Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Cunlluniau cyflogaeth y llywodraeth

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Help i ddod o hyd i waith

Mae’r wybodaeth yma’n disgrifio prif gynlluniau cyflogaeth y Llywodraeth. Darperir mwyafrif y cynlluniau trwy swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith, ble gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth. Mae rhai cynlluniau cyflogaeth yn orfodol ar gyfer pobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) tra bod eraill yn wirfoddol. Hefyd, mae mwy o wybodaeth yma ynglyn â chynlluniau cyflogaeth ar gyfer yr hunan-gyflogedig, cynlluniau hyfforddi a mathau eraill o gymorth sydd ar gael.

Help i bobl anabl

Mae gan bob un o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith Gynghorydd Cyflogaeth yr Anabl (CCA) sy'n gysylltiedig â’r swyddfa ac sy'n darparu cyngor arbenigol ar gyfer pobl anabl a chyflogwyr neu gyflogwyr potensial. Gall y CCA roi cyngor ar ddod o hyd i waith, cadw swydd a chael help ymarferol trwy gynllun Mynediad i Waith a chyflogaeth â chefnogaeth.

Nôl i’r brig


Cynlluniau gorfodol

Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, mae'n rhaid i chi gymryd rhan mewn cynlluniau penodol os cewch eich cynghori i wneud hynny gan gynghorydd personol. Efallai y caiff eich budd-dâl ei effeithio os ydych yn gwrthod gwneud hyn neu'n gadael cynllun cyn ei gwblhau.

Sancsiynau budd-dâl

Os ydych yn gwrthod cymryd rhan mewn cynllun neu'n gadael cynllun cyn ei gwblhau, gellir cosbi eich budd-dâl. Mae hyn yn golygu y bydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei atal am bythefnos yn y man cyntaf.

Cytundeb ceisio gwaith

Os ydych yn mynd i swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith i ddod o hyd i waith, byddwch yn cael cyfweliad gan gynghorydd personol a fydd yn eich helpu i lunio cytundeb ceisio gwaith. Mae hyn yn restru'r camau y dylech eu cymryd er mwyn dod o hyd i waith ac mae'n ffurfio sylfaen eich cyfweliadau gyda’r cynghorydd personol.

Adolygiad 13-wythnos

Os nad ydych wedi dod o hyd i waith wedi 13 wythnos, bydd eich cynghorydd personol yn adolygu'r sefyllfa gyda chi. Gallai'r cyfweliad gymryd lle ar ddiwrnod heblaw'r diwrnod arferol y mae'r person di-waith yn mynychu'r ganolfan waith. Mae'n rhaid i chi fynychu'r cyfweliad.

Fel canlyniad i'r adolygiad 13-wythnos, efallai y cewch:

  • eich rhoi mewn cysylltiad â chyflogwyr sydd â swydd i'w gynnig
  • adolygiad i'ch cytundeb ceisio gwaith i adlewyrchu'r ffaith y byddwch yn ehangu'r amrediad o swyddi y byddwch yn ceisio amdanynt
  • cyfarwyddyd wedi'i anelu at wella eich gobaith o gael gwaith
  • eich cyfeirio at gynllun neu raglen.

Os nad ydych yn mynychu'r adolygiad 13-wythnos, neu os nad ydych yn gweithredu ar awgrymiadau eich cynghorydd personol, gellir cosbi eich budd-dâl.

Cyfweliadau ail-gychwyn

Os ydych yn dal i fod yn ddi-waith wedi 26 wythnos, gofynnir i chi fynychu Cyfweliad Ail-gychwyn gyda chynghorydd personol Swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith. Mae'n rhaid mynychu'r cyfweliad, a gallai methu â mynychu'r cyfweliad effeithio'ch budd-dâl.

Y Rhaglen Profiad Gwaith

Mae’r Rhaglen Profiad Gwaith i bobl sy’n 18 neu’n hyn. Mae’r rhaglen yn cynnwys profiad gwaith, sgiliau chwilio am swydd a sgiliau swydd. Mae’n anelu at roi profiad o amgylchedd gwaith go iawn i bobl ac yn para rhwng pythefnos ac wyth wythnos.

Os ydych eisoes yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ac yn cymryd rhan yn y rhaglen, fe fyddwch chi’n dal i gael Lwfans Ceisio Gwaith a rhaid i chi barhau i chwilio am waith yn ôl yr arfer. Efallai y bydd camymddwyn ar y rhaglen Profiad Gwaith yn golygu bod eich Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei stopio.

Cynlluniau 'Gweithio am eich budd-dal’

Cynllun Gweithgareddau Gwaith Gorfodol

Dyma gynllun cyflogaeth i bobl sy’n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ac sy’n 18 neu’n hŷn. Mae wedi’i anelu at bobl sydd angen cymorth ychwanegol i chwilio am swyddi ac i ennill sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn medru penderfynu a oes rhaid i chi gymryd rhan yn y cynllun.

Nod y cynllun hwn yw darparu gwaith neu weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith am hyd at 30 awr yr wythnos dros gyfnod o bedair wythnos i’ch helpu i wella eich siawns o gael gwaith. Er mwyn bod ar y cynllun, rhaid eich bod ar gael i weithio ac yn chwilio am waith, a rhaid eich bod wedi cytuno i gytundeb ceisio gwaith.

Os oes gofyn i chi gymryd rhan yn y cynllun, ond nid ydych yn gwneud hynny ac nid oes rheswm da iawn gennych dros beidio â chymryd rhan, fe fyddwch yn cael eich sancsiynu. Mae hyn yn golygu y bydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei ostwng neu stopio am gyfnod penodol. Ond, efallai y byddwch yn medru herio penderfyniad i’ch sancsiynu.

Am wybodaeth bellach ar sut i herio penderfyniad yngylch budd-dâl, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.

Y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter

Mae’r Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter yn gynllun ‘gweithio am eich budd-dal’ ar gyfer y rheiny sy’n hawlio lwfans ceisio gwaith. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn medru penderfynu a ydych chi’n cymryd rhan ai peidio.  Ei nod yw eich helpu i ddod o hyd i waith cyflogedig neu hunangyflogedig. Efallai y bydd y cynllun yn cynnwys gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, fel profiad gwaith neu chwilio am waith.

The Work Programme and New Enterprise Allowance are part of this scheme. Other new government initiatives

Mae’r Lwfans Mentrau Newydd a’r Rhaglen Waith yn rhan o’r cynllun hwn. Fe fydd sawl menter newydd arall gan y llywodraeth i helpu pobl i ddod o hyd i waith hefyd yn rhan o’r cynllun pan fyddan nhw’n cael eu cyflwyno, sef:

  • ·Amodoldeb Sgiliau
  • ·Academïau Gwasanaeth
  • ·y Rhaglen Waith.

Os nad oes gennych reswm da, os nad ydych yn cymryd rhan yn y Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter gellir atal eich lwfans ceisio gwaith neu ei dorri. Fe allai hyn ddigwydd hefyd os nad ydych yn ymuno ag un o fentrau’r llywodraeth sy’n rhan o’r cynllun.

Efallai y byddwch yn medru herio penderfyniad i atal eich budd-dal neu ei dorri.

Y Rhaglen Waith

Beth yw’r Rhaglen Waith?

Mae’r Rhaglen Waith yn rhan o’r Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter. Ei nod yw cael pobl sy’n hawlio budd-daliadau penodol i weithio mewn swydd barhaus. Mae yna sawl cynllun hwnt ac yma ar draws y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n cael eu rhedeg gan fudiadau gwahanol ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith. Caiff y mudiadau eu talu yn ôl eu canlyniadau. Po fwyaf o bobl y maen nhw’n eu helpu i ddod o hyd i waith, y mwyaf y cânt eu talu.

Mae’n rhaid i fudiadau sy’n rhedeg y Rhaglen Waith gynnig gwasanaeth sy’n uwch na lefel benodol. Ond, maen nhw’n rhydd i osod rheolau eu cynlluniau eu hunain ar sail amodau cyflogaeth ac economaidd lleol. Mae hyn yn golygu bod y rheolau cymhwysedd ar gyfer y rheiny sydd am gymryd rhan yn y Rhaglen Waith yn medru amrywio o ardal i ardal.

Pwy sy’n gorfod cymryd rhan yn y Rhaglen Waith

Fe fydd yn rhaid i chi gymryd rhan yn y Rhaglen Waith os ydych yn perthyn i unrhyw un/rai o’r grwpiau canlynol o bobl:

  • ·rydych chi rhwng 18 a 24 ac wedi hawlio lwfans ceisio gwaith ers naw mis
  • ·rydych chi’n 25 oed neu’n hyn ac wedi hawlio lwfans ceisio gwaith ers 12 mis
  • ·rydych chi o dan anfantais ddifrifol yn y farchnad lafur, er enghraifft oherwydd mae anabledd wedi ei gwneud yn anodd i chi ddod o hyd i waith. Mae’r adeg y byddwch chi’n gymwys, a ph’un ai y medrwch chi ddewis cymryd rhan, yn dibynnu ym mha ardal yr ydych chi’n byw a beth yw eich amgylchiadau
  • ·yn ddiweddar, rydych chi wedi hawlio budd-dal analluogrwydd ar ôl hawlio lwfans ceisio gwaith ers tri mis
  • ·rydych chi’n hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm, yn y grŵp gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith, ac mae digwyl i chi fod yn ddigon iach i weithio o fewn tri mis.

Pwy sy’n medru dewis cymryd rhan yn y Rhaglen Waith

Rydych yn medru gwirfoddoli i gymryd rhan yn y Rhaglen Waith ar unrhyw adeg os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau canlynol o bobl:

·rydych chi’n hawlio lwfans cyflogaeth a chymorth ond nid oes angen i chi gymryd rhan

  • rydych yn cael credyd pensiwn
  • ·yn Lloegr, rydych chi’n cael cymhorthdal incwm neu fudd-dal analluogrwydd.

Cwynion am y Rhaglen Waith

Mae’n rhaid fod gan y mudiad sy’n rhedeg y Rhaglen Waith weithdrefn gwyno, a rhaid i’r mudiad ddweud wrthych beth ydyw. Os ydych yn cwyno, ac nid yw’r mudiad yn medru datrys y gwyn, fe fyddwch yn medru anfon eich cwyn at yr Archwilydd Achos Annibynnol. Mae’r Archwilydd Achos Annibynnol yn delio â chwynion heb eu datrys ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Nôl i’r brig


Cynlluniau gwirfoddol

Mai rhai o gynlluniau'r llywodraeth yn rai gwirfoddol a gallwch ofyn i’ch cynghorydd personol am gyngor ynglyn ag ymuno ag un.

Mewn rhai achosion, fodd bynnag, gallai fod yn rhaid i chi fynychu'r cynllun os yw’r cynghorydd personol yn teimlo y byddech yn elwa ohono. Yn yr achos yma, byddwch yn cael eich cyfeirio trwy gyfarwyddyd ceisio gwaith. Os ydych yn cael cyfarwyddyd ceisio gwaith i fynychu unrhyw rai 'r cynlluniau isod, byddai methu ag ufuddhau neu adael cyn cwblhau'r cynllun yn gallu arwain at sancsiynu eich budd-dâl.

‘Training for Work’ yn yr Alban

Mae Training for Work yn raglen hyfforddiant ar gyfer oedolion yn yr Alban sy’n 18 neu’n hŷn, ac sydd wedi bod yn ddiwaith am gyfnod hir. Cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith am fwy o wybodaeth. Mae yna wybodaeth ynghylch Training for Work ar wefan Scottish Enterprise hefyd, sef: (New window) www.scottish-enterprise.com.

Community Jobs Scotland (CJS)

Mae Community Jobs Scotland (CJS) yn gynllun gan Lywodraeth yr Alban sy’n helpu pobl ifanc 16-24 oed i gael swydd â thâl yn y sector gwirfoddol. Mae angen i chi fod wedi bod yn ddi-waith ers chwe mis, o leiaf, cyn iddyn nhw eich ystyried. Os ydych chi dros 25, fe fyddwch yn medru ceisio os ydych yn byw mewn ardal benodol ble mae diweithdra’n uchel, ac os ydych hefyd wedi bod yn ddiwaith ers o leiaf chwe mis. Rhaid bod holl swyddi CJS am o leiaf 25 awr yr wythnos a rhaid iddynt bara am o leiaf 26 wythnos, neu 39 wythnos os ydych yn 16 neu’n 17. Telir yr isafswm cyflog cenedlaethol, neu fwy, am bob swydd.

Fe fydd angen i’ch cynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith eich cyfeirio chi at y cynllun hwn os ydych dros 18. Os ydych yn 16 neu’n 17, fe fydd angen i chi gysylltu â’ch cyngorydd Skills Development Scotland am wybodaeth ac i gael eich cyfeirio at y cynllun CJS.

Am wybodaeth bellach am y cynllun hwn, rhowch glic ar wefan SCVO (Scottish Council for Voluntary Organisations) yn (New window) www.scvo.org.uk.

Dysgu yn Seiliedig ar Waith i Oedolion yng Nghymru

Mae Dysgu yn Seiliedig ar Waith i Oedolion yng Nghymru wedi’i hanelu at bobl 25-63 oed sydd wedi bod yn ddiwaith ers 6 mis neu fwy. Mae rhai grwpiau o bobl yn cael ymuno’n gynnar, er enghraifft rhieni sengl, pobl ag anableddau a’r rheiny sydd yn y mwyaf o berygl o beidio â gallu cael swydd, neu gadw swydd, er enghraifft cyn-droseddwyr.

Mae Dysgu yn Seiliedig ar Waith i Oedolion yng Nghymru yn darparu rhaglen sydd wedi’i theilwra i gwrdd â’ch anghenion unigol chi, sy’n medru cynnwys arweiniad, profiad gwaith, hyfforddiant a chymwysterau.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Mae gwybodaeth bellach hefyd ar gael yn: (New window) www.elwa.org.uk.

Canolfannau Rhaglen (gan gynnwys Clwb Gwaith)

Caiff Canolfannau Rhaglen eu gweithredu ar ran y Ganolfan Byd Gwaith gan amrywiaeth o ddarparwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae gan bob Canolfan Raglen gytundeb gyda'r Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu rhaglenni chwilio am waith a rhaglenni arweiniad penodol, a elwir weithiau'n Glybiau Gwaith. Maen nhw'n gallu helpu gyda thechnegau cyfweld, er enghraifft, a pharatoi CV.

