Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Help gyda phroblemau treth

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd IwerddonThis information applies to England, Wales, Scotland and Northern Ireland



Ble cewch help gyda phroblem dreth

Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd delio â materion treth, ond fe allwch gael help. Rydyn ni wedi rhestru isod rhai o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o gael help.

Nôl i’r brig


Eich cyflogwr

Os oes gennych broblem dreth a’ch bod yn weithiwr, mae’n bosib y gallwch gael help gyda chod treth neu PAYE gan eich cyflogwr.

Nôl i’r brig


Gwefannau defnyddiol

Mae yna nifer o wefannau a allai eich helpu gyda phroblemau treth:

  • Mae gwefan Grŵp Diwygio Treth yn ddefnyddiol ar gyfer pobl sydd ar incwm isel. Ewch at: (New window) www.litrg.org.uk
  • Cyllid a Thollau EM (HMRC) yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am dreth. Mae ei wefan yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Ewch at: (New window) www.hmrc.gov.uk
  • Mae gan wefan Directgov hefyd lawer o wybodaeth am dreth. Ewch at: (New window) www.direct.gov.uk
  • Businesslink yw gwefan y llywodraeth ar gyfer busnesau. Mae’n cynnwys gwybodaeth am dreth. Ewch at: (New window) www.businesslink.gov.uk.

Nôl i’r brig


Cysylltu â'ch swyddfa dreth

Os nad oes modd datrys y broblem drwy siarad â’ch cyflogwr dros y ffôn, neu edrych ar wefan, y cam nesaf yw cysylltu â’ch swyddfa dreth. Mae swyddfeydd treth yn delio ag ymholiadau dros y ffôn neu ysgrifenedig ac nid ydynt ar agor i’r cyhoedd. Os oes angen i chi weld rhywun yn bersonol, bydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan Ymholiadau Treth.

Os ydych wedi eich cyflogi, eich swyddfa dreth fydd yn delio â’ch cyflogwr. Mae’n bosib y gallai fod yn bell o’ch gwaith. Os ydych yn gwybod cyfeirnod treth eich cyflogwr, gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i rif ffôn y swyddfa dreth gywir. Ewch at wefan Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn (New window) www.hmrc.gov.uk. Os nad ydych yn gwybod y cyfeirnod treth, mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei roi i chi os ydych yn ei ddymuno. Neu edrychwch ar eich slip cyflog, P45 neu P60.

Os ydych yn hunangyflogedig, neu’n ddi-waith, mae eich swyddfa dreth yn dibynnu ar ble ydych yn byw. Edrychwch am fanylion cyswllt ar unrhyw lythyrau neu ffurflenni a dderbynioch oddi wrth yr HMRC. Fel arall, cewch hyd i ddolen lleoli swyddfa dreth yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Pan ydych yn cysylltu â’r swyddfa dreth, mae’n rhaid i chi fod yn barod i roi eich rhif yswiriant gwladol a chyfeirnod treth eich cyflogwr.

Nôl i’r brig


Cysylltu â Chanolfan Ymholiadau Treth

Gallwch siarad â rhywun yn bersonol mewn Canolfan Ymholiadau Treth. Mae’r rhan fwyaf o Ganolfannau Ymholiadau Treth yn hygyrch i bobl anabl a gallant ddarparu dolenni sain, chwyddaduron i’ch helpu i ddarllen ffurflenni a dyfeisiau gwrando crisial i’ch helpu os oes gennych nam ar eich clyw. Os oes angen dehonglwr iaith arwyddion neu wasanaeth dehongli arall arnoch, gellir ei drefnu.

Gallwch ddod o hyd i’ch Canolfan Ymholiadau Treth agosaf ar wefan Cyllid a Thollau EM yn: (New window) www.hmrc.gov.uk.

I wneud apwyntiad i weld ymgynghorwr mewn Canolfan Ymholiadau Treth, ffoniwch linellau ffôn Cyllid a Thollau EM. Mae’r llinell gymorth yr ydych yn ei ffonio yn dibynnu ar eich ymholiad. Am restr o linellau cymorth, ewch at Gyllid a Thollau EM: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Nôl i’r brig


Herio penderfyniad treth a thrafod gyda Chyllid a Thollau EM

Os nad yw eich problem wedi’i datrys hyd yma, mae’n bosib yr hoffech ei herio, neu drafod gyda Chyllid a Thollau EM (HMRC). Mae’r weithdrefn i’w dilyn a’r swyddfa gywir yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei herio neu’r anghydfod.

