Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Rwy'n rhy sâl i fynd i'r gwaith. Ydw i'n medru cael unrhyw fudd-daliadau?

Os nad ydych yn medru gweithio am eich bod yn sâl neu'n anabl, efallai y byddwch yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol. Rhaid eich bod yn ennill o leiaf £102, ar gyfartaledd, bob wythnos, i fod yn gymwys. Os ydych yn ennill llai na'r swm yma, neu os ydych yn hunangyflogedig, nid ydych yn medru cael Tâl Salwch Statudol – efallai y byddwch yn medru hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle. Mae gweithwyr rhan amser, gweithwyr ar gytundeb tymor sefydlog a gweithwyr asiantaeth yn gymwys ar gyfer Tâl Salwch Statudol.

Telir Tâl Salwch Statudol ar gyfradd sefydlog o £81.60 yr wythnos. Caiff ei dalu am hyd at 28 wythnos. Efallai y cewch fwy o dâl salwch na hyn ond fe fydd yn dibynnu ar yr hyn y mae'n ei ddweud yn eich cytundeb cyflogaeth.

Os yw'ch cyflogaeth yn dod i ben tra'ch bod chi ar Dâl Salwch Statudol, fe fydd eich tâl salwch yn dod i ben hefyd. Nid yw Tâl Salwch Statudol yn stopio os ydych yn mynd i'r ysbyty tra'ch bod i ffwrdd o'r gwaith.

Pan fydd Tâl Salwch Statudol yn dod i ben neu nid ydych yn gyflogedig mwyach, efallai y byddwch yn medru hawlio budd-dal arall o'r enw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae yna ddau fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - un math, o'r enw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol, sy'n dibynnu ar eich cyfraniadau yswiriant gwladol a math arall, o'r enw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, a fydd yn cael ei dalu os yw'ch incwm a'ch cynilion yn ddigon isel. Efallai y byddwch yn medru cael y ddau fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu dim ond un math.

Yn ystod 13 wythnos gyntaf Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, fe fydd yn rhaid i chi gael nifer o brofion i ddarganfod a ydych yn medru gweithio ai peidio.

Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yr ydych yn medru ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau – er enghraifft, eich oed, eich amgylchiadau teuluol, a ydych wedi talu digon o gyfraniadau yswiriant gwladol ac a ydych o fewn 13 wythnos gyntaf eich hawliad.

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, fe fyddwch hefyd yn gymwys i gael budd-daliadau eraill sy'n gysylltiedig ag incwm, er enghraifft Budd-dal Tai, Budd-dal Treth Gyngor a help gyda chostau iechyd.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Tâl Salwch Statudol ewch at I ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch. Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, ewch at Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â budd-daliadau: