Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Dwi newydd adael fy nghartref a phob peth sydd gen i er mwyn dianc rhag fy mhartner treisgar. Oes unrhyw help ariannol ar gael i mi?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae’n bosib y byddwch yn medru cael cymorth gan y Gronfa Gymdeithasol ar ffurf Benthyciad Argyfwng. Darperir Benthyciad Argyfwng er mwyn cwrdd â chostau argyfwng, neu fel canlyniad i drychineb.

Os ydych eisoes yn derbyn budd-daliadau penodol, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Benthyciad Trefniant neu Grant Gofal Cymunedol. Mae’n rhaid ad-dalu Benthyciad Argyfwng a Benthyciad Trefniant ond dim ond y swm a fenthycwyd sy’n rhaid ei ad-dalu. Nid oes rhaid ad-dalu Grant Gofal Cymunedol.

Os oeddech yn dibynnu'n ariannol ar eich cynbartner ac nid oes gennych incwm nawr, mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio budd-daliadau ar eich cyfer chi eich hun hefyd, fel Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm. Os ydych yn gweithio’n rhan amser mae’n bosib y gallwch hawlio Credyd Treth Gwaith. Os ydych yn rhentu cartref newydd, efallai y cewch gymorth gyda chostau Tai a Threth Gyngor os ydych yn hawlio Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor. Os ydych yn ddigartref am i chi adael eich partner, gallwch geisio cymorth gydag ailgartrefu oddi wrth eich Awdurdod Lleol.

Mae yna nifer o gymdeithasau sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth. Er enghraifft, Cymorth i Fenywod ar gyfer merched sy'n dioddef trais yn y cartref neu Survivors UK Ltd ar gyfer dynion sy'n dioddef trais yn y cartref. Mae yna gymdeithasau hefyd sy’n anelu at helpu dynion sy’n dreisgar tuag at eu partneriaid.

Am fwy o wybodaeth ynghylch benthyciadau argyfwng, benthyciadau cyllidebu a grantiau gofal cymunedol, gweler Help i bobl ar incwm isel – y Gronfa Gymdeithasol.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Lwfans Ceisio Gwaith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Gwaith, gweler Budd-daliadau a chredydau treth i bobl sy'n gweithio.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda'ch treth gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch digartrefedd, gweler Dod o hyd i lety.
Am fwy o wybodaeth ynghylch trais yn y cartref, gweler Trais yn y cartref.
Am fwy o wybodaeth ar beth i'w wneud wedi i berthynas chwalu, gweler Dod â pherthynas i ben, Dod â pherthynas i ben pan rydych chi'n cydfyw, neu Dod â phartneriaeth sifil i ben.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â budd-daliadau: