Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Mae Budd-dâl Tai yn fudd-dâl i bobl ar incwm isel i’w helpu i dalu eu rhent. Efallai hefyd y byddwch yn medru cael Budd-dâl Tai os ydych ar fudd-daliadau eraill yn gweithio’n rhan amser neu’n gweithio’n llawn amser ar incwm isel. Ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Tai i helpu gyda chostau morgais neu fenthyciad cartref. Os ydych yn berchen-breswyliwr, efallai y byddwch yn medru cael help gyda llog eich morgais trwy Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn.
Am wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm, am wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm (LCG), gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith , am wybodaeth ynghylch LCCh, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl ac am wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros 60.
Nid yw Budd-dâl Tai yn helpu gyda’r Treth Gyngor, ond os ydych ar incwm isel efallai y byddwch yn medru cael Budd-dâl Treth Gyngor i helpu talu eich Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda’ch Treth Gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Caiff Budd-dâl Tai ei dalu gan eich awdurdod lleol.
Er mwyn cael Budd-dâl Tai rhaid eich bod chi’n talu rhent. Nid oes gwahaniaeth os mai’ch landlord yw’r cyngor, cymdeithas tai neu landlord preifat. Fe fyddwch hefyd yn medru hawlio Budd-dâl Tai os ydych yn rhentu ystafell mewn hostel, neu yn lletywr. Rydych yn medru ei hawlio os ydych yn rhannu fflat neu dy ac yn medru cael Budd-dâl Tai fel cyd-denant neu is-denant. Ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Tai os ydych yn rhentu eich cartref gan y Goron, neu rydych yn 16 neu'n 17 ac wedi bod mewn gofal.
Fe fyddwch ond yn medru cael Budd-dâl Tai os ydych yn gyfrifol am dalu’r rhent ar gyfer eich cartref, neu’n byw gyda’ch partner sy’n gyfrifol am y rhent. Dim ond un aelod o bâr sy’n medru hawlio Budd-dâl Tai. Rhaid eich bod chi hefyd yn byw yn y lleoliad yr ydych yn hawlio Budd-dâl Tai ar ei gyfer.
Mae yna rai pobl fydd yn cael eu trin fel nad ydynt yn gyfrifol am dalu rhent hyd yn oed os ydynt yn ei dalu, er enghraifft, os ydych yn rhentu gan berthynas agos sydd hefyd yn byw yn y cartref.
Efallai y bydd myfyrwyr yn medru hawlio Budd-dâl Tai, ond mae yna reolau arbennig ar eich cyfer os ydych yn fyfyriwr.
Os oes dau gartref gennych neu rydych i ffwrdd o’ch cartref dros dro,efallai y byddwch yn medru cael Budd-dâl Tai, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio, fel arfer ni fyddwch yn medru hawlio Budd-dâl Tai. Efallai y byddwch yn medru cael help gyda ffioedd cartref gofal. Os ydych yn byw mewn cartref gofal, ac rydych angen help ariannol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Rhaid eich bod chi’n byw yn y DG i hawlio Budd-dâl Tai. Os ydych yn dod o dramor neu os ydych newydd ddod i fyw yn y DG efallai y cewch drafferth hawlio’r budd-dâl, gan ddibynnu ar eich statws mewnfudo.
Os nad ydych yn siŵr am eich hawl i hawlio budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn 16 neu’n 17 ac wedi bod mewn gofal gyda’r awdurdod lleol, ni fyddwch yn medru cael Budd-dâl Tai. Fe fydd hi’n ddyletswydd ar yr awdurdod lleol i roi llety i chi ac i’ch cefnogi.
Os ydych yn berson ifanc sydd wedi gadael gofal, neu os ydych chi ar fin gadael gofal, a chithau am wybod pa gymorth y medrwch ei ddisgwyl gyda’ch llety, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn denant i’r Goron, efallai y byddwch yn medru cael help gyda’ch rhent ar ffurf Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm (LCG), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn.
Am wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm, am wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm (LCG), gweler Budd-daliadau i bobl sy’n chwilio am waith, am wybodaeth ynghylch LCCh, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl ac am wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros 60.
Er mwyn cael Budd-dâl Tai, rhaid bod eich incwm a’ch cyfalaf yn is na lefel penodol. Ond, os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol, mae yna reolau eraill ar eich cyfer chi – gweler isod. Mae cyfalaf yn golygu cynilion, tir, eiddo neu unrhyw beth arall a allai roi incwm i chi. Os oes mwy na £16,000 gennych mewn cyfalaf, ni fyddwch yn cael unrhyw Fudd-dâl Tai, os nad ydych yn cael elfen gwarant Credyd Pensiwn. Os oes cyfalaf gennych dros £6,000, yna cymerir bod gennych beth incwm o’r cyfalaf hwn. Cymerir bod y rhan fwyaf o bobl sy’n 60 neu’n hŷn yn cael peth incwm o’u cyfalaf os yw eu cyfalaf dros £10,000.
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm fe fyddwch o fewn y terfynau incwm a chyfalaf ar gyfer Budd-dâl Tai yn awtomatig ac fe fyddwch yn gymwys i gael yr uchafswm. Os ydych ar Gredyd Pensiwn ac rydych yn cael y credyd gwarant (waeth a yw ar ei ben ei hun neu gyda’r credyd cynilion), fe fyddwch hefyd yn cael uchafswm Budd-dâl Tai yn awtomatig. Os ydych yn cael y credyd cynilion yn unig, efallai y byddwch yn gymwys i Fudd-dâl Tai ond fe fydd yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion. Fe fydd yr awdurdod lleol yn defnyddio ffigurau’r Gwasanaeth Pensiwn ar gyfer incwm a chynilion i asesu a ydych yn medru cael Budd-dâl Tai.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn eich trin chi fel pe na baech yn gyfrifol am dalu’r rhent, er eich bod chi’n gorfod ei dalu ac ni fyddwch yn cael Budd-dâl Tai. Dyma fydd yr achos os oes cytundeb rhentu gennych ac mae’r awdurdod lleol yn credu ei fod yn ‘anfasnachol’, er enghraifft, am nad oes modd ei orfodi yn gyfreithiol.
Efallai y cewch eich eithrio rhag Fudd-dâl Tai oherwydd y rheol hon os ydych yn talu rhent i berthynas agos sydd hefyd yn byw yn y cartref, neu i gynbartner ar gyfer y cartref lle’r oeddech yn arfer byw gyda’ch gilydd. Efallai y bydd yn berthnasol i chi os ydych yn talu rhent i gwmni neu ymddiriedolaeth y mae gennych ryw gysylltiad gydag ef. Fe fydd hefyd yn berthnasol efallai os oeddech chi (neu eich partner) yn arfer berchen ar y cartref a daeth eich perchnogaeth i ben o fewn y pum mlynedd diwethaf. Fe all fod yn berthnasol os ydych yn byw yn eich cartref fel amod o’ch cyflogaeth neu gyflogaeth eich partner, neu os ydych yn byw yno am eich bod yn aelod o urdd grefyddol sy’n darparu eich costau byw.
Efallai hefyd y bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r rheol hon os ydyw’n credu y dyfeisiwyd y trefniant rhentu dim ond er mwyn cael y Budd-dâl Tai (gelwir hyn yn ‘gymryd mantais o’r cynllun Budd-dâl’). Efallai y bydd yr awdurdod lleol yn dweud bod eich trefniant yn ‘cymryd mantais’ os ydych yn oedolyn sy’n byw yng nghartref rhywun arall ac rydych yn dechrau talu rhent iddynt.
Os yw’r awdurdod lleol yn dweud nad ydych yn medru cael Budd-dâl Tai am nad ydych yn gyfrifol am y rhent, neu rydych yn credu efallai bod yn berthnasol i chi, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn fyfyriwr mewn addysg uwch llawn amser (lefel gradd neu’r cyfwerth), fel arfer ni fyddwch yn medru hawlio Budd-dâl Tai. Ond, fe fyddwch yn medru ei hawlio os ydych yn astudio’n rhan amser. Os ydych yn iau na 19 ac ar gwrs sy’n is na lefel gradd, fe fyddwch hefyd yn medru hawlio Budd-dâl Tai (os nad ydych wedi gadael gofal yn ddiweddar).
Fe fyddwch hefyd yn medru hawlio Budd-dâl Tai os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, rydych yn rhiant sengl neu rydych yn anabl, waeth a ydych yn astudio’n llawn amser ai peidio, na beth yw lefel yr addysg. Rydych hefyd yn medru hawlio os ydych yn aelod o bâr, mae’r ddau ohonoch yn fyfyrwyr llawn amser ac mae gennych blant dibynnol. Os ydych yn fyfyriwr llawn amser ond nid ydyw’ch partner yn fyfyriwr llawn amser, holwch i weld a fedr eich partner hawlio’r Budd-dâl Tai yn eich lle.
Rwy'n fyddar ac yn astudio'n llawn-amser yn y coleg. Ydw i'n medru cael help i dalu fy rhent?
Ydych, fel myfyriwr anabl, rydych yn medru cael Budd-dâl Tai tra bod eich incwm yn is na lefel penodol ac nad oes mwy na £16,000 o gynilion gennych. Rydych hefyd yn medru cael help ariannol o fath arall os ydych yn fyfyriwr anabl. Yng Nghymru a Lloegr mae gwybodaeth bellach ar gael oddi ar wefan Directgov yn www.directgov.gov.uk mewn sawl fformat gwahanol. Er enghraifft, rydych yn medru lawrlwytho ffilmiau mewn Iaith Arwyddion Prydeinig ynghylch rhai budd-daliadau anabledd. Yn yr Alban, ewch i wefan Asiantaeth Ddyfarnu i Fyfyrwyr www.saas.gov.uk.
Mae’r rheolau ynghylch pa fyfyrwyr sy’n medru hawlio Budd-dâl Tai yn gymhleth. Mae yna reolau hefyd ynghylch sut y caiff grantiau myfyrwyr, benthyciadau myfyrwyr a chymorth ariannol o fath arall eu trin wrth gyfrifo eich incwm.
Efallai y bydd rhai myfyrwyr llawn amser sydd ddim yn medru cael Budd-dâl Tai ac angen help ariannol yn medru gofyn am arian gan gronfeydd dewisol yn eu lleoliad astudio.
Am fwy o wybodaeth yn Lloegr, gweler Cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr addysg ac yng Nghymru, gweler Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth ariannol ar gyfer addysg uwch yn yr Alban, gweler Canllawiau i Gymorth i Fyfyrwyr – addysg uwch.
Os ydych yn fyfyriwr ac eisiau holi i weld a fedrwch chi gael Budd-dâl Tai, neu os ydych am holi faint fyddwch chi’n ei gael, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae faint o Fudd-dal Tai y medrwch ei dderbyn yn dibynnu faint o rent yr ydych yn ei dalu, faint o incwm sydd gennych a ble rydych chi'n byw.
Efallai na fydd Budd-dâl Tai yn cwmpasu eich holl rent neu’r costau tai sydd wedi eu cynnwys yn eich rhent. Mae’r costau y mae’n medru eu cynnwys yn cynnwys y rhent yr ydych yn ei dalu am eich llety a thaliadau am rai gwasanaethau penodol, fel gofalwr.
Ni fydd Budd-dâl Tai yn cwmpasu rhai costau a gwasanaethau sydd, o bosib, yn rhan o’ch rhent, er enghraifft, costau dwr, costau gwresogi, dwr poeth, goleuo neu goginio, a thaliadau am nwy neu danwydd.
Os nad ydych yn siwr pa gostau sydd wedi eu cynnwys gyda’ch rhent, neu os ydych am holi beth fydd wedi’i gynnwys yn y Budd-dâl Tai, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm neu gredyd gwarant Credyd Pensiwn (waeth a yw ar ei ben ei hun neu gyda’r credyd cynilion), fe fydd Budd-dal Tai yn cynnwys eich holl rent cymwys. Ond mae angen i chi gofio efallai nad ydyw rhai o’r costau tai yr ydych yn eu talu gyda’ch rhent yn dod o dan y Budd-dâl Tai.
Hefyd, efallai y bydd y Budd-dâl Tai y byddwch yn medru ei gael yn gostwng os oes person arall yn byw gyda chi a gellir disgwyl iddo/iddi dalu tuag at y llety.
Os nad yw’ch Budd-dâl Tai yn cynnwys eich holl rent, ac rydych angen mwy o help, efallai y byddwch yn medru cael peth arian ychwanegol gan yr awdurdod lleol.
Os nad ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm neu gredyd gwarant Credyd Pensiwn, efallai y bydd Budd-dâl Tai yn cwmpasu eich holl rent, neu ran ohono. Fe fydd faint o Fudd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cyfalaf (os ydych yn cael credyd cynilion Credyd Pensiwn, fe fydd yr awdurdod lleol yn defnyddio’r un ffigurau â’r Gwasanaeth Pensiwn i gyfrifo eich Budd-dâl Tai). Mae’r incwm y medrwch ei gael cyn iddo ostwng eich Budd-dâl Tai yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft, eich oed, a oes partner neu blant gennych, neu a ydych yn anabl neu’n gofalu am berson anabl. Mae yna rai mathau o incwm sy’n cael eu hanwybyddu hefyd wrth gyfrifo faint o fudd-dal tai y dylech ei gael, er enghraifft cynhaliaeth plant.
Mae angen i chi gofio, efallai na fydd Budd-dal Tai yn talu am eich holl gostau tai neu rent.
Efallai y bydd y Budd-dâl Tai a gewch yn gostwng os oes person arall yn byw gyda chi a gellir disgwyl iddo/iddi dalu tuag at y llety, hyd yn oed os nad ydyw'n gwneud hynny.
Os nad yw’ch Budd-dâl Tai yn cynnwys eich holl rent ac mae angen mwy o help arnoch, efallai y byddwch yn medru cael arian ychwanegol gan yr awdurdod lleol.
I ddarganfod mwy ynglŷn â sut mae rhent yn cael ei gyfrifo, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych yn talu rhent i landlord preifat, fel arfer fe fydd y rhent y bydd eich Budd-dal Tai yn medru ei dalu, yn cael ei gyfyngu i swm a osodir gan swyddog rhent. Os ydych yn talu rhent i awdurdod lleol, ni fydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfyngu yn y ffordd yma. Os ydych yn talu rhent i landlord cymdeithasol, fel cymdeithas tai, ni fydd eich Budd-dal tai yn cael ei gyfyngu yn y ffordd yma fel arfer, ac eithrio ble mae'r awdurdod lleol yn credu bod eich llety'n fwy nag sydd ei angen arnoch, neu ble mae'ch rhent yn afresymol o uchel.
Os ydych yn denant i landlord preifat, pan fyddwch chi'n cyflwyno cais newydd am Fudd-dal Tai, fel arfer fe fydd eich awdurdod lleol yn cyfrifo faint o rent y mae'ch Budd-dal Tai yn medru ei dalu gan ddefnyddio’r rheolau Lwfans Tai Lleol. Fe fydd y rheolau Lwfans Tai Lleol hefyd yn berthnasol, fel arfer, os ydych yn symud i gyfeiriad arall o fewn yr un awdurdod lleol.
