Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Pobol ifanc - teithio a thrafnidiaeth

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon



Gyrru

Mae yna reolau ynglŷn â’r oedran y gallwch yrru math arbennig o gerbyd. Er enghraifft, fe allwch chi yrru beic pedal trydan o 14 oed ymlaen, moped o 16 oed a beic modur, car a dosbarthiadau arbennig o fen a lori o 17 oed ymlaen.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â beth y gall person ifanc ei yrru, gweler Trwyddedau gyrru.

Ni chaniateir i chi oruchwylio gyrrwr sy’n dysgu hyd nes y byddwch yn 21 oed, ac wedi cael trwydded yrru llawn eich hunan am o leiaf tair blynedd.

Os ydych chi’n gyrru cerbyd pan fyddwch chi’n 17 oed, rhaid i chi gael yswiriant atebolrwydd trydydd parti, er na allwch chi fynd i gytundeb hyd nes y byddwch chi’n 18 oed.

Nôl i’r brig


Hedfan

Caniateir i chi hedfan gleider o 16 oed ymlaen. Fe allwch chi gael trwydded peilot awyrennau preifat o 17 oed ymlaen a thrwydded peilot awyrennau masnachol o 18 oed ymlaen.

Nôl i’r brig


Pasbortau

Rhaid i bawb sy’n teithio y tu allan i’r Deyrnas Unedig gael ei basbort ei hun (oni bai eich bod o dan 16 oed ac wedi’ch cynnwys ar basbort eich rhiant cyn 5 Hydref 1998).

Rhaid i chi gael caniatâd rhiant i gael pasbort os ydych chi o dan 18 oed, oni bai eich bod yn briod neu’n aelod o’r lluoedd arfog.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phasbortau, gweler Teithio dramor.

Nôl i’r brig


Gwregysau diogelwch

Fel arfer mae’n rhaid i blant o dan ddeuddeg oed, sy’n teithio naill ai yn sedd gefn neu sedd flaen y cerbyd wisgo gwregys diogelwch, neu wregys plentyn. Fel arfer mae’n rhaid i deithwyr sy’n ddeuddeg oed neu drosodd wisgo gwregys diogelwch.

Rhaid i blant o dan ddeuddeg oed wisgo gwregys diogelwch hefyd os ydyn nhw dros ryw daldra arbennig.

Ar gyfer plant o dan 14 oed, mae gyrrwr y cerbyd yn gyfrifol am wneud yn siŵr eu bod yn gwisgo gwregys diogelwch neu wregys lle mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith.

Mae pawb dros 14 oed yn gyfrifol am wisgo gwregys diogelwch pan fydd hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Nid yw gyrrwr na pherchennog y car yn gyfrifol am deithwyr sydd dros yr oedran hwn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwisgo gwregys diogelwch, ewch i wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk/en/Motoring.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth ychwanegol i bobol ifanc

Fe allwch chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â hawliau plant a phobol ifanc mewn mannau eraill yn Adviceguide.

Am wybodaeth ynglŷn â hawliau cyffredinol plant a phobol ifanc, gweler Hawliau pobol ifanc.
Am wybodaeth ynglŷn â chyflogaeth, gweler Pobol ifanc a chyflogaeth.
Am wybodaeth ynglŷn â thai, gweler Pobol ifanc a thai.
Am wybodaeth ynglŷn â materion teulu, gweler Pobol ifanc a theulu.
Am wybodaeth ynglŷn ag arian a hawliau, gweler Pobol ifanc - arian a hawliau defnyddwyr.
Am wybodaeth ynglŷn â budd-daliadau, gweler Pobol ifanc a budd-daliadau.
Am wybodaeth ynglŷn ag iechyd a materion personol, gweler Pobol ifanc - iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynglŷn â’r gyfraith a phobol ifanc, gweler Pobol ifanc a’r gyfraith.

Nôl i’r brig