Mae Canolfannau Rhaglen yn rhoi cymorth i bobl di-waith sy'n 25 neu'n hyn ac sydd wedi bod allan o waith ac yn hawlio budd-daliadau am chwech mis neu fwy. Rydych yn gymwys fel person sydd wedi hawlio budd-daliadau os bu eich partner yn derbyn budd-daliadau ar eich rhan. Mewn rhai ardaloedd, mae gan geiswyr gwaith sydd rhwng 18 a 24 mlwydd oed fynediad at y rhaglen. Mae staff y Ganolfan Byd Gwaith yn medru dweud wrthych os yw hyn ar gael yn eich hardal chi.

Efallai bod rhai categorïau arbennig o geiswyr gwaith yn medru cael mynediad at Ganolfannau Rhaglen ar unwaith. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, pobl sydd ag anableddau, pobl sydd â phroblemau llythrennedd/rhifedd, y rheiny sy'n ddi-gartref, yn gyn-droseddwyr neu bobl sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn gofalu am deulu.

Os ydych yn dymuno ymuno â Chanolfan Rhaglen, mae'n rhaid i chi:

  • fod yn chwilio am waith, yn hytrach na bod yn hyfforddi neu'n cymryd rhan mewn cynllun neu raglen arall; a
  • bod yn barod i fynychu'n rheolaidd.

Mae Canolfannau Rhaglen yn cynnig help ar ffurf sesiynau hyfforddiant sy'n ceisio gwella technegau chwilio am waith a, lle bod angen, adfer hunan-hyder. Bydd yna gyfleusterau ar gael i chi hefyd i'ch helpu i ddod o hyd i swydd, fel y defnydd o ddesg, ffôn, prosesydd geiriau, papurau newydd, llyfrau ffôn, stampiau, papurach a chyfleusterau llungopïo.

Efallai y bydd yn rhaid i chi gytuno gyda'r Ganolfan sawl trywydd swydd y byddwch yn eu dilyn bob diwrnod.

Tra'n mynychu'r Ganolfan Rhaglen, byddwch yn derbyn eich budd-daliadau arferol, a thelir am eich costau. Mae mwy o fanylion ar gael o swyddfa leol eich Canolfan Byd Gwaith.

Pobl sydd ag anawsterau llythrennedd

Mewn rhai ardaloedd, mae yna ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd ag anawsterau llythrennedd difrifol neu bobl nad eu hiaith gyntaf yw Saesneg. Mae mwy o wybodaeth ynglyn â chyfleusterau arbennig ar gael o’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Pobl anabl

Os ydych yn anabl, rydych yn gymwys i wneud cais am gymorth arbenigol i'ch helpu i ddefnyddio cyfleusterau Canolfannau Rhaglen. Gall hyn gynnwys cymhorthion ffôn, dyfeisiadau braille, cadeiriau arbennig, darllenydd os ydych yn ddall neu'n rhannol ddall, neu gyfathrebydd os oes gennych anawsterau gyda'ch clyw. Mewn rhai ardaloedd, efallai bod yna Ganolfan sydd a chyfleusterau arbennig ar gyfer pobl sydd â phroblemau anabledd neu un sy'n darparu cyfleusterau, er enghraifft, ar gyfer grwp o bobl sydd â nam ar eu clyw. Mae gwybodaeth bellach ynglyn â chyfleusterau arbennig ar gyfer pobl anabl ar gael o’r Ganolfan Byd Gwaith.

Treialon Gwaith

Os ydych wedi ceisio am swydd ac wedi cael ei chynnig, mae Treialon Gwaith yn eich galluogi i roi tro ar y swydd tra’n dal i gael budd-daliadau. Mae hefyd yn galluogi’r cyflogwr i weld sut yr ydych chi’n dod ymlaen yn y swydd cyn penderfynu os yw am eich cyflogi’n barhaol. Mae mwyafrif y Treialon Gwaith yn para ychydig ddiwrnodau yn unig.

Er mwyn caniatau Treial Gwaith, rhaid bod y canlynol yn wir:

  • ·rhaid bod gan y cyflogwr Gytundeb Treialon Gwaith gyda’r Ganolfan Byd Gwaith
  • ·rhaid eich bod yn gymwys (gweler isod) ac yn fodlon cymryd rhan
  • ·rhaid i’ch cynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith gytuno bod y treialon yn addas
  • ·rhaid bod y swydd am fwy nag 16 awr yr wythnos a rhaid bod disgwyl iddi bara o leiaf tri mis.

Fe fyddwch yn gymwys i gael Treial Gwaith yn awtomatig os ydych yn 18 neu’n hyn ac yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

·Lwfans Ceisio Gwaith ers chwe mis neu fwy

  • Cymhorthdal Incwm
  • ·Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • ·Budd-dal Analluogrwydd
  • ·Lwfans Anabledd Difrifol
  • ·Lwfans Cynhalwyr
  • ·Budd-dal Profedigaeth
  • ·Credyd Pensiwn.

Mae rhai pobl eraill sy’n ddiwaith hefyd yn gymwys i gael Treial Gwaith, ac felly os ydych am geisio, dylech holi’ch Cynghorydd yn y Ganolfan Waith ynglyn â hyn.

Fe fydd y cyflogwr yn gwarantu eich ystyried ar gyfer swydd barhaol os ydych yn addas, ond fe all y cyflogwr ddiweddu’r treial ar unrhyw adeg.  Ni fydd eich budd-dal yn dioddef os ydych chi neu’r cyflogwr yn penderfynu peidio â pharhau gyda’r treial.

Ar Dreialon Gwaith, fe fyddwch yn parhau i gael eich budd-dal arferol a hefyd yn medru hawlio costau teithio.

Os cewch gynnig swydd ar ddiwedd y Treial Gwaith, ond rydych yn penderfynu peidio â’i derbyn, ni fyddwch yn dioddef cosb trwy eich budd-dal.  Os na chewch gynnig swydd, fe fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gofyn i’r cyflogwr ac i chi am adborth. Fe fydd eich cynghorydd personol yn medru defnyddio’r wybodaeth a geir yn yr adborth wrth ystyried sut ddylech chi barhau i chwilio am waith.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch Treialon Gwaith, a sut i drefnu un, ar wefan (New window) Directgov.

Nôl i’r brig


Help gyda dod yn hunan-gyflogedig

Weithiau, mae Canolfannau Byd Gwaith yn hysbysebu manylion ynglyn â phosibiliadau hunan-gyflogaeth ar gyfer pobl di-waith, gan gynnwys gwaith contract a swyddi comisiwn-yn-unig gwag. Efallai y byddant hefyd yn medru rhoi gwybodaeth i chi ar gychwyn busnes bach neu drefnu etholfraint. Os ydych am gael gwybodaeth, dylech siarad â'ch cynghorydd personol.

Mae Canolfannau Byd Gwaith hefyd yn medru eich cyfeirio chi at eich Clwb Menter lleol. Mae Clybiau Menter yn cael eu rhedeg gan fusnesau lleol ac yn gallu rhoi cyngor a chymorth i bobl ddi-waith sydd am ddechrau eu busnes eu hunain. Mae mwy o wybodaeth ynghylch y Clybiau Menter ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiyanu yn: (New window) www.dwp.gov.uk.

Lwfans Mentrau Newydd

Os ydych yn ddiwaith, efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Mentrau Newydd i’ch helpu i ddechrau busnes. Mae ar gael mewn ardaloedd penodol yn unig o fis Ebrill 2011, ac ni fydd ar gael yn genedlaethol hyd nes tymor yr Hydref 2011. Mae’r Lwfans Mentrau Newydd yn rhan o’r Cynllun Cyflogaeth, Sgiliau a Menter.

Yn Lloegr, mae help hefyd ar gael ar gyfer pobl ddi-waith sydd am gychwyn busnes trwy Business Link. Rhif ffôn eu llinell gymorth yw 0845 600 9006 neu minicom 0845 606 2666 a chyfeiriad eu gwefan yn: (New window) www.businesslink.gov.uk.

Yng Nghymru, mae busnes.cymru.gov.uk yn rhaglen gan Lywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol a gynlluniwyd i helpu pobl sydd am ddechrau busnes, cynnal busnes neu ehangu busnes yng Nghymru. Fe allwch gysylltu â’u llinell gymorth ar 03000 6 03000. Dyma gyfeiriad eu gwefan: (New window) www.business-support-wales.gov.uk.

Yn yr Alban, mae help ar gael i bobl ddiwaith sydd am ddechrau eu busnes eu hunain trwy Business Gateway. Fe allwch gysylltu â’u llinell gymorth ar 0845 609 6611, neu minicom 0800 023 2071. Dyma gyfeiriad eu gwefan: (New window) www.bgateway.com.

Os ydych rhwng 18 a 30 oed ac mae gennych syniad ar gyfer busnes, efallai y bydd Prince's Trust yn medru helpu gyda chyngor a nawdd. Cyfeiriad y wefan yw: (New window) www.princes-trust.org.uk

Am wybodaeth gyffredinol ynglyn â dod yn hunan-gyflogedig, gweler Hunan-gyflogaeth: rhestr wirio.

Nôl i’r brig


Cynlluniau hyfforddi

Dysgu yn y Gwaith i bobl ifainc (16-18 mlwydd oed)

Dysgu yn y Gwaith i bobl ifainc (DYG) yw'r enw cyffredinol am gynlluniau a ariennir gan y llywodraeth sy'n rhoi hyfforddiant i bobl ifainc 16-18 mlwydd oed. Mae'n cynnwys:

  • Rhaglenni Prentisiaeth
  • Hyfforddiant Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn Lloegr
  • Cymhwyster Galwedigaethol yr Alban (SVQ) yn yr Alban
  • Mynediad i gyflogaeth (e2e) yn Lloegr
  • Rhaglen Get Ready for Work yn yr Alban
  • Rhaglen ‘Training for Work’ yn yr Alban
  • hyfforddiant paratoadol
  • yr amser iawn i ffwrdd ar gyfer astudio neu hyfforddiant
  • Skillseekers yn yr Alban
  • Hyfforddeiaethau yng Nghymru

Gan nad yw'r rhan fwyaf o bobl ifainc 16 ac 17 mlwydd oed yn gymwys i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm, efallai mai DYG yw eu hunig ffordd o gael unrhyw incwm, gan y byddant yn derbyn lwfans hyfforddiant (neu gyflog os ydynt yn gyflogedig).

Efallai y bydd rhaglenni hyfforddiant yn gyfuniad o brofiad gwaith, hyfforddiant yn y gwaith neu hyfforddiant tu allan i'r gwaith. Nid oes uchafswm neu leiafswm amser ar gyfer hyd y rhaglen a gall fod yn llawn amser neu'n ran amser. Fodd bynnag, mae'n rhaid i berson ifanc ar raglen DYG gael y cyfle i ennill cymhwyster sy'n gyfwerth â lefel 2 y Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) neu Gymhwyster Galwedigaethol yr Alban (SVQ).

Yn Lloegr, mae DYG yn cael ei rhedeg gan fudiad o’r enw Young People's Learning Agency. Yng Nghymru, mae’n cael ei rhedeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn yr Alban gan Skills Development Scotland. Mae mwy o wybodaeth ynghylch WBL yn yr Alban ar gael oddi ar wefan Skills Development Scotland yn (New window) www.skillsdevelopmentscotland.co.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch prentisiaethau, hyfforddeiaethau a hyfforddiant yng Nghymru, rhowch glic ar wefan Gyrfa Cymru yn (New window) www.careerswales.com.

Am fwy o wybodaeth am DYG yn Lloegr, gweler Help ariannol i fyfyrwyr 16-19 oed.

Rhaglenni Prentisiaeth

Mae prentisiaethau’n darparu hyfforddiant yn y gwaith i bobl ifanc ac oedolion sydd am ddysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau tra’n gweithio.

Am fwy o wybodaeth ar raglenni prentisiaeth yn Lloegr, ewch at: (New window) www.apprenticeships.org.uk.

Am fwy o wybodaeth ar raglenni prentisiaeth yng Nghymru, ewch at (New window) www.careerswales.com, neu ffoniwch Learn Direct ar 0800 100 900.

Am fwy o wybodaeth ar brentisiaethau yn yr Alban, ewch at (New window) www.skillsdevelopmentscotland.co.uk, neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 8 502 502.

Nôl i’r brig


Mathau eraill o help

Mae mathau eraill o help ar gael ar gyfer pobl di-waith sy'n chwilio am waith neu sydd wedi dod o hyd i waith ond sydd angen help i gychwyn.

Gwaith ar Brawf

O dan y cynllun Gwaith ar Brawf, os oeddech yn arfer bod yn ddi-waith, fe fyddwch yn medru trïo swydd heb y perygl o golli budd-dâl os ydych yn gadael, tra'ch bod chi'n gadael y swydd o'ch gwirfodd a ddim yn colli'r swydd am i chi gamymddwyn. Os ydych yn gwrthod cymryd swydd addas, gallai hyn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith.

Ni fydd hyn yn effeithio ar eich Lwfans Ceisio Gwaith os:

  • nad ydych wedi gwneud unrhyw waith o gwbl am o leiaf 13 wythnos yn union cyn i chi gychwyn y gyflogaeth (nid oes rhaid i chi fod wedi hawlio budd-dâl) ac heb fod mewn addysg llawn amser; a
  • rydych weid gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos yn y swydd perthnasol; a
  • rydych wedi gadael y swydd wedi pedair wythnos (hynny yw, mae'n rhaid eich bod wedi dechrau'r pumed wythnos o waith) ond heb fod yn hwyrach na diwedd y 12 fed wythnos (heb gynnwys diwrnodau salwch, gwyliau, gwasanaeth rheithgor, hunan-gyflogaeth ac unrhyw wythnosau pan nad oeddech yn gweithio).

Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer Gwaith ar Brawf, hyd yn oed os ydych yn ddi-waith, os buoch yn gweithio'n rhan-amser ar unrhyw rai o'r 13-wythnos. Mae yna rai eithriadau ar gyfer gwaith a wneir ar gyfer y gwasanaethau brys.

Mae'r canlynol yn cyfrif tuag at y cyfnod cymhwyso o 13-wythnos:

  • cyfnodau o hyfforddiant galwedigaethol, fel Dysgu yn Seiliedig ar Waith i Oedolion
  • amser a dreuliwyd ar Hyfforddiant yn Seiliedig ar waith i Bobl Ifanc tra bod y person o dan hyfforddiant ac nid yn gyflogedig
  • amser pan dderbynioch Lwfans Ail-sefydlu Cyflogaeth
  • amser a dreuliwyd yn astudio/mewn addysg rhan-amser
  • cyfnodau o salwch pan dderbynioch naill ai dâl salwch statudol, budd-dâl analluogrwydd neu dâl mamolaeth statudol

Os ydych am ddychwelyd at fudd-daliadau neu hawlio budd-daliadau wedi Gwaith ar Brawf, sicrhewch a ydych yn bodloni'r holl amodau cyn eich bod yn gadael y swydd.

Grant Gwaith

Mae Grant Gwaith yn un taliad di-dreth i annog rhywun sydd wedi bod yn ddi-waith i ystyried neu dderbyn gwaith y byddai fel arall heb fedru ei ystyried oherwydd costau dychwelyd i'r gwaith. Mae Grant Gwaith yn £100 i bob sengl a chyplau heb blant ac yn £250 i rieni unigol a chyplau sydd â phlant.

Bwriedir Grant Gwaith i fynd tuag at gostau dychwelyd i'r gwaith. Rydych yn medru ei wario yn ôl eich dymuniad, ond fel arfer, er enghraifft, bydd yn mynd tuag at ddillad newydd neu drafnidiaeth.

Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod wedi bod yn derbyn budd-dâl dros y 26 wythnos diwethaf. Hefyd, mae'n rhaid i'r gwaith gwrdd ag amodau penodol.

Er mwyn cael Grant Gwaith, mae'n rhaid eich bod wedi bod yn cael un o'r budd-daliadau canlynol neu gyfuniad o unrhyw rai ohonynt, am 26 wythnos yn ddi-dor:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dâl Analluogrwydd
  • Lwfans Analluedd Difrifol

Efallai y bydd rhai pobl eraill sy’n cael lwfansau gan y Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn medru cael Grant Gwaith. Holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol i fod yn siwr.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn Grant Gwaith, mae'n rhaid i'r swydd yr ydych yn ei gymryd fod:

  • am 16 awr yr wythnos neu fwy
  • yn debygol o barhau am o leiaf pump wythnos
  • yn swydd newydd, yn gynnydd mewn oriau mewn swydd sydd eisoes yn bodoli (i ddod ag oriau'r swydd dros 16 awr), neu'n gyfuniad o swyddi.

Byddwch hefyd yn gymwys i dderbyn Grant Gwaith os ydych yn dod yn hunan-gyflogedig ac mae'r gwaith yr ydych yn ei gymryd yn cwrdd â'r meini prawf uchod.

Efallai y byddwch chi'n medru cael Grant Gwaith os yw'ch partner yn dechrau gweithio am 24 awr yr wythnos neu fwy, ac mae hyn yn golygu bod eich Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm yn dod i ben.

Telir Grant Gwaith yn awtomatig pan fydd eich cais am fudd-dal yn cau. Ond, rhaid i chi ddweud wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith o fewn 21 diwrnod i’r dyddiad yr ydych yn dechrau swydd newydd neu y mae eich oriau gwaith yn cynyddu.

Cronfa Cymorth Hyblyg

Os ydych yn gwsmer i’r Ganolfan Byd Gwaith, efallai y byddwch yn medru cael taliad gan y Gronfa Cymorth Hyblyg i dalu am unrhyw dreuliau sy’n codi tra’ch bod yn cymryd gwaith neu hyfforddiant. Ond, mae i fyny i’ch Canolfan Byd Gwaith leol i benderfynu a fydd yn talu’r costau hyn, nid oes hawl gennych i’w hawlio.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael help o dan y Gronfa os nad ydych yn y Rhaglen Waith. Mae’r Rhaglen Waith yn gynllun gan y llywodraeth i gael pobl i weithio.

I ddarganfod pa help sy’n debygol o fod ar gael i chi, holwch eich cynghorydd personol yn eich Canolfan Byd Gwaith.

Credyd hunan-gyflogaeth

Os ydych wedi bod yn ddi-waith ac yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am 13 wythnos neu fwy, ac rydych yn dod yn hunangyflogedig ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn medru cael credyd hunangyflogaeth sy’n werth £50 yr wythnos. Byddwch ond yn medru ei gael os ydych yn stopio hawlio Lwfans Ceisio Gwaith ac rydych yn disgwyl i’r gwaith bara o leiaf 5 wythnos. Holwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am fwy o fanylion.

Credyd mewn gwaith

Os ydych yn rhiant unigol sy'n hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith ac yn derbyn swydd ble rydych yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn medru cael credyd mewn gwaith sy'n werth £40 yr wythnos, neu £60 os ydych yn byw yn Llundain. Mewn rhai rhannau o'r wlad, mae credyd mewn gwaith ar gael i bob rhiant sy'n gyfrifol am blentyn dan 16, nid dim ond rhieni unigol. Rydych yn medru ei gael am hyd at 52 wythnos. Holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol am fanylion pellach.

Cronfa Ddewisol Frys i’r rheiny sy’n Gweithio

Efallai y bydd rhieni sengl sy’n dod oddi ar fudd-daliadau ac yn mynd i weithio angen arian i ynmdopi gyda thrafferthion ariannol annisgwyl sy’n medru eu stopio rhag parhau i weithio. Os ydych yn y sefyllfa yma, rydych yn medru cyflwyno cais i gronfa o’r enw In-work Emergency Discretion Fund. Mewn rhai ardaliedd, mae pob rhiant yn gymwys. Rhaid bod plentyn dibynnol gennych yn byw yn eich cartref a rhaid eich bod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos. Rhaid bod disgwyl i’ch swydd bara o leiaf 26 wythnos a rhaid eich bod wedi bod yn y swydd am lai na 26 wythnos. Rydych yn medru cael taliad o hyd at £300. Mae’r gronfa hon ond yn gwneud taliadau dewisol, a’ch cynghorydd personol yn y Ganolfan Byd Gwaith sy’n penderfynu a ddylech chi gael yr arian. Holwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am fanylion pellach.

Llinell Gymorth ar Yrfaoedd i Bobl Ifanc (Lloegr yn unig ar gyfer pobl 13 - 19 mlwydd oed)

Mae cyngor a gwybodaeth ar gael ar yrfaoedd, gwaith a dysgu gan linell gymorth o’r enw Careers Helpline for Young People, os ydych yn berson ifanc rhwng 13 ac 19. Mae cynghorwyr y Llinell Gymorth yn darparu cyngor a gwybodaeth un-i-un cyfrinachol dros y ffôn, drwy neges testun, e-bost a gwe-sgwrsio, rhwng 8.00yb a 10.00yh saith niwrnod yr wythnos. Mae’r manylion cyswllt ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Prifysgol Diwydiant (UFI) (ar gyfer pobl sy'n 19 neu'n hŷn)

Mae'r UFI yn hybu hyfforddiant ymhlith busnesau ac unigolion mewn sectorau galwedigaethol lle mae yna brinder sgiliau, ac yn annog oedolion sydd â sgiliau llythrennedd neu rifedd isel i gael hyfforddiant i wella'r sgiliau yma.

Mae busnesau sy'n ymuno â'r cynllun aelodaeth gorfforaethol gyda'r UFI yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan yr UFI fel y gallant ddarparu hyfforddiant ar gyfer eu staff. Ni fydd UFI yn darparu hyfforddiant yn uniongyrchol i'r busnes neu'r unigolyn ond bydd yn cyfeirio pobl at hyfforddiant sydd eisoes ar gael neu'n annog creu darpariaethau hyfforddiant newydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael hyfforddiant drwy'r UFI, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu wefan cyswllt dysgu, sef: (New window) www.learndirect.co.uk.

Individual Learning Accounts Scotland

Mae Individual Learning Accounts Scotland (ILA Scotland) yn gynllun gan Lywodraeth yr Alban ar gyfer unrhyw un sy'n 16 neu'n hŷn ac yn byw yn yr Alban. Os ydych yn ennill £22,000 y flwyddyn, neu lai, neu ar fudd-daliadau, fe fyddwch yn medru ceisio am gyfrif ILA a fydd yn rhoi hyd at £200 y flwyddyn i chi tuag at amrywiaeth eang o gyrsiau gan ddarparwyr addysg ledled yr Alban.

Os ydych ar incwm isel neu fudd-daliadau ac eisiau astudio'n rhan amser yn y coleg neu'r brifysgol, efallai y byddwch yn medru cael dyfarniad o hyd at £500 y flwyddyn.

Gellir cael mwy o wybodaeth am gynllun ILA Scotland oddi ar wefan ILA Scotland yn: (New window) www.ilascotland.org.uk neu ar radffôn 0800 100 1090.

Directgov

Mae gwefan y llywodraeth, Directgov, yn darparu llawer o wybodaeth ar gyfer pobl sy’n chwilio am waith, gan gynnwys teclyn i chwilio am swyddi ar-lein yn (New window) www.direct.gov.uk.

Fe allwch lawrlwytho taflenni ffeithiau sy’n sôn am lunio CV a llythyron, llenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliad.

Gwaith yn Ewrop

Mae swyddi gwag a gwybodaeth ar amodau byw a gweithio ar draws Ewrop ar gael ar wefan EURES yn (New window) www.ec.europa.eu.

Mae EURES yn dalfyriad o enw mudiad o’r enw European Employment Services, sy’n fudiad o gyrff llywodraethu’r Undeb Ewropeaidd.

Nôl i’r brig


Help ariannol o fath arall

Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn help ariannol o fath arall o ganlyniad i gychwyn gwaith a dod oddi ar fudd-daliadau, er enghraifft:-

  • taliad estynedig Budd-dâl Tai neu Fudd-dâl Treth Gyngor
  • taliadau ar log morgais, os ydych wedi bod yn cael rhai budd-daliadau sy’n ddarostyngedig i brawf modd
  • Credyd Treth Gwaith.

Am fwy o wybodaeth ar unrhyw un o'r uchod, dylech gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft eich Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig