Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Taliadau’r GIG i bobol o dramor

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Taliadau’r GIG a phobol o dramor

Mae’ch hawl chi i driniaeth y GIG am ddim yn dibynnu ar hyd a phwrpas eich preswylio yn y DU, nid ar eich cenedligrwydd. Gall fod yna daliadau am rai gwasanaethau’r GIG, er enghraifft, eich triniaeth ddeintyddol, ac efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda’r costau hyn. Nid yw unrhyw driniaeth y GIG am ddim a dderbyniwch, neu unrhyw gymorth gyda chostau GIG, yn effeithio ar eich statws mewnfudiad.

Os ydych yn gymwys i’w dderbyn, fe allwch chi gael triniaeth am ddim ar unwaith. Nid oes cyfnod cymhwyso.

Os oes rhaid i chi dalu am driniaeth oherwydd nad ydych yn cwrdd ag amodau preswylio, nid yw hyn yn cyfrif fel gwahaniaethu. Sut bynnag, rhaid rhoi gwybodaeth glir i chi am daliadau mewn ffordd y byddwch yn ei ddeall. Gall hyn gynnwys darparu gwybodaeth mewn iaith dramor neu trwy ddehonglydd, os oes angen. Os na roddir gwybodaeth glir i chi, gall hyn fod yn wahaniaethu ac fe allwch chi gwyno amdano.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am yr NHS yn Lloegr, gweler Cwynion Y GIG a gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol. Yn yr Alban, gweler Cwynion yr NHS. Yng Nghymru, gweler Cwynion y GIG yng Nghymru. Yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cwynion yr HPSS yng Ngogledd Iwerddon.

Triniaeth sydd bob amser am ddim

Mae peth triniaeth ysbyty yn rhad ac am ddim i bawb sy’n dymuno’i gael, nid oes wahaniaeth pa mor hir y buon nhw neu y bwriadan nhw fyw yn y DU. Mae hyn yn golygu:

  • triniaeth ar gyfer damweiniau ac achosion brys fel claf allanol yn adran damweiniau ac achosion brys ysbyty. Mae triniaeth frys mewn canolfan galw-i-mewn am ddim hefyd (Lloegr a Chymru’n unig). Sut bynnag, os cyfeirir chi at glinig claf allanol neu os cewch chi eich derbyn i ysbyty o adran damweiniau ac achosion brys, fe godir tâl arnoch.
  • triniaeth seiciatrig orfodol
  • Yn Lloegr a’r Alban, triniaeth orfodol o dan orchymyn llys
  • triniaeth ar gyfer clefydau trosglwyddadwy arbennig, megis tiwberciwlosis, colera, gwenwyn bwyd, malaria, llid yr ymennydd a ffliw pandemig. Mae prawf ar gyfer y firws HIV ynghyd â chynghori yn dilyn y prawf yn rhad ac am ddim, ond mae’n bosibl y bydd yn rhaid talu am unrhyw driniaeth neu feddyginiaeth dilynol fydd yn angenrheidiol.
  • gwasanaethau cynllunio teulu.

Pwy sy’n gallu derbyn holl driniaethau ysbyty’r GIG am ddim

Gallwch dderbyn triniaeth ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim os oes hawl cyfreithlon gennych i fod yn y Deyrnas Unedig ac rydych yn preswylio yma fel arfer.

Gall rhai pobl o dramor nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig dderbyn holl driniaethau ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim. Os ydych chi’n gymwys i dderbyn triniaethau ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim, bydd aelodau’ch teulu, gan gynnwys eich priod, partner sifil a phlant dibynnol, hefyd yn gallu derbyn triniaeth yn rhad ac am ddim, ond dim ond os oes hawl cyfreithiol ganddynt i fyw yn y Deyrnas Unedig. Mewn llawer o achosion, rhaid eu bod hefyd yn byw gyda chi trwy gydol eich cyfnod yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn gymwys.

