Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Ydy fy nghyflogwr yn medru fy niswyddo am fy mod i'n feichiog?

Os bydd eich cyflogwr eich diswyddo oherwydd eich bod yn feichiog, gallech wneud cais i'r Tribiwnlys Cyflogaeth am ddiswyddiad annheg awtomatig (waeth pa mor hir yr ydych wedi bod yn gyflogedig) ac hefyd am wahaniaethu ar sail beichiogrwydd.

Byddai angen i chi fedru dangos i'r Tribiwnlys Cyflogaeth mai'r prif reswm dros eich diswyddo oedd eich beichiogrwydd. Bydd angen help arbenigol arnoch i wneud hyn.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu oherwydd beichiogrwydd, gweler Gwahaniaethu yn y gwaith oherwydd beichiogrwydd neu famolaeth.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â hawliau mamolaeth yn y gweithle, gweler Hawliau rhieni yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â diswyddiad, gweler Diswyddiad.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth: