Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os ydych wedi cwyno ynghylch gwahaniaethu ac yn teimlo eich bod yn cael eich erlid trwy gael eich trin yn wahanol i bobl eraill sy'n gwneud yr un math o waith – neu mewn geiriau eraill, bod rhywun yn 'pigo' arnoch oherwydd y gwyn, mae hyn yn erledigaeth.
Y gwahaniaeth yw, tra bod gweithredoedd gwahaniaethol, o bosib, wedi eu seilio ar oed, anabledd, hil, crefydd, rhyw neu rywioldeb, er enghraifft, mae erledigaeth yn driniaeth annheg oherwydd materion eraill. Mae cwyno, mynnu ar hawliau cyfreithiol yn y gwaith neu wneud unrhyw beth arall sy'n gyfreithlon ac yn gyfiawn yn llygaid y gyfraith a'ch bod yn cael eich trin yn annheg oherwydd hynny, yn erledigaeth. Os ydych wedi cefnogi cydweithiwr mewn cwyn ynglyn â gwahaniaethu ac yn cael eich trin yn annheg, yna mae hyn hefyd yn erledigaeth.
Gallwch ddefnyddio’r gyfraith i fynd ar drywydd cwynion am erledigaeth ond fel arfer mae’n well siarad â rhywun yn gyntaf. Yn aml mae’n hynod o anodd rhoi bys ar erledigaeth a'i brofi, ond mae’n bosib y gellir ei ddatrys yn gyflym mewn modd anffurfiol a gallwch barhau i dderbyn cyflog tra bod y trafodaethau’n mynd yn eu blaen.
Y cam nesaf yw codi achwyniad gyda'ch cyflogwr. Mae'n rhaid i chi wneud hyn yn ysgrifenedig. Os na fydd hyn yn datrys eich problem, fe allwch hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth. Mae yna derfyn amser o dri mis ar gyfer hawlio gerbron tribiwnlys cyflogaeth, sy'n dechrau o'r dyddiad y digwyddodd yr erledigaeth.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddiad oherwydd erledigaeth a thribiwnlysoedd cyflogaeth, gweler Diswyddiad.
Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau y mae'n rhaid i chi eu dilyn wrth wneud cwyn am wahaniaethu neu erledigaeth yn y gwaith,, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â hawliau sylfaenol yn y gwaith, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail rhyw.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail anabledd, gweler Gwahaniaethu ar sail anabledd.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.