O dan reolau'r Lwfans Tai Lleol, pan fydd yr awdurdod lleol yn cyfrifo faint o Fudd-dal Tai fyddan nhw'n ei dalu i chi, ni fyddan nhw'n edrych ar swm y rhent yr ydych yn ei dalu, fel arfer. Yn lle gwneud hyn, fe fyddan nhw'n defnyddio ffigwr Lwfans Tai Lleol safonol a gyfrifwyd gan swyddog rhent. Y ffigwr a ddefnyddir yw'r ffigwr sy'n seiliedig ar yr ardal ble rydych chi'n byw a'r nifer o ystafelloedd sydd eu hangen ar eich teulu, yn ôl rheolau'r Budd-dal Tai. Efallai na fydd y nifer yma o ystafelloedd yr un peth â'r nifer sydd gennych mewn gwirionedd.
Mewn rhai achosion, mae'n bosib y bydd y Budd-dal Tai y medrwch ei hawlio yn fwy na'ch rhent, ond dim ond hyd at £15 yr wythnos yn fwy y mae modd ei roi i chi.
Ond, yn aml, ni fydd swm y Budd-dal Tai a delir i chi yn ddigon i dalu eich holl rent. Os yw hyn yn wir, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth allan o unrhyw incwm arall sydd gennych, neu ddod o hyd i lety rhatach. Efallai y byddwch yn medru cael help pellach gyda chostau tai.
Mae'n anodd iawn herio penderfyniad swyddog rhent ynghylch Lwfans Tai Lleol. Os ydych am wneud hyn, fe fydd angen i chi gael help cyfreithiol arbenigol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cael help cyfreithiol, yng Nghymru a Lloegr, gweler Defnyddio cyfreithiwr ac yn yr Alban, gweler Defnyddio cyfreithiwr.
Os ydych yn ystyried symud i lety wedi'i rhentu'n breifat, neu'n ystyried symud i ardal arall, fe fyddwch yn medru darganfod faint o rent y bydd Budd-dal Tai yn ei dalu ble rydych am fyw. Rydych yn medru holi swyddfa Budd-dal Tai'r awdurdod lleol i weld pa ffigwr Lwfans Tai Lleol a ddefnyddir i gyfrifo eich Budd-dal Tai.
Os ydych yn denant landlord preifat ac wedi ceisio am Fudd-dal Tai cyn 7 Ebrill 2008, mae yna reolau gwahanol ynghylch sut mae penderfyniadau Budd-dal Tai yn cael eu gwneud. Ond, efallai y bydd hyn yn dal i olygu nad ydyw'n talu eich holl rent. Y swyddog rhent sy'n penderfynu faint o'ch rhent y bydd eich Budd-dal Tai yn ei dalu. Yn lle defnyddio rheolau'r Lwfans Tai Lleol, maen nhw'n edrych ar y rhent yr ydych yn ei dalu ac yn penderfynu a yw'n rhesymol i Fudd-dal Tai dalu'r swm cyfan. Mae hyn yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys cost eich rhent o gymharu â safleoedd tebyg eraill yn yr ardal ac a yw'r llety o'r maint cywir ar gyfer eich anghenion. Os ydych yn iau na 25 ac yn sengl heb unrhyw blant, mae'r swyddog rhent yn cymharu eich rhent gyda rhent y farchnad ar gyfer ystafell sengl gyda chyfleusterau sy'n cael eu rhannu. Mae'r awdurdod lleol yn cyfrifo faint o Fudd-dal Tai sy'n ddyledus i chi ar sail penderfyniad y swyddog rhent.
Os nad ydyw'r Budd-dal Tai y medrwch ei hawlio yn talu am eich holl rent, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth o unrhyw incwm arall sydd gennych, neu ddod o hyd i lety rhatach. Efallai y byddwch yn medru cael help pellach gyda chostau tai.
Os oeddech wedi ceisio am Fudd-dal Tai cyn 7 Ebrill 2008, fe fyddwch yn medru herio penderfyniad swyddog rhent os ydych yn credu ei fod yn anghywir, er enghraifft, os nad oes llety rhatach ar gael yn yr ardal. Nid ydych yn medru apelio'n uniongyrchol i'r swyddog rhent, ond rydych yn medru gofyn i'r awdurdod lleol ofyn i'r swyddfa rhent adolygu eu penderfyniad.
Os ydych am herio penderfyniad swyddog rhent, dylech siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf
Mae mwy o wybodaeth am y ffordd y mae swyddogion rhent yn dod i'w penderfyniadau yn: www.therentservice.gov.uk. Mae peth gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd gwahanol a hefyd ar dap sain ac mewn Braille.
Ni ddylai faint o rent y bydd eich Budd-dal Tai yn ei dalu, ddibynnu ar eich hil, rhyw, oed, anabledd, rywioldeb, crefydd neu gred. Os defnyddiwyd un o'r pethau hyn wrth benderfynu ar eich Budd-dal Tai, mae hyn yn wahaniaethu.
Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, fe fyddwch yn medru cwyno. Os ydych am gwyno ynghylch gwahaniaethu, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gelwir oedolyn sy’n byw yn eich cartref ac sydd ddim yn denant neu’n lletywr, heblaw am eich partner, yn berson annibynnol. Er enghraifft, efallai bod ffrind, rhiant, mab neu ferch sy’n oedolyn neu berthynas arall yn byw gyda chi. Os oes person annibynnol yn byw yn eich cartref, fel arfer tynnir swm o’ch Budd-dâl Tai oherwydd cymerir y gellir gofyn iddyn nhw gyfrannu peth arian tuag at gostau’r llety, hyd yn oed os nad ydynt yn gwneud hynny. Mae swm y didyniad yn dibynnu ar eu hamgylchiadau nhw.
Os oeddech yn byw gyda rhywun fel person annibynnol, ac yna rydych yn cytuno i dalu rhent tra eu bod nhw’n dal i fyw yno, efallai na fyddwch yn medru cael Budd-dâl Tai tuag at y rhent yna, os nad ydych yn medru dangos na ddyfeisiwyd y trefniadau er mwyn cael Budd-dâl Tai.
Os oes person annibynnol yn byw yn eich cartref, neu os oeddech yn arfer bod yn annibynnol ac rydych am hawlio Budd-dâl Tai, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fel arfer, dim ond ar gyfer un cartref ar y tro y byddwch yn medru cael Budd-dâl Tai. Ond, os oes rhaid i chi dalu rhent am ddau gartref, efallai y byddwch yn medru cael Budd-dâl Tai ar gyfer y ddau am gyfnod cyfyngedig. Efallai y bydd hyn yn berthnasol, er enghraifft, os ydych yn symud o’ch cartref yn sydyn ac yn gorfod talu rhent ar gyfer eich hen gartref, os yw cartref newydd yn cael ei addasu ar gyfer person anabl, neu os ydych yn gorfod gadael eich cartref oherwydd trais yn y cartref. Mae’r rheolau ynghylch talu Budd-dâl Tai ar gyfer dau gartref yn gymhleth.
Os fyddwch chi angen hawlio Budd-dâl Tai am fwy nag un cartref ar yr un pryd, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych i ffwrdd o’ch cartref dros dro ac mae’n rhaid i chi dalu rhent o hyd, efallai y byddwch yn medru parhau i gael Budd-dâl Tai. Efallai y bydd hyn yn berthnasol, er enghraifft, os ydych yn yr ysbyty neu os ydych i ffwrdd o’ch cartref am eich bod yn ofni trais. Fe fyddwch ond yn medru cael Budd-dâl Tai am hyd at nifer penodol o wythnosol tra nad ydych yn byw gartref.
Os ydych angen hawlio Budd-dâl Tai tra eich bod chi i ffwrdd o’ch cartref dros dro, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os nad yw’ch Budd-dâl Tai yn cynnwys eich holl rent ac rydych angen mwy o help, tra’ch bod chi â hawl i beth Budd-dâl Tai (neu Fudd-dal Treth Gyngor) fe fyddwch yn medru gofyn i’r awdurdod lleol am daliad tai dewisol. Mae hwn yn daliad ychwanegol (nid Budd-dâl Tai) a allai fod ar gael i chi os ydych angen help ariannol pellach gyda’ch costau tai. Mae i fyny i’r awdurdod lleol a fyddwch chi’n cael yr help hwn, ac felly dylech roi cymaint o wybodaeth â phosib.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth ynghylch taliadau tai dewisol, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Isafswm y Budd-dâl Tai y gellir ei dalu bob wythnos yw 50c. Ar ôl cyfrifo eich budd-dâl, os ydych â hawl i lai na 50c yr wythnos, ni fyddwch yn cael unrhyw Fudd-dâl Tai.
Pan fyddwch chi’n hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol, rydych yn cael ffurflen hawlio ar gyfer Budd-dâl Tai ar yr un pryd.
Bydd rhaid i chi holi Adran Budd-daliadau Tai eich awdurdod lleol p’un ai ydynt yn derbyn y ffurflen hon neu beidio.Mae’n bosib na fydd awdurdod lleol yn derbyn ceisiadau am Fudd-dâl Tai ond ar ei ffurflenni eu hunain. Os taw dyma’r drefn gyda’ch awdurdod lleol,bydd rhaid i chi gael un o’u ffurflenni nhw, ei llenwi a’i hanfon yn ôl cyn gynted â phosib.Mae’n bosib y bydd hyn yn arwain at benderfyniad cyflymach ynglyn â’ch cais. Dylech gadw copi o unrhyw ffurflen hawlio yr ydych yn ei llenwi.
Neu, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dal Tai dros y ffôn os yw'ch awdurdod lleol wedi cyhoeddi rhif ffôn ar gyfer hawlio dros y ffôn. Os ydych wedi hawlio Budd-dal Tai dros y ffôn, efallai y bydd eich awdurdod lleol angen i chi gymeradwyo datganiad ysgrifenedig o'ch amgylchiadau.
Os ydych eisoes yn cael Cymhorthdal Incwm, LCCh sy'n gysylltiedig ag incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm ac yn dechrau talu rhent, fe fyddwch yn medru gofyn am ffurflen hawlio Budd-dâl Tai mewn Canolfan Byd Gwaith a chysylltu â’r awdurdod lleol am gopi o’u ffurflen hawlio Budd-dâl Tai nhw.
