Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Beth yw gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb

Mae Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb yn digwydd pan fyddwch chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd eich rhywioldeb. Term arall ar gyfer rhywioldeb yw tuedd rhywiol.

Mae eich tuedd rhywiol yn dibynnu a ydych chi’n cael eich denu’n rhywiol at:

  • eich rhyw eich hun. Mae hyn yn golygu pobl hoyw a lesbiaidd
  • y rhyw arall. Mae hyn yn golygu pobl heterorywiol
  • pobl o’r un rhyw a’r rhyw arall. Mae hyn yn golygu pobl ddeurywiol

Os oes gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb yn digwydd yn unrhyw un o’r sefyllfaoedd canlynol, mae’n anghyfreithlon ac efallai y byddwch yn medru cymryd camau ynglŷn â’r sefyllfa:

Mae gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb yn medru bod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae hefyd yn medru bod ar ffurf aflonyddu neu erledigaeth.

Mae hefyd yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd:

  • rhywioldeb rhywun yr ydych yn ei (h)adnabod, fel aelod o’r teulu neu ffrindiau, yn hytrach nag oherwydd eich rhywioldeb chi eich hun. Gelwir hyn yn wahaniaethu trwy gysylltiad
  • maen nhw’n credu eich bod chi o duedd rywiol benodol, hyd yn oed os nad yw hyn yn wir amdanoch chi
  • ailbennu rhywedd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd ailbennu rhywedd, gweler Cymryd camau ynglŷn â gwahaniaethu ar sail rhyw.

Gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd rhywioldeb

Mae trin rhywun yn llai ffafriol nag y byddai rhywun arall o rywioldeb arall yn cael ei d/thrin o dan yr un amgylchiadau, oherwydd eu rhywioldeb, yn wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhywioldeb.

Mae hefyd yn wahaniaethu uniongyrchol i’ch trin chi’n llai ffafriol oherwydd rhywioldeb rhywun yr ydych yn ei adnabod, er enghraifft aelod o’r teulu neu ffrind (gwahaniaethu trwy gysylltiad).

Er mwyn profi gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhywioldeb, fe fydd o gymorth os fedrwch chi roi enghraifft o rywun o rywioldeb arall sydd, mewn amgylchiadau tebyg, wedi cael ei d/thrin yn fwy ffafriol neu a fyddai wedi cael ei d/thrin yn fwy ffafriol, na chi.

Mae cam-drin oherwydd tuedd rhywiol ac aflonyddu oherwydd tuedd rhywiol, yn fathau o wahaniaethu uniongyrchol.

Dyma enghreifftiau posib o wahaniaethu uniongyrchol oherwydd rhywioldeb:

  • mae cwmni yswiriant yn mynnu bod dyn sy’n ceisio am yswiriant bywyd yn cymryd prawf HIV cyn eu bod nhw’n fodlon rhoi yswiriant bywyd iddo. Mae ei ffurflen gais yn dangos ei fod yn hoyw oherwydd cyfeiriad at ei bartner gwrywaidd
  • mae landlord yn gofyn i asiant sy’n gosod eiddo ddweud fod ei fflat wedi cael ei osod os fydd pâr lesbiaidd neu hoyw’n holi am ei rentu. Os yw’r asiant sy’n gosod yn cytuno, fe fyddai’r landlord a’r asiant gosod yn euog o wahaniaethu uniongyrchol oherwydd tuedd rhywiol.
  • mae cynorthwyydd siop yn gwahardd rhywun y maen nhw’n gwybod ei fod yn hoyw o’r siop ble maen nhw’n gweithio am eu bod yn rhagfarnllyd yn erbyn pobl hoyw. Fe fydd cynorthwyydd y siop, a’r person neu’r cwmni sy’n berchen ar y siop, yn euog o wahaniaethu uniongyrchol oherwydd tuedd rhywiol

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu anuniongyrchol oherwydd rhywioldeb

Mae’n wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd rhywioldeb os oes yna reol, polisi neu arfer ac mae pobl o rywioldeb penodol yn llai tebygol o fod yn medru cwrdd â’r rheol, y polisi neu’r arfer na phobl eraill, ac mae hyn yn golygu eu bod o dan anfantais o gymharu â rhywioldeb arall.

Un enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd rhywioldeb yw ble mae gan glwb bolisi o gynnig aelodaeth rad ac am ddim i holl ŵyr neu wragedd ei aelodau, ond nid partneriaid sifil.

Os ydych chi’n credu bod gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhywioldeb wedi digwydd, efallai y byddwch yn medru cwyno. Ond, os yw’r person neu’r mudiad yr ydych yn cwyno amdano/i yn medru dangos bod rhesymau didwyll dros y rheol, y polisi neu’r arfer, ac nad ydyw’n ymwneud o gwbl â rhywioldeb, ni fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu.

Nôl i’r brig


Erledigaeth

Os ydych yn cwyno ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb, ni ddylid eich erlid chi am i chi gwyno. Mae hyn yn golygu na ddylid eich trin yn annheg am eich bod wedi cwyno.

Mae cwyno yn cynnwys dwyn achos llys, mynd at dribiwnlys cyflogaeth neu sefyll dros eich hawliau mewn rhyw ffordd arall.

Rydych yn medru cael eich amddiffyn os cewch eich erlid am i chi gwyno ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb. Rydych hefyd yn medru cael eich amddiffyn rhag gwahaniaethu am helpu rhywun arall i gwyno ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb, er enghraifft, trwy roi tystiolaeth fel tyst yn y llys.

Enghraifft o erledigaeth fyddai ble mae tenant lesbiaidd wedi dwyn honiad o wahaniaethu yn erbyn rheolwr cwmni rheoli eiddo. Mae’r cwmni’n gwrthod caniatáu i’r tenant ddefnyddio cyfleusterau sydd ar gael i denantiaid eraill. Mae hyn yn erledigaeth ac rydych yn medru cymryd camau ynglŷn â hyn.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb mewn cyflogaeth a hyfforddiant

Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb. Mae hyn yn cynnwys pob cyflogwr, waeth faint o bobl y mae’n eu cyflogi. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr, gan gynnwys cyflogedigion, gweithwyr asiantaeth, pobl dan hyfforddiant a’r rheiny sy’n hunangyflogedig, wedi eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb yn y gwaith, Mae hyn yn cynnwys:

  • recriwtio a dethol
  • dyrchafiad
  • hyfforddiant, cyflog a buddion
  • dileu swyddi a diswyddo
  • amodau a thelerau’r gwaith.

Dyma enghraifft o wahaniaethu oherwydd rhywioldeb:

(Example box starts)

Mae cyflogwr yn caniatáu i ddyn y mae ei bartner benywaidd yn feichiog i gymryd gwyliau fel ei fod yn medru mynd i apwyntiadau cyn-geni gyda hi.

Mae’r cyflogwr yn gwrthod cais tebyg gan fenyw y mae ei phartner benywaidd yn feichiog. Mae hyn yn debygol o fod yn wahaniaethu uniongyrchol oherwydd tuedd rhywiol.

(Example box ends)

Mae yna rai amgylchiadau ble mae cyflogwr yn cael eich trin chi’n anffafriol oherwydd eich rhywioldeb. Os yw cyflogwr yn medru dangos bod angen i chi fod o duedd rhywiol penodol er mwyn gwneud gwaith penodol, mae’n medru mynnu ei fod yn cyflogi rhywun o’r duedd rhywiol honno. Gelwir hyn yn angen galwedigaethol ac nid yw’n cyfrif fel gwahaniaethu.

Un enghraifft ble y gallai fod yna angen galwedigaethol yw ble mae cyflogwyr Gweinidog crefyddol yn mynnu nad yw’n medru cyflogi person trawsrywiol neu ddyn hoyw, er mwyn osgoi tramgwyddo argyhoeddiadau crefyddol dilynwyr y grefydd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb yn y gwaith, gweler Beth fedra i ei wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin i’n annheg oherwydd rhywioldeb.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau

Fe fyddai rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn os ydyw, oherwydd eich rhywioldeb:

  • wedi gwrthod gwerthu rhywbeth i chi
  • heb adael i chi ddefnyddio gwasanaeth
  • wedi darparu nwyddau neu wasanaethau gwaeth neu fwy drud i chi na rhywun sydd â rhywioldeb gwahanol
  • wedi ymddwyn mewn ffordd anfoesgar neu elyniaethus.

Mae enghreifftiau o fudiadau sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau yn cynnwys:

  • tafarndai, bwytai a gwestai
  • siopau
  • cyfleusterau adloniant fel sinemâu, theatrau, parciau adloniant, lloriau sglefrio ia a thraciau rasio
  • ysbytai a chlinigau
  • cwmnïau gwerthu tai, landlordiaid preifat ac adrannau tai awdurdodau lleol
  • banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant a chwmnïau cyllid
  • gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd bysiau a meysydd awyr
  • eglwysi a mannau addoli eraill
  • elusennau a mudiadau gwirfoddol
  • ysgolion a cholegau
  • gwasanaethau lles fel cyngor ar dai, gofal dydd neu ofal cymunedol.
  • pobl sy’n darparu llafur neu wasanaethau personol. Mae hyn yn cynnwys adeiladwyr a phobl sy’n darparu therapïau cyflenwol fel aciwbigo neu adweitheg
  • cartrefi gofal preswyl
  • llysoedd, carchardai a’r heddlu

Am fwy o enghreifftiau o fudiadau sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau, gweler gwefan Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Enghraifft o wahaniaethu wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau fyddai ble mae gwesty, tŷ gwesty neu wely a brecwast yn gwrthod llety i bâr o’r un rhyw, neu’n eu hatal rhag cymryd ystafell ddwbl.

Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu rhywioldeb, waeth sut mae’r nwyddau a’r gwasanaethau’n cael eu darparu a waeth a ydych wedi talu amdanynt ai peidio.

Nid yw’n wahaniaethu os yw busnes yn darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau sydd wedi eu hanelu’n benodol at y gymuned hoyw. Nid ydyn nhw’n gorfod dechrau darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau tebyg wedi eu hanelu at bobl heterorywiol. Ond, nid yw’r busnes yn cael troi unrhyw gwsmeriaid heterorywiol i ffwrdd. Er enghraifft, nid yw siop lyfrau lesbiaidd a hoyw yn gorfod cadw llyfrau wedi eu hanelu at ddarllenwyr heterorywiol, ond nid yw’n cael troi cwsmeriaid heterorywiol sydd am brynu ei llyfrau i ffwrdd.

Os ydych mewn partneriaeth sifil, nid yw rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn cael eich trin chi’n wahanol i’r ffordd y byddent yn trin pâr priod. Rhaid bod nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gael i barau dibriod o wahanol ryw hefyd ar gael i barau o’r un rhyw sydd ddim mewn partneriaeth sifil.

Tafarndai, bariau, bwytai a chlybiau nos

Ni ellir eich troi chi i ffwrdd o dafarndai, bariau, bwytai na chlybiau nos oherwydd eich rhywioldeb. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn hoyw, yn lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n heterorywiol. Felly, er enghraifft, ni ellir gofyn i chi adael bar am eich bod yn hoyw neu’n lesbiaidd. Ac nid yw bar i bobl hoyw yn medru eich troi chi i ffwrdd am eich bod yn heterorywiol. Ond, maen nhw’n medru eich troi chi i ffwrdd os ydych yn gwneud sylwadau cas ynghylch pobl hoyw neu ddim yn parchu’r ffaith eich bod mewn gofod hoyw.

Clybiau a chymdeithasau aelodau preifat

Nid yw clybiau a chymdeithasau aelodau preifat sydd â mwy na 25 aelod yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb. Ond, nid yw’n wahaniaethu os taw prif ddiben y clwb neu’r gymdeithas yw darparu buddion i lesbiaid, dynion hoyw neu bobl ddeurywiol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol os taw eu diben yw cynnig preifatrwydd neu amgylchedd diogel a chefnogol. Er enghraifft, os mai prif ddiben clwb pêl-droed yw darparu gofod cymdeithasol diogel i bobl hoyw, ac nid i gystadlu mewn twrnameintiau, fe fyddai’n medru gwrthod gadael i ddynion heterorywiol ymuno os fyddai’n newid natur gyfan y clwb.

