Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Gan ddibynnu am ba hyd y mae eich cymydog wedi bod yn sâl a’r math o gymorth sydd angen arno, mae’n bosib y bydd yn medru hawlio Lwfans Gweini os yw'n 65 neu'n hyn (neu Lwfans Byw i’r Anabl os ydyw'n iau na 65 oed). Nid oes prawf moddion ar gyfer y ddau fudd-dâl yma ac felly ni ystyrir unrhyw gyfalaf sydd ganddo pan fydd yn gwneud cais.
Mae’n bosib hefyd y bydd eich cymydog yn medru hawlio Credyd Pensiwn. Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dâl sy’n amodol ar brawf moddion, felly mae cyfalaf fel cynilion yn cael eu hystyried yn yr asesiad. Os ydyw'n talu rhent am ei lety, mae'n medru hawlio Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor.
Bydd eich adran gwaith cymdeithasol lleol yn medru asesu anghenion eich cymydog. Mae’n bosib y gellir trefnu cymorth mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft, gosod rheiliau neu gyfarpar codi yn yr ystafell ymolchi, neu gael rhywun i ymweld ag ef yn rheolaidd.
Mae’n bosib y bydd eich cymydog hefyd yn gymwys i dderbyn cymorth gyda chostau iechyd ac ymweliadau i’r ysbyty.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau i bobl hyn, gan gynnwys Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda'ch treth gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Am wybodaeth ar gael help gan y gwasanaethau cymdeithasol, gweler Gofal cymunedol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau iechyd, gweler Help gyda chostau iechyd.