Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydych yn cael eich diswyddo, fel arfer fe fydd hawl gennych i gyfnod o rybudd, sef y cyfnod o amser rhwng y diwrnod y dywedwyd wrthych fod yn rhaid i chi adael eich swydd, a'r diwrnod yr ydych yn gadael eich swydd (dyddiad eich diswyddiad). Nid yw'r rheol hon yn berthnasol os ydych wedi cael eich diswyddo am gamymddwyn difrifol. Mae camymddwyn difrifol yn cynnwys pethau fel dwyn oddi wrth eich cyflogwr neu bod yn feddw neu'n dreisgar yn y gwaith.
Mae'r gyfraith yn nodi'r cyfnod lleiaf o rybudd y dylech ei gael. Mae'n dibynnu am faint o amser yr ydych wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr. Dyma'r cyfnod lleiaf o rybudd y dylech ei gael:
Ni ddylech dderbyn llai o rybudd na'r lleiafrif cyfreithiol, ond efallai y bydd eich cytundeb cyflogaeth yn rhoi hawl i chi i dderbyn mwy o rybudd na'r lleiafswm cyfreithiol.
Os nad yw'r gyfraith yn rhoi'r hawl hwn i chi i gael rhybudd, er enghraifft, os ydych wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr am lai na blwyddyn, ac nid yw eich cytundeb yn sôn am gyfnod rhybudd, yna fe fydd hawl gennych i gyfnod 'rhesymol' o rybudd o hyd. Fe fydd yr hyn sy'n 'rhesymol' yn dibynnu ar eich cyfnod cyflog. Er enghraifft, os cewch eich talu'n wythnosol, mae'n bosib i chi daddlau bod wythnos yn rhesymol, ac os cewch eich talu'n fisol, mae'n bosib i chi ddadlau bod mis yn rhesymol.
Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, os ydyw'ch cyflogwr am eich diswyddo chi, yna dylai ddilyn gweithdrefnau arbennig. Am fwy o wybodaeth am y gweithdrefnau y dylai’ch cyflogwr eu dilyn os ydyw am eich diswyddo, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddo, gan gynnwys yr hyn a olygir wrth gamymddwyn difrifol, gweler Diswyddiad. Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gweler hefyd Rhybudd o ddiswyddiad yn y Taflenni ffeithiau ar Gyflogaeth.