Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

  • Scotland
  • Benefits
  • Budd-daliadau a chonsesiynau i’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd

Budd-daliadau a chonsesiynau i’r Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban



Ynglŷn â’r wybodaeth hon

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i:

  • bobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog
  • pobl oedd yn arfer gwasanaethu yn y lluoedd arfog (cyn-filwyr)
  • dibynyddion pobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chyn-filwyr.

Mae yna lawer o wahanol fathau o help ariannol ar gael i bobl yn y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Rydych yn medru defnyddio’r wybodaeth hon i ddarganfod pa help ariannol allai fod ar gael i chi, gan ddibynnu ar eich sefyllfa. Rydych hefyd yn medru defnyddio’r wybodaeth hon i ddod o hyd i fanylion mudiadau a allai eich helpu chi ymhellach.

Nôl i’r brig


Pa help ariannol sydd ar gael?

Mae yna amrywiaeth o help ariannol ar gael i gyn-filwyr, pobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u dibynyddion. Mae hyn yn medru cynnwys:

Nôl i’r brig


Budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig

Efallai hefyd y bydd cyn-filwyr, pobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u dibynyddion yn medru hawlio amrywiaeth o fudd-daliadau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Budd-dal Plant
  • Tâl Salwch Statudol
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • credydau treth.

Mae mwy o wybodaeth ar fudd-daliadau i gyn-filwyr, pobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u dibynyddion ar wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn (New window) www.mod.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler ein hadran Budd-daliadau.

Nôl i’r brig


Budd-daliadau dramor

Os ydych yn gyn-filwr sy’n byw dramor, neu rydych yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog dramor, efallai y byddwch chi a’ch dibynyddion yn dal i fedru hawlio rhai budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig. Efallai y byddwch yn medru hawlio:

  • Lwfans Mamolaeth
  • Budd-dal Plant
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn rhai o wledydd yr Undeb Ewropeaidd yn unig).

Mae mwy o wybodaeth ar fudd-daliadau dramor i gyn-filwyr, y rheiny sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a’u dibynyddion ar wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn (New window) www.mod.uk.

Os ydyn nhw’n gwrthod rhoi budd-dal i chi a chithau’n teimlo y dylech ei gael, fe allwch gysylltu â’r Lleng Brydeinig Frenhinol i gael help i apelio. Dyma’r manylion cyswllt:

Llinell Legionline: 08457 725 725 (ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 10yb – 4yp)
E-bost: info@britishlegion.org.uk
Gwefan: (New window) www.britishlegion.org.uk.

Nôl i’r brig


Gostyngiad yn y dreth gyngor

Efallai y byddwch yn medru cael taliad di-dreth fel gostyngiad oddi ar eich treth gyngor neu gyfraniadau yr ydych yn eu talu yn lle’r dreth gyngor. Efallai y byddwch yn medru cael taliad rhyddhad os ydych yn gwasanaethu dramor yn y lluoedd arfog ac rydych yn talu:

  • treth gyngor ar eiddo yn y Deyrnas Unedig, neu
  • cyfraniadau yn lle treth gyngor ar gyfer llety i deuluoedd y rheiny sy’n gwasanaethu

Rhoddir taliadau ar ddiwedd eich amser dramor. Maen nhw’n seiliedig ar y nifer o ddiwrnodau a wasanaethwyd dramor.

Os ydych wedi gwasanaethau yn Afghanistan ac Irac dylech gael taliadau ar gyfer unrhyw gyfnod o wasanaeth tramor ers 1 Hydref 2007.

Os oeddech wedi eich lleoli yn y mannau canlynol o 1 Chwefror 2008, dylech gael taliadau ar gyfer unrhyw gyfnod o wasanaeth tramor:

  • Bahrain
  • Bosnia
  • Ynysoedd Atlantig y De y Lluoedd Arfog
  • Diego Garcia
  • Kosovo
  • Kuwait
  • Oman
  • Qatar
  • Cychod y Llynges Frenhinol sy’n cael Pecyn Lles ar Leoliad (Tramor)
  • Gweithrediadau’r Cenhedloedd Unedig.

Pensiynau’r lluoedd arfog

Os ydych yn hawlio pensiwn rhyfel, neu bensiwn i wŷr gweddw neu weddwon rhyfel, ac rydych yn symud dramor, dylech gael cyngor ar eich pensiwn.

Mae cyngor ar gael gan Asiantaeth o’r enw Service Personnel and Veterans Agency. Dyma’u manylion cyswllt:

Rhif ffôn o’r Deyrnas Unedig: 0800 169 22 77
Rhif ffôn o dramor: + 44 1 253 866043
E-bost: veterans.help@spva.gsi.gov.uk.

Nôl i’r brig


Help gyda ffioedd ysgol a chostau gofal plant

Os ydych yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ar hyn o bryd, efallai y byddwch yn medru hawlio lwfans i’ch helpu i dalu am ffioedd ysgol breswyl eich plentyn. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Wasanaeth Cynghori Addysg Plant. Dyma’u manylion cyswllt:

Llinell Gymorth: 01980 618244 (8.30yb - 3.30yp Dydd Llun i Ddydd Gwener)
E-bost: enquiries@ceas.detsa.co.uk.

Rydych yn medru prynu talebau gofal plant i dalu am ofal eich plentyn. Nid oes rhaid talu treth nac yswiriant gwladol arnynt ac felly rydych yn medru arbed tipyn ar gost gofal plant. Os ydych yn cofrestru ar gyfer cynllun talebau gofal plant y lluoedd arfog mae cost y talebau hyn yn cael eu tynnu o’ch cyflog bob mis. Gellir defnyddio’r talebau i dalu am ofal mewn meithrinfa, gwersylloedd haf i bobl ifanc yn eu harddegau, ffioedd ysgolion preswyl a llawer o gostau gofal plant eraill.

Mae mwy o wybodaeth a ffurflenni cais ar gyfer gofal plant a ffioedd ysgol ar wefan Gofal Plant y Weinyddiaeth Amddiffyn yn: (New window) www.modchildcare.co.uk.

Nôl i’r brig


Teithio rhad ac am ddim a gostyngiad ar gostau teithio

Teithio i Gofio am y Rhyfel

Mae ymgyrch ‘Poppy Travel’ y Lleng Brydeinig Frenhinol yn trefnu ymweliadau i fynwentydd, meysydd rhyfel a chofebion ar draws y byd. Mae manylion teithiau’r dyfodol ar wefan (New window) www.poppytravel.org.uk.

Mae help ariannol ar gael gan y Llywodraeth i wŷr gweddw a gweddwon rhyfel sydd am ymweld â bedd neu gofeb eu cymar. Mae hyn yn berthnasol i’r rheiny sydd wedi colli eu gwr neu wraig dramor cyn 1967 yn unig.

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Poppy Travel: 01622 716 729.

Teithio i gyn-filwyr yn Llundain

Rydych yn medru gofyn am gael ymuno â Chynllun Mantais Teithio i Gyn-filwyr yn Llundain os ydych yn:

  • gyn-filwr sy’n cael help ariannol o dan y Cynllun Pensiynau Rhyfel
  • gyn-filwr sy’n cael help ariannol rheolaidd o dan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
  • gŵr gweddw neu weddw rhyfel sy’n cael help ariannol gan y Cynllun Iawndal Pensiynau Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.

O dan Gynllun Mantais Teithio i Gyn-filwyr, fe fyddwch yn cael cerdyn llun Oyster. Fe fyddwch yn medru defnyddio’r cerdyn i deithio’n rhad ac am ddim ar unrhyw adeg yn Llundain, ar y bws, ar y trên tanddaearol, rheilffordd DLR (Docklands Light Railway), ar y tram ac ar wasanaethau ar ben y ddaear yn Llundain.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y cynllun hwn trwy gysylltu â Transport for London. Dyma’u manylion cyswllt:

Llinell Gymorth: 0845 331 9872 (ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9.00yb – 5.00yp)
Gwefan: (New window) www.tfl.gov.uk.

Teithio ar y bws yng Nghymru i aelodau’r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr

Yng Nghymru, mae aelodau’r Lluoedd Arfog a anafwyd yn ddifrifol tra’n gwasanaethu, a chyn-filwyr a anafwyd yn ddifrifol, yn cael tocyn bws rhad ac am ddim ac yn cael teithio’n rhad ac am ddim ar fysiau lleol ar unrhyw adeg, yng Nghymru.

Mae gwybodaeth bellach ar y cymorth sydd ar gael i aelodau’r Lluoedd Arfog a chyn-filwyr yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru yn: (New window) cymru.gov.uk

Cynllun Bathodyn Glas

Os ydych yn gyn-filwr anabl, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y Cynllun Bathodyn Glas. Fe fyddwch yn gymwys os:

  • rydych yn cael pensiwn anabledd rhyfel sylfaenol o dan y cynllun pensiynau rhyfel, ac
  • rydych yn gymwys ar gyfer ychwanegiad symudedd pensiynwyr rhyfel.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r pensiwn anabledd rhyfel, gweler Cynlluniau pensiwn ac iawndal ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Bathodyn Glas ar wefan Directgov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Cerdyn Rheilffordd y Lluoedd

Mae pobl sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, gwŷr, gwragedd a phlant dibynnol, yn medru prynu Cerdyn Rheilffordd Lluoedd EM. Mae’n rhoi 1/3 oddi ar y rhan fwyaf o gostau rheilffordd ar draws y Deyrnas Unedig am flwyddyn.

Mae gwŷr gweddw a gweddwon rhyfel, a’u dibynyddion, sy’n cael pensiwn gan y lluoedd arfog, hefyd yn gymwys i gael Cerdyn Rheilffordd.

Mae mwy o wybodaeth ar Gerdyn Rheilffordd y Lluoedd, gan gynnwys faint mae’n costio a’r arbedion sydd ar gael, ar wefan: (New window) www.hmforces-railcard.co.uk.

Os ydych yn ŵr gweddw neu’n weddw rhyfel rydych yn medru gofyn am Gerdyn Rheilffordd trwy’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Dyma’u manylion cyswllt:

Llinell y Lleng: 08457 725 725 (ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 10yb – 4yp)
E-bost: info@britishlegion.org.uk
Gwefan: (New window) www.britishlegion.org.uk.

Nid yw cyn-filwyr yn medru ceisio am y cerdyn rheilffordd hwn.

Nôl i’r brig


Cynllun Gostyngiadau’r Lluoedd

Mae pobl sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn medru cael gostyngiadau o dan Gynllun Gostyngiadau’r Lluoedd. Y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n noddi’r cynllun hwn.

Mae’r cynllun yn cynnig gostyngiadau gan amrywiaeth o gwmnïau, gan gynnwys diwrnodau allan, yswiriant a theithio. Rydych hefyd yn medru cael gostyngiadau ar nwyddau gan siopau adrannol ar-lein.

Rhaid i chi gofrestru er mwyn cael gostyngiadau trwy’r cynllun, ond nid oes unrhyw dâl am gofrestru.

I gael mwy o wybodaeth ar Gynllun Gostyngiadau’r Lluoedd rhowch glic ar: (New window) www.forcesdiscounts-mod.co.uk .

Nôl i’r brig


Help pellach

Mwy o wybodaeth ar gyfer y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd ar Adviceguide

Am fwy o wybodaeth ar addysg, gweler Help gyda hyfforddiant a chymwysterau i bobl sy’n gadael y Lluoedd arfog a chyn-filwyr.

Am fwy o wybodaeth ar iechyd, gweler Gofal iechyd i bobl a anafwyd yn y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr.

Am fwy o wybodaeth ar dai, gweler Opsiynau tai i bobl sy’n gadael y Lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Am fwy o wybodaeth ar bensiynau, gweler Cynlluniau pensiwn ac iawndal ar gyfer y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Mudiadau eraill

Y Lleng Brydeinig Frenhinol (Royal British Legion) – Cymru a Lloegr

Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn medru cynnig cyngor i’r lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd ar lawer o faterion, gan gynnwys materion ariannol.

Dyma’u manylion cyswllt:

Llinell y Lleng: 08457 725 725
E-bost: info@britishlegion.org.uk
Gwefan: (New window) www.britishlegion.org.uk.

Armed Services Advice Project – Yr Alban

Mae ASAP (The Armed Services Advice Project) yn rhoi cyngor ar lawer o faterion, gan gynnwys materion ariannol, i Gymuned y Lluoedd Arfog yn yr Alban. Mae’r gymuned hon yn cynnwys aelodau o’r Llynges Fasnachol (a’u dibynyddion) sydd wedi gwasanaethu mewn cychod masnachol i gefnogi gweithrediadau milwrol penodol y Deyrnas Unedig.

Fe allwch ffonio llinell gymorth ASAP, a weithredir gan Citizens Advice Direct, ar 0845 231 0300.

Neu, rhowch glic ar y wefan: www.citizensadvicedirect.org.uk ac anfonwch e-bost. Fe allwch fynd at eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol hefyd. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar (New window) CAB agosaf.

Service Personnel and Veterans Agency

Mae’r SPVA (Service Personnel and Veterans Agency) wedi cynhyrchu Map Gwybodaeth. Rydych yn medru ei ddefnyddio i ddod o hyd i fanylion mudiadau eraill yn eich ardal sydd efallai’n medru eich helpu.

Rydych yn medru chwilio am fudiadau sy’n helpu gyda:

  • materion ariannol, gan gynnwys budd-daliadau a phensiynau
  • llety
  • cyflogaeth.

Mae’r Map Gwybodaeth ar gael ar-lein yn: (New window) www.veterans-uk.info.

Neu ffoniwch llinell gymorth yr SPVA ar 0800 169 22 77.

Nôl i’r brig