Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’r wybodaeth hon yn ymwneud a phobol sy’n ddinasyddion Prydeinig. Dylai dinasyddion o wledydd eraill wirio gyda’u swyddfeydd is-gennad/llysgenhadaeth eu hunain ynglŷn â’r rheolau am basbortau yn eu gwledydd.
Mae angen pasbort dilys arnoch i deithio rhwng y DU a phob gwlad arall (ac eithrio Ynys Manaw, Ynysoedd y Sianel a Gweriniaeth Iwerddon). Sut bynnag, yn achos gwir argyfwng fe all fod yn bosibl gwneud trefniadau eraill (gweler o dan y pennawd Faint o amser mae'n ei gymryd i gael pasbort)
Gall unigolion wneud cais am basbort safonol (gweler o dan y pennawd Pasbortau safonol). Gall grwpiau cymeradwy, er enghraifft, parti o blant ysgol wneud cais am basbort cyfunol (gweler o dan y pennawd Pasbortau cyfunol).
Mae angen pasbortau eu hunain ar fabanod a phlant o dan 16, ac ni allant mwyach gael eu cynnwys ar basbort rhywun arall.
Mae pasbort safonol yn ddilys i deithio unrhyw le yn y byd, cyhyd â bod unrhyw deithebau a thrwyddedau angenrheidiol yn cael eu sicrhau er mwyn bodloni amodau mynediad i’r wlad yr ymwelir â hi. Mae pasbort safonol fel arfer yn ddilys am 10 mlynedd (5 mlynedd i blentyn o dan 16 - gweler o dan y pennawd Plant a phobol ifanc o dan 18). Rhaid i bawb, yn cynnwys plant pa mor ifanc bynnag y bont, gael eu pasbort eu huanain. Gall oedolyn sy’n debygol o lenwi ei basbort/phasbort a theithebau yn gyflym, er enghraifft, teithiwr busnes mynych, wneud cais am basbort â 48 tudalen.
Mynnwch ffurflen a thaflenni gwybodaeth oddi wrth y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS), prif swyddfeydd post, neu swyddfa basbort. Am fanylion ynglŷn â sut i gysylltu â’r IPS, gweler o dan y pennawd Cysylltu â’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Mae ffurflenni cais am basbortau yn rhoi arweiniad ynglŷn â ble i wneud y cais ag amserau prosesu. Caiff manylion am yr amserau aros cyfredol eu diweddaru’n rheolaidd ar BBC Ceefax, ITV Teletext ac ar wefan IPS: www.ips.gov.uk.
Os ydych chi’n gwneud cais am basbort am y tro cyntaf ac yn 16 oed neu drosodd, fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio’r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym ac efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym, gweler o dan y pennawd Faint o amser mae'n ei gymryd i gael pasbort. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfweliadau i oedolion sy’n derbyn pasbort am y tro cyntaf, ewch i wefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) yn www.ips.gov.uk.
Wrth wneud cais am basbort, bydd angen i chi gael tystiolaeth ddogfennol sy’n profi eich bod yn ddinesydd Prydeinig. Fe fydd angen lluniau arnoch hefyd. Rhoddir manylion o beth sydd ei angen a sut i lenwi’r ffurflen gais yn y daflen wybodaeth sy’n dod gyda’r ffurflen gais. Cwblhewch y ffurflen yn ofalus gan y gall unrhyw gamgymeriadau oedi’r cais.
Rhaid i ffurflen ar gyfer pasbort gael ei had lofnodi. Rhaid i’r person sy’n ad lofnodi fod yn rhywun sy wedi’ch adnabod chi’n bersonol am o leiaf dwy flynedd, yn un sy’n byw yn y DU ac yn dal pasbort Prydeinig neu Wyddelig, ac yn un sy’n perthyn i broffesiwn cydnabyddedig neu o safle cyffelyb. (fe allwch chi weld rhestr o alwedigaethau argymelledig ar gyfer rhywun sy’n ad lofnodi eich cais am basbort yn: www.passport.gov.uk. Nid yw perthynas neu bartner yn gallu ad lofnodi eich cais hyd yn oed os ydyn nhw’n cwrdd â’r amodau hyn. Bydd yn rhaid i’r person sy’n llofnodi ardystio un o’r lluniau hefyd trwy ysgrifennu ar y cefn ‘Tystiaf fod hwn yn dangos gwir debygrwydd i (eich enw llawn)’.
Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau at y swyddfa basbort yn yr amlen a ddarparwyd. Hefyd cofiwch gynnwys y ffî briodol.
Os ganwyd chi ar neu cyn 2 Medi 1929, fydd dim rhaid i chi dalu ffî am eich pasbort. Sut bynnag, fe fydd rhaid i chi dalu ffî o £8 fel tâl gweinyddu os ddefnyddioch chi swyddfa’r post i’ch helpu i anfon eich cais.
Gellir rhoi’ch ffurflenni hefyd yn y prif swyddfeydd post. Caiff y ffurflenni sydd wedi’u cwblhau eu gwirio gan aelod o’r staff a’u hanfon at y swyddfa basbort briodol. Anfonir pasbortau y gwnaed cais amdanynt yn y ffordd hon at yr ymgeisydd drwy’r post. Mae yna ffî ychwanegol am y gwasanaeth hwn.
Gellir rhoi pasbort cyfunol i bartïon cymeradwy o blant ysgol, aelodau o fudiadau’r Sgowtiaid a Geidiaid a sefydliadau ieuenctid cydnabyddedig eraill. Gellir rhoi isafswm o bump neu uchafswm o 50 ar basbort cyfunol, er y gall y niferoedd amrywio ar gyfer rhai gwledydd arbennig. Mae pasbort cyfunol yn ddilys ar gyfer un daith yn unig.
Gellir cael ffurflen ar gyfer pasbort cyfunol, a’u dychwelyd i swyddfa basbort yn unig.
Rhaid i blant a phobol ifanc o dan 18 gael eu pasbort plant eu hunain os ydyn nhw am deithio dramor (oni bai eu bod ar basbort cyfunol). Rhaid i gais am basbort i blentyn neu berson ifanc o dan 16 gael ei lofnodi gan riant neu rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Mae pasbort i blentyn o dan 16 yn ddilys am bum mlynedd. Gall person sy’n 16 oed neu drosodd ddefnyddio pasbort plentyn hyd nes y daw i ben.
Os ydych chi’n 16 oed neu drosodd a bod angen pasbort newydd arnoch, fe ddylech chi wneud cais am basbort oedolyn. Nid oes angen caniatâd eich rhieni arnoch. Os ydych chi’n gwneud cais am basbort oedolyn am y tro cyntaf, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd am gyfweliad a fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio’r gwasanaeth wythnos Trac Cyflym. Mae’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) yn eich cynghori, os oes angen i chi fynychu cyfweliad, y dylech chi wneud cais am basbort o leiaf chwe wythnos cyn i chi deithio. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chyfweliadau ar gyfer y rhai sy’n cael pasbort oedolyn am y tro cyntaf, ewch i wefan IPS yn: www.ips.gov.uk.
Os ydych ch’n cwblhau'r ffurflen yn gywir ac yn cynnwys y dogfennau cywir a’r ffî, fe ddylech chi dderbyn eich pasbort newydd neu ddiwygiedig o fewn tair wythnos. Fe all gymryd yn hirach. Rhoddir amserau troad cyfredol ar BBC Ceefax, ITV Teletext a gwefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) yn: www.ips.gov.uk.
Mae’r gwasanaeth gwirio ac anfon ar gael mewn canghennau swyddfa’r post detholedig. Fe ddylech chi dderbyn eich pasbort newydd o fewn dwy wythnos i wneud eich cais.