Fe allwch chi dderbyn triniaeth ysbyty’r GIG am ddim os ydych:

  • wedi bod yn byw yn gyfreithiol yn y DU am o leiaf 12 mis pan fyddwch chi’n dechrau’r driniaeth, ac nid ydych wedi dod i’r DU i gael triniaeth feddygol breifat. Anwybyddir absenoldebau dros dro o’r DU i fyny at dri mis (yn Lloegr i fyny at 182 diwrnod).
  • wedi dod i’r DU i fyw yma’n barhaol, er enghraifft, os ydych chi'n gyn preswylydd o’r DU ac wedi dychwelyd o dramor, neu os ydych chi wedi cael caniatâd i ddod yma neu aros fel priod.
  • wedi dod i’r DU i weithio, naill ai fel gweithiwr neu fel person hunangyflogedig. Yng Nghymru a Lloegr, os ydych yn gyflogedig, rhaid bod prif leoliad busnes eich cyflogwr yn y Deyrnas Unedig neu rhaid ei fod wedi’i gofrestru yn y Deyrnas Unedig. Fe allai fod yn gangen o gwmni tramor, er enghraifft. Os ydych yn hunangyflogedig, rhaid bod eich prif leoliad busnes yn y Deyrnas Unedig
  • fel arfer yn gweithio yn y DU, ond yn gweithio dramor dros dro, am lai na phum mlynedd. Rhaid eich bod hefyd wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig am o leiaf 10 mlynedd yn barhaus cyn i chi fynd dramor.
  • yn yr Alban, fel arfer yn gweithio yn y Deyrnas Unedig ond yn gweithio dramor dros dro. Rhaid eich bod hefyd wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig am o leiaf 10 mlynedd yn barhaus ac wedi dod adref ar wyliau i’r Deyrnas Unedig o leiaf unwaith bob dwy flynedd. Ond, os ydych yn astudio dramor, efallai na fydd hawl gennych i driniaeth rad ac am ddim gan y GIG
  • yn derbyn pensiwn rhyfel y DU
  • wedi cael gwarchodaeth dros dro, lloches neu warchodaeth ddyngarol, neu wedi ceisio am warchodaeth o’r fath
  • yng Nghymru, wedi ceisio am loches
  • yn Lloegr, wedi methu â chael lloches mewn rhai amgylchiadau neu yng Nghymru a’r Alban, wedi methu â chael lloches
  • yn Lloegr, yn blentyn y mae’r awdurdod lleol wedi ei gymryd i’w ofal
  • wedi’ch nodi fel cael eich masnachu o dramor neu os credir eich bod wedi’ch masnachu o dramor
  • wedi’ch carcharu yn y DU neu’n cael eich cadw yma gan awdurdodau mewnfudo'r DU
  • yn cael pensiwn ymddeol y wladwriaeth gan y Deyrnas Unedig ac yn byw yn y Deyrnas Unedig am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn (yng Nghymru a’r Alban, chwe mis y flwyddyn) ac yn byw mewn gwlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu yn y Swistir am weddill y flwyddyn. Os ydych wedi’ch cofrestru fel preswylydd gwlad arall sy’n aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, efallai y bydd hawl gennych i driniaethau ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim os digwydd i chi fynd yn sâl yn ystod taith yn ôl i’r Deyrnas Unedig
  • o wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir ac mae gennych Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd. Nid yw’r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd yn golygu y gallwch ddod i’r Deyrnas Unedig yn unswydd i gael triniaeth feddygol, ond mae’n golygu y gallwch gael gofal yn rhad ac am ddim os cewch eich cyfeirio i’r Deyrnas Unedig am driniaeth a gynlluniwyd ymlaen llaw gyda thystysgrif S2 neu E112
  • yn fyfyriwr sy’n dilyn cwrs astudio sy’n parhau am o leiaf chwe mis, neu gwrs sy’n cael ei gyllido’n sylweddol gan Lywodraeth Cymru, y DU, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Gwledydd yr EEA yw gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a Liechtenstein, Gwlad yr Ia a Norwy.

