Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i:
Os oes gennych broblemau iechyd a achoswyd gan eich gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog, mae cymorth ar gael i chi.
Fe allwch chi ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddod i wybod am y cymorth sydd ar gael i chi, yn dibynnu ar eich sefyllfa. Fe allwch chi hefyd ddod i wybod am sefydliadau eraill all eich helpu chi ymhellach.
Os oes gennych broblemau iechyd a achoswyd gan eich gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog, fe ddylech chi fod yn gallu cael triniaeth flaenoriaethol oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS).
Mae hyn yn golygu y cewch chi’ch trin cyn rhywun arall sydd â’r un lefel o anghenion meddygol. Os oes gan rywun anghenion meddygol mwy na chi fe fyddan nhw’n cael triniaeth o’ch blaen chi. Fe ddylech chi ddweud wrth eich Meddyg Teulu neu ysbyty eich bod chi’n gyn filwr cyn dweud dim byd arall wrthynt. Fe benderfynan nhw pa driniaeth flaenoriaethol sydd ei hangen arnoch.
Fe allwch chi gael help oddi wrth y GIG trwy fynd i weld eich Meddyg Teulu. Fe allwch chi hefyd gysylltu â Galw Iechyd Cymru am gyngor.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am NHS Direct yn Lloegr ar eu gwefan yn: www.nhsdirect.nhs.uk.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am Galw Iechyd Cymru ar eu gwefan yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Neu fe allwch eu ffonio ar 0845 4647.
Yn yr Alban, fe allwch chi hefyd gysylltu â NHS 24 am gyngor.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am NHS 24 ar eu gwefan yn: www.nhs24.com.
Neu fe allwch eu ffonio ar: 08454 24 24 24.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch gysylltu â’r gwasanaeth tu allan i oriau arferol. Mae’r rhif ffôn ar gyfer eich ardal chi ar wefan y llywodraeth yn: www.nidirect.gov.uk.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael cymorth oddi wrth y Rhaglen Asesiad Meddygol (MAP). Mae MAP yn darparu archwiliadau meddygol i gyn filwyr:
Mae MAP hefyd yn darparu archwiliadau iechyd meddwl ar gyfer:
Ar ôl archwiliad gall MAP ddarparu diagnosis ac argymhellion ar gyfer triniaeth i chi.
Fe allwch chi hefyd gael mwy o wybodaeth am MAP o wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn: www.mod.uk.
Gall eich Meddyg Teulu eich cyfeirio at MAP. Fe allwch chi hefyd gyslltu a nhw’n uniongyrchol:
Medical Assessment Programme
The Baird Medical Centre
Gassiot House
St Thomas' Hospital
Lambeth Palace Road
Llundain
SE1 7EH
Ffôn: 0800 169 5401
Ebost: map@gstt.nhs.uk
Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â dod o hyd a chofrestru gyda Meddyg Teulu yn Adviceguide.
Os ydych chi’n cael problemau iechyd meddwl o ganlyniad i’r hyn ddigwyddodd i chi yn ystod eich amser gyda’r Lluoedd Arfog, mae’n bwysig i chi gael cymorth. Fe allwch chi gael help oddi wrth:
Os ydych chi’n pryderu am eich iechyd meddwl ar ôl gwasanaeth gweithredol, efallai y byddwch am siarad â’ch Meddyg Teulu yn gyntaf. Efallai y bydd eich Meddyg Teulu wedyn yn eich cyfeirio am gymorth arbenigol pellach.
Yn Lloegr a Chymru, fe allwch chi hefyd gysylltu â NHS Direct/Galw Iechyd Cymru am gymorth.
Yn yr Alban, fe allwch chi hefyd gysylltu â NHS 24 am gyngor.
Os ydych chi’n gyn filwr ac yn dioddef o gyflwr megis pryder, iselder ysbryd, camddefnyddio alcohol neu gyffuriau neu anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD), fe allwch chi gael help oddi wrth glinig arbenigol.
Gall clinig arbenigol roi asesiad iechyd meddwl mewn clinig yn y gymuned. Mae’r clinigau wedi’u lleoli yn Stafford, Camden ac Islington yn Llundain, Caerdydd, Newcastle, St Austell yng Nghernyw a’r Alban. Mae’r driniaeth am ddim a bydd y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) yn talu eich costau teithio i’r clinig agosaf.
Fe allwch chi gael triniaeth oddi wrth glinig arbenigol trwy gael eich cyfeirio gan eich Meddyg Teulu.
Fe allwch chi hefyd gysylltu â’r clinigau arbenigol yn uniongyrchol. Fe gewch chi fwy o wybodaeth am y clinigau, a’u manylion cyswllt, ar-lein yn: www.veterans-uk.info.
Os ydych chi’n gyn filwr sydd wedi bod mewn gwasanaeth gweithredol ers 1982 fe allwch chi hefyd gael cymorth trwy Raglen Asesiad Meddygol (MAP).
Mae MAP yn darparu archwiliadau iechyd meddwl i bob cyn-filwr sydd â gwasanaeth gweithredol ers 1982. Ar ôl archwiliad, gall MAP ddarparu diagnosis ac argymhellion ar gyfer triniaeth i chi.
Fe allwch chi hefyd gael mwy o wybodaeth am MAP o wefan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn: www.mod.uk.
Gall eich Meddyg Teulu eich cyfeirio at MAP. Fe allwch chi hefyd gysylltu â nhw’n uniongyrchol.
Mae Combat Stress yn elusen sy’n darparu cymorth a gofal meddygol i gyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl. Fe allan nhw gynnig cymorth arbenigol tymor hir am ddim a chefnogaeth i gyn filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae gan Combat Stress wasanaethau allgymorth cymuned cenedlaethol. Cyflwynir y rhain gan nyrsys, swyddogion lles ac ymarferwyr iechyd meddwl. Mae gan Combat Stress hefyd ganolfannau preswyl lle gall cyn filwyr aros am gyfnod byr a derbyn triniaeth arbenigol. Mae’r canolfannau hyn yn Sir Amwythig, Surrey a Swydd Aeron.
Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â Combat Stress are u gwefan yn: www.combatstress.org.uk.
Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Combat Stress, a’r cymorth a’r gefnogaeth y maen nhw’n eu cynnig trwy eu ffonio nhw. Fe allwch chi ddod o hyd i rif eich desg cefnogi leol trwy eu gwefan yn: www.combatstress.org.uk.
Ffôn y brif swyddfa: 01372 841 600
Ebost: contactus@combatstress.org.uk
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i bersonél sy’n gwasanaethu a chyn-filwyr y Fyddin Diriogaethol, y Llynges Frenhinol Wrth Gefn (RNR), y Morlu Brenhinol Wrth Gefn (RMR) a’r Llu Awyr Brenhinol Wrth Gefn Gwirfoddol (RAFVR).
Os ydych chi wedi gwasanaethu fel Milwr wrth gefn yn y Lluoedd Arfog, a bod gennych broblemau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â’ch gwasanaeth, efallai y gallwch chi gael help oddi wrth Raglen Iechyd Meddwl Milwyr wrth gefn (RMHP).
Mae’r RMHP ar gael i unrhyw un sy wedi gwneud gwasanaeth gweithredol fel milwr wrth gefn ers 1 Ionawr 2003. Mae hyn yn cynnwys milwyr wrth gefn rheolaidd a gwirfoddol.
Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am yr RHMP ar wefan y fyddin yn: www.army.mod.uk.
Fe allwch chi gael cymorth oddi wrth yr RHMP trwy ofyn i’ch Meddyg Teulu am eich cyfeirio chi. Fe allwch chi hefyd gysylltu â nhw’n uniongyrchol trwy ffonio 0800 032 658.
Mae Aftercare yn elusen yng Ngogledd Iwerddon sy’n darparu cymorth meddygol, galwedigaethol a lles i gyn-filwyr llawn amser a rhan amser yr UDR a’r Royal Irish (HS), a’u teuluoedd. Mae ganddynt bedwar tîm maes yn Coleraine, Holywood, Portadown ac Enniskillen.
Mae mwy o wybodaeth ynglyn ag Aftercare ar eu gwefan, www.aftercareservice.org, neu fe allwch ffonio’r timau maes yn uniongyrchol:
Gogledd (Coleraine) 02892 260615
Dwyrain (Holywood) 02890 420266
Gorllewin (Enniskillen) 02892 260114
De (Portadown) 02892 260044
Os ydych chi wedi’ch anafu i’r graddau y bu’n rhaid i chi adael y Lluoedd Arfog, fe fyddwch yn gymwys i dderbyn help oddi wrth adran lles yr Asiantaeth Personél Gwasanaethu a Chyn filwyr (SPVA).
Fe allan nhw eich helpu gyda phethau fel:
Eu manylion cyswllt yw:
Llinell gymorth: 0800 169 22 77
Gwefan: www.veterans-uk.info
Os oes gennych broblemau iechyd oherwydd eich bod wedi bod yn y Lluoedd Arfog cyn 6 Ebrill 2005, fe allwch chi hawlio pensiwn rhyfel anabledd o dan gynllun pensiwn rhyfel.
Fe allwch chi hefyd hawlio o dan y cynllun pensiwn rhyfel os ydych chi’n berson gweddw neu blentyn i rywun fu farw oherwydd eu gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog cyn 6 Ebrill 2005.
Gellir talu budd-daliadau Cynllun Pensiwn Rhyfel ar ben Cynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog 1975 (AFPS 75) neu Gynllun Pensiwn y Lluoedd Arfog 2005 (AFPS 05).
Am fwy o wybodaeth ynglŷn âg AFPS 75 neu AFPS 05, gweler Cynlluniau Pensiwn ac iawndal i’r Lluoedd Arfog, cyn filwyr a’u teuluoedd.
Os ydych chi’n derbyn pensiwn rhyfel, efallai y byddwch chi hefyd yn gymwys i dderbyn lwfansau ychwanegol neu gael cymorth gyda thriniaeth feddygol a gofal os na allwch chi gael hyn o dan y GIG.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth y gallwch ei hawlio a sut mae gwneud cais, gweler gwefan Asiantaeth Personél Gwasanaethu a Chyn filwyr yn www.veterans-uk.info.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cymorth ariannol sydd ar gael i gyn filwyr y Lluoedd Arfog, aelodau sy’n gwasanaethu’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, gweler Budd-daliadau a chonsensiynau i’r Lluoedd Arfog, cyn filwyr a’u teuluoedd.
Os oes gennych broblemau iechyd oherwydd eich bod wedi gwasanaethu’r Lluoedd Arfog o 6 Ebrill 2005 ymlaen, efallai y gallwch chi hawlio cymorth ariannol oddi wrth y Lluoedd Arfog.
Os cewch chi iawndal fel un cyfandaliad fe gewch chi hwn hyd yn oed os ydych chi’n aros gyda’r Lluoedd Arfog. Telir taliadau iawndal misol rheolaidd i gyn filwyr yn unig.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Iawndal Lluoedd Arfog, gweler Budd-daliadau i bobol a anafwyd yn y Lluoedd Arfog yn Budd-daliadau i bobol sy’n sal neu’n anabl.
Mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) daflen hefyd ynglŷn â Chynllun Iawndal y Lluoedd Arfog a sut i’w hawlio. Fe allwch chi ddod o hyd i hon ar wefan MOD yn: www.mod.uk.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu hawlio iawndal am anafiadau a ddigwyddodd yn ystod eich gwasanaeth gweithredol. Efallai y byddwch yn gallu cael hwn os bu’r MOD yn esgeulus, ac os gwnewch chi gais o fewn tair blynedd i ddarganfod yr esgeulustra. Am fwy o wybodaeth am iawndal a niwed personol, gweler Niweidiau personol.
Os ydych chi wedi’ch niweidio neu os ydych yn anabl ac angen cymorth bob dydd, neu gymorth ar gyfer pethau megis addasiadau i’ch cartref, efallai y gallwch gael hyn oddi wrth eich awdurdod lleol.
Yn Lloegr, fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i chi oddi wrth eich awdurdod lleol ar wefan directgov. Ewch i: www.direct.gov.uk.
Yng Nghymru, fe allwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael i chi oddi wrth eich awdurdod lleol. I ddod o hyd i restr o awdurdodau lleol yng Nghymru, a chysylltiadau i’w gwefannau, ewch i: www.wales.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, i ddarganfod mwy am yr help sydd ar gael i chi gan eich Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol leol, rhowch glic ar: www.nidirect.gov.uk.