Mae’r gwasanaeth trac cyflym ar gael os wnewch chi gais yn bersonol i’r Swyddfa Basbort. Bydd angen i chi wneud apwyntiad i wneud cais mewn Swyddfa basbort ac fe allwch chi wneud hyn trwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbort ar: 0300 222 0000. Fe all gymryd i fyny hyd at ddwy wythnos i gael apwyntiad. Mae’r gwasanaeth Trac Cyflym yn gwarantu gwasanaeth un wythnos ar gyfer pob cais syml sydd wedi’u cwblhau’n gywir. Bydd yr IPS yn dychwelyd y pasbort gyda’r post ac yn caniatáu amser dosbarthu o ddau ddiwrnod. Mae yna dâl ychwanegol am y gwasanaeth hwn.
Allwch chi ddim defnyddio’r gwasanaeth Trac Cyflym os ydych chi dros 16 ac yn gwneud cais am eich pasbort cyntaf. Y rheswm am hyn yw y bydd yn rhaid i chi fynychu cyfweliad i gadarnhau’ch hunaniaeth. Fydd dim angen i chi fynychu cyfweliad os oedd gennych basbort eich hun fel plentyn ac felly fe allech chi wneud cais trac cyflym yn yr achosion hyn.
Mae’r gwasanaeth Premiwm yr un diwrnod ar gael os ydych chi’n gwneud cais yn bersonol mewn Swyddfa basbort. Bydd angen i chi wneud apwyntiad i wneud cais mewn Swyddfa basbort ac fe allwch chi wneud hyn trwy ffonio'r Llinell Gymorth Pasbort ar: 0300 222 0000. Fe all gymryd i fyny hyd at ddwy wythnos i gael apwyntiad. Mae’r gwasanaeth Premiwm yn gwarantu gwasanaeth un diwrnod (mae hyn yn golygu amser troad targed o bedair awr)ar gyfer pob cais syml sydd wedi’u cwblhau’n gywir. Mae yna dâl ychwanegol am y gwasanaeth hwn.
Nid yw’r gwasanaeth Premiwm un diwrnod ar gael i bobol sy’n gwneud cais am basbort am y tro cyntaf, neu sy’n gwneud cais am ymestyniad i’w pasbortau neu i bobol sydd wedi colli eu pasbortau, wedi’u dwyn neu eu difrodi.
Os ydych chi am newid eich pasbort, er enghraifft, newid eich enw arno, mae angen i chi gael ffurflen oddi wrth swyddfa’r post. Bydd angen i chi anfon dau lun gyda’r ffurflen gais gan y bydd pasbort newydd yn cael ei roi. Nid oes angen cael un o’r lluniau wedi’i ad lofnodi oni bai fod eich ymddangosiad wedi newid yn sylweddol o’r llun yn eich hen basbort.
Os ydych chi am newid eich pasbort achos eich bod wedi newid eich enw, mae angen i chi anfon tystiolaeth o’r newid gyda’r ffurflen gais. Mae’r dystiolaeth sydd ei angen yn dibynnu ar sut yr ydych wedi newid eich enw. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau am gyngor - gweler o dan y pennawd Cysylltu â’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau.
Nid oes rhaid i fenyw newid ei henw wrth briodi a gall barhau i ddefnyddio pasbort yn ei henw ei hunan am ba mor hir ag y dymuna.
Os yw menyw yn penderfynu defnyddio cyfenw ei gŵr ar ôl iddi briodi, fe all:
Os yw menyw yn gwneud cais am basbort newydd neu ddiwygiedig yn ei henw priodasol, fe ddylai gwblhau'r ffurflen Gais am Basbort y Deyrnas Unedig fel petai’n briod yn barod ac yna’i llofnodi â’r hyn fydd ei henw priodasol. Os yw ei chyfeiriad yn newid ar ôl y briodas, fe ddylai roi ei chyfeiriad presennol a’i chyfeiriad i’r dyfodol. Dylai’r fenyw anfon dau lun, gydag un wedi’i ad lofnodi fel a ganlyn ‘Tystiaf fod hwn yn wir debygrwydd i Ms..(Mrs… i fod)
Mae ffî yn daladwy am basbort newydd neu ddiwygiedig. Os nad yw pasbort cyfredol wedi dod i ben pan fydd y fenyw yn gwneud cais am un newydd neu ddiwygiedig yn ei henw priodasol, ni cheir ad-daliad am y cyfnod sydd heb ddarfod ar yr hen basbort.
Os yw menyw yn teithio dramor yn syth ar ôl priodi, fe all hi wneud cais am gael pasbort newydd neu ddiwygiedig wedi’i ôl-ddyddio i ddyddiad y briodas, Gellir gwneud cais am basbort wedi'i ôl-ddyddio i fyny at dri mis cyn dyddiad y briodas. Sut bynnag, dylai’r person ystyried na all ddefnyddio’r pasbort sy wedi’i ôl ddyddio tan ddyddiad y briodas.
I wneud cais am basbort wedi’i ôl ddyddio, dylai’r fenyw gwblhau ffurflen PD2, yn ychwanegol at ffurflen Gais Pasbort y Deyrnas Unedig. Dylid llenwi Rhan 1 o ffurflen PD2 gan y person sy’n mynd i gynnal y seremoni briodas. Dylid llenwi Rhan 2 gan yr un sy’n gwneud y cais, gan roi enw ei darpar ŵr, dyddiad y briodas a’r ymrwymiad y bydd yn dychwelyd y pasbort os na fydd y briodas yn digwydd. Mae’r ffurflen a thaflen (PD1) ar gael o sawl lleoliad - gweler o dan y pennawd Pasbortau Safonol.
Mae’r darpariaethau hyn hefyd yn berthnasol i ddynion sy’n newid eu henwau wrth briodi.
Ar ôl cofrestru partneriaeth sifil, efallai y bydd un partner am newid eu henw i enw’r partner neu gall cwpl benderfynu cysylltnodi eu cyfenwau. Bydd yr asiantaeth pasbortau yn derbyn tystysgrif partneriaeth sifil fel tystiolaeth o newid enw. Fe allwch chi wneud cais am basbort newydd yn eich enw newydd, neu i gael eich pasbort presennol wedi’i newid, yn ddilys o ddyddiad cofrestru eich partneriaeth sifil.
Os collir eich pasbort, neu os caiff ei ddwyn tra yr ydych dramor, riportiwch y golled i’r heddlu lleol ac ewch i’r swyddfa is-gennad agosaf. Os ydyw’r swyddfa is gennad agosaf yn bell i ffwrdd, ffoniwch neu ffacswch nhw. Bydd rhaid i ddal i ymweld â’r swyddfa is-gennad i wneud cais a chasglu pasbort arall. Fel arfer ar ôl gwirio gyda’r swyddfa basbort yn y DU, bydd y swyddfa is-gennad yn rhoi pasbort newydd. Bydd y pasbort a roddir yn lle yn ddilys ar gyfer yr holl wledydd â’r un gwreiddiol, ond fe all fod yn ddilys am un flwyddyn neu lai. Codir ffî am roi pasbort yn lle un sy wedi’i golli neu ei ddwyn. Pan fydd pasbort cyfyngedig arall yn dod i ben gellir ei ymestyn heb dâl ychwanegol i basbort llawn 10 mlynedd os na ddaethpwyd o hyd i’r un gwreiddiol.
Os collir eich pasbort, neu os caiff ei ddwyn tra rydych yn y DU, riportiwch hynny i’r heddlu. Fe ddylech chi wneud cais am un arall yn ei le oddi wrth y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau gan ddefnyddio ffurflen LSO1 (gweler o dan y pennawd Cysylltu â Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau). Codir y tâl llawn ac ni fydd y gwasanaeth Premiwm (un diwrnod) ar gael am basbort arall er y byddwch chi’n gallu defnyddio'r gwasanaeth un wythnos Trac Cyflym. Os ydych chi’n gwneud cais am basbort arall am fod pasbort cynharach wedi’i golli neu ei ddwyn, gall eich pasbort newydd gael dilysrwydd cyfyngedig.
Mae angen i chi wneud cais newydd am basbort i gymryd lle'r un oedd gennych ar ffurflen gais Pasbort y Deyrnas Unedig. Mae’r wybodaeth ynglŷn â gwneud cais am basbort safonol (gweler o dan y pennawd Pasbortau safonol) yn berthnasol hefyd i geisiadau am adnewyddu. Fe allwch chi wneud cais i adnewyddu pasbort i fyny hyd at naw mis cyn i’ch pasbort ddod i ben. Mae ffî yn daladwy am adnewyddu pasbort.
Bydd angen i chi anfon dau lun newydd. Fel arfer ni fydd angen ardystio’r rhain fel gwir debygrwydd oni bai eich bod o dan 16 pan roddwyd y pasbort neu os yw’ch ymddangosiad wedi newid yn sylweddol ers i’r pasbort gael ei roi. Fel arfer ni fydd angen i chi anfon dogfennau i adnewyddu’ch pasbort os anfonwch chi’ch hen basbort yn ôl a bod y manylion i gyd yr un fath.
Mae cyfleusterau penodol ar gael i gwsmeriaid sy’n fyddar neu’n drwm ei glyw, a’r rheiny sy’n ddall neu’n gweld yn rhannol. Os ydych chi am unrhyw help arall cysylltwch â Llinell Gymorth y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (gweler o dan y pennawd Cysylltu â’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau), fydd yn ceisio darparu’r cymorth angenrheidiol.
Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael mewn swyddfeydd pasbort:
Mae’r gwasanaethau canlynol ar gael mewn swyddfeydd pasbort:
Mae pob swyddfa basbort yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Fe allwch chi ffonio’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS) ar 0300 222 0000. Mae’r llinell ar agor o 8yb tan 8yh o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ac o 9yb tan 5:30yp ar benwythnosau a gwyliau cyhoeddus. Bydd cwsmeriaid sy’n ffonio o linell dir o Gymru yn cael cynnig gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg yn awtomatig. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael o 9yb tan 5yp o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Mae’r Gwasanaeth yn gweithredu Llinell Gymorth i roi cyngor a gwybodaeth i gwsmeriaid ynglŷn â phob agwedd sy’n perthyn i basbortau. Gall Y Llinell Gymorth Pasbortau hefyd gyflenwi ffurflenni cais a thaflenni gwybodaeth. Mae gan y Llinell Gymorth Pasbortau rif ffôn destun (0300 222 0222) y gall cwsmeriaid sydd â nam ar y clyw ei ddefnyddio os oes ganddynt offer minicom. Codir tâl am y galwadau ffôn yn ôl y gyfradd safonol genedlaethol
Mae gan Linell Gymorth Pasbortau system bwydlen sy’n caniatáu'r un sy’n ffonio i ddewis gwrando ar un o sawl neges a recordiwyd neu i siarad â’r cysylltydd. Mae Llinell Gymorth Pasbortau a bob swyddfa basbort yn gysylltiedig â system gyfrifiadurol ganolog, yn gallu dod o hyd i geisiadau am basbortau a wnaed mewn unrhyw swyddfa, ac felly yn gallu delio a’r mwyafrif o ymholiadau. Os ydych chi am siarad â swyddfa basbortau, fel arfer cysylltir chi â’ch swyddfa agosaf. Os nad yw’r swyddfa hon yn gallu derbyn yr alwad, atebir yr alwad gan swyddfa arall.
Mae gwefan IPS yn www.ips.gov.uk yn caniatáu i gwsmeriaid i e-bostio'r Llinell Gymorth Pasbortau, cwblhau ffurflen gais ar-lein, gwneud ymholiadau cyffredinol neu gŵyn, neu i holi am gynnydd eu cais am basbort. Fel arfer bydd y cwsmer yn derbyn ateb trwy e-bost o fewn pedair awr.
Er mwyn cwyno am y ffordd y deliwyd â’ch cais am basbort, ysgrifennwch at reolwr gwasanaethau cwsmeriaid y swyddfa basbort oedd yn delio â’r cais neu e-bostiwch neu ffoniwch y Llinell Gymorth Pasbortau (gweler o dan y pennawd Cysylltu â’r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau). Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad eich cwyn, cysylltwch â Chyfarwyddwr Gweithrediadau'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau yn y brif swyddfa yn Llundain.
Bydd angen teithebau arnoch i deithio i rai gwledydd arbennig. Gwiriwch cyn teithio. Gall trefnydd teithiau, asiant gwyliau, bwrdd croeso cenedlaethol neu lysgenhadaeth eich cynghori ynglŷn â gofynion teithebau gwlad arbennig.
Caniatewch digon o amser i’r deitheb gyrraedd oherwydd weithiau bydd y cais yn cael ei ddelio yn y wlad yr ymwelir â hi.
Er mwyn cael teitheb, fel arfer fe fydd rhaid i chi gwblhau ffurflen ac anfon eich pasbort. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd anfon lluniau pasbort, tocynnau teithio, a thystiolaeth y gallwch chi gynnal eich hunan tra dramor. Efallai y codir tâl am deitheb.
Mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i unrhyw un sy’n cynllunio i deithio dramor. Mae eu gwefan yn darparu cyngor diweddar ynglŷn â’r wlad yr ydych yn cyrchu ati a gwybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud cyn i chi adael. Mae’r wefan yn: www.fco.gov.uk/travel.
Cyn teithio dramor, gwiriwch os bydd angen unrhyw frechiadau neu ragofalon iechyd arall arnoch.
Am fwy o wybodaeth, gweler Cyngor Iechyd i deithwyr.
Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu ymlaen llaw am unrhyw driniaeth feddygol. Efallai y byddwch yn gallu hawlio peth o’r gost neu’r cyfan ohono, os:
oes gennych gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd ar gyfer gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu os ydych yn ymweld â gwlad a chytundeb gofal iechyd cytbwys.
gwarchodir chi gan yswiriant gwyliau neu yswiriant arall. Gall trefnydd teithiau neu frocer yswiriant eich cynghori ynglŷn â’r yswiriant sydd ei angen ar gyfer gwlad arbennig.
Am fwy o wybodaeth, gweler Cyngor Iechyd i deithwyr.
Gwiriwch gyda’ch cwmni yswiriant neu gymdeithas foduro os oes angen i chi brynu yswiriant ychwanegol. Efallai y bydd angen i chi gael Cerdyn Gwyrdd oddi wrth gwmni yswiriant sy’n rhoi gwarchodaeth yswiriant car ychwanegol dramor. Hefyd gwiriwch os yw’ch trwydded yrru yn ddilys ar gyfer gyrru yn y wlad/gwledydd y byddwch yn ymweld â nhw.
Gall swyddfeydd is-gennad dramor ddarparu cymorth cyfyngedig i helpu pobol mewn trafferth ac efallai godi tâl. Gall person o’r Undeb Ewropeaidd (UE) fynd i unrhyw swyddfa is-gennad UE. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth is-genhadol dramor edrychwch ar wefan Dramor a Chymanwlad yn: www.fco.gov.uk/travel.
