Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Ydw i'n medru parhau i gael fy mudd-daliadau os ydw i'n mynd i fyw dramor?

Fel rheol gyffredinol, ni fyddwch yn cael yr holl fudd-daliadau y buasech yn medru eu cael pe buasech yn byw yn y Deyrnas Unedig. Felly, fe fydd angen i chi holi'ch swyddfa budd-daliadau i weld pa fudd-daliadau fedrwch chi eu hawlio pan fyddwch chi’n mynd. Efallai y bydd hyn yn dibynnu am faint fyddwch chi dramor a hefyd i ba wlad yr ydych chi'n mynd.

Mae’n medru bod yn anodd iawn parhau i hawlio rhai budd-daliadau os ydych yn mynd dramor. Mae’r rheolau sy’n dweud p’un ai eich bod yn medru eu hawlio ai peidio yn gymhleth iawn. Os yn bosib, dylech geisio cael cyngor arbenigol ynglŷn â’ch sefyllfa cyn i chi fynd dramor. Efallai y bydd canolfan Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu neu’ch cyflwyno chi i rywun sy’n medru eich helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, rhowch glic ar (New window) CAB agosaf.

Os ydych yn mynd dramor, rhaid i chi ddweud wrth eich swyddfa budd-daliadau:

  • eich bod yn mynd dramor
  • ble rydych chi'n mynd
  • os ydych yn symud dros dro, y dyddiad yr ydych yn bwriadu dod yn ôl.

Efallai y byddwch yn medru parhau i gael rhai o'r budd-daliadau tra'ch bod chi dramor. Er enghraifft, os ydych yn ymddeol dramor, fe fyddwch yn medru parhau i gael Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth o'r Deyrnas Unedig. Ond, os ydych yn mynd dramor yn barhaol, fe fyddwch ond yn cael y cynnydd blynyddol yn eich pensiwn os ydych yn symud i wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu wlad sydd â threfniant arbennig gyda'r Deyrnas Unedig. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn ar: 0191 218 7777.

Am restr o wledydd yn yr AEE, gweler Pa fudd-daliadau sydd ar gael i weithwyr os ydynt yn dod i'r Deyrnas Unedig o dramor.

Efallai y byddwch hefyd yn medru parhau i gael cydran gofal Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini a Lwfans Cynhaliwr os ydych yn symud i wlad arall yn yr AEE. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu'ch swyddfa budd-daliadau leol.

Am restr o wledydd yn yr AEE, gweler Pa fudd-daliadau sydd ar gael i weithwyr os ydynt yn dod i'r Deyrnas Unedig o dramor.

Efallai y byddwch yn medru parhau i gael rhai budd-daliadau eraill os ydych yn mynd i ffwrdd dros dro. Er enghraifft, efallai y byddwch yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau am gyfnod dros dro os ewch i fyw mewn gwlad yn y AEE. Rhaid i chi gwrdd ag amodau penodol. Nid ydych yn medru cael Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm os ewch i fyw dramor.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau dramor, rhowch glic ar wefan directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk neu cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu'ch swyddfa budd-daliadau leol.

Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau dramor, rhowch glic ar wefan nidirect yn: (New window) www.nidirect.gov.uk, neu cysylltwch â’ch Swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddfa Swyddi a Budd-daliadau lleol.

Mae yna ganllaw defnyddiol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd i fudd-daliadau yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Rhowch glic ar (New window) www.dwp.gov.uk.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â budd-daliadau: