Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Trwyddedau gyrru

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Pryd mae angen trwydded arnoch

Mae angen trwydded arnoch i yrru y rhan fwyaf o gerbydau ar ffordd gyhoeddus. Mae ffordd gyhoeddus yn un sy’n gyfrifoldeb yr awdurdod lleol neu Adran yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau, neu yng Ngogledd Iwerddon, Adran yr Amgylchedd, i’w trwsio.

Nid oes angen trwydded arnoch i yrru unrhyw gerbyd ar ffordd breifat. Mae ffordd breifat yn un lle nad yw'r cyhoedd yn cael mynediad, er enghraifft, ffordd ar ystâd breifat.

Sut bynnag, mae yna rai cerbydau sy ddim angen trwydded, naill ai ar ffordd gyhoeddus neu ffordd breifat. Yr enghreifftiau mwyaf cyffredin o’r rhain ydyw beiciau a cherti a dynnir gan geffyl.

Nôl i’r brig


Gofynion oed ar gyfer gyrru

Oedrannau pryd y gallwch yrru

Oedran Cerbyd
14 oed - Beic pedal a gynorthwyir yn drydanol
16 oed

- mopedau

- ceir. Mae hyn yn berthnasol i bobol sy’n derbyn Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd uwch (elfen symudedd)

- tractorau amaethyddol bach

- peiriant torri gwair bach neu unrhyw beiriant bach arall a reolir gan rywun ar droed

17 oed

- beiciau modur â phwer hyd at 125cc

- ceir

- tractorau amaethyddol mawr

- rholeri ffordd bach

18 oed

- Yn Lloegr, Cymru a’r Alban, faniau a loriau os ydych chi’n aelod o gynllun y gyrrwr ifanc (gweler isod)

- Yng Ngogledd Iwerddon, bysiau mini gyda rhwng naw ac 16 o seddau teithwyr gydag ôl-gerbyd i fyny at 750kg os ydych yn aelod o’r lluoedd arfog.

- Loriau canolig (yng Ngogledd Iwerddon loriau canolig o rhwng 3,500kg

- Yng Ngogledd Iwerddon loriau canolig rhwng 3,500kg a 7.500kg gydag ôl-gerbyd hyd at 750kg

21 oed - Rholer ffordd mawr a phob cerbyd arall
70 oed Mae trwydded dros dro neu lawn yn parhau tan eich penblywdd yn 70 oed. Unwaith y byddwch yn 70 oed rhaid i chi wneud cais i adnewyddu’ch trwydded. Bydd y drwydded wedyn fel arfer yn cael ei hadnewyddu am dair blynedd.

Cynllun y gyrrwr ifanc (Lloegr, Cymru a’r Alban yn unig)

Mae cynllun y gyrrwr ifanc yn cynnig cyfle i berson ifanc i gael trwydded lawn ar gyfer cerbydau mawr yn 18 oed yn hytrach na 21 oed. Mae’r cynllun hwn yn ngofal cymdeithas a elwir yn Sgiliau ar gyfer Logisteg. Fe allwch eu ffonio ar: 01908 313360. Eu gwefan yw: (New window) www.skillsforlogistics.org.

Nôl i’r brig


Y math o gerbyd a warchodir gan y drwydded

Cerbyd Categori
Car B
Car ag ôl-gerbyd. Rhaid i’r ôl gerbyd bwyso i fyny hyd at 750kg. Gall bwyso mwy na 750kg cyhyd â bod cyfanswm pwysau’r car a’r ôl-gerbyd yn ddim mwy na 3.500kg a bod yr ôl-gerbyd, ar ôl ei ddadlwytho, yn pwyso llai na’r car B
Beiciau modur A
Mopedau P
Faniau a loriau sy’n pwyso hyd at 3,500kg (yn cynnwys cerbydau ag ôl-gerbyd sy’n pwyso hyd at 750kg) B
Faniau a loriau sy’n pwyso rhwng 3500 a 7500 kg (yn cynnwys cerbydau ag ôl-gerbyd sy’n pwyso hyd at 750kg) C1
Bysiau sydd â llai na 9 sedd (yn cynnwys cerbydau ag ôl-gerbyd sy’n pwyso hyd at 750kg) B
Bysiau a mwy na 8 ond llai na 17 sedd (yn cynnwys cerbydau ag ôl-gerbyd sy’n pwyso hyd at 750kg) a derbyn nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer hurio neu wobr D1
Unrhyw gerbyd yng Nghategori B gydag ôl-gerbyd sy’n pwyso mwy na 750kg B & E
Unrhyw gerbyd yng Nghategori C1 ag ôl-gerbyd lle nad yw’r cyfanswm pwysau yn fwy na 1200kg (yng Ngogledd Iwerddon, tynnu ôl-gerbyd sy’n pwyso dros 750kg gyda chyfanswm pwysau o 1200-8250kg ar gyfer trwyddedau a roddwyd cyn 1 Ionawr 1997) C1 plus E
Unrhyw gerbyd yng Nghategori D1 gydag ôl-gerbyd sy’n pwyso mwy na 750kg lle nad yw’r cyfuniad yn pwyso dim mwy na 12,000kg D1 plus E
Ceir neu faniau 3 neu 4 olwyn lle nad yw’r pwysau heb lwyth yn fwy na 550kg B1
Beiciau modur tair olwyn B1
Ceir i’r anabl B1
Tractorau amaethyddol F
Peiriannau torri gwair K
Cerbydau a reolir gan rywun ar droed K
Rholer ffordd G
Cerbydau trac H
Cerbydau sy’n cael eu gyrru’n drydanol L
Cerbydau sy’n rhydd o dreth y ffordd N

Faniau, loriau a cherbydau sy’n cario teithwyr

Nid yw’r cerbydau hyn yn gofyn am drwydded arbennig ond yn gofyn i chi gael hawliau ychwanegol, er enghraifft i yrru faniau, loriau neu gerbydau sy’n cario teithwyr. Os nad ydych yn sicr pa fath o drwydded sydd ei hangen arnoch fe ddylech ymgynghori â’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), yng Ngogledd Iwerddon Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau Gogledd Iwerddon (DVLNI) - ar gyfer y cyfeiriad, gweler o dan y pennawd Cymorth ychwanegol).

Nôl i’r brig


Mathau o drwyddedau gyrru

Mae trwydded gyrru naill ai’n drwydded ‘dros dro’ neu’n drwydded ‘lawn’.

Trwydded yrru dros dro

Rhaid i chi wneud cais am drwydded dros dro os:

  • nad ydych byth wedi cael trwydded lawn, neu
  • os nad ydych yn gallu dangos eich bod yn gymwys i gael trwydded yrru lawn.

Os ydych am yrru beic modur, ac yn gwneud cais am drwydded dros dro, fe ddylech nodi hyn ar y ffurflen gais. Os oes gennych drwydded yrru lawn eisoes yn gwarchod grwpiau BG, C1, D1 neu P (gweler o dan y pennawd Y math o gerbyd y mae’r drwydded yn eu gwarchod), fe allwch ei defnyddio’n awtomatig fel trwydded dros dro ar gyfer gyrru beic modur.

Cyfyngiadau ar y defnydd o drwydded dros dro

Mae gan drwydded dros dro gyfyngiadau arbennig ar y defnydd ohoni. Os oes gennych drwydded dros dro i yrru beic modur:

  • rhaid i chi beidio gyrru beic modur sy’n uwch na 125cc, yng Ngogledd Iwerddon, yn ychwanegol, rhaid i chi beidio gyrru beic modur sy’n uwch na 14.6hp
  • yn Lloegr, Cymru a’r Alban, rhaid i chi beidio gyrru beic modur ar ffordd gyhoeddus oni bai eich bod wedi derbyn neu yn y broses o dderbyn cwrs hyfforddiant sylfaenol
  • rhaid i chi beidio cario teithiwr ar y beic modur
  • rhaid i chi arddangos platiau ‘L’ (‘D’ yng Nghymru) ar flaen a chefn y cerbyd
  • rhaid i chi beidio gyrru ar draffordd.

Os oes gennych drwydded dros dro i yrru car neu gerbyd arall (ac eithrio beic modur):

  • rhaid i chi arddangos platiau ‘L’ (‘D’ yng Nghymru) ar flaen a chefn y cerbyd
  • rhaid i chi beidio gyrru ar draffordd
  • Os oes gan y cerbyd fwy nag un sedd, rhaid i chi gael rhywun gyda chi bob tro y byddwch yn gyrru. Rhaid i’r person sy’n eich goruchwylio eistedd yn sedd ffrynt y teithiwr a bod yn ffit i yrru’r cerbyd, er enghraifft, rhaid iddynt beidio â bod yn feddw. Rhaid iddynt hefyd fod yn 21 oed neu drosodd ac yn meddu ar drwydded yrru lawn am ddwy flynedd o leiaf.

Sut bynnag, os ydych chi wedi pasio prawf gyrru ac yn dal i aros i dderbyn trwydded lawn nid ydych yn atebol i’r cyfyngiadau uchod.

Trwydded yrru llawn

Yr ydych yn gymwys i wneud cais am drwydded yrru lawn os ydych wedi pasio prawf gyrru yn y DU o fewn y ddwy flynedd flaenorol.

Os oes gennych drwydded yrru lawn a roddwyd y tu allan i’r DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel, gweler o dan y pennawd Gyrru Dramor.

Cyfyngiadau ar y defnydd o drwydded lawn

Nid oes cyfyngiadau ar ddefnydd trwydded lawn ar wahân i’r rheiny sy’n perthyn i:

  • oedran y gyrrwr - gweler o dan y pennawd Gofynion oed ar gyfer gyrru
  • goruchwylio gyrwyr sy’n dysgu - gweler o dan y pennawd Mathau o drwyddedau gyrru
  • y math o gerbyd mae’r drwydded yn ei warchod - gweler o dan y pennawd Y math o gerbyd mae’r drwydded yn ei warchod
  • cyflwr meddygol y gyrrwr, er enghraifft, golwg diffygiol na ellir ei gywiro gan sbectol. Rhaid i chi ddweud wrth y DVLA am unrhyw gyflwr iechyd all effeithio er eich gallu i yrru
  • yng Ngogledd Iwerddon, unwaith y byddwch wedi pasio’ch prawf gyrru, rhaid i chi arddangos platiau ‘R’ ar flaen a chefn y cerbyd am un flwyddyn. Rhaid i chi beidio mynd dros y cyflymder o 45 milltir yr awr.

Nôl i’r brig


Sut i wneud cais am drwydded yrru

Fe allwch chi gael gwybodaeth ynglŷn â sut i wneud cais am drwydded yrru o wefan Directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk/en/Motoring.

Yng Ngogledd Iwerddon, ar gyfer cael gwybodaeth ynglŷn â’r mathau o dystiolaeth adnabod sydd eu hangen wrth i chi wneud cais am drwydded yrru, ewch i: (New window) www.dvlni.gov.uk

Rhoddir trwyddedau mewn dwy ran. Mae un rhan yn gerdyn llun maint cerdyn credyd ac yn cynnwys manylion categorïau'r cerbydau yr ydych yn gymwys i’w gyrru. Mae’r rhan arall yn ddogfen bapur sy’n nodi hanes hawl eich trwydded ac unrhyw ardystiadau dilys, yn cynnwys pwyntiau cosb a chyfnodau gwahardd. Gelwir y trwyddedau hyn yn drwyddedau cerdyn llun.

Rhaid adnewyddu trwyddedau cerdyn llun bob deng mlynedd er mwyn sicrhau fod y llun yn parhau’n un diweddar.

Mae trwyddedau papur a roddwyd cyn cyflwyno trwyddedau cerdyn llun yn parhau’n ddilys hyd nes y byddan nhw’n gorffen neu hyd nes y bydd angen newid y manylion sydd arnynt.

Nôl i’r brig


Pryd y gallwch ddechrau gyrru

Os ydych chi wedi gwneud cais am drwydded dros dro gyntaf, rhaid i chi beidio dechrau gyrru hyd nes y byddwch wedi derbyn y drwydded. Fel arfer bydd hyn o leiaf yn dair wythnos. Os oes gennych gyflwr meddygol, efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hwy oherwydd bydd angen mwy o wybodaeth cyn y gellir rhoi’r drwydded.

