Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Symiau a lwfansau treth incwm

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth yw lwfansau yn erbyn treth incwm

Mae’r wybodaeth hon yn rhoi manylion i chi am y gwahanol fathau o lwfansau a pha bryd y gellir eu hawlio.

Mae lwfans personol a lwfans person dall yn symiau penodol sy’n cael eu gosod yn erbyn eich incwm, ac yn caniatáu i chi gael cymaint â hynny o incwm yn rhydd o dreth mewn unrhyw flwyddyn dreth. Mae lwfans Pâr Priod yn gweithio fel didyniad o’ch bil treth. Fe allech chi fod yn gymwys i dderbyn mwy nag un lwfans.

Mae’r mwyafrif o drethdalwyr sy’n byw yn y DU o ddydd i ddydd yn gymwys i dderbyn lwfans personol. Gall rhai trethdalwyr hefyd hawlio Lwfans Person Dall a Lwfans Pâr Priod.

Os ydych chi wedi talu peth treth ar eich incwm ac yn gymwys i lwfans a dim yn ei dderbyn, fe ddylech chi ei hawlio o’ch swyddfa dreth. Os nad ydych chi wedi derbyn yr holl lwfansau y mae gennych hawl iddynt, fe allwch chi wneud ôl-hawliad amdanynt ond mae yna derfyn amser ar gyfer gwneud hyn. Fe allwch chi ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â’r terfyn amser sy’n berthnasol i Ad-daliadau Treth.

Yn ymarferol, os ydych chi’n derbyn enillion neu bensiwn galwedigaethol, fe drethir yr incwm hwn trwy system Talu Wrth Ennill (TWE/PAYE). Yn dibynnu ar sut y cewch chi’ch talu, fe gewch chi naill ai 1/52 o’ch lwfans personol os ydych chi’n cael eich talu’n wythnosol, neu 1/12 o’ch lwfans personol os ydych chi’n cael eich talu’n fisol, fel cyflog sy’n rhydd o dreth bob diwrnod pae. Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw lwfansau eraill neu ostyngiadau, caiff y swm yr enillwch chi neu’r pensiwn a dderbyniwch chi uwchben y lefel hwn ei drethu. Mae hyn yn golygu y caiff lwfansau eu lledu’n gyfartal dros y flwyddyn yn hytrach na chi’n dechrau talu treth pan fydd enillion/pensiynau yn mynd dros swm eich lwfansau yn unig.

Am fwy o fanylion ynglŷn â TWE, gweler y system Talu Wrth Ennill (TWE).

Nôl i’r brig


Pa lwfansau sydd ar gael

Mae’r lwfansau canlynol ar gael os ydych chi’n gymwys:

  • Lwfans Personol - gweler o dan y pennawd Lwfans Personol
  • Lwfans Person Dall - gweler o dan y pennawd Lwfans Person Dall
  • Lwfans Pâr Priod ar gyfer parau lle mae o leiaf un aelod wedi’i eni cyn 6 Ebrill 1935 - gweler o dan y pennawd Lwfans Pâr Priod.

Nôl i’r brig


Lwfans Personol

Mae’r mwyafrif o bobol yn derbyn y lwfans treth personol sylfaenol yn awtomatig, ond mae pobol sydd ag incwm dros £100,000 yn cael lwfans llai neu dim o gwbl. Gellir gosod y lwfans personol yn erbyn pob math o incwm. Mae yna dri swm o Lwfans Personol, ond dim ond y lwfans sylfaenol a roddir yn awtomatig:

  • swm safonol (y lwfans sylfaenol) i’r mwyafrif o bobol o dan 65 oed (ac yn cynnwys y mwyafrif o bobol dros 65 sydd â’u hincwm yn rhy uchel ar gyfer y lwfansau cynyddol ar sail oedran - gweler isod)
  • swm uwch ar gyfer pobol sy’n 65 i 74 oed ac sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan i unrhyw un sy’n cyrraedd 65 oed rhywbryd yn ystod y flwyddyn dreth.
  • y swm uchaf ar gyfer pobol sy’n 75 oed neu drosodd ac sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan i unrhyw un sy’n cyrraedd 75 oed rhywbryd yn ystod y flwyddyn dreth.

Os oes gennych incwm dros ryw derfyn arbennig, caiff y symiau uwch ar gyfer pobol 65 oed neu drosodd eu lleihau. Sut bynnag, nid ydynt yn cael eu lleihau yn is na’r swm safonol (lwfans sylfaenol) i bobol dan 65 oed, oni bai, o 6 Ebrill 2010, bod eich incwm yn fwy na £100,000 yn ystod y flwyddyn dreth.

Mae mwy o wybodaeth am lwfansau ar gael ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Gall lwfansau i bobol hŷn fod yn gymhleth. Am fwy o wybodaeth ar lwfansau personol ac i gyfrifo p’un ai y dylech chi fod yn talu treth wedi ymddeol ai peidio, rhowch glic ar (New window) www.directgov.uk.

