Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Beth yw gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred

Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Mae hyn yn berthnasol:

  • pan fyddwch chi’n prynu nwyddau a gwasanaethau, neu’n eu defnyddio
  • yn y gwaith
  • mewn addysg
  • mewn tai.

Beth yw ystyr crefydd neu gred

Rydych chi’n cael eich amddiffyn o dan y gyfraith rhag gwahaniaethu oherwydd eich crefydd neu gred os ydych:

  • yn perthyn i grefydd gyfundrefnol fel Cristnogaeth, Iddewiaeth neu Islam
  • â chred ddwys sy’n effeithio ar eich ffordd o fyw neu’r ffordd yr ydych yn gweld y byd. Mae hyn yn cynnwys credoau crefyddol ac athronyddol, neu ddiffyg cred, fel anffyddiaeth
  • yn cymryd rhan mewn addoliad ar y cyd
  • yn perthyn i grefydd neu enwad llai, fel Seientoleg neu Rastaffariaeth
  • heb unrhyw grefydd, er enghraifft rydych yn anffyddiwr.

Nid yw’r gyfraith yn erbyn gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred yn cynnwys credoau pur wleidyddol, onid ydynt hefyd yn gredoau athronyddol.

Rydych wedi eich amddiffyn os fydd rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn am eu bod yn credu eich bod yn perthyn i grefydd benodol, pan nad yw hyn yn wir. Er enghraifft, mae yn erbyn y gyfraith i rywun wahaniaethu yn eich erbyn am wisgo sgarff am eich pen am eu bod yn credu eich bod yn Fwslim, hyd yn oed os nad ydych yn Fwslin mewn gwirionedd.

Mae gwahaniaethu trwy gysylltiad hefyd yn erbyn y gyfraith. Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon gwrthod gadael i chi ddod i mewn i fwyty oherwydd crefydd rhywun sydd gyda chi.

Beth yw gwahaniaethu

Mae’n enghraifft o wahaniaethu os fydd rhywun yn eich trin chi’n annheg o gymharu â rhywun arall, oherwydd eich crefydd neu’ch cred. Gelwir hyn yn wahaniaethu uniongyrchol ac mae’n anghyfreithlon. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • gwrthod rhoi benthyciad banc i chi am eich bod yn Iddewig
  • gwrthod gadael i chi ddod i mewn i fwyty am eich bod yn Fwslim
  • eich diswyddo chi am eich bod yn Rastaffariad.

Efallai y byddwch yn medru cwyno os ydych wedi dioddef gwahaniaethu uniongyrchol oherwydd eich crefydd neu gred.

Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun fod â rheol, polisi neu arfer y mae rhywun o grefydd neu gred benodol yn llai tebygol o fod yn gallu ei fodloni na phobl eraill, sy’n golygu eu bod ar anfantais. Gelwir hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol.

Mae enghreifftiau o wahaniaethu anuniongyrchol yn cynnwys:

  • gwrthod gadael i chi ddod i mewn i fwyty os ydych yn gwisgo hijab neu dwrban ar eich pen
  • gofyn i’ch holl gyflogedigion wisgo mewn ffordd benodol os yw hyn yn golygu nad ydynt yn medru gwisgo eitem o ddillad sy’n rhan o’u ffydd.

Os ydych wedi dioddef gwahaniaethu anuniongyrchol oherwydd eich crefydd neu gred, efallai y byddwch yn medru cwyno ynglŷn â hyn. Ond, os yw’r person neu’r mudiad yr ydych yn cwyno amdanynt yn medru dangos bod yna resymau didwyll dros y rheol, y polisi neu’r arfer ac nad yw’n ymwneud o gwbl â’ch crefydd neu gred, ni fydd hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu.

Er enghraifft, efallai na fydd yn wahaniaethu os yw’ch cyflogwyr angen i chi wisgo mewn ffordd benodol am resymau iechyd a diogelwch, er enghraifft gwisgo penwisg amddiffynnol, er efallai ei fod yn erbyn eich crefydd i dynnu eich twrban.

Erledigaeth

Mae gwahaniaethu yn medru bod ar ffurf erledigaeth. Mae erledigaeth yn golygu eich bod yn cael eich trin yn waeth na rhywun arall am eich bod wedi cwyno neu gymryd camau cyfreithiol ynghylch gwahaniaethu ar sail crefydd. Mae hefyd yn erledigaeth os ydych yn cael eich trin yn annheg am eich bod wedi cefnogi rhywun arall sy’n cymryd camau, er enghraifft, os ydych wedi bod yn dyst yn achos gwahaniaethu rhywun arall.

Nôl i’r brig


Camdriniaeth gorfforol neu lafar oherwydd crefydd neu gred

Mae’n drosedd i ymosod arnoch oherwydd eich crefydd neu gred, neu oherwydd eich diffyg crefydd. Mae hyn yn cynnwys camdriniaeth gorfforol a llafar.

Mae rhywun hefyd yn troseddu os ydynt yn corddi casineb yn erbyn grŵp crefyddol penodol. Er enghraifft, os ydynt yn cyhoeddi gwybodaeth hiliol neu wybodaeth a gynlluniwyd i gyffroi casineb crefyddol, neu’n dosbarthu gwybodaeth o’r fath.

Os cyflawnir un o’r troseddau hyn yn eich erbyn chi neu eich teulu, dylech ei riportio i’r heddlu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch troseddau sy’n ymwneud â chamdriniaeth gorfforol a llafar oherwydd eich crefydd, gweler Ymosodiadau â chymhelliad hiliol neu grefyddol.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu ar sail crefydd yn y gweithle ac mewn hyfforddiant

Rydych wedi eich amddiffyn rhag gwahaniaethu ar sail crefydd yn eich gweithle. Mae hyn golygu eich bod wedi eich amddiffyn:

  • beth bynnag yw eich crefydd neu gred
  • beth bynnag yw crefydd neu gred eich cyflogwr
  • waeth a ydych eisoes yn gweithio i’ch cyflogwr ai peidio
  • waeth a ydych yn ceisio am swydd ai peidio.

Mae gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred yn gallu cynnwys:

  • eich diswyddo oherwydd eich crefydd
  • hysbysebu am ymgeiswyr ar gyfer swydd o un grefydd yn unig
  • gofyn i chi wisgo mewn ffordd benodol, er enghraifft, gofyn i bob menyw wisgo sgert fer. Ni fyddai hyn yn dderbyniol i fenywod o sawl crefydd wahanol
  • gofyn i chi beidio â gwisgo eitemau sanctaidd. Er enghraifft, gofyn i ddyn Sikh dynnu ei kara (breichled symbolaidd). Ond, os yw’r cyflogwr yn medru cyfiawnhau hyn ar sail iechyd a diogelwch, ni fyddai hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu
  • gwneud i chi weithio ar adegau nad ydych yn medru gweithio oherwydd eich crefydd
  • erledigaeth
  • eich bwlio chi yn y gwaith oherwydd eich crefydd. Enw arall ar hyn yw aflonyddu.

Os ydych yn dioddef gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred, efallai y byddwch yn medru cwyno. Mae hyn yn golygu codi achwyniad gyda’ch cyflogwr neu gyflwyno honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Ond, mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yn bosib i’ch cyflogwr ddangos bod rhesymau busnes, neu iechyd a diogelwch didwyll, dros y ffordd y cawsoch eich trin, sydd ddim yn ymwneud o gwbl â’ch crefydd neu gred. Os yw hyn yn wir, ni fydd yn cyfrif fel gwahaniaethu.

(Example box starts)

Er enghraifft

Rwy’n Iddewig ac angen cael prynhawn dydd Gwener i ffwrdd o’r gwaith yn y gaeaf er mwyn cyrraedd adref cyn iddi dywyllu a pharatoi ar gyfer y Saboth. Ar hyn o bryd, mae fy mos yn hapus i adael i mi wneud hyn ac i weithio’r oriau yn ôl yn ystod gweddill yr wythnos. Ond, mae’n ystyried cyflwyno patrwm shifftiau newydd, sy’n golygu na fyddaf yn medru gwneud hyn mwyach. A yw’n medru gwneud hyn?

Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn gweithiwr oherwydd eu crefydd neu gred. Felly, os yw’ch cyflogwr yn cyflwyno patrwm shifftiau newydd a fydd yn anodd i chi oherwydd eich crefydd, efallai eich bod yn dioddef gwahaniaethu oherwydd eich crefydd. Fe fyddai’n rhaid i’ch cyflogwr gyfiawnhau pam mae’n hanfodol i chi weithio ar brynhawn dydd Gwener. Rhaid ei fod yn medru dangos ei fod wedi ceisio cwrdd â’ch anghenion ond bod angen i chi weithio ar brynhawn dydd Gwener o hyd, am resymau busnes. Neu, efallai y bydd ei ymddygiad tuag atoch yn cyfrif fel gwahaniaethu oherwydd eich crefydd.

(Example box ends)

Erledigaeth yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred

Mae erledigaeth yn digwydd pan fyddwch chi’n cael eich trin yn waeth na rhywun arall yn y gwaith am eich bod wedi cwyno, neu wedi cymryd camau cyfreithiol, ynghylch gwahaniaethu ar sail crefydd. Mae hefyd yn erledigaeth os ydych yn cael eich trin yn annheg am i chi gefnogi rhywun arall sy’n cymryd camau, er enghraifft, os ydych yn dyst yn achos gwahaniaethu rhywun arall.

Mae enghreifftiau o erledigaeth yn cynnwys:

  • cael eich labelu fel rhywun sy’n creu trafferth
  • gwrthod rhoi dyrchafiad neu gyfleoedd hyfforddiant i chi
  • cael eich anwybyddu gan eich cydweithwyr yn y gwaith
  • cael geirda gwael.
(Example box starts)

Mae pobl yn y gwaith yn gwneud hwyl am ben un o fy nghydweithwyr sy’n un o Dystion Jehovah ac yn darllen ei Beibl yn ystod amser coffi. Rydw i wedi ceisio dweud wrthyn nhw am stopio a nawr maen nhw’n dweud pethau cas amdanaf i hefyd. Mae fy mywyd yn y gwaith yn ddiflas nawr. A oes unrhyw feth fedra i ei wneud?

