Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pan fyddwch chi’n prynu cyfran gyfnodol, yr ydych yn prynu’r hawl i ddefnyddio llety gwyliau am gyfnod penodol o amser bob blwyddyn. Bydd y llety fel arfer yn rhan o gyrchfan gyda llety cyfran gyfnodol arall a chyfleusterau cymunedol, ond fe allwch chi hefyd gael cyfran gyfnodol, er enghraifft, mewn carafannau a badau camlas. Bydd y ffordd yr ydych yn talu am gyfran gyfnodol yn amrywio, ond fel arfer yr ydych yn talu un cyfandaliad, a thaliadau cynnal blynyddol.
Mae yna ddeddfau arbennig i warchod eich hawliau pan fyddwch chi’n prynu cyfran gyfnodol. Gwarchodir cytundeb cyfran gyfnodol os bydd y cytundeb:
Pan fyddwch chi’n prynu aelodaeth o glwb gwyliau, fel arfer bydd y clwb gwyliau yn addo i roi’r cyfle i chi i brynu gwyliau rhatach dros gyfnod hir o amser. Gall y rhain fod mewn cyrchfan penodol neu mewn lleoliadau gwahanol. Bydd y ffordd yr ydych yn talu am aelodaeth clwb gwyliau yn amrywio, ond fel arfer yr ydych yn talu ffî i ddod yn aelod ac yna tanysgrifiad blynyddol.
Mae clybiau gwyliau yn wahanol i gyfrannau cyfnodol oherwydd dydych chi ddim yn prynu’r hawl i aros mewn eiddo penodol am gyfnod penodol o amser bob blwyddyn. Sut bynnag, gwarchodir cytundebau clwb gwyliau sy’n parhau am o leiaf un flwyddyn ac wedi’u llunio ar neu ar ôl 23 Chwefror 2011 gan yr un deddfau ag sy’n gwarchod cyfrannau cyfnodol.
Mae rhai gwerthwyr cyfrannau cyfnodol a chlybiau gwyliau yn defnyddio technegau pwysau gwerthu dwys i’ch cael i arwyddo cytundeb. Enghreifftiau o hyn yw:
Os ydych chi’n cael eich hun yn un o’r sefyllfaoedd hyn, gallai’r cyngor canlynol eich helpu i osgoi gwneud penderfyniad y byddwch yn flin amdano yn ddiweddarach:
Mae’n drosedd i fasnachwr i ddefnyddio technegau pwysau gwerthu uchel, ac yn Lloegr a Chymru fe allwch chi eu riportio i Gyswllt Defnyddwyr/Consumer Direct ar 0845 4040 0506.
Yn yr Alban fe allech chi gwyno am y masnachwr wrth eich adran Safonau Masnach. Er mwyn dod o hyd i’r swyddfa agosaf, ewch i: www.tradingstandards.gov.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe allech chi eu riportio i’r Consumerline ar: 0300 123 6262.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chanslo cytundeb cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau, gweler o dan y pennawd Canslo Cytundeb Cyfran Gyfnodol neu Glwb gwyliau.
Os ydych chi am gwyno ynglŷn â sut y gwerthwyd cyfran gyfnodol i chi, fe ddylech chi siarad ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys manylion y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os gwarchodir eich cytundeb cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau gan ddeddfau cyfrannau cyfnodol rhaid i chi dderbyn gwybodaeth arbennig yn ysgrifenedig. Er mwyn gwirio os yw eich cytundeb yn cael ei warchod gan ddeddfau cyfran gyfnodol, gweler o dan y pennawd Beth yw cyfrannau cyfnodol a chlybiau gwyliau. Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth am:
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha wybodaeth ysgrifenedig y mae gennych hawl iddo wrth i chi arwyddo cytundeb a warchodir gan ddeddfau cyfran gyfnodol, fe ddylech chi siarad ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys manylion y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi’n arwyddo cytundeb a warchodir gan ddeddfau cyfran gyfnodol, fe fyddwch yn gallu canslo’r cytundeb am unrhyw reswm yn ystod y cyfnod ail feddwl – gweler o dan y pennawd Canslo cytundeb cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau.
Bydd pa un ai a allwch ganslo cytundeb cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau ai peidio ar ôl arwyddo, yn dibynnu ar ba un ai yw’r cytundeb wedi’i warchod gan ddeddfau cyfran gyfnodol ai peidio. Er mwyn gwirio os ydyw’r cytundeb wedi’i warchod gan ddeddfau cyfran gyfnodol, gweler o dan y pennawd Beth yw cyfrannau cyfnodol a chlybiau gwyliau.
Os ydych chi wedi arwyddo cytundeb cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau a warchodir gan ddeddfau cyfran gyfnodol, bydd hawl gennych i gael cyfnod ail feddwl ac yn ystod y cyfnod hwn fe allwch chi ganslo’r cytundeb am unrhyw reswm heb orfod talu ffî canslo. Bydd y cyfnod ail feddwl yn 14 diwrnod. Rhaid i chi ganslo yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio naill ai'r ffurflen ganslo a ddarperir neu lythyr neu e-bost.
Os na roddwyd gwybodaeth arbennig ar bapur i chi pan arwyddoch chi’r cytundeb (gweler o dan y pennawd Prynu aelodaeth cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau), neu os na roddwyd ffurflen ganslo i chi, efallai y bydd gennych gyfnod o amser hirach o lawer i ganslo’r cytundeb.
Rhaid i werthwyr cyfrannau cyfnodol neu glybiau gwyliau yn y DU neu’r EEA ddweud wrthych am y cyfnod ail feddwl wrth i chi arwyddo’r cytundeb. Os nad ydyn nhw’n gwneud hyn, maen nhw’n torri’r gyfraith ac nid yw’r cytundeb yn orfodol yn eich erbyn. Mae’r gyfraith yn dweud hefyd na ddylid gofyn i chi am dalu unrhyw arian yn ystod y cyfnod ail feddwl hwn.
Ar ôl y cyfnod ail feddwl, fe allwch chi ganslo’r cytundeb os yw telerau’r cytundeb yn caniatáu hynny. Os mai cytundeb clwb gwyliau ydyw, rhaid rhannu pob taliad sy’n ddyledus o dan y cytundeb yn rhandaliadau blynyddol cyfartal ac fe allwch chi ganslo’r cytundeb ar ôl y flwyddyn gyntaf cyhyd â’ch bod yn gwneud hynny o fewn 14 diwrnod i dderbyn cais am eich taliad aelodaeth blynyddol. Fyddwch chi ddim yn gymwys i unrhyw daliad canslo.
Os cytunoch chi i dalu trwy gredyd, bydd y cytundeb credyd yn cael ei ganslo’n awtomatig os canslwch chi’r cytundeb cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau o fewn y cyfnod canslo 14 diwrnod.
Os ydych chi’n gymwys i gael cyfnod ail feddwl o dan ddeddfau cyfran gyfnodol a chwithau wedi defnyddio cwmni cerdyn credyd i brynu’r cyfran gyfnodol, efallai y bydd eich cwmni cerdyn credyd yn cytuno i gael eich arian yn ôl i chi, ond dim ond os ydyn nhw wedi arwyddo ar gyfer cod ymarfer gwirfoddol. O dan yr amgylchiadau hyn, mae’n hanfodol eich bod yn ysgrifennu at eich gwerthwr cyfran gyfnodol a’ch cwmni credyd yn eu hysbysu eich bod am ganslo’r cytundeb, o fewn 10 diwrnod i arwyddo’r cytundeb cyfran gyfnodol. Fe ddylech chi wirio os ydyw’ch cwmni cerdyn credyd yn cynnig y math yma o warchodaeth ai peidio.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael eich arian yn ôl oddi wrth gwmni cerdyn credyd, gweler o dan y pennawd Nwyddau neu wasanaethau diffygiol ar gredyd yn Credyd.
Gall y rheolau ynglŷn â chanslo cytundeb cyfran gyfnodol fod yn gymhleth. Os ydych chi am ganslo cytundeb cyfran gyfnodol, fe ddylech chi siarad ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys manylion y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gall fod yn anodd gwerthu cyfran gyfnodol ac yn aml bydd y pris ail werthu yn llawer is na’r pris y taloch chi amdano. Efallai y gall mudiadau ail werthu cyfrannau cyfnodol helpu. Fe ddylech chi ystyried gofyn i sawl mudiad ail werthu cyfrannau cyfnodol i brisio’ch cyfran gyfnodol er mwyn cael syniad faint yw ei werth.
Cyn arwyddo cytundeb, gwiriwch yn drwyadl fod y telerau a’r amodau a gynigir gan y sefydliad yn addas i’ch anghenion chi. Er enghraifft, nid yw rhai mudiadau ail werthu cyfrannau cyfnodol yn delio â chyfrannau cyfnodol sy’n gweithio ar gynllun pwyntiau a gall rhai ofyn i chi dalu ffî ymlaen llaw. Os yw mudiad yn aelod o gymdeithas fasnach, gall hyn roi gwarchodaeth ychwanegol i chi gan y bydd disgwyl iddo ddilyn cod ymarfer.
Os ydych chi eisoes yn berchen ar gyfran gyfnodol, gall gwerthwr geisio eich perswadio i brynu un gwell, ar y ddealltwriaeth y byddan nhw’n gwerthu eich cyfran gyfnodol bresennol. Fe ddylech chi fod yn ofalus iawn ynglŷn â derbyn y math hwn o gynnig gan y gallech chi ddarganfod na chaiff eich cyfran gyfnodol bresennol byth ei werthu, ond yr ydych chi’n dal yn ymrwymedig i brynu’r ail gyfran gyfnodol. Adwaenir hwn fel y ‘twyll prynu-gwerthu’.
Os ydych chi’n arwyddo cytundeb ail werthu cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau ar neu ar ol 23 Chwefror 2011, fe warchodir chi gan ddeddfau cyfrannau cyfnodol, sy’n golygu fod gennych hawl i dderbyn gwybodaeth arbennig yn ysgrifenedig a bod gennych gyfnod 14 diwrnod o ail feddwl ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe allwch chi ganslo’r cytundeb am unrhyw reswm heb dâl. O’r dyddiad hwn ymlaen mae hefyd yn erbyn y gyfraith i unrhyw un ofyn i chi am arian cyn i’r gwerthu ddigwydd neu fe fydd y cytundeb fel arall yn dod i ben.
Os ydych chi’n ystyried gwerthu’ch cyfran gyfnodol neu glwb gwyliau, fe ddylech chi siarad ag ymgynghorydd profiadol, er enghraifft mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys manylion y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar CAB agosaf.
Os ydych chi am gyfnewid eich cyfran gyfnodol, gall mudiad cyfnewid cyfran gyfnodol eich helpu. Yn aml, bydd mudiad cyfnewid cyfran gyfnodol yn codi tâl aelodaeth flynyddol a ffî pryd bynnag y bydd cyfnewid yn digwydd.
Fe allwch chi gael manylion am fudiadau cyfnewid cyfrannau cyfnodol oddi wrth y Mudiad Datblygu Cyrchfannau - gweler o dan y pennawd Sefydliadau all helpu gyda chyfrannau cyfnodol neu glybiau gwyliau.
Os ydych chi’n arwyddo cytundeb cyfnewid cyfran gyfnodol ar neu ar ôl 23 Chwefror 2011, gwarchodir chi gan ddeddfau cyfran gyfnodol sy’n golygu fod gennych hawl i gael gwybodaeth arbennig ar bapur ac mae gennych 14 diwrnod i ail feddwl ac yn ystod yr amser hwnnw fe allwch ganslo’r cytundeb. Nis gellir gofyn i chi am unrhyw daliadau yn ystod y cyfnod ail feddwl.
Mae Cymdeithas Perchnogion Cyfrannau Cyfnodol (TATOC) yn rhoi cymorth a chyngor arbenigol i berchnogion cyfrannau cyfnodol sy’n byw yn y DU ynglŷn â chyfran gyfnodol a sut i ddatrys problem gyda chyfran gyfnodol. Mae TATOC yn helpu perchnogion cyfrannau cyfnodol i gyfnewid gwybodaeth ac yn cefnogi clybiau perchnogion cyfrannau cyfnodol. Eu manylion cyswllt yw:
TATOC
Manchester House
84 – 86 Princess Street
Manchester
M1 6NG
Ffôn: 0845 230 2430
E-bost: info@timeshareassociation.org
Gwefan: www.tatoc.co.uk
Fe allwch chi ddarganfod gwybodaeth ddefnyddiol am gyfrannau cyfnodol, clybiau gwyliau ac ail-werthu cyfrannau cyfnodol ar wefan Canolfan Defnyddiwr Ewropeaidd y DU yn: www.ukecc.net.
Mae’r Mudiad Datblygu Cyrchfannau (RDO) yn gymdeithas fasnach i gyfran gyfnodol yn Ewrop. Mae gwefan RDO yn rhoi cyngor cyffredinol ynglŷn â chyfran gyfnodol i brynwyr posibl ac i’r rheiny sy’n berchen cyfran gyfnodol eisoes. Mae’r wefan hefyd yn esbonio deddfau cyfredol yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Resort Development Organisation (RDO)
Oak House
Cours St Michel 100/3
B-1040 Brussels
Belgium
Ffôn (Consumers): 0032 (0) 2533 3069
Ffacs: 0032 (0) 2533 3061
E-bost: info@rdo-org
Gwefan: www.rdo.org
Mae’r Swyddfa Masnachu Teg (OFT) yn awyddus i dderbyn gwybodaeth am broblemau yr ydych wedi’u hwynebu gyda chyfrannau cyfnodol a chlybiau gwyliau sydd wedi’u lleoli yn Ewrop. Mae’r OFT yn casglu tystiolaeth y gall ei ddefnyddio i gymryd achos cyfreithiol yn erbyn masnachwr sydd wedi’i leoli yn Ewrop, i’w hatal rhag torri’r gyfraith yn y dyfodol. Ni all yr OFT ymwneud ag achosion unigol na helpu i ddatrys eich problem.
Enquries team
Office of Fair Trading
Ground Floor
Fleetbank House
2-6 Salisbury Square
Llundain
EC4Y 8JX
Ffôn: 0845 722 4499
E-bost: enquiries@oft.gov.uk
Gwefan: www.oft.gov.uk