Os ydych chi’n 60 oed neu drosodd ac ar incwm isel a gyda phroblemau gyda’r lwfansau treth efallai yr hoffech chi gysylltu â llinell gymorth TaxHelp i Bobol Hyn am gyngor ar 0845 601 3321 (Llun-Gwener 9.00am-5.00pm).  Gall TOP drefnu ymweliad cartref, os gellir datrys eich problem yn well mewn cyfarfod wyneb yn wyneb.

Nôl i’r brig


Symiau Lwfansau personol

Mae’r tabl hwn yn rhoi manylion lwfansau treth personol ar gyfer pob blwyddyn dreth. Caiff y lwfansau hyn eu didynnu o gyfanswm yr incwm trethadwy cyn y cyfrifir faint o dreth sy’n daladwy.

Lwfans Personol Blwyddyn dreth 2005/06 Blwyddyn dreth 2006/07 Blwyddyn dreth 2007/08 Blwyddyn dreth 2008/09 Blwyddyn dreth 2009/10 Blwyddyn dreth 2010/
11
Blwyddyn dreth 2011/12
Lwfans Personol Sylfaenol £4,895 £5,035 £5,225 £6,035 £6,475 £6,475 £7,475
65-74 oed £7,090 £7,280 £7,550 £9,030 £9,490 £9,490 £9,940
75 oed a drosodd £7,220 £7,420 £7,690 £9,180 £9,640 £9,640 £10,090
Terfyn Incwm ar gyfer lwfansau personol 65-74 a
75 a drosodd
£19,500 £20,100 £20,900 £21,800 £22,900 £22,900 £24,000
Terfyn Incwm ar gyfer lwfans personol sylfaenol Dim terfyn Dim terfyn Dim terfyn Dim terfyn Dim terfyn £100,000 £100,000

Os yw’ch incwm dros y terfyn incwm ar gyfer lwfansau ar sail oed, bydd Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn lleihau’r lwfans ar sail oed i hanner yr incwm, £1 am bob £2, sydd gennych dros y terfyn hwnnw, hyd nes cyrraedd y lwfans cyfradd sylfaenol. Fe gewch chi’r lwfans sylfaenol o hyd, beth bynnag yw lefel eich incwm, oni bai, o 6 Ebrill 2011, fod eich incwm yn fwy na £100,000 yn y flwyddyn dreth.

Felly os ydych chi, er enghraifft, yn 66 a bod gennych incwm o £24,500, £500 dros y terfyn o £24,000 yn 2011/12, byddai HMRC yn rhoi £250 yn llai o lwfans ar sail oed i chi, hynny yw yn ei ostwng o £9,940 i £9,690.

Nôl i’r brig


Lwfans Person Dall

Mae’r lwfans hwn yn gweithio yn yr un ffordd â’ch lwfans personol. Mae’n swm penodol sy’n cael ei osod yn erbyn eich incwm trethadwy, sy’n caniatáu i chi dderbyn cymaint â hynny o incwm yn rhydd o dreth mewn unrhyw flwyddyn dreth.

Yn Lloegr a Chymru, fe allwch chi hawlio Lwfans Person Dall am y flwyddyn dreth gyfan os ydych chi yn berson dall cofrestredig neu’n dod yn berson dall cofrestredig yn ystod y flwyddyn dreth. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle nad oes cofrestr, mae’n rhaid eich bod yn analluog i gyflawni unrhyw waith lle mae gweld yn angenrheidiol. Felly nid oes yn rhaid i chi o anghenraid fod yn gwbl ddall i hawlio’r lwfans.

Yn Lloegr a Chymru, gall HMRC hefyd roi’r lwfans i chi yn y flwyddyn dreth cyn i chi gofrestru fel person dall, os cawsoch chi’r dystiolaeth oedd ei angen ar gyfer cofrestru yn ystod y flwyddyn dreth. Gall hyn eich helpu os oes yna unrhyw oedi ynglŷn â chofrestru fel person dall.

Os ydych chi’n briod neu os oes gennych bartner sifil ac yn methu defnyddio’ch Lwfans Person Dall i gyd, fe allwch chi ofyn i’ch swyddfa dreth i drosglwyddo y rhan o’ch lwfans sy heb ei ddefnyddio i’ch priod neu bartner sifil, pa un a yw eich priod neu bartner sifil yn ddall ai peidio. Rhaid i unrhyw weddill Lwfans Pâr Priod, os ydych yn gymwys i’w dderbyn, gael ei drosglwyddo ar yr un pryd. Os ydyw’r ddau ohonoch wedi’ch cofrestru’n dall, fe allwch ill dau dderbyn y lwfans.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am Lwfans Person Dall ar wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Lwfans Person Dall ar wefan NIDirect yn: (New window) www.nidirect.gov.uk.

Nôl i’r brig


Symiau Lwfans Person Dall

Mae’r tabl hwn yn rhoi manylion Lwfans Person Dall ar gyfer pob blwyddyn dreth. Caiff y lwfansau hyn eu didynnu o gyfanswm yr incwm trethadwy cyn y cyfrifir faint o dreth sy’n daladwy.

Lwfans Person Dall Blwyddyn dreth 2005/06 Blwyddyn dreth 2006/07 Blwyddyn dreth 2007/08 Blwyddyn dreth 2008/09 Blwyddyn dreth 2009/10 Blwyddyn dreth 2010/11 Blwyddyn dreth 2011/12
£1,610 £1,660 £1,730 £1,800 £1,890 £1,890 £1,980

Nôl i’r brig


Lwfans Pâr Priod

Er mwyn hawlio Lwfans Pâr Priod, mae’n rhaid eich bod yn byw gyda’ch gilydd fel pâr priod neu fel partneriaid sifil ac mae’n rhaid i un ohonoch chi o leiaf fod wedi’ch geni cyn 6 Ebrill 1935.

Mae’r rheolau ynglŷn â Lwfans Pâr Priod yn dibynnu ar y dyddiad y priodoch chi neu yr aethoch chi i bartneriaeth sifil, ynghyd ag oedran y person hynaf:

  • Os priodoch chi cyn 5 Rhagfyr 2005, bydd y gŵr yn derbyn y Lwfans Pâr Priod a bydd y swm yn dibynnu ar incwm y gŵr ac oedran y partner hynaf.
  • Os priodoch chi neu bod mewn partneriaeth sifil ar neu ar ôl 5 Rhagfyr 2005, bydd y partner â’r incwm uchaf yn hawlio Lwfans Pâr Priod a bydd y swm yn dibynnu ar oedran y partner hynaf ac incwm y partner sydd â’r incwm uchaf
  • Os priodoch chi cyn 5 Rhagfyr 2005 fe allwch chi ddewis cael y rheolau a ddaeth i fod ar 5 Rhagfyr 2005 wedi’u cymhwyso i chi er mwyn i’r partner â’r incwm uchaf dderbyn y Lwfans Pâr Priod. Cysylltwch â’ch swyddfa dreth i ofyn iddynt ynglŷn â gwneud y newid.

Fe allwch chi wneud cais i’ch swyddfa dreth i rannu lleiafswm y Lwfans Pâr Priod rhyngoch chi neu, os ydych chi’ch dau yn cytuno, i drosglwyddo lleiafswm y Lwfans Pâr Priod i’ch priod neu bartner.

Fe fyddwch yn gymwys i dderbyn lwfans personol yn ychwanegol at y Lwfans Pâr Priod, ac efallai yn gymwys hefyd i dderbyn Lwfans Person Dall.

Mae mwy o wybodaeth am Lwfans Pâr Priod ar gael ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk ac ar wefan LITRG yn (New window) www.litrg.org.uk.

Nôl i’r brig


Lwfans Pâr Priod: yr uchafswm

Mae’r tabl hwn yn rhoi manylion uchafswm Lwfans Pâr Priod ar gyfer pob blwyddyn dreth. Fe gewch chi’r uchafswm os nad yw’ch incwm yn fwy na’r terfyn incwm. Mae Lwfans Pâr Priod yn swm sy’n cael ei ddidynnu o’ch bil treth, ac felly fe allwch ei hawlio dim ond os ydych chi’n talu treth.

Caiff eich bil treth ei leihau o 10% o Lwfans Pâr Priod y mae gennych hawl iddo.

Gall unrhyw Lwfans Pâr Priod sydd wedi’i dynnu oddi ar eich bil treth ei leihau i nil yn unig. Nid oes ad-daliad o unrhyw arian dros ben.

Lwfans Pâr Priod


Un priod\partner sifil wedi’i eni cyn 6 Ebrill 1935

Uchafswm

Blwyddyn dreth 2005/06 Blwyddyn dreth 2006/07 Blwyddyn dreth 2007/08 Blwyddyn dreth 2008/09 Blwyddyn dreth 2009/10 Blwyddyn dreth 2010/11 Blwyddyn dreth 2011/12
Dan 75 oed £5,905 £6,065 £6,285 £6,535 Ddim yn berthnasol* Ddim yn berthnasol Ddim yn berthnasol
75 oed a drosodd £5,975 £6,135 £6,365 £6,625 £6,965 £6,965 £7,295

*Yn ystod 2009/10 cyrhaeddodd pob hawliwr yr oedran o 75 o leiaf, ac felly dim ond un uchafswm sydd o’r flwyddyn honno ymlaen.

Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gall incwm dros y terfyn incwm leihau eich Lwfans Pâr Priod ar gael ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig


Lwfans Pâr Priod: isafswm

Er y gellir lleihau eich Lwfans Pâr Priod os yw’ch incwm yn fwy na’r terfyn, all y lwfans byth gael ei leihau yn is na swm penodol bob blwyddyn. Mae’r tabl hwn yn rhoi manylion am isafswm y Lwfans Pâr Priod sydd ar gael bob blwyddyn.

Lwfans Pâr Priod

Un priod\
partner sifil wedi’i eni cyn
6 Ebrill 1935

Blwyddyn dreth 2005/06 Blwyddyn dreth 2006/07 Blwyddyn dreth 2007/08 Blwyddyn dreth 2008/09 Blwyddyn dreth 2009/10 Blwyddyn dreth 2010/11 Blwyddyn dreth 2011/12
Lleiafswm £2,280 £2,350 £2,440 £2,540 £2,670 £2,670 £2,800

Nôl i’r brig