Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae yna gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil. Mae sail hil yn cynnwys lliw, hil, cenedligrwydd a tharddiad ethnig a chenedlaethol. Gall gwahaniaethu ddod o unrhyw gyfeiriad. Gallai fod yn gydweithiwr, yn oruchwylydd adran, eich rheolwr neu'ch cyflogwr. Nid oes rhaid profi bod y gwahaniaethu yn fwriadol – mae'r ffaith ei fod wedi digwydd yn ddigon i gymryd camau.
Os ydych yn teimlo bod cyflogwr yn eich trîn yn annheg, mae yna nifer o gamau yn gallwch eu cymryd. Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trîn yn llai ffafriol nag eraill oherwydd eich lliw, hil, cenedligrwydd neu darddiad ethnig neu genedlaethol, dylech weithredu cyn gynted â phosib. Y peth cyntaf i'w wneud yw darganfod a yw cydweithwyr eraill yn cael yr un driniaeth. Darganfyddwch a oes unrhyw un yn fodlon eich cefnogi. Os ydych yn medru, ceisiwch siarad yn bersonol â'r person sy'n gwahaniaethu yn eich herbyn a gofynnwch iddo/i stopio neu rybuddiwch y byddwch yn cwyno'n swyddogol. Dylech wneud hyn os ydych yn teimlo ei fod yn ddiogel yn unig. Efallai y byddai o gymorth i chi gael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi pan fyddwch yn gwneud hyn.
Dylech ddweud wrth eich rheolwr beth sy'n digwydd. Cofnodwch hyn yn ysgrifenedig a chadwch gopi. O dan y gyfraith, mae'n ofynnol i'ch cyflogwr eich amddiffyn chi rhag gwahaniaethu ar sail hil. Os mai'ch rheolwr chi sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn neu'n aflonyddu arnoch, dywedwch wrth rywun sydd â swydd uwch o fewn y sefydliad.
Dylech hefyd gasglu tystiolaeth. Mae hyn yn medru cynnwys cadw dyddiadur neu gofnod o amser, dyddiad a lleoliad unrhyw ddigwyddiadau, yr hyn a ddywedwyd neu a wnaethpwyd, pwy oedd yn gysylltiedig, a oedd unrhyw lygaid-dyst a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr eraill. Cofnodwch enwau a swyddi'r rheiny sydd, yn eich barn chi, yn cael eu trin yn fwy ffafriol na chi, neu fanylion y rheol neu'r polisi sy'n eich gosod chi ar anfantais, a pham mae'n gwneud hyn.
Os na fydd pethau'n gwella, siaradwch â'ch undeb, os ydych yn aelod, neu'ch adran personel. Efallai y byddant yn medru eich helpu i atal y gwahaniaethu.
Os nad yw hyn yn helpu, efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr. Er bod y gyfraith yn medru helpu eich amddiffyn, dylech sylweddoli, os ydych yn cwyno'n ffurfiol, fod yna berygl i hyn wneud eich bywyd yn y gwaith hyd yn oed yn fwy anghyffyrddus.
Os na fydd hyn yn gweithio, y cam olaf, efallai, fydd dwyn honiad o wahaniaethu ar sail hil gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda'ch cyflogwr yn gyntaf. Mae yna derfynau amser llym, felly mynnwch gyngor yn gynnar.
Nid oes angen eich bod wedi gweithio i'ch cyflogwr am unrhyw gyfnod penodol o amser cyn i chi fedru hawlio gwahaniaethu ar sail hil. Os ydych wedi cael eich diswyddo, efallai y byddwch yn medru hawlio diswyddiad annheg hefyd.
Fe fydd angen i chi brofi eich achos. Dyna pham mae casglu tystiolaeth mor bwysig. Rydych yn medru gofyn i'ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Mae hyn yn medru helpu cefnogi eich achos. Mae yna derfynau amser llym ac fe fydd angen i chi gael cyngor i'ch helpu i wneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu yn y gwaith,gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith. Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler hefyd Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil, yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil a ffynonellau cymorth, gweler Cymryd camau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddiad annheg oherwydd gwahaniaethu, gweler Diswyddiad.
Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth wneud cwyn am wahaniaethu yn y gwaith,, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu ar sail hil yn y gwaith, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, rhowch glic ar CAB agosaf.