Os ydych chi’n ceisio cysylltu â pherson sy dramor ond heb fod â’r union gyfeiriad neu rif ffôn fe allwch chi roi cynnig ar:
Nid oes rhaid i rywun sy’n dod i mewn i’r DU o wlad Undeb Ewropeaidd arall dalu unrhyw daliadau tollau ar nwyddau a brynwyd ganddynt ac y talwyd treth arnynt yn y wlad UE arall. Nid oes cyfyngiad ar y cyfanswm o nwyddau y gellir dod â nhw i mewn, cyhyd â bod y nwyddau at ddefnydd personol y person sy’n dod â nhw i mewn neu os ydyn nhw’n rhodd. Os ydych chi o dan 17 nid oes cyfanswm cydnabyddedig at ddefnydd personol.
Mae’r cyfansymiau yn y tabl canlynol yn ganllawiau UE ynglŷn â beth sy’n gyfanswm rhesymol o dybaco ac alcohol i ddefnydd personol. Os ydych chi’n dod â mwy na’r cyfansymiau hyn, mae swyddogion y tollau yn credu eu bod ar gyfer dibenion masnachol yn hytrach na defnydd personol, ac efallai y caiff y nwyddau ac unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd i’w cludo eu cymryd ymaith. Mae rheolau arbennig yn perthyn i nwyddau tybaco a brynir ym Mwlgaria, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithuania, Gwlad Pwyl, Rwmania a Slofacia.
| Mathau o nwyddau tolledig | Cyfanswm |
| Sigaréts | 800 |
| Sigarilos | 400 |
| Sigarau | 200 |
| Tybaco | 1Kg |
| Gwirodydd | 10 litr |
| Gwinoedd cadarn, megis port a sieri | 20 litr |
| Gwin | 90 litr |
| Cwrw | 110 litr |
Mae lwfansau di-doll o fewn yr Undeb Ewropeaidd wedi eu diddymu ar deithiau UE. Os ydych chi’n prynu alcohol neu dybaco mewn maes awyr, codir tâl arnoch yn ôl cyfradd y doll gartref a TAW'r wlad lle lleolir y maes awyr. Os ydych chi’n prynu alcohol neu dybaco ar yr awyren neu fferi, codir tâl arnoch yn ôl cyfradd toll gartref y wlad yr oeddech yn ymadael â hi, i fyny at ofod awyr neu ddyfroedd y wlad yr ydych yn cyrraedd iddi. Felly, er enghraifft, bydd cyfraddau toll gartref y DU yn gymwys ar daith hedfan o’r DU i Wlad Groeg hyd nes y bydd yr awyren yn cyrraedd gofod awyr Groeg pan fydd cyfradd toll gartref Gwlad Groeg yn gymwys.
Gall rhai gweithredwyr fferi a chwmnïau awyrennau benderfynu peidio gwerthu unrhyw nwyddau gartref yn nhiriogaeth y DU.
Ar gyfer pob math o nwyddau, codir TAW yn ôl y gyfradd sy’n gymwys i’r wlad yr ydych yn ymadael â hi. Byddai fferi sy’n gadael Dover am Calais yn codi TAW yn ôl y gyfradd DU ond byddai’r gyfradd Ffrengig yn berthnasol i’r daith yn ôl.
Er mwyn gweld rhestr o wledydd yr UE, gweler Yr Undeb Ewropeaidd.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â lwfansau di-doll o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.
Mae dal i fod lwfansau di-doll i deithwyr sy’n cyrraedd o wledydd y tu allan i’r UE. Nid oes neb dan 17 yn gymwys i gael lwfansau tybaco ac alcohol.
| Mathau o nwyddau | Lwfans di-doll |
| Gwirodydd, gwirodlynnau, gwinoedd cadarn a gwinoedd pefriog | 1 litr o wirodydd neu o wirodlynnau cryf â chyfaint o dros 22% neu 2 litr o win cadarn neu befriog neu wirodlynnau (â chyfaint o lai na 22%) Ni fedrwch chi ddod â’r ddau |
| Cwrw | 16 litr |
| Gwinoedd bwrdd llonydd | 4 litr |
| Rhoddion, cofroddion, nwyddau eraill | £390 |
| Sigaréts | 200 neu |
| Sigarilos | 100 neu |
| Sigarau | 50 neu |
| Tybaco | 250 gram |
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â lwfansau di-doll ar deithiau sy ddim yn rhai Undeb Ewropeaidd, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM yn: www.hmrc.gov.uk.
Mae yna rai nwyddau arbennig na allwch ddod a nhw i Brydain. Mae’r nwyddau gwaharddedig hyn yn cynnwys cyffuriau anghyfreithlon; ffrwydron er enghraifft tân gwyllt; arfau bygythiol, er enghraifft, cyllyll; drylliau a ffrwydron rhyfel; tapiau fideo, cylchgronau a llyfrau anweddus; ‘walkie-talkies’ a radio CB; arian neu nwyddau ffug; a chynnyrch cig a llaeth o’r rhan fwyaf o wledydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae cyfyngiad ar rai nwyddau. Naill ai bydd angen trwydded arnoch i’w cludo neu mewn rhai achosion, fe allwch chi ddod a swm bychan yn unig o’r rhan fwyaf o wledydd y tu allan i’r UE. Mae nwyddau y cyfyngir arnynt yn cynnwys bwyd anifail nad yw’n cynnwys dim sy’n deillio o gig neu laeth, megis pysgod, mêl; planhigion, bylbiau, hadau; ffrwythau a llysiau; nwyddau wedi’u gwneud o rywogaethau a warchodir, yn cynnwys ffwr, crwyn, ifori a lledr o ymlusgiaid; anifeiliaid ac adar.
Er mwyn gweld rhestr o wledydd yr UE, gweler Yr Undeb Ewropeaidd.
Os ydych chi’n teithio i’r DU o wlad nad yw yn yr UE, rhaid i chi ddatgan unrhyw arian parod yr ydych yn ei gario os ydyw’n 10,000 iwros neu fwy (neu’r cyffelyb mewn arian cyfredol arall). Mae’r rheol hon yn berthnasol hefyd os ydych yn teithio o’r DU i wlad nad yw yn yr UE.
Rhaid i chi ddatgan yr arian i Gyllid a Thollau EM (HMRC) naill yn y lle yr ydych yn gadael y DU, neu’r lle yr ydych yn mynd iddo. Bydd ffurflenni ar gael yn y porthladdoedd a’r meysydd awyr.
Fe allech chi wynebu talu cosb o £5000 os ydych chi’n methu datgan yr arian neu os ydych chi’n rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn.
Nid oes angen i chi ddatgan yr arian os ydych chi’n teithio i neu o wlad arall yn yr UE.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chario arian i mewn ac allan o’r DU, yn cynnwys rhestr o wledydd yr UE, ewch i wefan HMRC: www.hmrc.gov.uk.
Mae treth teithwyr awyr y DU yn daladwy ar bob taith hedfan o feysydd awyr y DU ac eithrio’r rheiny yn Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban. Codir y dreth fel arfer pan fyddwch chi’n prynu’ch tocyn. Y gyfradd treth ar gyfer teithio o fewn y DU (ac eithrio ar gyfer teithiau hedfan sy’n gadael Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban) yw £10. Ar gyfer teithio i wledydd eraill yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y dreth yw £10 ar gyfer teithiau hedfan economi neu £20 ar gyfer teithiau hedfan safonol. Os ydych chi’n teithio i wledydd y tu allan i’r AEE, mae’n rhaid i chi dalu £40 am daith hedfan economi neu £80 am daith hedfan safonol.
Bydd y mwyafrif o deithiau rhyngwladol hefyd yn golygu trethu neu daliadau gan y wlad sydd ar ben eich taith.