Rhai o’r prif weithdrefnau yw:

  • apelio, er enghraifft, yn erbyn cyfrifiad atebolrwydd treth neu god PAYE. Mae taflen ffeithiau ynglŷn â sut i apelio yn erbyn penderfyniad yr HMRC ar gael ar ei wefan: (New window) www.hmrc.gov.uk
  • ceisio am ildiad hawl, oherwydd oedi gan yr HMRC
  • trafod dyledion treth. Mae yna lawer o wybodaeth am ddelio â dyledion treth ar wefan Tax Aid: (New window) www.taxaid.org.uk
  • cwyno am ymddygiad yr HMRC. Mae’r HMRC yn cyhoeddi siarter am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl ganddynt, a’r hyn y maen nhw’n ei ddisgwyl gennych chi. Mae’n bosib y byddai’n ddefnyddiol i edrych ar y siarter cyn i chi gwyno. Cewch hyd i’r siarter ar wefan HMRC: (New window) www.hmrc.gov.uk.

Pan ydych yn delio ag ymholiad neu drafodaeth, p’un ai yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu’n bersonol, cofiwch yr awgrymiadau canlynol:

  • paratowch o flaen llaw
  • gwnewch nodyn o’r ffeithiau perthnasol
  • casglwch yr holl dystiolaeth sydd ar gael
  • bod gennych syniad clir o’r canlyniad a ddymunwch
  • gwnewch gofnod o bwy siaradodd â chi a beth ddywedodd
  • byddwch yn amyneddgar
  • peidiwch â phryderu
  • dywedwch ddiolch os oedd y cyswllt yn ddefnyddiol a dylech son am unrhyw gyngor defnyddiol mewn unrhyw lythyrau a ysgrifennwch
  • byddwch yn ddyfal
  • gofynnwch am y broses apelio.

Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i herio neu drafod gyda’r HMRC, dylech weld ymgynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar (New window) arwydd CAB.

Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn neu drafodaeth, mae’n bosib yr hoffech gymryd materion ymhellach drwy gwyno i’r Dyfarnwr neu’r Ombwdsmon.

Mae’n bosib yr hoffech ymgynghori ag elusen dreth neu ymgynghorydd treth arbenigol cyn eich bod yn gwneud hyn.

Nôl i’r brig


Swyddfa'r Dyfarnwr

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn ystyried cwynion o gamweinyddiaeth gan Gyllid a Thollau EM (HMRC), er enghraifft:

  • oedi gormodol
  • gwallau
  • anghwrteisi.

Ni fydd Swyddfa’r Dyfarnwr yn ystyried:

  • anghydfodau cyfreithiol
  • cwynion sydd eisoes wedi’u harchwilio gan yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd
  • apeliadau yn erbyn prisiadau eiddo, gan gynnwys apeliadau yn erbyn bandiau’r dreth gyngor. Dylid cyfeirio’r rhain at Dribiwnlysoedd Prisio. Os hoffech fwy o fanylion, gweler Y Dreth Gyngor
  • materion a berthyn i erlyniad troseddol.

Ni ddylid cyfeirio’r cwyn fel arfer at Swyddfa’r Dyfarnwr tan eich bod wedi rhoi cyfle i’r HMRC ddatrys y broblem. Fodd bynnag, mewn achosion brys, gallai Swyddfa’r Dyfarnwr gynnig cyngor brys heb i chi fynd at yr HMRC yn gyntaf, er enghraifft, os oes yna risg o niwed anadferadwy oherwydd oedi. Os ydych yn cysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr yn uniongyrchol, cewch eich arwain trwy’r gweithdrefnau angenrheidiol.

Manylion cyswllt Swyddfa’r Dyfarnwr yw:

8th Floor
Euston Tower
286 Euston Road
Llundain
NW1 3US

Rhif ffôn: 0300 057 1111 neu 020 7667 1832
Ffacs: 0300 057 1212 neu 020 7667 1830
Gwefan: (New window) www.adjudicatorsoffice.gov.uk

Nôl i’r brig


Yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd

Gallai’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd eich helpu gyda chwynion yn erbyn Cyllid a Thollau EM os, er enghraifft, y bu:

  • oedi dianghenraid
  • methiant i roi cyngor priodol
  • methiant i ddilyn y gweithdrefnau cywir.

Ni all yr Ombwdsmon archwilio cwynion am bolisïau’r llywodraeth neu ddeddfwriaeth treth.

Os hoffech gwyno i’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd, mae’n rhaid i chi gysylltu’n gyntaf â’ch AS a gofyn bod y mater yn cael ei gyfeirio.

Os hoffech fwy o fanylion am yr ombwdsmon, yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru, yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon yng Ngogledd Iwerddon neu yn Yr Alban, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsmon yn Yr Alban.