Gwasanaethau ariannol

Ni chaiff banciau, cymdeithasau adeiladu a darparwyr gwasanaethau ariannol eraill wrthod rhoi benthyciad, grant, credyd nac unrhyw wasanaethau ariannol eraill i chi oherwydd eich rhywioldeb.

Ni chaiff gwmnïau yswiriant ddefnyddio’ch rhywioldeb fel rheswm ar ei ben ei hun dros beidio â chynnig yswiriant i chi.

Gweithredwyr teithiau a chwmnïau teithio neu drafnidiaeth

Ni all gwmnïau teithio wrthod gwerthu gwyliau i chi oherwydd eich rhywioldeb. Er enghraifft, os cynigir gwyliau fel gwyliau i gyplau yn unig, rhaid ei gynnig i gyplau heterorywiol a chyplau o’r un rhyw.

Elusennau

Ni chaiff elusennau allgau pobl oherwydd eu rhywioldeb. Ond, maen nhw’n medru darparu gwasanaethau i bobl o duedd rywiol benodol os mai helpu’r grŵp yna yw eu diben. Er enghraifft, efallai bod elusen yn bodoli i helpu pobl hoyw ddigartref neu i gwnsela lesbiaid ifanc sydd â materion iechyd meddwl.

Mudiadau crefyddol

Mae mudiadau crefyddol yn medru gwrthod darparu gwasanaethau i chi o dan rai amgylchiadau. Er enghraifft, efallai y bydd lloches grefyddol yn cael eich troi chi i ffwrdd am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol, neu efallai y bydd eglwys yn cael gwrthod gadael i grŵp o bobl hoyw gynnal cyfarfodydd ar ei safle.

Awdurdodau cyhoeddus

Mae’n anghyfreithlon i awdurdod cyhoeddus wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb wrth gyflawni unrhyw rai o’i swyddogaethau. Mae awdurdodau cyhoeddus yn cynnwys adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau GIG, llysoedd a thribiwnlysoedd, swyddogion yr heddlu a charchardai.

Ar ben hyn, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cydraddoldeb yn weithgar.

Hysbysebu

Mae’n anghyfreithlon cyhoeddi neu ddarlledu hysbyseb sy’n gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb, neu sy’n hysbysebu gwasanaethau sy’n gwahaniaethu.

Mae hyn yn golygu na chaiff busnes hysbysebu nwyddau, cyfleusterau na gwasanaethau sydd ond ar gael i bobl heterorywiol.

Yn yr un modd, ni chaiff busnes hoyw hysbysebu nad ydyw pobl heterorywiol yn cael defnyddio’i gyfleusterau. Ond, mae’n cael dweud ei fod yn fusnes sy’n ‘gyfeillgar i bobl hoyw’.

Ni fyddwch yn medru cymryd camau ynghylch hysbysebu sy’n gwahaniaethu. Mae’n rhad i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gymryd camau ynghylch hysbysebu sy’n gwahaniaethu.

Asiantaethau mabwysiadu a maethu

Ni chaiff asiantaeth fabwysiadu neu faethu wrthod gosod plant gyda chi am eich bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol.

Mae hyn yn berthnasol i bob asiantaeth fabwysiadu a maethu.

Rhoi gwaed

Ni chaiff dynion hoyw roi gwaed.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb mewn addysg a hyfforddiant

Ni chaiff sefydliadau addysgol fel ysgolion, colegau a phrifysgolion, eich trin chi’n wahanol oherwydd eich rhywioldeb. Nid ydynt yn cael eich trin chi’n wahanol os yw’ch rhieni’n lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol chwaith.

Mae hyn yn berthnasol i ysgolion a cholegau’r wladwriaeth ac ysgolion a cholegau preifat.

Ni chaiff ysgol neu goleg wahaniaethu yn unrhyw rai o’u polisïau a’u harferion. Mae hyn yn cynnwys i:

  • bolisïau derbyn
  • y ffordd y mae’n trin myfyrwyr
  • gwaharddiadau
  • penderfyniadau ynghylch anghenion addysgol arbennig disgybl.

Rhaid i athrawon gydnabod eich anghenion a thaclo bwlio homoffobig, hynny yw, bwlio oherwydd eich rhywioldeb.

Mae ysgolion ffydd yn dal i fedru addysgu nad ydyw bod yn lesbiaidd, yn hoyw neu’n ddeurywiol yn iawn yn llygaid eu crefydd. Fodd bynnag, ni ddylent wneud hyn mewn ffordd sy’n eich gosod chi ar anfantais o gymharu â disgyblion eraill.

Beth fedrwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb mewn addysg?

Fe fyddwch yn medru cwyno ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg, prifysgol neu Awdurdod Addysg Lleol gerbron eich llys sirol lleol (llys y siryf yn Yr Alban).

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r ysgol, dylech geisio datrys eich cwyn yn gyntaf trwy siarad â phennaeth yr ysgol. Os nad ydych yn hapus o hyd, fe fyddwch yn medru mynd â’ch cwyn at gorff llywodraethu’r ysgol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno am ysgol, gweler Problemau yn yr ysgol.

Os ydych yn cwyno ynghylch coleg neu brifysgol, dylech ddefnyddio gweithdrefn gwyno’r sefydliad ei hun yn gyntaf. Os ydych yn cwyno am goleg addysg bellach a ariennir gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau, dylech gwyno hefyd i’r Asiantaeth. Mae gwybodaeth ar sut i wneud hyn ar wefan yr Asiantaeth yn: (New window) www.skillsfundingangency.bis.gov.uk.

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â phrifysgol yng Nghymru neu Loegr, fe allech fynd â’ch cwyn at Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. Dyma’r manylion cyswllt:

Third Floor
Kings Reach
38-50 King's Road
Reading
RG1 3AA
Rhif Ffôn: 0118 959 9813
Gwefan: (New window) www.oiahe.org.uk.

Os oes cwyn gennych am brifysgol yn yr Alban, dylech gwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban yn: (New window) www.spso.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio ombwdsman yn yr Alban a phryd i ddefnyddio un, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman neu gomisiynydd yn yr Alban.

Os ydych chi’n ystyried dwyn achos llys ynghylch gwahaniaethu, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth er enghraifft. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb mewn tai

Rhentu eiddo

Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i landlordiaid, neu rywun sy’n gweithredu ar eu rhan, fel asiantaeth osod, wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb. Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n medru gwrthod rhentu eiddo i chi oherwydd eich rhywioldeb, cynnig yr eiddo i chi ar delerau llai ffafriol na’ch trin chi’n llai ffafriol na thenantiaid eraill.

Mae landlordiaid yn cynnwys landlordiaid preifat a landlordiaid tai cymdeithasol fel awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.

Am fwy o wybodaeth ynghylch cael eich cartrefu gan landlord tai cymdeithasol, gweler Dod o hyd i lety.

I ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant landlord preifat, gweler Rhentu gan landlord preifat.

Yng Nghymru a Lloegr, i ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant i landlord tai cymdeithasol, gweler Rhentu gan landlord tai cymdeithasol.

Yn yr Alban, i ddarganfod mwy am eich hawliau fel tenant i landlord sector cyhoeddus, gweler Rhentu gan landlord sector cyhoeddus.

Mae yna rai sefyllfaoedd ble nad yw’n anghyfreithlon gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb wrth rentu eiddo allan.

Mae’r landlord yn berchen-breswylydd

Os yw’r landlord yn berchen ar y llety y mae’n ei rhentu allan, ac yn byw ynddo, mae’n medru dewis peidio â’i rentu i chi oherwydd eich rhywioldeb. Ond, os yw’n cyhoeddi hysbyseb i’w rentu neu’n defnyddio asiantaeth, nid yw’n cael gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb.

Anheddau bach

Nid yw’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb pan fydd landlord yn rhentu llety allan sy’n cyfrif fel annedd bach. Mae annedd bach yn llety ble mae pob un o’r canlynol yn wir:

  • mae’r landlord neu berthynas agos i’r landlord yn byw yno hefyd
  • rydych chi’n rhannu llety gyda phobl eraill sy’n byw yno
  • fel arfer, nid oes llety i fwy na dau deulu yn ogystal â theulu’r landlord ei hun, neu chwe pherson a’r landlord.

Gwerthu eiddo

Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i rywun sy’n gwerthu eiddo wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich rhywioldeb.

Mae hyn yn golygu nad ydyn nhw’n medru gwrthod gwerthu eiddo i chi oherwydd eich rhywioldeb neu werthu’r eiddo i chi ar delerau llai ffafriol.

Ond, mae yna eithriad i’r rheol hon. Os yw perchen-breswylydd yn gwerthu ei (h)eiddo heb ddefnyddio cwmni gwerthu tai, mae’n medru dewis peidio â’i werthu i chi oherwydd eich rhywioldeb. Ond os yw’n cyhoeddi hysbyseb i’w werthu, nid yw’n cael gwahaniaethu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch prynu cartref – gweler Prynu cartref.

Nôl i’r brig


Beth fedrwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb mae yna nifer o bethau efallai y byddwch yn medru eu gwneud, gan gynnwys:

  • cael cyngor gan ganolfan Cyngor ar Bopeth, canolfan gyfraith neu fudiad hawliau pobl hoyw
  • siarad â’r person neu’r mudiad sydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn
  • gwneud cwyn ysgrifenedig i’r cwmni neu’r mudiad sy’n gysylltiedig
  • dilyn gweithdrefn gwyno ysgrifenedig y cwmni
  • cwyno i’r Ombwdsman perthnasol. Mae gan bob corff cyhoeddus fel awdurdodau lleol, adrannau’r llywodraeth, awdurdodau iechyd a landlordiaid cymdeithasol, Ombwdsman yn ogystal â sefydliadau ariannol fel banciau a chymdeithasau adeiladu
  • defnyddio gweithdrefn achwyniad neu ddwyn cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth os yw’n broblem sy’n ymwneud â chyflogaeth
  • rhoi cyhoeddusrwydd i’ch achos drwy’r cyfryngau
  • cymryd camau cyfreithiol drwy’r llysoedd
  • rhoi manylion y broblem i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol os ydych yn credu bod y broblem yn un eang.

Cymryd camau ynglŷn â gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb

Os ydych am ddwyn achos gerbron y llys sirol (neu lys y siryf yn yr Alban), mae yna derfyn amser o chwe mis o’r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu.

Mae yna weithdrefn ffurfiol hefyd ar gyfer casglu tystiolaeth. Mae angen i chi anfon ffurflen safonol, sy’n cynnwys cwestiynau yr ydych am eu holi, i’r cwmni, y mudiad neu’r person yr ydych yn cwyno amdanynt. Mae’r llys yn medru dyfarnu iawndal, ond os ydych yn colli gellir eich gorchymyn i dalu costau cyfreithiol yr ochr arall, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr holl weithdrefnau a’r risgiau sy’n gysylltiedig.

Mae cymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu yn debygol o fod yn gymhleth. Os ydych yn ystyried dwyn achos llys, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Mathau eraill o wahaniaethu

Yn ogystal â gwahaniaethu oherwydd eich rhywioldeb, fe allech gael eich trin yn annheg am resymau eraill, er enghraifft oherwydd eich hil, eich anabledd neu am eich bod yn fenyw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.

Nôl i’r brig


Help pellach

Stonewall

Mae Stonewall yn fudiad ymgyrchu a lobïo sy’n gweithio ar faterion sy’n berthnasol i lesbiaid, dynion hoyw a phobl ddeurywiol. Yn Lloegr, mae ganddyn nhw wybodaeth ynghylch gwahaniaethu ar eu gwefan yn: (New window) www.stonewall.org.uk. Maen nhw hefyd yn rhedeg llinell gymorth a gwybodaeth rad ac am ddim ar: 08000 50 20 20. Mae’r llinell yn agored o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9.30yb tan 5.30yp. Neu fe allwch anfon e-bost atynt am wybodaeth: info@stonewall.org.uk.

Yng Nghymru, y wefan ar gyfer Stonewall Cymru yw: (New window) www.stonewallcymru.org.uk.

Yn yr Alban, dyma’r manylion cyswllt:

9 Howe Street
Edinburgh
EH3 6TE

Rhif Ffôn: 0131 557 3679
E-bost: info@stonewallscotland.org.uk
Gwefan: (New window) www.stonewallscotland.org.uk

Nid yw Stonewall yn medru rhoi cyngor cyfreithiol i chi na’ch helpu i fynd ar drywydd cwyn, ond maen nhw’n medru eich cyfeirio chi at arbenigwyr sy’n medru.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o ganllawiau ar wahaniaethu mewn perthynas â chyflogaeth, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, awdurdodau cyhoeddus, tai ac addysg, ar wefan y Comisiwn yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Nid yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cymryd achosion unigol, ond dylai fod yn medru rhoi peth cyngor i chi. Dyma’r manylion cyswllt:

Lloegr

Equality and Equal Rights Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ

Rhif Ffôn: 0845 604 6610 (Llun - Gwener 8.00yb - 6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630

E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline

Cymru

Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT

Rhif Ffôn: 0845 604 8810 (Llun - Gwener 8.00yb - 6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820
Ffacs: 0845 604 8830

E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline

Yr Alban

Equality and Equal Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU

Rhif Ffôn: 0845 604 5510 (Llun - Gwener 8.00yb - 6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520
Ffacs: 0845 604 5530

E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline

Canolfannau cyfraith

Mae Canolfannau Cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i chi os ydych chi am ddwyn achos o wahaniaethu ar sail rhywioldeb. Os fydd cyfreithiwr o ganolfan cyfraith yn eich cynrychioli, efallai y bydd hawl gennych i wasanaethau cyfreithiol wedi eu hariannu’n gyhoeddus (cymorth cyfreithiol yn yr Alban). Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion y ganolfan gyfraith agosaf ar gael gan Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith, ac yn yr Alban gan Gymdeithas Canolfannau Cyfraith yr Alban.

Cymru a Lloegr

Law Centres Federation
PO Box 65836,
London EC4P 4FX
Rhif Ffôn: 020 7842 0720
Ffacs: 020 7842 0721
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawcentres.org.uk

Yr Alban

Scottish Association of Law Centres
c/o Govan Law Centre
47 Burleight Street
Govan
Glasgow G51 3LB
Rhif Ffôn: 0141 440 2503
E-bost: m@govanlc.com
Gwefan: (New window) www.govanlc.com/salc

Free Representation Unig (Lloegr)

Mae Free Representation Unit (FRU) yn medru darparu cynrychiolaeth ar gyfer pobl ar incwm isel sy’n byw yn ardal Llundain. Ond, mae’r FRU yn fudiad gwirfoddol ac ni ellir gwarantu cynrychiolaeth mewn achosion. Os ydych chi eisiau help gan yr FRU, rhaid i chi gael eich cyfeirio’n ysgrifenedig gan asiantaeth gyngor unwaith fydd dyddiad y gwrandawiad wedi ei osod. Rhaid bod yr asiantaeth yn tanysgrifio i’r FRU. Mae rhai canolfannau Cyngor ar Bopeth yn ardal Llundain yn tanysgrifio i’r FRU. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Gellir cysylltu â’r FRU yn:-

6th Floor
289 – 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ

Ffôn: 020 7611 9555
Ffacs: 020 7611 9551
E-bost: ar gael trwy (New window) ffurflen ar y wefan
Gwefan: (New window) www.thefru.org.uk

Cynrychiolaeth Rad ac Am Ddim (Yr Alban)

Mae peth cynrychiolaeth rad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer rhai achosion penodol ac i bobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.

I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig