Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban
Mae’r wybodaeth hon ynglyn â’r help y medrech ei gael tuag at gostau iechyd, addysg a chyfreithiol os ydych ar incwm isel.
Efallai hefyd y byddwch yn medru cael budd-dâl i’ch helpu gyda’ch costau byw, eich rhent neu gostau tai eraill a’ch Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch y budd-daliadau eraill y medrwch eu hawlio, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Os ydych ar incwm isel, efallai y medrwch gael help gyda chostau iechyd, costau cyfreithiol, ffioedd llys a chinio ysgol. Fe allai’r help hyn olygu bod y gost yn llai neu nad oes rhaid i chi dalu’r gost o gwbl. Oherwydd nad ydych chi’n derbyn unrhyw arian yn uniongyrchol, gellir cyfeirio at yr help yma fel ‘budd-dâl mewn da’.
Os ydych ar Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, fel arfer fe allwch chi gael yr help yma heb orfod gofyn amdano. Os ydych ar incwm isel ond nid ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau hyn, efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael peth o’r help hwn.
Fe all rhai pobl sydd ar incwm isel gael talebau cychwyn iach y gellir eu cyfnewid am laeth, ffrwythau neu llysiau rhad ac am ddim.
Fe fyddwch yn medru cael talebau cychwyn iach os ydych o leiaf ddeg wythnos i mewn i’r feichiogrwydd ac yn cael:
Os ydych yn aelod o deulu rhywun sydd ar y budd-daliadau hyn, ac rydych chi’n feichiog, fe allwch hefyd gael talebau cychwyn iach. Yn yr achos hwn, mae aelod o’r teulu yn bartner o’r rhyw arall, yn bartner o'r un rhyw neu’n blentyn dibynnol y person sy’n cael un o’r budd-daliadau hyn.
Rydych hefyd yn medru cael talebau cychwyn iach os ydych yn iau na 18 oed ac yn feichiog, waeth faint o incwm sydd gennych chi neu'ch teulu.
Mae unrhyw rai o’ch plant sy’n iau na phedair oed â hawl i dalebau cychwyn iach os ydych yn cael:
Os yw eich plentyn yn iau nag un flwydd oed, fe fyddwch yn medru cael talebau ychwanegol.
Os ydych yn geisiwr lloches sy’n cael cymorth lloches gan y llywodraeth, ni fedrwch chi gael talebau cychwyn iach, ond os ydych yn feichiog neu â phlentyn sy’n iau na thair oed, fe gewch daliad ychwanegol ar gyfer llaeth neu fformwla babanod.
I hawlio talebau cychwyn iach, dylech lenwi ffurflen hawlio a chael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i’w chymeradwyo – er enghraifft bydwraig. Mae’r ffurflen yn y daflen 'Cychwyn Iach' y medrwch ei chael gan eich bydwraig neu feddyg neu oddi ar wefan Cychwyn Iach, www.healthystart.nhs.uk.
Os ydych yn credu bod hawl gennych i dalebau cychwyn iach ac nid ydych yn eu derbyn, neu rydych yn cael unrhyw drafferthion eraill gyda thalebau cychwyn iach, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor at Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae gan rai pobl sydd ar incwm isel hawl i fitaminau rhad ac am ddim. Fe allwch gael fitaminau rhad ac am ddim os ydych o leiaf 10 wythnos i mewn i'ch beichiogrwydd neu â phlentyn sy'n iau na phedair oed. Rhaid eich bod hefyd yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm. Byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael Credyd Treth Plant (ac nid oes hawl gennych i Gredyd Treth Gwaith) ac mae eich incwm yn ddigon isel.
Mae mathau eraill o help gyda chostau iechyd y GIG y mae’n bosib y medrwch eu cael os ydych ar incwm isel yn cynnwys:
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau iechyd, gweler Help gyda chostau iechyd.
Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, fe fydd eich plant yn cael cinio canol dydd rhad ac am ddim tra eu bod nhw yn yr ysgol ac o dan 19. Fe fydd hyn hefyd yn berthnasol i chi os ydych yn cael Credyd Treth Plant, nid oes hawl gennych i Gredyd Treth Gwaith ac mae eich incwm o dan swm penodol neu os ydych yn cael cydran gwarant Credyd Pensiwn. Ond, yn Lloegr, os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith am bedair wythnos am eich bod wedi stopio gweithio, neu mae eich oriau wedi gostwng i lai nag 16 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn dal i fedru cael cinio ysgol rhad ac am ddim i’ch plant. Os ydych yn geisiwr lloches, sy’n cael cymorth ariannol, rydych hefyd yn gymwys i ginio ysgol rhad ac am ddim i’ch plant.
Os ydych rhwng 16 –18 oed, yn dal i fod yn yr ysgol ac yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm eich hun, fe fyddwch yn cael cinio ysgol rhad ac am ddim.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cinio ysgol rhad ac am ddim, gweler Help gyda chostau ysgol.
Fe fydd rhai awdurdodau addysg lleol yn rhoi help gyda chost dillad ysgol i ddisgyblion y mae eu teuluoedd ar incwm isel. Dylid cyflwyno cais i’r awdurdod addysg lleol.
Yng Nghymru, efallai y bydd plant sy'n gymwys i gael cinio ysgol rhad ac am ddim hefyd yn medru cael grant dillad ysgol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda dillad ysgol, gweler Help gyda chostau ysgol.
Os ydych yn aros ymlaen yn yr ysgol neu’r coleg wedi i chi gyrraedd 16 oed, efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Ond, fe fydd Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gau i ymgeiswyr newydd yn Lloegr o Ionawr 2011.
Yn Lloegr, am fwy o wybodaeth ar Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gweler Help ariannol i fyfyrwyr 16-19 oed.
Yng Nghymru, am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gweler gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru yn www.studentfinancewales.co.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfansau Cynhaliaeth Addysg yn yr Alban, gweler Help gyda chostau addysg i ddisgyblion ysgol.
Os ydych ar incwm isel ac rydych angen cyngor gan gyfreithiwr, efallai y byddwch â hawl i gael cymorth cyfreithiol o dan y cynllun Help Cyfreithiol. Gelwir y cynllun hwn yn gyngor a chymorth cyfreithiol yn yr Alban a ‘green form scheme’ yng Ngogledd Iwerddon.
Am fwy o wybodaeth ar Help Cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth ar y cynllun ffurflen werdd yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Am fwy y wybodaeth ar gyngor a chymorth cyfreithiol yn yr Alban, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.