Mae rhai awdurdodau lleol yn gadael i chi gyflwyno cais am Fudd-dal Tai drwy'r e-bost neu dros y rhyngrwyd. Mae i fyny i'ch awdurdod lleol i benderfynu a ydyw'n caniatáu ceisiadau electronig. Maen nhw hefyd yn medru penderfynu ar rai o'r amodau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni i wneud cais electronig.
Mae’n bosib y byddwch yn gallu llenwi ffurflen hawlio Budd-dâl Tai byrrach a elwir yn ‘hawlio’n ôl cyflym’. I lenwi ffurflen hawlio’n ôl cyflym’, rhaid eich bodchi wedi gwneud cais am un o’r budd-daliadau canlynol yn ystod y 26 wythnos diwethaf:
Rhaid eich bod chi’n ail-hawlio un o’r budd-daliadau hyn hefyd, yn ogystal â Budd-dâl Tai,a bod eich amgylchiadau heb newid.
I gael mwy o wybodaeth am sut i hawlio’n ôl yn gyflym, gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol.
Os ydych yn cyflwyno cais am Gredyd Pensiwn dros y ffôn, fe fyddwch yn medru hawlio Budd-dal Tai ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais ysgrifenedig.
Rydych yn dal i fedru hawlio'n syth gan eich awdurdod lleol os ydych am wneud hynny.
Os ydych am hawlio Budd-dal Tai ac rydych eisoes yn cael Credyd Pensiwn, dylech ofyn i'ch awdurdod lleol am ffurflen hawlio. Efallai y byddwch yn medru hawlio dros y ffôn, drwy'r e-bost neu dros y rhyngrwyd. Nid yw pob awdurdod lleol yn gadael i chi wneud hyn, felly holwch eich awdurdod lleol ynghylch sut i hawlio.
Os ydych yn cyflwyno cais am gredyd cynilion Credyd Pensiwn (ond nid credyd gwarant) ac rydych hefyd yn hawlio Budd-dal Tai, fe fydd y Gwasanaeth Pensiwn yn trosglwyddo manylion eich incwm a'ch cyfalaf yn awtomatig at eich awdurdod lleol. Yna, fe fydd eich awdurdod lleol yn defnyddio'r manylion hyn i gyfrifo'ch Budd-dal Tai.
Os nad oes hawl gennych i un o’r budd-daliadau hyn, dylech hawlio Budd-dâl Tai’n syth gan swyddfa Budd-dâl Tai eich awdurdod lleol
Dylech ddefnyddio’r ffurflen hawlio a gawsoch gan y swyddfa Budd-dâl Tai a gofyn am ddyddio’r cais o’r dyddiad y gofynnoch amdani.
Dylech ateb pob cwestiwn ar y ffurflen hawlio sy’n berthnasol i chi, gan gynnwys manylion eich amgylchiadau personol, eich incwm a’ch cynilion. Dylech gadw copi o’r ffurflen hawlio.
Neu, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dal Tai dros y ffôn os yw'ch awdurdod lleol wedi cyhoeddi rhif ffôn ar gyfer hawlio dros y ffôn. Os ydych wedi hawlio Budd-dal Tai dros y ffôn, efallai y bydd eich awdurdod lleol angen i chi gymeradwyo datganiad ysgrifenedig o'ch amgylchiadau.
Mae rhai awdurdodau lleol yn gadael i chi gyflwyno cais am Fudd-dal Tai drwy'r e-bost neu dros y rhyngrwyd. Mae i fyny i'ch awdurdod lleol i benderfynu a ydyw'n caniatáu ceisiadau electronig. Maen nhw hefyd yn medru penderfynu ar rai o'r amodau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni i wneud cais electronig.
Pan fyddwch chi’n cyflwyno cais am Fudd-dâl Tai, fe fydd yn rhaid i chi roi eich rhif yswiriant gwladol (YG). Os nad ydych yn gwybod eich rhif yswiriant gwladol, ond rydych yn credu bod un gennych, ceisiwch roi gwybodaeth a fydd yn helpu’r swyddfa i ddod o hyd i’ch rhif. Os nad oes rhif yswiriant gwladol gennych, fe fydd yn rhaid i chi ofyn am un. I ddangos mai eich rhif chi yw’r rhif neu i ofyn am rif, fe fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth hefyd o bwy ydych chi, er enghraifft, tystysgrif geni.
Os nad ydych ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn, fe fydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth o’ch incwm a’ch cyfalaf, er enghraifft, llyfr cynilion neu slipiau cyflog. Fe fydd yn rhaid i chi ddangos eich bod yn gyfrifol am y rhent hefyd, er enghraifft, trwy ddarparu cytundeb tenantiaeth.
Am wybodaeth ar sut i ofyn am rif yswiriant gwladol, gweler Yswiriant gwladol - Cyfraniadau a budd-daliadau.
