Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Profion gyrru

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon



Y prawf gyrru

Mae prawf gyrru yn cynnwys prawf theori a phrawf ymarferol. Ni allwch fel arfer sefyll y prawf ymarferol os nad ydych wedi llwyddo yn y prawf theori.

Fodd bynnag, mae rhai pobl wedi’u heithrio rhag sefyll y prawf theori. Cewch fwy o wybodaeth am bwy sydd wedi’i eithrio rhag sefyll y prawf theori ar wefan Directgov: (New window) www.direct.gov.uk.

Mae’n rhaid i chi dalu ffi am bob rhan o’r prawf – am fanylion, gweler dan y pennawd Ffioedd.

Cyn sefyll y prawf, mae’n rhaid bod gennych drwydded gyrru dros dro dilys Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon.

Nôl i’r brig


Y prawf theori

Mae yna ddwy rhan i’r prawf theori. Y cyntaf yw prawf cyffwrdd sgrin lle mae’n rhaid i chi ddewis yr ateb cywir o nifer o ddewisiadau. Yr ail ran yw prawf adnabod peryglon. Dangosir set o glipiau fideo o beryglon gyrru i chi a bydd gofyn i chi glicio botwm eich llygoden cyn gynted ag y gwelwch berygl. Mae’n rhaid i chi lwyddo yn ddwy ran y prawf theori ar yr un pryd.

Nôl i’r brig


Y prawf ymarferol

Ni allwch eistedd y prawf ymarferol tan eich bod wedi llwyddo yn y prawf theori, oni bai eich bod wedi eich eithrio - gweler dan y pennawd Y prawf theori. Bydd y prawf ymarferol yn profi eich gallu i reoli eich cerbyd yn briodol ac fe fydd yn para 40 munud. Os oes gennych anabledd corfforol, bydd angen i chi ddangos rheolyddion arbennig eich cerbyd.

Bydd y prawf ymarferol hefyd yn cynnwys dau gwestiwn ar ddiogelwch cerbyd a fydd yn dangos eich dealltwriaeth o sut i wirio diogelwch eich cerbyd. Gallai’r cwestiynau hyn gyfeirio at deiars, breciau, hylifau, goleuadau, adlewyrchyddion, cyfeirwyr, a’r corn.

Yn Lloegr, Cymru a’r Alban yn unig, mae’n rhaid i chi gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) cyn sefyll prawf beic modur, ac mae’n rhaid i chi ddangos eich tystysgrif CBT pan ydych yn sefyll eich prawf ymarferol. Cewch wybodaeth am y CBT gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar 0115 936 6547.

Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol neu os nad ydych yn ei sefyll o fewn dwy flynedd o basio eich prawf theori, bydd angen i chi basio’r prawf theori eto cyn y gallwch sefyll prawf ymarferol.

Pan ydych wedi llwyddo yn y prawf ymarferol yn Lloegr a Chymru a’r Alban, gallwch roi eich trwydded dros dro i’r arholwr ac fe fydd yn rhoi trwydded lawn i chi yn awtomatig ar yr amod nad yw eich manylion personol wedi newid. Fel arall, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) am eich trwydded lawn o fewn dwy flynedd o ddyddiad y prawf. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi sefyll y prawf ymarferol (a’r prawf theori) eto.

Nôl i’r brig


Ceisio am brawf

Gallwch geisio am brawf theori neu ymarferol:

  • yn ysgrifenedig, drwy gwblhau’r ffurflen gais sydd ar gael gan ganolfannau prawf, hyfforddwyr gyrru neu drwy ffonio’r llinell archebu prawf. Rhif y llinell archebu yw 0300 200 1122 yn Lloegr, Cymru neu’r Alban, neu 0300 200 1133 os hoffech geisio trwy gyfrwng y Gymraeg
  • drwy ffonio 0300 200 1122 yn Lloegr, Cymru neu’r Alban, neu 0300 200 1133 i geisio yn Gymraeg ac yng Ngogledd Iwerddon drwy ffonio 0845 600 6700 (i archebu prawf theori) neu 0845 247 2472 (i archebu prawf ymarferol) gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd
  • ar-lein yn (New window) www.direct.gov.uk neu yng Ngogledd Iwerddon, (New window) www.dvani.gov.uk.

Mae’n rhaid i chi dalu ffi i wneud y prawf – gweler dan y pennawd Ffioedd.

Gallwch ad-drefnu neu ganslo prawf dros y ffôn neu ar-lein drwy roi rhybudd o dri diwrnod gwaith.

Nôl i’r brig


Ymgeiswyr sydd ag anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig, er enghraifft, anawsterau darllen, anableddau corfforol neu os ydych yn dymuno sefyll y prawf theori mewn iaith arall yn hytrach na Saesneg, gall yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wneud trefniadau ar eich cyfer. Cewch hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Direct Gov yn (New window) www.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig


Ailsefyll y prawf

Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf theori, mae’n rhaid i chi aros tri diwrnod gwaith cyn medru sefyll prawf arall. Gallwch sefyll y prawf gymaint o weithiau ag y dymunwch.

Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol, mae’n rhaid i chi aros deg diwrnod gwaith cyn medru ailsefyll prawf car neu feic modur a thri diwrnod gwaith cyn ailsefyll prawf lori neu fws. Gallwch sefyll y prawf gymaint o weithiau ag y dymunwch.

Nôl i’r brig


Apeliadau

Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf theori, dim ond os aflonyddwyd ar y prawf y gallwch apelio.

Os nad ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol, dim ond os na gyflawnwyd y prawf yn unol â’r rheolau y gallwch apelio.

Nôl i’r brig


Cyfnod prawf

Pan ydych yn llwyddo yn eich prawf gyrru am y tro cyntaf, byddwch yn ddarostyngedig i ddwy flynedd o gyfnod prawf. Mae hyn yn gymwys i unrhyw un sy’n gyrru gyda thrwydded a gyhoeddwyd gan y DVLA. Mae’r cyfnod o ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod yr ydych yn llwyddo yn y prawf ymarferol.

Os cewch eich cyhuddo o droseddau gyrru lle dyfernir chwech neu fwy o bwyntiau cosb i chi yn ystod y cyfnod prawf, bydd eich trwydded gyrru yn cael ei diddymu.

Os diddymir eich trwydded gyrru lawn, byddwch yn cael eich trin unwaith eto fel dysgwr, fel pe baech wedi methu eich prawf gyrru. I barhau i yrru, bydd angen trwydded gyrru dros dro arnoch ynghyd â phlatiau dysgwr tan eich bod wedi llwyddo yn eich profion ymarferol a theori.

Ni allwch apelio yn erbyn diddymiad eich trwydded. Fodd bynnag, os ydych yn apelio yn erbyn cyhuddiad neu ddedfryd a gynyddodd nifer eich pwyntiau i 6 neu fwy, gallwch wneud cais i’r DVLA adfer eich trwydded tan bod canlyniad yr apêl yn hysbys. Os yw’r llys yn hysbysu’r DVLA bod y ddedfryd dan apêl, dylid adfer eich trwydded lawn heb brawf pellach.

Gellir diddymu eich trwydded am gyn lleied o amser ag sy’n angenrheidiol. Cyn gynted â’ch bod yn llwyddo yn y profion theori ac ymarferol, gallwch geisio am drwydded lawn newydd. Fodd bynnag, bydd y pwyntiau cosb yn parhau ar y drwydded gyrru am bedair blynedd o ddyddiad y drosedd. Ar ôl pedair blynedd, gallwch ofyn i’r DVLA (neu’r DVLNI yng Ngogledd Iwerddon) i gael gwared arnynt.

Yn Lloegr, Cymru a’r Alban yn unig, nid oes yn rhaid i yrwyr beiciau modur sydd â thrwydded wedi’i diddymu o dan delerau’r cyfnod prawf, ailsefyll yr hyfforddiant sylfaenol gorfodol (gweler dan y pennawd Prawf ymarferol), ar yr amod bod gennych dystysgrif yr hyfforddiant sylfaenol gorfodol.

Os hoffech fwy o wybodaeth am unrhyw arnodiadau ar eich trwydded gyrru, gweler Trwyddedau gyrru.

Nôl i’r brig


Gwaharddiad

Ar gyfer rhai troseddau gyrru, gall y llys eich gwahardd rhag gyrru a/neu (g)orchymyn eich bod yn sefyll y prawf eto. Os yw’r drosedd yn ddifrifol iawn, gall y llys orchymyn gwaharddiad tan eich bod yn llwyddo yn y prawf a’ch bod yn sefyll prawf ymarferol dwbl a elwir yn brawf gyrru estynedig. Mae’r ffi ar gyfer y prawf hwn yn uwch na’r ffi ar gyfer y prawf arferol – gweler dan y pennawd Ffioedd.

Yn Lloegr, Cymru a’r Alban yn unig, bydd yn rhaid i yrrwr beic modur sydd wedi ei wahardd gan lys ailsefyll yr hyfforddiant sylfaenol gorfodol (gweler dan y pennawd Y prawf ymarferol) er mwyn gyrru fel dysgwr a bydd yn rhaid iddo sefyll y prawf ymarferol.

Os hoffech fwy o wybodaeth am waharddiadau ac arnodiadau, gweler Trwyddedau gyrru.

Nôl i’r brig


Pass Plus

Cynllun hyfforddi gwirfoddol yw Pass Plus ar gyfer gyrwyr sydd newydd basio eu prawf gyrru yn Lloegr, Cymru a’r Alban. Mae’n cynnwys chwech gwers sy’n ymdrin â gyrru yn y nos, gyrru mewn pob math o dywydd, a gyrru ar draffyrdd a ffyrdd deuol, ymhlith pynciau eraill. Mae’n rhaid i chi dalu ffi i fynychu ond nid oes prawf ar ddiwedd y cwrs.

Os ydych yn cwblhau cwrs Pass Plus o fewn deuddeg mis o basio eich prawf, mae’n bosib y cewch ddisgownt ar eich yswiriant. Mae’r disgownt hwn fel arfer yn gyfwerth ag un flwyddyn o fonws dim-hawlio. Gwiriwch gyda’ch yswiriwr cyn mynychu’r cwrs i weld p’un ai fod hyn ar gael. Mae’n syniad i chi hefyd wirio gyda brocer yswiriant i ddarganfod p’un ai bod yswirwyr eraill yn rhoi mwy o ddisgownt.

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am Pass Plus ar wefan Directgov: (New window) www.direct.gov.uk.

Nôl i’r brig


Ffioedd

Bydd yn rhaid i ymgeisydd dalu ffi ar gyfer y prawf theori a’r prawf ymarferol. Cewch hyd i fwy o wybodaeth am y ffioedd sy’n daladwy ar wefan Directgov: (New window) www.direct.gov.uk neu yng Ngogledd Iwerddon: (New window) www.dvani.gov.uk.

Nôl i’r brig


Cwynion

Os hoffech gwyno am y ffordd y gweinyddwyd unrhyw ran o’ch prawf theori neu ymarferol, cysylltwch â’r ganolfan prawf lle gyflawnoch y prawf. Os nad ydych yn fodlon â’u hymateb i’ch cwyn, cysylltwch ag adran gwasanaethau cwsmeriaid yr Asiantaeth Safonau Gyrru ar 0300 200 1122 neu e-bostiwch customer.services@dsa.gsi.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â’r Asiantaeth Profi Gyrwyr a Cherbydau ar 028 9068 1831 neu e-bostiwch dvta@doeni.gov.uk.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth ychwanegol

Cewch wybodaeth bellach am brofion gyrru ar wefan Directgov: (New window) www.direct.gov.uk neu yng Ngogledd Iwerddon: (New window) www.dvani.gov.uk.

Nôl i’r brig