Os ydych yn dioddef erledigaeth am eich bod wedi cwyno am wahaniaethu ar sail crefydd, mae hyn yn anghyfreithlon. Dylech gael cyngor arbenigol ynghylch sut i daclo’r broblem.

(Example box ends)

Bwlio yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred

Mae’n anghyfreithlon i rywun eich bwlio chi yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred. Gelwir hyn yn aflonyddu. Efallai mai eich cyflogwr sy’n eich bwlio, neu efallai eich cydweithiwr. Mae rhywun yn eich bwlio chi os ydych yn teimlo bod eu hymddygiad tuag atoch yn sarhaus, yn eich dychryn, yn eich diraddio, yn eich bychanu neu yn eich trallodi mewn unrhyw ffordd. Efallai ei fod yn fwriadol neu’n anfwriadol.

Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun eich bwlio chi yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred, hyd yn oed os ydyn nhw’n anghywir ynghylch eich crefydd. Er enghraifft, os oes rhywun yn eich gweithle yn ymosod arnoch am eu bod yn credu eich bod yn Fwslim oherwydd y ffordd yr ydych chi’n edrych, hyd yn oed os nad ydych yn Fwslim. Ni fydd yn rhaid i chi ddweud beth yn union yw eich crefydd er mwyn gwneud rhywbeth ynglŷn â hyn.

Beth fedra i wneud os ydw i’n cael fy nhrin yn annheg neu fy mwlio yn y gwaith?

Os ydych yn cael eich trin yn annheg neu eich bwlio yn y gwaith oherwydd eich crefydd neu gred, gwnewch rywbeth cyn gynted â phosib. Fe allech geisio:

  • dweud wrth y person i stopio
  • dweud wrth eich rheolwr neu rywun arall sy’n uwch yn y sefydliad
  • siarad â’ch adran personél neu undeb llafur.

Os nad yw hyn yn gweithio, efallai y byddwch chi am godi achwyniad ac ystyried dwyn honiad gerbron tribiwnlys cyflogaeth.

Mae yna derfynau amser a gweithdrefnau llym ar gyfer cwyno gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Os ydych yn credu efallai bod angen i chi wneud hyn, dylech gael cyngor, er enghraifft, gan ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud ynghylch gwahaniaethu oherwydd eich crefydd yn y gwaith, gan gynnwys cyflwyno cais gerbron tribiwnlys cyflogaeth, gweler Beth fedra i ei wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy nghrefydd neu gred? yn y taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dwyn achwyniad yn y gwaith, gweler Datrys anghydfod yn y gwaith.

Hyfforddiant

Mae’n anghyfreithlon gwrthod darparu cyfleoedd hyfforddiant ar eich cyfer oherwydd eich crefydd neu gred, neu i’w darparu mewn ffordd sy’n golygu eich bod o dan anfantais o gymharu â phobl eraill oherwydd eich crefydd neu gred. Mae hyn yn cynnwys:

  • unrhyw hyfforddiant a gynlluniwyd i’ch paratoi chi ar gyfer cyflogaeth
  • arweiniad gyrfa
  • cyfleusterau hyfforddiant
  • profiad gwaith ymarferol wedi ei ddarparu gan gyflogwr ar gyfer rhywun sydd ddim yn gweithio ar eu cyfer
  • asesu rhywun ar gyfer cymhwyster proffesiynol neu alwedigaethol.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu ar sail crefydd wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethu

Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn uniongyrchol ar gyfer y cyhoedd i wahaniaethu oherwydd crefydd neu gred.

Mae enghreifftiau o fudiadau sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn cynnwys:

  • tafarndai, bwytai a gwestai
  • siopau
  • sinemâu a theatrau
  • ysbytai a chlinigau
  • cwmnïau gwerthu tai, landlordiaid preifat ac adrannau tai awdurdodau lleol
  • banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau yswiriant a chwmnïau cyllid
  • gorsafoedd rheilffordd, gorsafoedd bysiau a meysydd awyr
  • eglwysi a mannau addoli eraill
  • elusennau a mudiadau gwirfoddol
  • adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol, llysoedd a thribiwnlysoedd, swyddogion yr heddlu a charchardai
  • gwasanaethau lles fel cyngor ar dai, gofal dydd neu ofal cymunedol.

Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i dafarn neu fwyty wrthod gweini bwyd i chi, neu i westy wrthod rhoi ystafell i chi, oherwydd eich crefydd neu gred, neu eich crefydd neu gred yn eu barn nhw.

Am fwy o enghreifftiau o fudiadau sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, gweler gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Ni ddylai person sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau:

  • wrthod eu darparu ar eich cyfer oherwydd eich crefydd neu gred
  • wahaniaethu yn y ffordd y caiff unrhyw rai o’r pethau hyn eu darparu oherwydd eich crefydd neu gred.

Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu, waeth sut mae’r nwyddau a’r gwasanaethau yn cael eu darparu a waeth a ydych wedi talu amdanynt ai peidio.

Er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i rywun wahaniaethu yn eich erbyn pan fyddwch chi’n prynu rhywbeth mewn siop neu dros y rhyngrwyd, pan fyddwch chi’n gwneud ymholiad dros y ffôn neu pan fydd rhywun yn rhoi gwybodaeth ysgrifenedig i chi.

(Example box starts)

Rwy’n ddyn Asiaidd. Yn ddiweddar, trefnais ystafell mewn Gwely a Brecwast a phan gyrhaeddais, fe ddywedodd y derbynnydd nad oedd yr ystafell ar gael mwyach. Fe ddywedodd wrthyf am westy gerllaw a fyddai fwy na thebyg yn gallu cynnig ystafell i mi. Pan ofynnais i’r derbynnydd pam nad oedd ystafell ganddi ar fy nghyfer, a minnau wedi trefnu bythefnos ymlaen llaw, fe ddywedodd nad ydyw perchnogion y Gwely a Brecwast yn hoffi cael pobl Fwslim i aros yno oherwydd fe allent fod yn derfysgwyr.

Mae hyn yn wahaniaethu ar sail crefydd ac mae yn erbyn y gyfraith. Gellid erlyn y perchennog yn y llys. Mynnwch gyngor ynglŷn â’r hyn fedrwch chi ei wneud, gan gyfreithiwr, canolfan gyfraith neu ganolfan Cyngor ar Bopeth.

(Example box ends)

Hysbysebu

Gyda rhai eithriadau cyfyngedig, mae’n anghyfreithlon cyhoeddi hysbyseb ar gyfer nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau sy’n gwahaniaethu oherwydd crefydd neu gred, neu sy’n hysbysebu gwasanaethau sy’n gwahaniaethu.

Os cyhoeddir hysbyseb o’r fath, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn medru dwyn achos llys yn erbyn y cyhoeddwyr.

Elusennau

Nid yw’n anghyfreithlon i elusen ddarparu gwasanaethau a buddion i bobl o grefydd neu gred benodol yn unig.

Mae hyn yn golygu eu bod yn medru allgau pobl o grefyddau neu gredoau eraill. Rhaid bod nodau’r elusen wedi eu gosod yn eu cyfansoddiad neu reolau.

Er enghraifft, gellir sefydlu elusen i ddarparu gwasanaethau gofal dydd ar gyfer aelodau o’r gymuned Iddewig. Nid yw hyn yn anghyfreithlon os mai dyma beth maen nhw yno i’w wneud yn ôl cyfansoddiad yr elusen.

Mudiadau crefyddol

Efallai y bydd rhai mudiadau crefyddol yn cael gwahaniaethu yn erbyn pobl o grefyddau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys ysgolion ffydd. Ni ddylai’r mudiad fod yn fasnachol, hynny yw, rhaid ei fod yn fudiad nid-am-elw. Rhaid bod y gwahaniaethu yn angenrheidiol:

  • er mwyn cwrdd â nodau crefyddol y mudiad, neu
  • is osgoi tramgwyddo’r rheiny sy’n rhannu ei nodau crefyddol.
(Example box starts)

Rydw i’n rhedeg clwb ieuenctid mewn eglwys. Ydw i’n cael cyfyngu aelodaeth y clwb i Gristnogion sy’n ymarfer eu ffydd, neu a yw hyn yn wahaniaethu?

Tra nad yw’ch clwb yn fusnes masnachol ac os mai hyrwyddo’r gred Gristnogol ymhlith pobl ifanc yw eich nod, rydych yn cael gwrthod aelodaeth i bobl ifanc sydd ddim yn Gristnogion.

(Example box ends)

Mae mudiadau crefyddol yn cael gwahaniaethu trwy atal pobl o grefyddau eraill, neu sydd heb grefydd o gwbl:

  • rhag dod yn aelodau
  • rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau’r mudiad
  • rhag defnyddio nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan y mudiad
  • rhag defnyddio eu safleoedd.

Gwasanaethau lles

Mewn rhan amgylchiadau, mae rhai mudiadau yn cael darparu gwasanaethau lles i bobl o grefydd neu gred benodol yn unig. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:

  • llety hostel
  • gwasanaethau cyngor ar dai
  • gwasanaethau gofal dydd.

Mae mudiadau yn cael gwneud hyn ble mae modd dangos ei fod yn golygu bod mwy o bobl yn defnyddio’r gwasanaeth, neu mae’n gwella’r broses o drosglwyddo’r gwasanaeth.

Beth fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn gwahaniaethu ar sail crefydd

Y ffordd gyflymaf o ddatrys eich problem yw rhoi’ch pryderon yn ysgrifenedig i’r cwmni neu’r mudiad dan sylw. Holwch os oes adran gwynion ac anfonwch eich llythyr neu e-bost yno. Os nad oes adran gwynion, holwch am enw rheolwr, neu berson uwch arall, sy’n gyfrifol am y gwasanaeth a wahaniaethodd yn eich erbyn, ac ysgrifennwch atyn nhw. Dylai eich llythyr neu e-bost gynnwys:

  • yr holl ffeithiau, gan gynnwys y dyddiad neu’r dyddiadau pryd ddigwyddodd y gwahaniaethu
  • pam yr ydych yn credu bod gwahaniaethu wedi digwydd
  • a oedd unrhyw dystion, gan nodi eu manylion
  • beth hoffech chi i’r cwmni neu fudiad ei wneud am y broblem
  • yr hyn yr ydych chi’n mynd i’w wneud os nad yw’r broblem yn cael ei datrys o fewn terfyn amser penodol.

Os nad yw hyn yn digwydd, fe allech geisio:

  • dilyn gweithdrefn gwynion ffurfiol y cwmni neu’r mudiad, os oes un ganddyn nhw. Fe fydd gan y rhan fwyaf o gwmnïau mawr, a phob corff cyhoeddus fel awdurdodau lleol, adrannau’r llywodraeth ac awdurdodau iechyd, weithdrefnau cwyno ffurfiol
  • cwyno i gymdeithas fasnach y mudiad, os ydyn nhw’n perthyn i un. Efallai y bydd y mudiad yn medru rhoi pwysedd arnynt i ddatrys eich problem, neu efallai y byddan nhw’n cynnig gwasanaeth cymrodedd neu gyfryngu a fyddai’n eich helpu i gytuno ar ddatrysiad derbyniol.
  • Cwyno i’r Ombwdsman perthnasol. Mae gan bob corff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol, adrannau’r llywodraeth, awdurdodau iechyd a landlordiaid cymdeithasol, Ombwdsman, yn ogystal â sefydliadau ariannol fel banciau a chymdeithasau adeiladu
  • Mynd ag achos i’r llys sirol (llys y siryf yn yr Alban). Rhaid i chi ddechrau achos o fewn chwe mis i’r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu. Os ydych yn llwyddiannus, efallai y cewch iawndal. Riportiwch y mater i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Ombwdsmyn, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman.

Mae unrhyw gyfres o gamau gweithredu yn medru bod yn gymhleth ac yn medru gwneud eich bywyd yn fwy anghyffyrddus yn y tymor byr. Efallai hefyd y bydd yna gostau, yn enwedig os ydych yn defnyddio cyfreithiwr i’ch cynrychioli chi. Os ydych yn ystyried cymryd camau cyfreithiol, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu ar sail crefydd mewn ysgolion a cholegau

Mae’n anghyfreithlon i ysgol neu goleg wahaniaethu oherwydd crefydd neu gred wrth benderfynu pwy ddylid eu derbyn fel disgybl neu fyfyriwr. Mae hyn yn berthnasol i ysgolion a cholegau’r wladwriaeth a rhai annibynnol. Ond, nid yw’n berthnasol i ysgolion ffydd. Unwaith fyddwch chi wedi cael eich derbyn fel disgybl neu fyfyriwr yn yr ysgol neu’r coleg, mae’n anghyfreithlon iddynt wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Er enghraifft, nid ydynt yn medru gwrthod gadael i rywun fod yn brif swyddog, rhoi ataliad iddynt neu waith cartref ychwanegol oherwydd eu crefydd neu gred.

Gwisg ysgol

Ni ddylai rheolau ynghylch gwisg ysgol wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd. Er enghraifft, os ydych yn ddyn Sikh ifanc, rhaid i chi gael gwisgo twrban yn yr ysgol oherwydd mae’n rhan o’ch ffydd.

Ond, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i’r ysgol ganiatáu pob eitem o wisg grefyddol. Mae ysgolion yn medru cael polisi gwisg ysgol sy’n atal disgyblion rhag gwisgo pethau penodol. Efallai eu bod yn gwneud hyn, er enghraifft, am resymau iechyd a diogelwch.

Y Cwricwlwm

Nid yw’r gyfraith ynghylch gwahaniaethu ar sail crefydd yn berthnasol i’r hyn sy’n cael ei addysgu mewn ysgolion (y cwricwlwm). Er enghraifft:

  • mae ysgol yn cael addysgu theorïau esblygiad hyd yn oed os yw’r theorïau hyn yn mynd yn erbyn barn grefyddol rhai rhieni
  • nid yw yn erbyn y gyfraith i wersi addysg grefyddol mewn ysgolion addysgu am Gristnogaeth yn bennaf. Ond, mae’n rhaid i athrawon ystyried y prif grefyddau eraill hefyd. Nid yw hyn yn berthnasol i ysgolion ffydd.
(Example box starts)

Mae fy nheulu yn Hindŵ. Rydw i wedi fy ypsetio oherwydd mae'n rhaid i fy merch fynd i wersi addysg grefyddol mewn ysgol ble nad ydyn nhw’n sôn rhyw lawer am Hindŵaeth. Mae hyn yn ymddangos i mi fel gwahaniaethu yn erbyn Hindŵiaid oherwydd mae Cristnogaeth yn cael llawer o sylw.

Mae’n rhaid i’r dosbarthiadau adlewyrchu’r ffaith mai Cristnogaeth yw’r prif draddodiad crefyddol yn y wlad hon. Ond, maen nhw hefyd yn gorfod ystyried y prif grefyddau eraill, a gellir cynnal dosbarthiadau unigol ynghylch crefyddau eraill. Ceisiwch siarad ag athro/athrawes eich plentyn am y problemau yr ydych yn eu cael. Ond, os nad ydych yn medru sortio’r broblem, fwy na thebyg nad oes unrhyw gamau cyfreithiol y medrwch chi eu cymryd.

(Example box ends)

Addoli ar y cyd (gwasanaethau ysgol)

Mewn ysgol gymunedol neu sylfaen, rhaid bod gweithredoedd addoli ar y cyd, fel gwasanaethau, o natur cyffredinol Gristnogol. Ond, ni ddylent adlewyrchu unrhyw gangen benodol o Gristnogaeth, er enghraifft Pabyddiaeth.

Mewn ysgol ffydd, sy’n ysgol wirfoddol neu sylfaen, rhaid i addoli ar y cyd adlewyrchu ffydd yr ysgol.

Ysgolion ffydd

Mae yna rai meysydd penodol o’r gyfraith ynghylch gwahaniaethu oherwydd crefydd a chred nad ydynt yn berthnasol i ysgolion neu golegau ffydd.

Er enghraifft, mae gan ysgolion a cholegau ffydd yr hawl i wahaniaethu oherwydd crefydd pan fyddan nhw’n penderfynu pwy i’w derbyn fel disgyblion neu fyfyrwyr. Maen nhw’n medru dewis rhoi blaenoriaeth i ddisgyblion sy’n rhannu eu ffydd nhw, dros ddisgyblion eraill. Fodd bynnag, mae’n anghyfreithlon iddynt adael llefydd heb eu llenwi os nad oes digon o ddisgyblion o’u ffydd nhw eu hunain i lenwi’r llefydd hynny.

Unwaith fyddwch chi wedi cael eich derbyn fel disgybl neu fyfyriwr yn yr ysgol neu’r coleg, mae’n anghyfreithlon iddynt wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Er enghraifft, ni chaiff ysgol Babyddol wahardd disgybl sydd wedi dechrau fel Pabydd ond yna sy’n newid at ffydd arall.

Ond, mae ysgolion a cholegau ffydd yn cael cyfyngu ar wasanaethau a buddion penodol y maent yn eu cynnig i ddisgyblion sy’n rhannu ffydd yr ysgol neu’r coleg, neu’n medru eu cynnig mewn ffordd wahanol. Er enghraifft, mae ysgolion ffydd yn cael:

  • trefnu teithiau i ddisgyblion sy’n dilyn ffydd yr ysgol i’w heglwys neu gysegrfa leol. Nid ydynt yn gorfod trefnu teithiau tebyg i blant o ffydd arall o fewn yr ysgol
  • dweud mai dim ond disgyblion sy’n rhannu eu ffydd sy’n cael darllen testunau crefyddol penodol ar goedd yn ystod gwasanaethau
  • nodi neu ddathlu eu digwyddiadau crefyddol neu draddodiadau eu hunain heb orfod gwneud yr un peth i blant o ffydd arall o fewn yr ysgol.

Beth fedrwch chi ei wneud am wahaniaethu ar sail crefydd neu gred mewn addysg

Fe fyddwch yn medru gwneud cwyn ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg neu brifysgol yn eich llys sirol lleol (llys y siryf yn Yr Alban).Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r ysgol, dylech geisio datrys eich cwyn yn gyntaf trwy siarad â phennaeth yr ysgol. Os nad ydych yn hapus o hyd, fe fyddwch yn medru mynd â’ch cwyn at gorff llywodraethu’r ysgol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno am ysgol, gweler Problemau yn yr ysgol.

Os ydych yn cwyno ynghylch coleg neu brifysgol, dylech geisio defnyddio gweithdrefn gwyno’r sefydliad ei hun yn gyntaf. Os ydych yn cwyno am goleg addysg bellach a ariennir gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau, dylech gwyno hefyd i’r Asiantaeth. Mae gwybodaeth ar sut i wneud hyn ar wefan yr Asiantaeth yn: (New window) www.skillsfundingangency.bis.gov.uk. Os yw’ch cwyn yn ymwneud â phrifysgol yng Nghymru neu Loegr, fe allech fynd â’ch cwyn at Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. Dyma’r manylion cyswllt:

Third Floor
Kings Reach
38-50 King's Road
Reading
RG1 3AA
Rhif Ffôn: 0118 959 9813
Gwefan: (New window) www.oiahe.org.uk.

Os oes cwyn gennych ynghylch prifysgol yn yr Alban, dylech gwyno i Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban yn: (New window) www.spso.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio ombwdsman yn yr Alban, a phryd i ddefnyddio un, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman neu gomisiynydd yn yr Alban.

Os ydych chi am gwyno ynghylch gwahaniaethu gan ysgol, coleg neu brifysgol, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth er enghraifft. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Gwahaniaethu ar sail crefydd mewn tai

Yn gyffredinol, mae’n anghyfreithlon i rywun sy’n gwerthu neu’n gosod tŷ wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred.

Tenantiaid

Ni chaiff landlordiaid ac asiantaethau gosod wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Mae hyn yn cynnwys landlordiaid preifat a landlordiaid tai cymdeithasol fel cynghorau lleol a chymdeithasau tai. Mae hyn yn golygu y bydd landlord neu asiantaeth osod yn ymddwyn yn anghyfreithlon os yw’n gwneud y canlynol oherwydd eich crefydd neu gred:

  • gwrthod gosod eiddo i chi
  • rhoi blaenoriaeth i bobl oherwydd eu crefydd neu gred wrth benderfynu pwy i’w hailgartrefu
  • rhentu eiddo i chi ar delerau gwaeth na thenantiaid eraill
  • eich trin chi’n wahanol i denantiaid eraill yn y ffordd yr ydych yn cael defnyddio cyfleusterau
  • eich tro chi allan o’ch cartref neu aflonyddu arnoch
  • codi rhent uwch arnoch chi o gymharu â thenantiaid eraill
  • gwrthod gwneud atgyweiriadau i’ch cartref.

Os yw’ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi, efallai na fydd y rheolau hyn yn berthnasol. Os yw’ch landlord yn byw yn yr un eiddo â chi ac rydych yn credu ei fod yn gwahaniaethu yn eich erbyn dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth er enghraifft. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os fydd landlord neu asiantaeth osod yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Beth fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn gwahaniaethu ar sail crefydd.

(Example box starts)

Yn y bloc o fflatiau ble’r ydw i’n byw, mae mwyafrif y tenantiaid yn Fangladeshi. Mae’n teimlo fel nad yw’n hatgyweiriadau ni byth yn cael sylw, er bod angen llawer o waith ar ein hadeilad. Rydyn ni’n gwybod bod bloc arall yn yr ardal ble mae pobl wynion, gan fwyaf, yn byw, ac mae’n teimlo fel nad ydyn nhw’n gorfod aros am atgyweiriadau o gwbl. Mae’r ddau floc yn eiddo i’r cyngor. A yw hyn yn wahaniaethu? A oes unrhyw beth fedrwn ni ei wneud am y sefyllfa?

Efallai bod yna resymau da pam mae’n teimlo bod y bloc o fflatiau arall yn cael pethau wedi eu gwneud yn gyflymach. Er enghraifft, efallai bod y bobl yn y bloc arall angen atgyweiriadau bach yn unig, tra bod eich adeilad chi angen atgyweiriadau mawr. Ond, efallai bod eich awdurdod lleol yn gwahaniaethu yn eich erbyn, nid oes gwahaniaeth os yw hyn yn anfwriadol. Mae angen i chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol a fydd yn eich helpu i benderfynu pa gamau ddylech chi eu cymryd.

(Example box ends)

Prynu a gwerthu eiddo

Os yw rhywun yn gwerthu eu cartref trwy gwmni gwerthu tai, byddai’n anghyfreithlon iddynt wrthod cynnig gan rywun oherwydd eu crefydd neu gred, neu i gynnig ei werthu iddynt ar delerau llai ffafriol.

Ond, o dan y gyfraith, mae person sy’n gwerthu eiddo’n uniongyrchol i chi heb fynd trwy gwmni gwerthu tai yn medru penderfynu nad ydyw am werthu i chi oherwydd eich crefydd neu gred, tra nad ydynt yn hysbysebu’r eiddo. Efallai bod hyn yn ymddangos yn annheg, ond nid yw’n anghyfreithlon.

Cwmnïau gwerthu tai

Nid yw cwmnïau gwerthu tai yn cael gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Er enghraifft, nid ydynt yn cael gwrthod dangos eiddo penodol i chi oherwydd nad yw’r perchennog am werthu i rywun o grefydd neu gred penodol.

Os yw cwmni gwerthu tai yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, fe fyddwch yn medru cwyno i’r cwmni gwerthu tai. Os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad, efallai y byddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsman Eiddo neu Wasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, gan ddibynnu pa gynllun y mae’r cwmni gwerthu tai yn perthyn iddo.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr Ombwdsman Eiddo a Gwasanaethau’r Ombwdsman: Eiddo, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw cwmni gwerthu tai yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Beth fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn gwahaniaethu ar sail crefydd.

Benthycwyr morgeisi

Mae’n anghyfreithlon i fenthycwyr morgeisi wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred. Er enghraifft, ni chaiff benthyciwr wrthod rhoi morgais i chi oherwydd eich crefydd neu gred, neu roi morgais i chi ar delerau gwaeth na phobl eraill o grefydd neu gred wahanol.