Os ydych chi’n anabl, gall gwasanaeth lles yr Asiantaeth Personel Gwasanaethu a Chyn filwyr gynnig cyngor a chefnogaeth i’ch helpu i addasu i’ch anabledd. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.veterans-uk.info neu ffoniwch y Llinell gymorth ar: 0800 169 22 77.
Os ydych chi wedi colli aelod o’r corff, defnydd aelod o’r corff neu lygad, mae Cymdeithas Cyn Filwyr Heb Aelodau Prydain (BLESMA) yn darparu cymorth a chefnogaeth megis cynghori, cyngor a grantiau.
BLESMA
185 - 187 High Road
Chadwell Heath
Romford
Essex
RM6 6NA
Ffôn: 0208 590 1124
Ffacs: 0208 599 2932
Email: headquarters@blesma.org.uk
Gwefan: www.blesma.org.uk
Os ydych chi’n ddall neu’n rhannol ddall fe allwch chi gysylltu â St Dunstan's am gymorth gyda budd-daliadau, tai ac ail-hyfforddi.
St Dunstan's
12 - 14 Harcourt Street
Llundain
W1H 4HD
Ffôn: 0207 723 5021
Ffacs: 0207 262 6199
Ebost: enquiries@st-dunstan.org.uk
Gwefan: www.st-dunstans.org.uk
Os ydych chi’n byw yn yr Alban ac yn ddall neu’n rhannol ddall, fe allwch gysylltu â Scottish War Blinded. Mae’r elusen yn darparu gweithgareddau hamdden a chymdeithasol a gall ddarparu gwasanaeth allgymorth yn eich ardal.
Scottish War Blinded
PO Box 500
Gillespie Crescent
Edinburgh
EH10 4HZ
Ffôn: 0131 229 1456
Ebost: enquiries.warblinded@royalblind.org.uk
Gwefan: www.royalblind.org.uk
Mae NHS Direct/ Galw Iechyd Cymru ar gael i gynnig cyngor a gwybodaeth am iechyd i bobol yn Lloegr a Chymru 24 awr y dydd, bob dydd.
Yn Lloegr a Chymru, fe allwch chi hefyd gysylltu â NHS Direct/Galw Iechyd Cymru am gyngor.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am NHS Direct yn Lloegr ar eu gwefan yn: www.nhsdirect.nhs.uk.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am Galw Iechyd Cymru ar eu gwefan yn: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.
Neu fe allwch eu ffonio ar 0845 4647.
Mae NHS24 ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth am iechyd i bobol yn yr Alban 24 awr y dydd, bob dydd.
Yn yr Alban, fe allwch chi hefyd gysylltu â NHS 24 am gyngor.
Fe gewch chi fwy o wybodaeth am NHS 24 ar eu gwefan yn: www.nhs24.com.
Neu fe allwch eu ffonio ar: 08454 24 24 24.
Mae gwasanaeth tu allan i oriau arferol y meddyg ar gyfer pobl sydd agen triniaeth feddygol frys y byddent yn ei chael gan eu Meddyg Teulu fel arfer, ond sydd ddim yn medru aros hyd nes i’r feddygfa agor y diwrnod canlynol. Mae’r rhif ffôn ar gyfer eich ardal chi ar wefan y llywodraeth www.nidirect.gov.uk
Am fwy o wybodaeth am addysg, gweler Cymorth gydag hyfforddiant a chymwysterau i bobol sy’n gadael y Lluoedd Arfog ac i gyn filwyr.
Am fwy o wybodaeth am arian, gweler Budd-daliadau a chonsesiynau i’r Lluoedd Arfog, i gyn filwyr a’u teulueodd.
Am fwy o wybodaeth am dai, gweler Opsiynau Tai i bobol sy’n gadael y Lluoedd Arfog, cyn filwyr a’u teuluoedd.
Am fwy o wybodaeth am bensiynau, gweler Cynlluniau Pensiwn ac iawndal i’r Lluoedd Arfog, i gyn filwyr a’u teulueodd.
Yn Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglŷn ag iechyd, gweler ein hadran ar Iechyd.
Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynglŷn ag iechyd, gweler ein hadran ar Iechyd.
Yng Nghymru, am fwy o wybodaeth ynglŷn ag iechyd, gweler ein hadran ar Iechyd.
Yng Ngogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth ynglŷn ag iechyd, gweler ein hadran ar Iechyd.