Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Diswyddiad a budd-daliadau

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Beth mae gweithiwr sydd wedi'i (d)diswyddo'n gallu ei hawlio

Os ydych wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, fe fydd hyn yn effeithio ar y budd-daliadau y medrwch eu hawlio. Efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiledig ar incwm neu ar gyfraniadau, Budd-dâl Tai neu Budd-dâl Treth Gyngor ond mae yna reolau arbennig ynglyn â sut y bydd y rhain yn cael eu talu wedi i chi golli eich swydd.

Fel arfer, ni fyddwch yn medru hawlio Cymhorthdal Incwm wedi i chi gael eich diswyddo oherwydd eich bod yn gorfod bod ar gael i weithio. Fodd bynnag, dylech holi i weld a ydych chi neu'ch partner yn gymwys. Os ydych chi neu'ch partner dros 60 efallai y byddwch yn medru hawlio Credyd Pensiwn. Os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn ni fydd yn rhaid i chi fod ar gael i weithio.

Am wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, gweler Diswyddo.

Am fwy o wybodaeth ynghylch lwfans ceisio gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.

Os ydych yn weithiwr sydd wedi cael eich diswyddo o swydd lle roeddech yn gweithio lai nag 16 awr yr wythnos, mae'r rheolau'n wahanol. Dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau (LCG)

Os cawsoch eich diswyddo am gamymddwyn, mae'n bosib na fydd Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) sy'n seiliedig ar gyfraniadau yn cael ei dalu am hyd at 26 wythnos. Mae camymddwyn yn golygu eich bod, ym marn eich cyflogwr, wedi gwneud rhywbeth o'i le. Gallwch apelio yn erbyn y sancsiwn 26 wythnos.

Mae iawndal am ddiswyddiad annheg yn medru cwmpasu cyfnod lle rydych wedi bod yn derbyn LCG sy'n seiliedig ar gyfraniadau. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n bosib y bydd yn rhaid ad-dalu'r LCG allan o arian yr iawndal. Os ydyw'r iawndal wedi'i dalu yn barod pan fyddwch yn hawlio LCG, mae'n bosib y bydd yn eich hatal rhag ei dderbyn am gyfnod.

Am wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, gweler Diswyddo.

Mae'r rheolau ynglyn â Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau a thaliadau ar derfyn swydd yn gymhleth. Dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys yn rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Lwfans Ceisio Gwaith sydd wedi'i seilio ar incwm (LCG)

Os ydych yn cael eich diswyddo am gamymddwyn, mae'n bosib na fydd eich Lwfans Ceisio Gwaith (LCG) sy’n seiliedig ar incwm yn cael ei dalu am hyd at 26 wythnos. Caiff hyn ei alw'n sancsiwn. Rydych yn medru apelio yn erbyn yn sancsiwn, neu mae'n bosib y byddwch yn medru hawlio tâl am galedi.

Mae'n bosib y bydd iawndal am ddiswyddo annheg yn cwmpasu cyfnod lle rydych wedi bod yn derbyn LCG sy’n seiliedig ar incwm. Os yw hyn yn digwydd, mae'n bosib y bydd yn rhaid ad-dalu'r LCG allan o arian yr iawndal. Os ydych wedi derbyn iawndal yn barod pan fyddwch yn hawlio LCG, mae'n bosib y gall hyn eich hatal rhag ei dderbyn am gyfnod.

Am wybodaeth ynglyn â'ch hawliau pan fyddwch chi wedi cael eich diswyddo o'ch gwaith, gweler Diswyddo.

Mae'r rheolau ynglyn â Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm a thaliadau ar ddiwedd unrhyw swydd yn gymhleth iawn. Dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys yn rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor

Pan yn cyfrifo eich hawl i Fudd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor, fel arfer caiff y rhan fwyaf o daliadau olaf pan fyddwch chi’n gadael eich swydd eu diystyru os nad ydych yn derbyn budd-dâl tai a budd-dâl treth gyngor yn barod pan fyddwch yn cael eich diswyddo.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.

Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, am wybodaeth ynglyn â Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda'ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai ar gyfer ardrethi yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda'ch ardrethi.

Os ydych am wybod faint o Fudd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor fedrwch chi ei hawlio, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n mwdru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Nôl i’r brig


Budd-daliadau a thaliadau methdaliad

s ydych yn cael eich diswyddo am fod eich cyflogwr yn fethdalwr, mae'n bosib y byddwch yn derbyn tâl gan wasanaeth taliadau methdaliad (GTM) yr Adran dros Fasnach a Diwydiant i wneud iawn am gyflog sy'n ddyledus i chi, tâl yn lle rhybudd, ac ati. Os ydych hefyd yn hawlio LCG, ni fyddwch yn derbyn unrhyw fudd-dâl am yr wythnosau sy'n dod o dan y tâl methdaliad yma. Neu, os ydych wedi cael rhywfaint o LCG yn barod pan fydd y taliad methdalu ar fin cael ei dalu, bydd y budd-dâl yn cael ei dynnu allan o'r tâl methdaliad. Os ydych wedi cael tâl methdaliad ac mae'n dod tua diwedd y cyfnod yr ydych yn gallu hawlio LCG, fe fydd wythnosau ychwnaegol yn cael eu hychwanegu at eich cyfnod hawlio i wneud iawn am yr wythnosau o fudd-dâl a gollwyd gennych ar ddechrau eich cais.

Nôl i’r brig