Os ydych yn cael trafferth gofyn am rif yswiriant gwladol, neu brofi pwy ydych chi, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch yn medru cael peth Budd-dâl Tai am y cyfnod cyn i chi gyflwyno eich cais os fyddech chi wedi medru hawlio ynghynt. Gelwir y broses o gael budd-dâl am gyfnod cyn i chi hawlio yn ‘ôl-ddyddio’. Fe fyddwch yn medru cael Budd-dâl Tai wedi ei ôl-ddyddio am chwe mis os ydych yn medru dangos bod gennych reswm da dros beidio â hawlio ynghynt, er enghraifft, cawsoch y cyngor anghywir. O 6 Hydref 2008, mae'r cyfnod ar gyfer ôl-ddyddio budd-daliadau yn gostwng i chwech mis. Mae’n rhaid i chi ddangos hefyd eich bod â hawl i Fudd-dâl Tai trwy gydol y cyfnod y cafodd ei ôl-ddyddio - eich bod yn talu rhent, a bod eich incwm yn ddigon isel. Fel arfer, ni fyddwch yn cael unrhyw fudd-dâl wedi ei ôl-ddyddio am y rheswm nad oeddech yn gwybod y medrech hawlio yn unig. Dylech esbonio ar eich ffurflen gais eich bod am hawlio budd-dâl o ddyddiad cynharach, a dweud pam nad ydych wedi hawlio ynghynt.
Mae'r rheolau'n wahanol os ydych chi neu'ch partner yn 60 neu’n hyn, ac nid ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm. Yn yr achos hwn, nid oes rhaid i chi roi unrhyw resymau dros ôl-ddyddio'ch cais. Y cyfnod ar gyfer gofyn am ôl-ddyddio budd-dal i'r bobl yma yw tri mis.
Os ydych am hawlio Budd-dâl Tai wedi ei ôl-ddyddio, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Efallai y byddwch yn cyflawni twyll budd-dâl os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol yn fwriadol wrth geisio am Fudd-dâl Tai, neu os nad ydych yn llwyddo i ddweud am newid yn eich amgylchiadau. Hyd yn oed os nad ydych yn twyllo, fe allwch achosi gordaliad y bydd yn rhaid ei ad-dalu. Gellir gwirio eich amgylchiadau ar unrhyw adeg tra’ch bod yn hawlio ac fe fydd swyddogion twyll hefyd yn medru cael gwybodaeth amdanoch gan asiantaethau eraill y llywodraeth a gan eich cyflogwr, banc neu gwmnïau iwtiliti. Mae twyll Budd-dâl yn drosedd a gellir eich erlyn neu ofyn i chi dalu dirwy. Efallai y caiff eich Budd-dâl ei ostwng os ydynt yn eich cael yn euog fwy nag unwaith.
Os ydych yn poeni y gallech fod dan amheuaeth o dwyll, rydych yn destun archwiliad neu rydych wedi eich cael yn euog, neu os gofynnwyd i chi ad-dalu gordaliad budd-dâl, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Caiff Budd-dal Tai ei dalu gan eich awdurdod lleol.
Os ydych yn denant i’r awdurdod lleol, ni fyddwch yn cael eich Budd-dâl Tai wedi ei dalu’n syth i chi. Yn hytrach, fe fydd yn cael ei gymryd oddi ar eich rhent fel eich bod yn talu llai o rent neu ddim rhent o gwbl (gelwir hyn yn ad-daliad rhent hefyd).
Os ydych yn denant preifat neu’n denant i gymdeithas dai ac nid ydych yn dod o dan reolau'r Lwfans Tau Lleol efallai y cewch eich Budd-dal Tai wedi ei dalu yn syth i chi neu'ch landlord, gan ddibynnu ar eich amgylchaidau.
Os ydych yn dod o dan reolau'r Lwfans Tai Lleol, fel arfer, fe fydd eich awdurdod lleol yn talu Budd-dal Tai i chi, yn hytrach na'r landlord. Ni fyddwch yn medru dewis ei gael wedi ei dalu yn syth i'ch landlord. Ond, fe fydd yna rai amgylchiadau o hyd pan fydd yr awdurdod lleol yn medru talu'ch Budd-dal Tai yn syth i'ch landlord yn lle i chi, er enghraifft os ydych yn annhebygol o dalu'r rhent neu'n cae trafferth rheoli arian.
Os telir Budd-dal Tai yn syth i chi, fe fyddwch yn ei gael trwy siec, siec 'giro' y byddwch yn medru ei newid yn y Swyddfa Bost, neu'n syth i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladau.
Fel arfer telir Budd-dâl Tai yn ôl-weithredol. Mae hyn yn golygu y caiff ei dalu ar ôl y dyddiad y mae eich rhent yn ddyledus. Gellir ei dalu bob wythnos, pythefnos, pedair wythnos neu fis, gan ddibynnu pa mor aml yr ydych yn talu eich rhent. Mae hawl gennych i gael eich talu bob pythefnos os yw’ch Budd-dâl Tai yn £2 yr wythnos neu fwy ac nid yw’n cael ei dalu i’r landlord.
Am fwy o wybodaeth ynghylch talu Budd-daliadau, gweler Talu budd-daliadau a chredydau treth.
Os ydych yn cael trafferth gyda’r ffordd y caiff eich Budd-dâl Tai ei dalu, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Yn gyffredinol, unwaith y byddwch wedi dechrau cael Budd-dâl Tai gellir parhau gyda’r taliad yn ddi-gyfyng. Fe fydd Budd-dâl Tai yn dod i ben pan na fydd hawl gennych iddo mwyach.
Ond, mewn rhai amgylchiadau, mae’n rhaid i chi gyflwyno cais newydd er mwyn parhau i gael y budd-dâl. Er enghraifft, os ydych yn symud i fyw mewn ardal awdurdod lleol arall, fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais newydd i adran Budd-dâl Tai'r awdurdod lleol newydd. Fel arall, dylech gofio dweud am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar faint o Fudd-dâl Tai a gewch, er enghraifft, newid mewn incwm neu gyfalaf, neu newid yn y nifer o bobl sy’n byw gyda chi. Os nad ydych yn dweud am y newidiadau hyn, efallai y cewch lai o fudd-dâl neu achosi gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu yn nes ymlaen.
Gellir parhau i dalu Budd-dâl Tai yn ddi-gyfyng tra eich bod chi ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh) sy'n gysylltiedig ag incwm, Budd-dâl Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol. Dylech ddweud am y newidiadau perthnasol mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich hawl i Fudd-dâl Tai neu’r swm a gewch, er enghraifft, os yw’ch partner yn gadael, mae gennych blentyn newydd neu rydych yn symud i fyw yn rhywle arall o fewn yr un awdurdod lleol. Os nad ydych yn dweud am newidiadau perthnasol, efallai na fyddwch yn cael digon o dâl, neu efallai y byddwch yn achosi gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.
Ond, os ydych yn stopio cael un o’r budd-daliadau hyn am eich bod chi (neu eich partner) yn cael swydd neu mae eich oriau neu gyflog yn codi, efallai y bydd hawl gennych i barhau i gael Budd-dâl Tai ar yr un gyfradd am bedair wythnos arall. Gelwir hyn yn daliad estynedig.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau estynedig Budd-dâl Tai, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy’n gweithio.
Dylech ddweud wrth yr awdurdod lleol am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau a allai effeithio ar eich budd-dâl, er enghraifft, newid yn y nifer o bobl sy’n byw gyda chi, neu newid yn eich incwm neu gyfalaf. Os ydych yn symud, rhaid i chi roi eich cyfeiriad newydd a rhoi gwybodaeth am y denantiaeth. Os ydych yn symud i awdurdod lleol newydd, fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais newydd.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, fe fyddwch yn medru dweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn am rhai newidiadau mewn amgylchiadau, ac fe fyddan nhw’n pasio’r wybodaeth ymlaen i’r awdurdod lleol. Mae hyn am fod eich Budd-dâl Tai yn seiliedig ar ffigurau’r Gwasanaeth Pensiwn ar gyfer eich incwm a’ch cyfalaf. Ond, mae yna rai newidiadau y mae’n rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod lleol amdanynt, sef newidiadau i’ch tenantiaeth, newidiadau i’r bobl sy’n byw gyda chi, absenoldeb o’ch cartref (os yn fwy na 13 wythnos), newidiadau yn ymwneud â phlant, newidiadau i gyfalaf dros £16,000, ac unrhyw newidiadau i incwm a chyfalaf partner sydd heb ei gynnwys yn eich cais am Gredyd Pensiwn.
Os nad ydych yn siŵr a ddylech ddweud am newid, dylech ddweud rhag ofn. Os nad ydych yn dweud am newid, efallai y cewch llai nag sy’n ddyledus i chi, neu efallai y cewch ordaliad, neu efallai y byddwch yn destun archwiliad am dwyll.
Os hoffech fwy o wybodaeth ynghylch y newidiadau y dylech ddweud amdanynt, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os gwrthodir rhoi Budd-dâl Tai i chi a chithau’n credu bod y penderfyniad yn anghywir, neu os ydych yn credu bod swm y Budd-dal Tai wedi ei gyfrifo’n anghywir, fe fyddwch yn medru gofyn am ailystyried y penderfyniad, neu apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i’r penderfyniad ynghylch eich Budd-dâl Tai.
Os nad ydych yn hapus gyda’r gwasanaeth a gawsoch gan yr adran Budd-dâl Tai (er enghraifft, oherwydd oedi hir neu gamgymeriadau sydd heb gael eu sortio), fe fyddwch yn medru cwyno. Fe fyddwch yn medru gwneud hyn waeth a ydych hefyd yn herio penderfyniad ynghylch Budd-dal Tai.
Mae'n anghyfreithlon i chi gael eich trin yn annheg oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd, rhywioldeb neu gred pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu ar eich cais am Fudd-dâl Tai. Hefyd, mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol bolisi sy'n nodi na fyddan nhw'n gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd pethau eraill, fel p'un ai fod gennych gyfrifoldebau gofal. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru gweld beth sydd ym mholisi eich cyngor a chwyno.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio penderfyniad ynghylch Budd-dâl Tai, ac ynghylch cwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch Budd-dâl Tai neu os ydych am gwyno, fe allwch hefyd holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.