Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi creu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru ac yn caniatáu Llywodraeth ar wahân i’r Cynulliad Cenedlaethol. Dan arweiniad y Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gyfrifol am nifer o faterion, gan gynnwys iechyd, addysg, datblygu economaidd, diwylliant, yr amgylchedd a thrafnidiaeth.
Mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn debyg i berthynas Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Senedd. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn medru trafod y cyfreithiau a gynigir gan aelodau Llywodraeth y Cynulliad ac i ddal aelodau’r Llywodraeth yn atebol. Mae'n medru deddfu ar rai testunau, er enghraifft, addysg
Mae’n rhaid i rai cyfreithiau gael eu gwneud gan Senedd y Deyrnas Unedig o hyd, er enghraifft, amddiffyn.
Am fwy o wybodaeth, gweler www.cymru.gov.uk.