Mae’r wybodaeth yma’n gymwys ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Gall y Frenhines anfon neges, ar ffurf cerdyn cyfarch personol, i berson sy'n ddinesydd Prydeinig ar gyfer:-
Gellir anfon cerdyn hefyd at ddinesydd gwlad y mae'r Frenhines yn bennaeth y wladwriaeth arni, tra bod y dinesydd yna yn byw yn y wlad yna ar yr adeg yna. Gellir cael gwybodaeth ynglyn â hyn yn uniongyrchol o Balas Buckingham – gweler isod.
Roedd y Frenhines yn arfer anfon neges at bobl a oedd wedi rhoi genedigaeth lluosog i o leiaf tri phlentyn, ond nid yw'n gwneud hyn bellach.
Gallwch wneud cais am neges ar eich cyfer chi'ch hun neu ar gyfer rhywun arall.
Ar gyfer pen-blwydd, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn trefnu anfon neges i unrhyw un sydd wedi cyrraedd yr oed perthnasol sy'n derbyn Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn neu Gymhorthdal Incwm. Bydd swyddog o'r swyddfa budd-daliadau lleol yn ymweld i gadarnhau oed y person ac yna'n anfon y wybodaeth ymlaen at Balas Buckingham, os nad yw'r person sy'n dathlu ei ben-blwydd/phen-blwydd yn gwrthwynebu. Neu, gellir cael ffurflen gais yn uniongyrchol o Balas Buckingham – gweler isod. Ar gyfer pen-blwydd priodas, gellir cael ffurflen gais yn uniongyrchol o Balas Buckingham – gweler isod. Gellir cael ffurflenni cais ar gyfer pen-blwydd neu ben-blwydd priodas drwy ysgrifennu neu ffonio:-
Th Anniversaries Office
Buckingham Palace
London SW1A 1AA
Ffôn: 020 7930 4832
Rydych hefyd yn medru cael ffurflen gais ar gyfer pen-blwydd oddi ar wefan swyddogol y Frenhines yn: www.royal.gov.uk neu ar gyfer pen-blwydd priodas yn: www.royal.gov.uk.
Dylech ddychwelyd y ffurflen gais heb fod yn gynharach na thair wythnos cyn y dyddiad dathlu.