Er mwyn darganfod pa wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd, ewch i Yr Undeb Ewropeaidd.

Ymwelwyr sydd weithiau’n gallu derbyn triniaeth ysbyty’r GIG am ddim

Rydych yn gymwys i dderbyn triniaeth ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim os ydych yn un o’r bobl ganlynol ac fe aethoch yn sâl yn ystod eich ymweliad. Nid oes hawl gennych i gael triniaeth arferol am gyflwr sydd eisoes yn bodoli.

Cewch ofal rhad ac am ddim gan y GIG os ydych:

  • yn dod o wlad sydd tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd ac mae’ch gwlad wedi llofnodi cytundeb gofal iechyd gyda’r Deyrnas Unedig. Mae’r hyn fedrwch chi ei gael yn dibynnu ar y cytundeb
  • yn cael pensiwn ymddeol y wladwriaeth gan y Deyrnas Unedig neu un arall o fudd-daliadau’r wladwriaeth, ac fel arfer yn byw mewn gwlad sydd ddim yn aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Rhaid eich bod wedi byw’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig ers o leiaf deng mlynedd yn barhaus yn y gorffennol, neu wedi gweithio i lywodraeth y Deyrnas Unedig am o leiaf deng mlynedd yn barhaus. Mae gan eich priod, eich partner sifil a phlant dibynnol hawl i driniaeth ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim hefyd os digwydd iddynt fynd yn sâl. Rhaid eu bod yn byw gyda chi trwy gydol eich cyfnod
  • yn y Deyrnas Unedig
  • wedi byw’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig am o leiaf deng mlynedd yn barhaus yn y gorffennol a nawr yn byw mewn gwlad sy’n aelod o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu yn y Swistir, neu mewn gwlad sydd wedi llofnodi cytundeb gofal iechyd gyda’r Deyrnas Unedig. Mae gan eich priod, eich partner sifil a phlant dibynnol hawl i driniaeth ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim hefyd os digwydd iddynt fynd yn sâl. Rhaid eu bod yn byw gyda chi trwy gydol eich cyfnod yn y Deyrnas Unedig
  • yn Lloegr, wedi cael caniatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig i gael triniaeth feddygol. Os ydych eisiau gofal rhad ac am ddim, rhaid i chi anfon cais i’r Ysgrifennydd Gwladol cyn i chi geisio cael triniaeth. Rhoddir caniatâd os oes rhesymau dyngarol eithriadol i gyfiawnhau hyn. Os ydych wedi cael caniatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig yn gwmni i rywun sydd â hawl i driniaeth am resymau dyngarol eithriadol, rydych chi hefyd â hawl i driniaeth ysbyty’r GIG yn rhad ac am ddim os digwydd i chi fynd yn sâl yn ystod eich ymweliad
  • yn Lloegr, rydych yn cymryd rhan yng Ngêmau Olympaidd neu Baralympaidd Llundain 2012, neu ynghlwm â hwy.

Er mwyn darganfod pa wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd, ewch i Yr Undeb Ewropeaidd.

I ddarganfod pa rai o’r gwledydd sydd ddim yn yr Ardal Economaidd Arbennig sydd â chytundeb gofal iechyd gyda’r Deyrnas Unedig, rhowch glic ar (New window) www.nhs.org.uk.

Yn ychwanegol, gall rhai pobol o rai gwledydd gael triniaeth am ddim os ydyn nhw wedi’u cyfeirio at y DU am y driniaeth honno, o dan amodau’r trefniant cytbwys. Mae yna hefyd drefniadau arbennig gyda rhai gwledydd sy’n galluogi pobol o’r tu allan i’r DU i gael triniaeth am ddim. Gall yr Adran Iechyd roi manylion o’r gwledydd sydd â threfniant cytbwys gyda’r DU ac sydd â threfniadau arbennig ar eu cyfer.

Nôl i’r brig


Meddygon Teulu a Deintyddion

Penderfyniad y Meddyg Teulu neu’r deintydd ydyw os ydyn nhw’n eich derbyn ar eu rhestr o gleifion y GIG. Efallai y byddan nhw’n eich derbyn ar eu rhestr os ydych chi’n byw yn y DU, ond nid oes rhaid iddynt.

Fel arfer nid yw ymwelwyr yn gymwys i dderbyn triniaeth y tu allan i’r ysbyty. Er enghraifft, os oeddech chi’n arfer byw yn y DU ac yna’n mynd i fyw dramor, fyddech chi ddim fel arfer yn cael triniaeth am ddim petaech chi’n dod yn ôl ar ymweliad. Mae yna rai eithriadau i’r rheolau hyn, er enghraifft, os oes angen triniaeth frys arnoch.

Gall Meddyg Teulu, yn ymarferol, fod yn hyblyg wrth benderfynu a ydych yn preswylio yn y DU, er mwyn bod yn gymwys i dderbyn triniaeth am ddim. Fel arfer bydd yn rhaid i chi ddangos fod gan eich arhosiad yn y DU rhywfaint o sefydlogrwydd.

Os ydych chi’n ymwelydd yn y DU am lai na thri mis, gall Meddyg Teulu eich derbyn fel preswylydd dros dro. Fel arall, gall Meddyg Teulu gynnig eich derbyn fel claf preifat a bydd yn rhaid i chi dalu am eich triniaeth.

Efallai y cewch chi drafferth dod o hyd i Feddyg Teulu neu ddeintydd sy’n barod i’ch cofrestru. Yn y sefyllfa hon fe ddylech chi gysylltu â’ch Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol neu Fwrdd Iechyd lleol. Yn Lloegr a Chymru, fe allwch chi hefyd gael cymorth i ddod o hyd i feddyg oddi wrth NHS Direct/Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Yn yr Alban fe allwch chi gysylltu â NHS 24 ar 0845 424 2424. Yng Ngogledd Iwerddon, fe ddylech chi gysylltu â’r Asiantaeth Gwasanaethau Canolog ar 028 9032 4431, neu mae rhestr o Feddygon Teulu fesul ardal Bwrdd ar gael o wefan NHS Gogledd Iwerddon yn (New window) www.n-i.nhs.uk.

Hyd yn oed os cewch chi’ch derbyn ar restr gleifion y GIG gan Feddyg Teulu neu ddeintydd, mae’n rhaid i chi dalu am rai pethau megis taliadau presgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thaliadau a’r cymorth y gallech chi ei gael i dalu amdanynt, gweler Cymorth gyda chostau iechyd.

Nôl i’r brig


Sut mae ysbytai’n penderfynu pwy ddylai dalu

Bydd staff yr ysbyty yn holi cwestiynau i chi i weld os oes angen i chi neu’r aelod o’ch teulu dalu am driniaeth.

Yn Lloegr, fe fydd staff cofrestru’r ysbyty yn holi:

  • a ydych yn ddinesydd o’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, neu os oes teitheb ddilys gennych neu ganiatâd i ddod i’r Deyrnas Unedig neu i aros yn y Deyrnas Unedig, a
  • pa wlad neu wledydd yr ydych wedi byw ynddynt yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

Os mai ‘na’ yw’ch ateb i’r cwestiwn cyntaf, fe fydd tîm ymwelwyr tramor yr ysbyty yn eich cyfweld chi i benderfynu a fydd yn rhaid i chi dalu am driniaeth ai peidio.

Fe fyddwch hefyd yn cael cyfweliad os ydych yn dweud nad ydych wedi byw yn y Deyrnas Unedig yn y deuddeg mis diwethaf neu os ydych yn dweud eich bod wedi byw yn y Deyrnas Unedig ac mewn gwlad arall yn y deuddeg mis diwethaf. Efallai y bydd staff cofrestru yn gofyn i chi brofi ble’r ydych yn byw.

Yng Nghymru a’r Alban, fe fydd staff cofrestru’r ysbyty yn holi:

  • a ydych chi neu’r aelod o’ch teulu wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig am y deuddeg mis diwethaf neu
  • a ydych chi, neu’r aelod o’ch teulu, yn bwriadu byw’n barhaol yn y Deyrnas Unedig a
  • phryd gyrhaeddoch chi neu’r aelod o’ch teulu’r Deyrnas Unedig.

Yng Nghymru, os ydych chi wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig am fwy na 12 mis, gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth eich bod wedi bod yn byw yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

Os nad ydych wedi bod yn byw yn y Deyrnas Unedig am fwy na 12 mis, fe fyddwch yn cael cyfweliad gan yr ysbyty i benderfynu os oes rhaid i chi dalu am driniaeth. Efallai y gofynnir i chi roi prawf o’ch presenoldeb yn y Deyrnas Unedig. Efallai y bydd angen barn feddygol hefyd, er enghraifft, i brofi bod eich salwch wedi dechrau yn ystod eich ymweliad â’r Deyrnas Unedig neu wedi gwaethygu yn ystod eich ymweliad.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae yna weithdrefn symlach i nodi pwy ddylai dalu am y driniaeth, ac efallai na fydd y broses uchod yn berthnasol. Efallai y gofynnir cwestiynau i chi i gadarnhau eich preswylfa.

Nôl i’r brig


Talu am driniaeth ysbyty

Unwaith y bydd yr ysbyty wedi sefydlu fod yn rhaid i chi dalu am y driniaeth, fel arfer gofynnir i chi dalu’r gost yn llawn ymlaen llaw, oni bai fod angen triniaeth frys ar unwaith.

Os na allwch chi dalu ymlaen llaw, bydd yr ysbyty yn gofyn am ymrwymiad ysgrifenedig i dalu.

Os na allwch chi ddarparu prawf eich bod yn gallu fforddio talu, gwrthodir triniaeth ac efallai y cynigir y cyfle i chi gael eich trin yn breifat.

Nôl i’r brig


Gwrthod triniaeth

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn triniaeth ysbyty’r GIG am ddim ni wrthodir triniaeth feddygol i chi sy’n sefydlogi cyflwr sy’n bygwth bywyd, er enghraifft, diffyg ar yr arennau. Rhoddir triniaeth i ddelio â’r argyfwng, ond bydd disgwyl i chi ddychwelyd adref i’w gwblhau, unwaith y bydd yr argyfwng drosodd.

Os nad oes argyfwng, ond bod rhaid i’r driniaeth gychwyn ar unwaith, efallai y gofynnir i chi am ymrwymiad i dalu. Yn yr amgylchiadau hyn, mae’n bwysig iawn eich bod yn darganfod beth yw’r gost debygol.

Os nad yw’n fater brys, rhoddir y cyfle i chi i wrthod y driniaeth os na allwch ei fforddio. Gellir gohirio’r driniaeth hyd nes y byddwch yn gallu codi’r arian. Os na allwch wneud hynny gwrthodir y driniaeth.

Nôl i’r brig


Cwynion ynglŷn â thaliadau

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn triniaeth ysbyty am ddim, ond eich bod wedi’ch hysbysu y bydd yn rhaid i chi dalu, fe ddylech chi gysylltu â’r Awdurdod Iechyd (Lloegr a Chymru) neu’r Bwrdd Iechyd (Yr Alban a Gogledd Iwerddon) am ad-daliad.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth ychwanegol yn yr Alban

Mae yna gyfres o daflenni defnyddiol ynglŷn â thriniaethau’r NHS yn yr Alban i ymwelwyr o dramor. Fe allwch chi weld y taflenni yn: (New window) www.hris.org.uk.

Nôl i’r brig