Nôl i’r brig


Elusennau treth

Os na allwch gael ateb boddhaol i’ch problem dreth, gallai elusen dreth arbenigol eich helpu chi. Mae hyn yn gymwys os ydych ar incwm isel - tua £17,000 y flwyddyn neu lai. Mae yna ddau fath o elusennau treth:

  • TaxAid
  • TaxHelp for Older People (TOP).

TaxAid

Mae TaxAid yn rhedeg gwasanaeth llinell gymorth dros y ffôn a sesiynau cynghori wyneb yn wyneb yn Llundain, Birmingham, Manceinion a Newcastle. Maen nhw’n darparu cyngor, cymorth ac eiriolaeth annibynnol rhad ac am ddim i bobl sydd angen cyngor ar dreth neu ddyled treth. Gallant eich helpu gyda phroblemau ynghylch lwfansau treth, codau PAYE, Ôl-ddyledion treth, hunangyflogaeth, ffurflenni treth a gweinyddiaeth a chwynion Cyllid a Thollau EM.

Cewch eich annog i edrych ar eu gwefan cyn cysylltu â nhw. Efallai y byddan nhw’n medru cynnig apwyntiad os ffoniwch chi neu anfon e-bost atynt. Dyma’u manylion cyswllt:

TaxAid
Rhif ffôn: 0345 120 3779 (dydd Llun i ddydd Gwener 10yb tan 12 hanner dydd)
E-bost: info@taxaid.org.uk
Gwefan: (New window) www.taxaid.org.uk.

TaxHelp for Older People

Mae TaxHelp for Older People (TOP) yn wasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy’n darparu cyngor ar dreth i bobl sydd dros 60 oed ar incwm isel nad ydynt yn medru cyflogi ymgynghorydd treth proffesiynol.

Gellir trefnu apwyntiadau yn swyddfeydd megis Age Uk, neu eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Gellir trefnu ymweliadau cartref os ydych yn anabl.

Mae eu manylion cyswllt fel y canlyn:

TaxHelp for Older People
Pineapple Business Park
Salway Ash
Bridport
Dorset
DT6 5DB

Llinell gymorth: 0845 601 3321 neu 01308 488 066 (dydd Llun i ddydd Iau 9am tan 5pm a dydd Gwener 9am tan 4.30pm)
E-bost: taxvol@taxvol.org.uk
Gwefan: (New window) www.taxvol.org.uk

Nôl i’r brig


Ymgynghorwyr treth arbenigol

Os yw eich incwm yn rhy uchel i fod yn gymwys i dderbyn cyngor gan elusen dreth, mae’n bosib y bydd angen i chi gysylltu ag ymgynghorydd arbenigol a fydd yn codi tâl. Bydd y cyrff proffesiynol canlynol yn eich helpu i ddod o hyd i arbenigwr lleol.

The Association of Taxation Technicians
1st Floor, Artillery House
11-19 Artillery Row
Llundain SW1P 1RT

Rhif ffôn: 0844 251 0830
Ffacs: 0844 251 0831
E-bost: info@att.org.uk
Gwefan: (New window) www.att.org.uk

The Chartered Institute of Taxation
1st Floor, Artillery House
11-19 Artillery Row
Llundain SW1P 1RT

Rhif ffôn: 020 7340 0550 neu 0844 579 6700
Ffacs: 0844 579 6701
E-bost: post@tax.org.uk
Gwefan: (New window) www.tax.org.uk

The Institute of Indirect Taxation
Suite G1
The Stables
Station Road West
Oxted
Surrey
RH8 9EE

Rhif ffôn: 01883 730658
Ffacs: 01883 717778
E-bost: enquiries@theiit.org.uk
Gwefan: (New window) www.theiit.org.uk

The Institute of Chartered Accountants in England & Wales
Level 1
Metropolitan House
321 Avebury Boulevard
Milton Keynes
MK9 2FZ

Rhif ffôn: 01908 248100
Ffacs: 01908 248088
Gwefan: (New window) www.icaew.co.uk

The Institute of Chartered Accountants of Scotland
CA House
21 Haymarket Yards
Edinburgh
EH12 5BH

Rhif ffôn: 0131 347 0100
Ffacs: 0131 347 0105
E-bost: enquiries@icas.org.uk
Gwefan: (New window) www.icas.org.uk

Chartered Accountants Ireland
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
BT2 8BG

Rhif ffôn: 028 9043 5840
Ffacs: 028 9023 0071
E-bost: ca@charteredaccountants.ie
Gwefan: (New window) www.charteredaccountants.ie

The Association of Chartered Certified Accountants
2 Central Quay
89 Hydepark Street
Glasgow
G3 8BW

Rhif ffôn: 0141 582 2000
Ffacs: 0141 582 2222
E-bost: info@accaglobal.com
Gwefan: (New window) www.accaglobal.com

Nôl i’r brig