Os yw benthyciwr morgeisi’n gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, fe fyddwch yn medru cwyno i’r cwmni dan sylw. Os nad ydych yn hapus gyda’r canlyniad, efallai y byddwch yn medru cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsman Ariannol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Gwasanaeth yr Ombwdsman Ariannol, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn fedrwch chi ei wneud os yw benthyciwr morgeisi’n gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich crefydd neu gred, gweler y pennawd Beth fedrwch chi ei wneud pan fydd rhywun sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau yn gwahaniaethu ar sail crefydd.

Nôl i’r brig


Mathau eraill o wahaniaethu

Yn ogystal â gwahaniaethu ar sail eich crefydd, fe allech gael eich trin yn annheg am resymau eraill.

Er enghraifft, rydych yn fenyw o Dwrci sydd hefyd yn Fwslim ac rydych yn cael eich diswyddo am eich bod yn feichiog. Efallai y byddwch yn medru dwyn honiad o wahaniaethu ar sail hil a beichiogrwydd yn ogystal â gwahaniaethu ar sail crefydd. Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich trin yn annheg am fwy nag un rheswm, gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn am bob rheswm os ydych yn cwyno.

Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.

Nôl i’r brig


Help pellach

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Nid yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cymryd achosion unigol, ond dylai fod yn medru rhoi peth cyngor i chi. Fe allwch gysylltu â’r Comisiwn yn:

Lloegr

Equality and Equal Rights Helpline England
Freepost RRLL-GHUX-CTRX
Arndale House
Arndale Centre
Manchester
M4 3AQ

Rhif Ffôn: 0845 604 6610 (Llun - Gwener 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 6620
Ffacs: 0845 604 6630

E-bost: englandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Cymru

Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
3ydd Llawr
3 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT

Rhif Ffôn 0845 604 8810 (Llun - Gwener 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 8820Ffacs: 0845 604 8830

E-bost: waleshelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Yr Alban

Equality and Equal Rights Commission Helpline Scotland
Freepost RRLL-GYLB-UJTA
The Optima Building
58 Robertson Street
Glasgow
G2 8DU

Rhif Ffôn 0845 604 5510 (Llun - Gwener 8.00yb-6.00yh)
Ffôn Testun: 0845 604 5520Ffacs: 0845 604 5530

E-bost: scotlandhelpline@equalityhumanrights.com
Gwefan: (New window) www.equalityhumanrights.com/our-job/advice-from-our-helpline/

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o ganllawiau ar wahaniaethu yn ymwneud â chyflogaeth, nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, awdurdodau cyhoeddus, tai ac addysg, ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.

Canolfannau Cyfraith

Mae canolfan cyfraith yn medru cynnig cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim os ydych am ddwyn achos o wahaniaethu ar sail crefydd. Os fydd cyfreithiwr o ganolfan cyfraith yn eich cynrychioli, efallai y bydd hawl gennych i gymorth cyfreithiol. Yng Nghymru a Lloegr, mae manylion y ganolfan cyfraith agosaf ar gael gan Ffederasiwn y Canolfannau Cyfraith, ac yn yr Alban gan Gymdeithas Canolfannau Cyfraith yr Alban.

Cymru a Lloegr

The Law Centres Federation
PO Box 65836,
London EC4P 4FX
Rhif Ffôn: 020 7842 0720
Ffacs: 020 7842 0721
E-bost: info@lawcentres.org.uk
Gwefan: (New window) www.lawcentres.org.uk

Yr Alban

Scottish Association of Law Centres
c/o Govan Law Centre
47 Burleight Street
Govan
Glasgow G51 3LB
Rhif Ffôn 0141 440 2503
E-bost m@govanlc.com
Gwefan: (New window) www.govanlc.com/salc

Free Representation Unit (Lloegr)

Mae Free Representation Unit (FRU) yn medru darparu cynrychiolaeth ar gyfer pobl ar incwm isel sy’n byw yn ardal Llundain. Ond, mae’r FRU yn fudiad gwirfoddol ac ni ellir gwarantu cynrychiolaeth mewn achosion. Os ydych chi eisiau help gan yr FRU, rhaid i chi gael eich cyfeirio’n ysgrifenedig gan asiantaeth gyngor unwaith fydd dyddiad y gwrandawiad wedi ei osod. Rhaid bod yr asiantaeth yn tanysgrifio i’r FRU. Mae rhai canolfannau Cyngor ar Bopeth yn ardal Llundain yn tanysgrifio i’r FRU. I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Dyma fanylion cyswllt yr FRU:-

6th Floor
289 – 293 High Holborn
London
WC1V 7HZ
Ffôn: 020 7611 9555
Ffacs: 020 7611 9551
E-bost: ar gael drwy (New window) ffurflen ar y wefan
Gwefan: (New window) www.thefru.org.uk

Cynrychiolaeth Rad Ac Am Ddim (Yr Alban)

Mae peth cynrychiolaeth rad ac am ddim ar gael yn yr Alban ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd. Mae ond ar gael ar gyfer rhai achosion penodol ac i bobl sydd ar incwm isel. Mae ond ar gael trwy ganolfan Cyngor ar Bopeth.

I chwilio am eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig