlyniad. Mae hyn yn golygu na ddylech gael eich trin yn annheg am eich bod wedi cwyno.

Mae cwyno yn cynnwys mynd ag achos i’r llys, mynd at dribiwnlys cyflogaeth neu sefyll i fyny dros eich hawliau mewn rhyw ffordd arall.

Mae amddiffyniad cyfreithiol ar gael i chi os ydych yn cael eich erlid am i chi gwyno am wahaniaethu ar sail anabledd. Mae amddiffyniad cyfreithiol rhag gwahaniaethu hefyd ar gael am helpu rhywun arall i gwyno ynghylch gwahaniaethu ar sail anabledd, er enghraifft, trwy roi tystiolaeth fel tyst yn y llys.

Dyma enghraifft o erledigaeth:

(Example box starts)

Mae dyn sydd ag anabledd meddyliol yn erlyn perchennog tafarn am ei fod yn dweud pethau a oedd yn ei frifo wrth gwsmeriaid eraill am ei anabledd, ac yn gwneud hynny drwy'r amser.

Oherwydd hyn, mae perchennog y dafarn yn gwahardd y dyn rhag dod i’r dafarn. Mae hyn yn erledigaeth.

(Example box ends)

Nôl i’r brig


Beth sy’n cyfrif fel anabledd

Mae yna rheolau ynghylch yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ystyried fel anabledd, pan yn ystyried os oes gwahaniaethu wedi cymryd lle neu beidio.

Mae'r gyfraith yn dweud bod 'anabledd' yn golygu nam corfforol neu feddyliol, sydd ag effaith negyddol sylweddol a hir dymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau bob dydd arferol.Mae yna reolau arbennig ar gyfer bobl sy’n dioddef o ganser, HIV a sglerosis ymledol ac ar gyfer bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall – gweler isod.

Yn ôl y diffiniad yma, fe all namau gynnwys namau synhwyraidd fel y clyw neu'r golwg, neu namau meddyliol, fel anableddau dysgu, dyslecsia a salwch meddwl. Mae rhai anffurfiadau difrifol yn cyfrif fel anabledd hefyd. Fe all rhai cyflyrau sy'n medru gwaethygu gydag amser, er enghraifft sglerosis ymledol (multiple scleroses) a HIV/AIDS gael eu hystyried fel anabledd cyn gynted â fydd y symptomau’n ymddangos, hyd yn oed cyn eu bod yn dechrau effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd.

Mae bod ag anabledd tymor-hir yn golygu:

  • bod yr anabledd wedi parhau am o leiaf deuddeg mis; neu
  • bod disgwyl iddo barhau am o leiaf deuddeg mis; neu
  • ei fod yn debyg o barhau am weddill eich oes, os nad oes disgwyl i chi fyw am fwy na deuddeg mis.

Hyd yn oed os ddefnyddir cymhorthion meddygol neu driniaeth i reoli neu gael gwared ar anabledd, mewn rhai achosion mae’n dal i gael ei ystyried fel anabledd.

Er na fydd nam bach,ar ei ben ei hun, yn cael ei gyfrif yn sylweddol,efallai bod gennych nifer o namau bach a all greu effaith sylweddol pan maen nhw’n cael eu hystyried gyda’u gilydd.Os fydd nam yn stopio, mae’n dal yn bosib ei ystyried i fod yn nam os ydy’r cyflwr yn debygol o ailddigwydd, er enghraifft, epilepsi.

Pobl sy’n dioddef o ganser, HIV neu sglerosis ymledol

Os ‘dych chi’n dioddef o ganser, HIV neu sglerosis ymledol yng Nhgymru, Lloegr neu’r Alban,’rydych yn cael eich cyfrif fel person ag anabledd. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi ddangos bod gennych nam sydd yn cael effaith sylweddol, andwyol, tymor hir ar eich gallu i wneud gweithgareddau bob dydd arferol. Byddwch yn cael eich cyfrif yn anabl o’r dyddiad y canfuwyd eich bod yn dioddef o’r cyflwr.

Pobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ystyrir bod gennych anabledd os ‘rydych naill wedi eich:

  • ardystio’n ddall neu’n rhannol ddall gan feddyg llygaid ymgynghorol; neu
  • wedi’ch cofrestru’n ddall neu rhannol ddall gan awdurdod lleol.

Yr hyn sydd ddim yn cyfrif fel anabledd

Nid yw'r gyfraith yn cyfrif y canlynol fel anableddau ar hyn o bryd:

  • bod yn gaeth i alcohol, nicotin neu unrhyw sylwedd arall nad ydyw'n cael ei bresgreibio gan feddyg. Ond, gellir ystyried niwed i iechyd a achoswyd am eich bod yn gaeth i'r uchod yn anabledd
  • clefyd y gwair
  • rhai problemau personoliaeth (er enghraifft arddangosiaeth, voyeuriaeth neu dueddiad i ddwyn, dechrau tanau, neu gam-drin pobl eraill yn gorfforol neu'n rhywiol)
  • tatŵs neu dyllu'r corff

Am fwy o wybodaeth am yr hyn sy'n cyfrif fel anabledd, ewch at wefan Directgov yn: (New window) www.directgov.uk.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ynglyn ag ystyr y termau nam meddyliol neu gorfforol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu ar sail anabledd yn y gwaith

Mae'n anghyfreithlon i gyflogwr:

  • eich trin yn llai ffafriol am eich bod yn anabl nag y mae’n trin person heb anabledd yn yr un amgylchiadau. Gelwir hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.
  • wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich cysylltiad â rhywun arall sy'n anabl, er enghraifft, eich partner neu blentyn. Gelwir hyn yn wahaniaethu trwy gysylltiad
  • wahaniaethu’n anuniongyrchol yn eich erbyn, er enghraifft trwy ofyn am rywbeth sy’n berthnasol i’ch holl gydweithwyr ond sy’n llawer mwy anodd i chi ac i bobl anabl gydymffurfio ag ef
  • eich trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd. Er enghraifft, mae gweithiwr yn cael shifftiau nos i’w gweithio. Mae ganddi fethiant yr arennau ac mae’n cael dialysis bob nos. Mae gwneud iddi weithio shifftiau nos yn golygu na fydd yn medru cael ei dialysis
  • beidio â gwneud addasiadau rhesymol i’r gweithle i’ch galluogi chi i weithio neu i barhau i weithio (gweler isod)
  • i aflonyddu arnoch os ydych yn anabl, er enghraifft, trwy ddweud jôc am eich anabledd
  • i’ch erlid chi os ydych yn cymryd camau cyfreithiol oherwydd gwahaniaethu yn eich erbyn, neu os ydych yn helpu rhywun arall i gymryd camau cyfreithiol oherwydd gwahaniaethu.

Fe all cyflogwyr drin pobl anabl yn llai ffafriol os oes ganddynt ddigon o rhesymau y mae modd eu cyfiawnhau dros wneud hynny, a dim ond os na ellir goresgyn y broblem trwy wneud ‘addasiadau rhesymol’. Er enghraifft, fe allai cyflogwr gyfiawnhau ei gamau os ydyw wedi gwrthod rhoi swydd gosod carpedi i rhywun sydd â phoen cefn difrifol, oherwydd ni fyddai'n gallu cyflawni gofynion hanfodol y swydd.

Dyma enghreifftiau o’r mathau o addasiadau y gallai cyflogwr eu gwneud:

  • gwneud addasiadau ffisegol i’r adeilad
  • darparu offer arbenigol i’ch helpu i wneud eich gwaith
  • eich symud chi i wahanol swydd neu weithle
  • newid eich oriau gwaith neu rhoi amser ychwanegol i ffwrdd i chi

Pan fydd cyflogwyr yn penderfynu a ydyw addasiad yn un rhesymol, fe all ystyried sawl peth, gan gynnwys cost gwneud addasiad a maint y busnes. Os ydych chi eisoes yn y swydd, fe all y cyflogwr hefyd ystyried eich sgiliau a’ch profiad a’r cyfnod yr ydych wedi bod yn gweithio yno.

Mynediad i Waith

Os ydych yn anabl ac rydych chi angen newidiadau yn y gwaith er mwyn i chi fedru gwneud eich gwaith, efallai y byddwch yn medru cael help gan Mynediad i Waith. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael help gan Mynediad i Waith os ydych yn anabl ac yn chwilio am swydd. Mae Mynediad i Waith yn gynllun gan y llywodraeth sy’n gweithio gyda phobl anabl a chyflogwyr i weld pa newidiadau sydd eu hangen er mwyn i’r person anabl fedru gwneud ei (g)waith. Efallai y byddan nhw hefyd yn medru rhoi peth arian i dalu am y newidiadau. Efallai y bydd Mynediad i Waith yn medru gwneud asesiad o’ch anghenion yn y gwaith, ac yn medru helpu gyda phethau fel offer, addasu safle neu weithiwr cymorth. Fel y person cyflogedig neu’r person sy’n chwilio am waith, eich cyfrifioldeb chi yw cysylltu â Mynediad i Waith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Mynediad i Waith, holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol, neu rhowch glic ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch Mynediad i Waith, holwch yn eich swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leol neu’r Ganolfan Waith (JobCentre), neu chwiliwch ar wefan NIDirect yn: (New window) www.nidirect.gov.uk.

Fe fyddwch hefyd yn medru llenwi holiadur ar-lein ar wefan Directgov i ddarganfod os ydych chi’n gymwys i gael help gan Mynediad i Waith. Os ydych chi’n gymwys, fe allwch argraffu ‘llythyr cymhwysedd cyn-cyflogaeth’ er mwyn i chi ei ddangos i ddarpar-gyflogwr. Am wybodaeth bellach, gweler (New window) www.direct.gov.uk.

Os ydych chi wedi dioddef gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich anabledd, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Mathau eraill o wahaniaethu

Yn ogystal â chael eich trin yn annheg oherwydd anabledd, mae'n bosib y cewch eich trin yn annheg am resymau eraill, oherwydd:

  • eich rhyw
  • eich hil, tarddiad ethnig neu genedligrwydd
  • eich tuedd rhywiol
  • eich oed
  • eich crefydd neu’ch cred
  • eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • ailbennu rhywedd
  • rydych yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth.

Er enghraifft, rydych yn fenyw anabl ac rydych yn cael eich diswyddo am eich bod yn feichiog. Efallai y byddwch yn medru cyflwyno honiad o wahaniaethu ar sail beichiogrwydd yn ogystal â gwahaniaethu ar sail anabledd. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo am eich bod yn feichiog ac am eich bod yn anabl, gwnewch yn siŵr eich bod yn codi'r ddau fater os ydych yn cwyno.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail rhyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich oed, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy rhywioldeb? yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd crefydd neu gred? Yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich hil, gweler Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil? yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.

Nôl i’r brig


Mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau

O dan y gyfraith, mae gan ddefnyddwyr nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau hawliau sylfaenol penodol.

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau defnyddwyr sylfaenol, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau a  Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Yn ychwanegol at eich hawliau sylfaenol fel defnyddiwr os ydych yn anabl, mae gennych hawliau eraill hefyd sy’n eich amddiffyn yn erbyn gwahaniaethu pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau neu’n defnyddio cyfleusterau penodol. Mae hyn yn berthnasol waeth beth yw maint y mudiad neu’r cwmni sy’n darparu’r nwyddau, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau.

Mae enghreifftiau o wasanaethau na ddylai wahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn anabl yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir gan: westai, banciau, cymdeithasau adeiladu, cyfreithwyr, awdurdodau lleol, asiantaethau cyngor, tafarndai, theatrau, siopau, cwmnïau sy’n ceisio gwerthu dros y ffôn, gorsafoedd rheilffordd, eglwysi, meddygon a llysoedd barn a thrafnidiaeth gyhoeddus.. Nid oes gwahaniaeth a ydyw’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim neu os oes rhaid talu amdano.

Yn gyffredinol, nid oes hawl gan gwmnïau yswiriant wahaniaethu yn eich erbyn os ydych yn anabl, ond weithiau maen nhw’n gallu eich trin chi’n llai ffafriol os ydynt yn gallu dangos bod hyn yn seiliedig ar wybodaeth ddibynadwy ynghylch risgiau yswiriant.

Yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan ddarparwyr nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau

(Example box starts)

Mae gen i anabledd corfforol ac rydw i ond yn gallu cerdded pellteroedd byr heb help. Wrth deithio ar awyren, rydw i angen cadair olwyn i fynd o'r ddesg gofnresru i'r lolfa ymadael. Mae'r cwmni awyr wastad yn codi tâl arnaf am y gadair olwyn. A yw hyn yn deg?

Na, yn wir mae'n anghyfreithlon i'r cwmni teithio wneud i chi dalu am gadair olwyn os ydych yn anabl. Mynnwch gyngor gan gynghorydd profiadol, er enghtaifft yn eich CAB lleol, ynghylch sut i drafod gyda nhw cyn i chi archebu eich taith awyr nesaf.

(Example box ends)

Ni chaiff darparwyr nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau eich trin chi’n llai ffafriol nag y byddent yn trin person sydd ddim yn anabl. Er enghraifft, os ydyw gwesty’n gwrthod rhoi lle i berson gyda nam ar ei g/chlyw gan ddweud nad ydyw’r gwesty’n addas ar gyfer pobl gyda nam ar eu clyw, yna mae hyn yn driniaeth llai ffafriol.

Mae’n rhaid i ddarparwyr gwasanaeth wneud 'addasiadau rhesymol’ i alluogi person anabl i ddefnyddio eu gwasanaethau. Os nad ydynt yn gwneud hyn, mae’n rhaid eu bod nhw’n gallu dangos ei fod yn rhesymol eu bod wedi methu â gwneud hyn. Mae enghreifftiau o wneud addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu gwybodaeth ar dapiau sain yn ogystal ag yn ysgrifenedig, neu osod ramp i alluogi mynediad mewn cadair olwyn.

Mae’r llywodraeth wedi cynhyrchu Côd Ymarfer ar Wahaniaethu ar sail anabledd. Mae’n ddatganiad o arfer da y gallwch ei ddefnyddio pan yn delio gyda rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau. Os ydych yn penderfynu cymryd camau cyfreithiol am eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail anabledd, mae’n rhaid i’r llys ystyried y Côd wrth ddod i benderfyniad. Mae copi o’r Côd ar gael oddi ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ganllawiau ar ddod ag achos llys ar sail gwahaniaethu ar sail anabledd. Enw’r ddogfen hon yng Nghymru a Lloegr yw ‘Sut alla i wneud cais’, a gallwch ddod o hyd i gopi ar wefan Comisiwn Hawliau Anabledd, (New window) www.drc.org.uk.

Enw’r ddogfen hon yn yr Alban yw ‘Gwneud cais o dan adran 3 o’r Ddeddf Gwahaiaethu ar sail Anabledd yn yr Alban 1995’, a gallwch ddod o hyd i gopi ar wefan y Comisiwn Hawliau Anabledd yn (New window) www.drc.org.uk.

Os ydych chi’n credu bod darparwr nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau wedi gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich bod yn anabl, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu pan yn prynu neu'n rhentu eiddo

O dan y gyfraith, mae gan bob un sy’n prynu neu’n rhentu eiddo hawliau sylfaenol penodol.

Yn ychwanegol at eich hawliau sylfaenol, os ydych yn anabl, mae gennych hawliau eraill hefyd sy’n eich hamddiffyn yn erbyn gwahaniaethu pan fyddwch chi’n prynu neu’n rhentu eiddo. Fe allai rhywun sy’n rhentu neu’n gwerthu eiddo i chi fod yn gwahaniaethu yn eich erbyn os:-

  • maen nhw'n gwrthod gwerthu neu rhentu eiddo i chi
  • maen nhw'n cynnig eiddo i chi ei brynu neu rhentu ar delerau gwaeth nag y byddent yn eu cynnig i berson sydd ddim yn anabl
  • maen nhw'n eich trin chi’n llai ffafriol ar rhestr aros am dai nag y byddent yn trin person sydd ddim yn anabl
  • rydych chi'n rhentu ac maen nhw'n eich hatal mewn modd afresymol rhag defnyddio buddion neu gyfleusterau, neu ddim yn eich galluogi chi i ddefnyddio’r cyfleusterau yn yr un ffordd â thenantiaid eraill
  • rydych chi'n rhentu ac maen nhw'n eich troi chi allan o’ch cartref neu aflonyddu arnoch am rheswm yn ymwneud â’ch anabledd.

Rhaid i wasnaaethau fel cwmnïau gwerthu tai sicrhau bod eu swyddfeydd yn hygyrch, tra’i fod yn rhesymol iddynt wneud hynny.

Am fwy o wybodaeth ar restrau aros am dai neu gofrestrau tai, gweler Dod o hyd i lety

Perchen-breswylwyr sy’n gosod neu’n gwerthu llety’n breifat

Os yw landlord yn berchen ar y llety y mae’n ei rentu allan, ac yn byw ynddo, mae’n medru dewis peidio â’i rentu i chi oherwydd eich anabledd. Ond os yw’n cyhoeddi hysbyseb i’w rhentu neu’n defnyddio asiantaeth, ni chaiff wahaniaethu oherwydd eich anabledd.

Os yw perchen-breswylydd yn gwerthu ei eiddo, mae’n medru dewis peidio â’i werthu i chi oherwydd eich anabledd. Ond os yw’n cyhoeddi hysbyseb i’w werthu neu’n defnyddio cwmni gwerthu tai, ni chaiff wahaniaethu oherwydd eich anabledd.

Am fwy o wybodaeth ar eich hawliau pan fyddwch chi’n prynu neu’n rhentu eiddo, gweler Prynu cartref

Anheddau bach

Nid yw yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd pan fydd landlord yn rhentu llety sy’n cyfrif fel annedd bach. Mae annedd bach yn llety ble mae pob un o’r canlynol yn wir:

  • mae’r landlord neu ei berthynas agos hefyd yn byw yno
  • rydych yn rhannu llety gyda phobl eraill sy’n byw yno
  • fel arfer nid oes lle i fwy na dau deulu yn ogystal â theulu’r landlord ei hun, neu chwe pherson a’r landlord.

Am fwy o wybodaeth ar eich hawliau sylfaenol pan fyddwch chi’n rhentu eiddo, gweler Rhentu gan landlord preifat ac, yng Nghymru a Lloegr, gweler Rhentu gan landlord tai cymdeithasol. Yn yr Alban, gweler Rhentu gan y sector cyhoeddus.

Dyletswydd landlord i wneud addasiadau ar gyfer pobl anabl

Os ydych yn anabl, rydych yn medru gofyn i'ch landlord (neu ddarpar-landlord) wneud rhai newidiadau i'r eiddo os oes eu hangen er mwyn i chi fedru byw yn yr eiddo. Rydych hefyd yn medru gofyn iddo newid ei bolisïau os oes angen. Gelwir y newidiadau hyn yn addasiadau rhesymol. Efallai bod landlordiaid sy'n gwrthod gwneud addasiadau rhesymol yn gwahaniaethu yn eich erbyn. Efallai y byddwch yn medru dwyn achos yn ei erbyn.

Mae addasiadau rhesymol yn medru cynnwys:

  • darparu cymhorthion a gwasanaethau. Enghraifft o hyn fyddai darparu copi sain o'r cytundeb tenantiaeth. Enghraifft arall fyddai gosod system fynediad drws arbennig fel bod person byddar yn gwybod bod rhywun wrth y drws
  • newid arferion, polisïau neu weithdrefnau. Enghraifft o hyn fyddai newid y polisi parcio fel bod preswyliwr anabl sy'n cael trafferth cerdded yn medru parcio o flaen yr adeilad
  • newid amod yn y cytundeb gosod. Enghraifft o hyn fyddai newid amod yn y cytundeb gosod sy'n dweud nad ydyw tenantiaid yn medru gwneud gwelliannau fel bod person anabl yn medru gwneud gwelliannau sy'n gysylltiedig â'r anabledd. Enghraifft arall fyddai newid amod sy'n gwahardd anifeiliaid anwes ar gyfer person anabl sydd â chi cymorth.

Fe fydd yr hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol gan gynnwys:

  • math eich cyfnod gosod a’i hyd
  • faint o wahaniaeth fydd yr addasiad yn ei wneud i chi
  • a yw’r landlord yn medru fforddio gwneud yr addasiad, yn rhesymol

Efallai y bydd hefyd yn cyfrif fel gwahaniaethu os yw’ch landlord yn ceisio eich troi chi allan neu’n codi’r rhent, oherwydd cost yr addasiad yr oeddech wedi gofyn iddo ei wneud.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu pan yn prynu neu’n rhentu eiddo am eich bod chi’n anabl, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu mewn addysg

Ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr anabl, na phobl anabl sy’n ceisio dod yn fyfyrwyr. Mae darparwyr addysg yn cynnwys darparwyr addysg bellach, addysg uwch, addysg oedolion a chymunedol.

Ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr nac ymgeiswyr yn y ffyrdd canlynol:

Triniaeth llai ffafriol

Ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr nac ymgeiswyr trwy eu trin yn llai ffafriol na myfyrwyr sydd ddim yn anabl, onid ydynt yn gallu cyfiawnhau’r driniaeth. Mae hyn yn golygu na ddylai darparwyr addysg:

  • wrthod cynnig lle i fyfyrwyr anabl am eu bod yn anabl, na chynnig lle iddyn nhw ar delerau llai ffafriol na myfyrwyr sydd ddim yn anabl
  • trin myfyrwyr anabl yn llai ffafriol mewn unrhyw agwedd o fywyd addysgol gan gynnwys gwibdeithiau, diwrnodau allan a gweithgareddau allgyrsiol
  • eithrio myfyrwyr anabl o’r ysgol oherwydd eu hanabledd.

Er enghraifft, os bydd ysgol yn gwrthod cymryd plentyn sy’n dioddef o epilepsi os nad ydyw’r ffitiau’n stopio, fe fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu.

Mewn rhai achosion mae darparwr addysg yn gallu trin myfyriwr anabl yn llai ffafriol os ydyw’n gallu cyfiawnhau hyn. Fe all ysgol gyfiawnhau triniaeth llai ffafriol os ydyw'r driniaeth yn ganlyniad i ffordd o ddethol myfyrwyr a ganiateir. Er enghraifft, os yw plentyn gydag anawsterau dysgu yn gwneud cais i ysgol sy’n dewis ei disgyblion ar sail gallu academaidd ac mae’r plentyn yn methu arholiad mynediad yr ysgol. Yn yr amgylchiadau hyn, fe fydd yr ysgol yn gallu cyfiawnhau peidio â chynnig lle i’r plentyn.

Gwneud addasiadau rhesymol

Ni ddylai darparwyr addysg wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr nac ymgeiswyr anabl trwy fethu â gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer yr anabledd. Os ydyw'r myfyriwr anabl dan anfantais sylweddol o gymharu â myfyrwyr sydd ddim yn anabl, caiff hyn ei ystyried yn wahaniaethu. Er enghraifft, mae disgybl byddar sy’n darllen gwefusau o dan anfantais os ydyw athrawon yn siarad tra’n wynebu i ffwrdd i ysgrifennu ar fwrdd gwyn drwy’r amser.

Mae gwneud addasiadau rhesymol yn cynnwys darparu cymhorthion arbennig fel offer a dehonglwyr iaith arwyddion.

Mae yna rai amgylchiadau lle y gallai darparwr addysg gyfiawnhau peidio â gwneud addasiad ar gyfer anabledd myfyriwr.

Nid oes rhaid i ysgolion wneud addasiadau rhesymol i adeiladau ac amgylchedd ffisegol yr ysgol. Ond, mae’n rhaid bod gan bob awdurdod addysg lleol gynlluniau i wneud eu hysgolion yn fwy hygyrch i ddisgyblion anabl. Mae’n rhaid i ysgolion dan gymorth, ysgolion annibynnol, ac ysgolion arbennig digymorth gynhyrchu eu cynlluniau hygyrchedd eu hunain. Mae’n rhaid i’r cynlluniau fod yn ysgrifenedig ac ar gael i’r cyhoedd.

Mae'n rhaid i ddarparwyr addysg bellach ac addysg uwch wneud addasiadau rhesymol i'w safleoedd i alluogi gwell mynediad i fyfyrwyr anabl. Ond, gellir ystyried materion fel cost wrth benderfynu a yw addasiad yn rhesymol.

Am fwy o wybodaeth am hawliau myfyrwyr anabl mewn ysgol neu mewn addysg ôl-16, cliciwch ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Darparu ar gyfer plant gydag anghenion addysgol arbennig

Yng Nghymru a Lloegr, me’n rhaid i bob ysgol gydymffurfio gyda datganiad o anghenion addysgol arbennig lle mae yna ddatganiad ar blentyn. Er enghraifft, mae’n rhaid i ysgol recriwtio cynorthwy-ydd cefnogi dysgu neu ddarparu gwybodaeth mewn Braille neu ar dap sain lle mae datganiad y myfyriwr yn gofyn am hynny. Mewn rhai achosion mae’n rhaid i golegau addysg bellach hefyd gydymffurfio gyda datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Am fwy o wybodaeth yng Nghymru a Lloegr am anghenion addysgol arbennig, gweler Anghenion addysgol arbennig.

Yn yr Alban, mae’n rhaid creu cofnod o anghenion addysgol arbennig plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig, mewn cynllun cymorth wedi’i gydlynu a elwir yn Gofnod Anghenion (Record of Needs). Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth ar ei bolisi a’i arferion cyffredinol mewn perthynas â’r ddarpariaeth mewn ysgolion ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion cymorth ychwanegol.

Am wybodaeth bellach, gweler Canllaw i rieni ar gymorth ychwanegol ar gyfer dysgu.

Pa gamau allwch chi eu cymryd ynghylch gwahaniaethu mewn addysg

Os oes plentyn gennych sydd ag anghenion arbennig, yn Lloegr, efallai y byddwch yn medru gwneud cwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd). Mae’r Tribiwnlys yn cyhoeddi canllawiau ar ddwyn achos o wahaniaethu ar sail anabledd. Maen nhw ar gael ar wefan y Tribiwnlys yn: (New window) www.sendist.gov.uk. Mae gan y Tribiwnlys linell gymorth hefyd. Y rhif ffôn yw: 01325 392760.

Yng Nghymru, rydych yn medru cwyno i’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig i Gymru. Mae gwybodaeth ynghylch apeliau gwahaniaethu ar wefan y Tribiwnlys yn: (New window) www.wales.gov.uk.

Yn yr Alban, os nad ydych yn medru datrys y broblem gyda’r ysgol, dylech fynd at adran addysg eich awdurdod lleol.

Os nad ydych yn medru datrys y broblem gyda’r adran addysg, fe allwch ddwyn achos gyda’r gwasanaeth Tribiwnlys Anghenion Cymorth Ychwanegol sy’n delio gydag achosion anabledd ar gyfer disgyblion ysgol. Am wybodaeth bellach, gweler: (New window) http://www.asntscotland.gov.uk/asnts/CCC_FirstPage.jsp.

Efallai hefyd y bydd angen i chi gael cymorth arbenigol.

Am wybodaeth bellach ynghylch cael cymorth arbenigol, gweler Canllaw i rieni ar gymorth ychwanegol ar gyfer dysgu.

Am fwy o wybodaeth am hawliau myfyrwyr anabl mewn ysgol neu mewn addysg ôl-16, a'r camau y medrwch eu cymryd os ydych chi am gwyno, cliciwch ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu mewn addysg oherwydd eich anabledd, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych yn anabl, ni ddylai darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus eich trin yn llai ffafriol nag y byddent yn trin person sydd ddim yn anabl (onid ydynt yn medru dangos bod cyfiawnhad dros y driniaeth hon). Mae ganddynt yr un dyletswyddau â darparwyr gwasanaethau eraill (gweler y pennawd Mynediad at nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau). Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i'r gwasanaeth trafnidiaeth ei hun a hefyd i wasanaethau cysylltiedig eraill, er enghraifft, mewn gorsaf rheilffordd.

Mae yna eithriadau i'r rheolau hyn - nid yw cychod yn dod o dan y rheolau, er bod eu gwasanaethau cysylltiedig yn dod oddi tanynt. Er enghraifft, os ydych yn anabl, ni ddylech gael eich trin yn llai ffafriol yn y porthladd.

Pan fyddwch yn teithio mewn awyren, mae'n rhaid i gwmnïau meysydd awyr ddarparu gwasanaethau sy'n eich galluogi i chi i fynd ar yr awyren, dod oddi ar yr awyren, neu drosglwyddo at awyren arall. Nid ydynt yn cael codi tâl am y gwasanaethau hyn.

Mae yna reolau arbennig hefyd sy'n amddiffyn teithwyr anabl pan fyddant yn teithio mewn awyren yn Ewrop. Nid yw cwmnïau hedfan a chwmnïau teithio yn cael gwrthod derbyn archeb am sedd gan deithiwr anabl. Mae hyn yn berthnasol i bob taith awyr sy'n gadael maes awyr yn yr Undeb Ewropeaidd ac i bob taith awyr sy'n cyrraedd gwlad yn yr UE ar awyren cwmni hedfan o'r UE.

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau i ddarparwyr trafnidiaeth, ynghylch arfer da wrth wasanaethu cwsmeriaid anabl. Mae'r canllawiau ar gael oddi ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Am wybodaeth bellach am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer pobl anabl, gweler Opsiynau trafnidiaeth ar gyfer pobl anabl.

Nôl i’r brig


Help pellach

Os ydych yn anabl, sicrhewch eich bod yn cael yr holl help sydd ar gael i chi. Er enghraifft, efallai bod hawl gennych i fudd-daliadau. Efallai bod anghenion gofal gennych y bydd y cyngor yn medru eich helpu gyda nhw. Mae yna gonsesiynau ar gludiant a pharcio i bobl anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Budd-daliadau i bobl syn sâl neu'n anabl.

Am fwy o wybodaeth ynghylch help gan y cyngor, gweler Gofal cymunedol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch consesiynau ar gludiant a pharcio, gweler Opsiynau cludiant i bobl anabl.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) n gorff cenedlaethol, a allai fod yn gallu rhoi cyngor i chi ar Wahaniaethu ar sail anabledd. Efallai hefyd y bydd yn gallu eich helpu i gymryd camau pellach, lle mae angen. Mae eu gwybodaeth ar gael mewn sawl iaith gymunedol, mewn iaith arwyddion ac mewn iaith hawdd ei deall. Dyma eu manylion cyswllt:-

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn:

Lloegr

Equality and Human Rights Commission Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ
Ffôn:0845 604 6610 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630
E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Cymru

Llinell Gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT
Ffôn: 0845 604 8810 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830
E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Yr Alban

Equality and Human Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU
Ffôn: 0845 604 5510 (Llun-Gwe 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530
E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Equality Commission for Northern Ireland

The Equality Commission for Northern Ireland
Equality House
7-9 Shaftesbury Square
Belfast
BT2 7DP

Ffôn: 028 9050 0600
Ffôn Testun: 028 9050 0589
Llinell Ymholiadau: 028 90 890 890
Ffacs: 028 9024 8687
E-bost: information@equalityni.org
Gwefan: (New window) www.equalityni.org

Efallai y bydd y Comisiwn yn medru eich helpu chi i gymryd camau pellach ynghylch Gwahaniaethu ar sail anabledd trwy archwilio honiadau o wahaniaethu, gwneud cais i’r llys am orchymyn i atal gwahaniaethu, a thrwy drefnu (mewn rhai achosion) cynrychiolaeth cyfreithiol. Fe all y Comisiwn hefyd ddarparu gwasanaeth cymrodedd ar eich cyfer os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu wrth gael mynediad at nwyddau, gwasanaethau neu adeiladau. Ar gyfer achosion yn ymwneud â gwahaniaethu mewn cyflogaeth, mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (Labour Relations Agency) yn darparu gwasanaeth cymrodedd.

Directgov (Cymru a Lloegr yn unig)

Ar wefan y llywodraeth yn (New window) www.direct.gov.uk/DisabledPeople mae yna lawer o wybodaeth i bobl anabl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr. Er enghraifft, mae yna wybodaeth ar gyflogaeth, opsiynau tai, addysg a hawliau ac oblygiadau tai.

Nidirect (Gogledd Iwerddon yn unig)

Ar wefan y llywodraeth yn www.nidirect.gov.uk mae yna lawer o wybodaeth i bobl anabl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Er enghraifft, mae yna wybodaeth ar gyflogaeth, opsiynau tai, addysg, hawliau tai, iechyd a chymorth ariannol.

Is that discrimination? (Cymru a Lloegr yn unig)

Mae Is that discrimination? yn wefan a gynhyrchwyd gan Advicenow. Mae'n cynnwys gwybodaeth ar sut i daclo gwahaniaethu yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnwys tudalen broblemau ac astudiaethau achos ynghylch gwahaniaethu. Rhowch glic ar (New window) www.isthatdiscrimination.org.uk.

Nôl i’r brig