Os ydych chi wedi cael trwydded yn flaenorol (ac yn dal yn gymwys i gael un) ac nid yn gwneud cais am eich trwydded dros dro gyntaf a does dim problemau meddygol, caniateir i chi yrru cyn gynted ag y bydd y ffurflen wedi cyrraedd y DVLA. Nid oes rhaid i chi aros hyd nes y byddwch yn derbyn y drwydded.

Nôl i’r brig


Hyfforddiant sylfaenol gorfodol ar gyfer beiciau modur a mopedau (Lloegr, Cymru a’r Alban yn unig)

Rhaid i bob un sy’n dysgu gyrru moped a beic modur (ac eithrio'r rheiny a restrir isod) gwblhau cwrs hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT).

Nid oes rhaid i’r bobol ganlynol gwblhau cwrs CBT:

  • pobol sy’n dysgu gyrru beic modur sydd eisoes wedi derbyn hawl moped llawn o ganlyniad i basio prawf moped ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 1990
  • pobol sy’n gyrru moped gyda hawl llawn a roddir yn awtomatig gyda thrwydded car lawn.

Mae cyrsiau CBT yng ngofal cyrff hyfforddi beiciau modur a gymeradwyir gan Asiantaeth Safonau Gyrru. Rhestrir hwy o dan ‘hyfforddiant beic modur’ yn y tudalennau Melyn neu ‘hyfforddiant gyrru beiciau modur’ yng nghyfeirlyfrau Thompson. Am wybodaeth bellach am gyrsiau CBT, cysylltwch â’r Asiantaeth Safonau Gyrru ar 0115 936 6547.

Os oes gennych drwydded dros dro sy’n gyfyngedig i ddefnyddio beiciau modur neu sgwteri, bydd hon yn parhau am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd. Os nad ydych wedi pasio’r prawf erbyn diwedd y ddwy flynedd bydd yn rhaid i chi aros un flwyddyn cyn gwneud cais i adnewyddu'r drwydded. Yn ystod y flwyddyn hon fyddwch chi ddim yn gallu gyrru beic modur neu sgwter.

Nôl i’r brig


Problemau golwg

Er mwyn cael neu gadw trwydded, rhaid cwrdd â safon golwg isaf.

Os oes angen sbectol neu lensys cyswllt arnoch i gwrdd â’r safon golwg, rhaid i chi eu gwisgo bob amser wrth yrru. Os ydych chi’n gyrru heb wisgo eich sbectol neu lensys, yr ydych yn cyflawni trosedd.

Nôl i’r brig


Gwaharddiadau ac ardystiadau

Gwaharddiadau yn Lloegr, Cymru a'r Alban

Os ydych chi wedi’ch gwahardd rhag gyrru, fe allwch chi gael trwydded eto, naill ai:

  • ar ddiwedd cyfnod y gwaharddiad; neu
  • ynghynt os caiff y gwaharddiad ei godi.

Os ydych yn bwriadu aros tan ddiwedd cyfnod y gwaharddiad, fel arfer fe fyddwch yn derbyn nodyn atgoffa oddi wrth y DVLA wyth wythnos cyn diwedd cyfnod y gwaharddiad i wneud cais am drwydded newydd. Os nad ydych yn derbyn nodyn atgoffa, fe ddylech lenwi ffurflen D1 sydd ar gael o swyddfa’r post a’i hanfon yn ôl at y DVLA.

Fe allwch wneud cais i’r llys ddeliodd â’ch achos i gael y gwaharddiad wedi’i godi os ydych chi wedi’ch gwahardd am gyfnod isaf o ddwy flynedd. Mae pryd y byddwch yn gwneud cais yn dibynnu ar hyd cyfnod eich gwaharddiad.

Ar gyfer rhai troseddau gyrru gall y llys eich gwahardd a gorchymyn i chi gael eich ail brofi. Os ydyw’r drosedd yn un ddifrifol iawn gall y llys orchymyn eich bod yn cael eich gwahardd hyd nes y byddwch yn pasio’r prawf a bod yn rhaid i chi gymryd prawf gyrru ymarferol-dwbl a adwaenir fel ‘prawf gyrru estynedig’. Fe fydd angen i chi felly wneud cais am drwydded dros dro. Mae ffî yn daladwy am hyn.

Mae’r rheolau ynglŷn â phryd i wneud cais i’r llys yn gymhleth a dylai unrhyw un sy’n ystyried y cam hwn ymgynghori â chyngorydd profiadol er enghraifft, yn Swyddfa Cyngor ar Bopeth. Er mwyn chwilio am eich CAB agosaf, yn cynnwys y rheiny sy’n gallu rhoi cyngor trwy ebost, cliciwch ar yr (New window) arwydd CAB.

Gwaharddiadau yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, os gwaherddir chi am ddeuddeg mis neu lai fe ddylech chi ail ymgeisio yn ysgrifenedig i’r DVLNI (gan ddefnyddio ffurflen DL1) tua diwedd cyfnod y gwaharddiad. Fe ddylech chi roi’ch enw, cyfeiriad, dyddiad geni, dyddiad ymddangos yn y llys, hyd y gwaharddiad a llun. Mae yna dâl am hyn.

Ardystiadau

Efallai y cewch chi ardystiadau pwyntiau cosbi ar eich trwydded am gael eich erlyn am gyflawni troseddau gyrru arbennig. Ar ôl peth amser fe allwch chi wneud cais i’r DVLA ar ffurflen D1 (DVLNI yng Ngogledd Iwerddon ar ffurflen DL1) i gael yr ardystiadau wedi’u symud am dâl bychan. Mae’r amser y bydd yn rhaid i chi aros i gael yr ardystiadau wedi’u symud o’ch trwydded yn dibynnu ar y math o drosedd gyrru a gyflawnwyd. Fel arfer mae hyn yn bedair blynedd, oni bai eich bod wedi’ch cyhuddo o drosedd yfed a gyrru (yn yr achos hwn mae’n un mlynedd ar ddeg).

Nôl i’r brig


Trwyddedau a gollwyd, sy wedi’u dwyn neu eu difwyno

Os ydyw’ch trwydded wedi mynd ar goll neu wedi’i dwyn, fe ddylech chi ddweud wrth yr heddlu cyn gynted ag sy’n bosibl. Fe ddylech chi hefyd wneud cais am drwydded ddyblyg gan ddefnyddio ffurflen D1 (DL1 yng Ngogledd Iwerddon) a’i hanfon at y DVLA (DVLNI yng Ngogledd Iwerddon). Mae yna dâl ar gyfer cael trwydded ddyblyg. Gellir cael trwyddedau dyblyg hefyd trwy ffonio’r DVLA - ar gyfer y rhif ffôn, gweler o dan Cymorth ychwanegol.

Os ydyw’ch trwydded wedi’i difwyno neu ei distrywio mewn unrhyw ffordd fel nad yw’r wybodaeth sydd arni bellach yn glir, mae’n rhaid i chi wneud cais am drwydded ddyblyg (gweler uchod). Nid oes rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu yn yr achos hwn.

Nôl i’r brig


Newid enw neu gyfeiriad

Trwyddedau gyrru papur

Os oes gennych drwydded gyrru papur ac mae angen i chi nodi newid enw neu gyfeiriad, rhaid i chi gwblhau ffurflen gais D1, sydd ar gael o’r rhan fwyaf o ganghennau swyddfa’r post.

Trwyddedau gyrru cerdyn llun

Os oes gennych drwydded gyrru cerdyn llun ac mae angen i chi nodi newid enw neu gyfeiriad, fe ddylech chi gwblhau'r adran newidiadau ar eich trwydded papur cyfatebol a’i anfon at y DVLA ynghyd â’ch trwydded cerdyn llun. Os ydych chi am nodi newid enw, rhaid i chi ddefnyddio ffurflen D1.

Ar gyfer y trwyddedau gyrru papur a cherdyn llun, mae angen tystiolaeth ddogfennol o newid enw, er enghraifft, tystysgrif geni, pasbort neu weithred newid enw. Fe allwch chi barhau i yrru wrth i chi aros i’r drwydded gael ei dychwelyd i chi. Nid yw’r DVLA yn codi tâl am newid manylion eich enw a chyfeiriad. Sut bynnag, fe allwch chi gael eich dirwyo am beidio dweud wrth y DVLA am newid eich enw neu gyfeiriad.

Nôl i’r brig


Gyrru dramor

Gyrru yn Ardal Economaidd Ewrop

Os oes gennych drwydded lawn Prydain Fawr (GB) neu drwydded yrru Gogledd Iwerddon, fe allwch chi yrru mewn unrhyw wlad yn Ardal Economaidd Ewrop (EEA) gyda’r drwydded hon. Nid oes angen Hawlen Yrru Ryngwladol os oes gennych drwydded. Mae gwledydd yn yr EEA yn cynnwys Liechtenstein, Gwlad yr Ia a Norwy a gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.

Fe allwch chi gyfnewid eich trwydded GB am un y wlad lle rydych yn byw os ydych yn dymuno hynny.

Er mwyn darganfod pa wledydd sydd yn yr Undeb Ewropeaidd, gweler Yr Undeb Ewropeaidd.

Gyrru y tu allan i Ardal Economiadd Ewrop

Os ydych chi am yrru mewn gwlad y tu allan i’r EEA, efallai y bydd angen i chi wneud cais am Hawlen Yrru Ryngwladol (IDP). Gall y National Breakdown, AA neu RAC (RSAC yn yr Alban) ddweud wrthych os oes angen IDP arnoch. Os oes angen IDP arnoch, fe allwch chi wneud cais trwy’r post i un o’r cymdeithasau moduro neu gael un yn bersonol o un o’r prif swyddefydd post. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o’r gymdeithas. Gellir rhoi IDP i chi dim ond os ydych yn meddu ar drwydded lawn GB neu Ogledd Iwerddon.

Os ewch chi i fyw yn barhaol mewn gwlad arall, efallai y byddwch yn gallu cyfnewid eich trwydded am drwydded gyrru yn y wlad honno. Fe ddylech wirio gydag awdurdod trwyddedu gyrwyr yn y wlad lle byddwch yn byw ynddi. Gall y llysgenhadaeth briodol ddarparu’r wybodaeth hon.

Nôl i’r brig


Trwyddedau Gyrru a roddwyd dramor

Trwyddedau a roddwyd mewn gwlad Ardal Economiadd Ewrop arall

Os oes gennych drwydded yrru lawn a dilys a roddwyd mewn gwlad arall yn EEA (‘Trwydded Gymunedol’), efallai y gallwch yrru yn y DU gyda’r drwydded hon. Nid oes rhaid i chi ei chyfnewid yn syth am drwydded GB. A derbyn bod y Drwydded Gymunedol yn parhau’n ddilys yn y wlad lle roddwyd hi, a’i bod yn drwydded i yrru car cyffredin fe allwch ei defnyddio i yrru yma hyd nes y byddwch yn 70 oed, neu am dair blynedd ar ôl i chi ddod yn un o’r trigolion. Os mai trwydded ‘alwedigaethol’ ydyw, er enghraifft, trwydded i yrru bws mini neu fws, mae’r rheolau’n wahanol.

Sut bynnag, os ydych yn dymuno hynny, fe allwch gyfnewid eich trwydded yrru am drwydded lawn GB neu Ogledd Iwerddon. Fe ddylech chi gwblhau ffurflen D1 (DL1 yng Ngogledd Iwerddon) sydd ar gael o ganghennau swyddfa’r post neu swyddfeydd trwyddedu lleol yng Ngogledd Iwerddon ac anfon eich trwydded yrru eich hun gyda’r ffurflen gais. Nis derbynnir llungopi. Mae ffî yn daladwy.

Er mwyn darganfod pa wledydd sydd yn yr EEA, gweler Cyfrannau cyfnodol a chlybiau gwyliau.

Trwyddedau a roddwyd y tu allan i’r EEA

Gall gyrwyr sydd â thrwydded yrru lawn a dilys a roddwyd mewn gwlad arall ar wahan i wlad yn EEA yrru yn y DU ar y drwydded hon am ddeuddeg mis o’r amser y byddant yn dod yn breswylydd yn y DU. Nid oes diffiniad cyfreithiol clir o ba bryd mae’r cyfnod hwn yn cychwyn.

Os ydych yn bwriadu bod yn breswylydd yn y DU y tuhwnt i’r cyfnod hwn, fe allwch gyfnewid eich trwydded am drwydded lawn GB neu Ogledd Iwerddon os ydyw’n drwydded Lluoedd Prydain yr Almaen neu os roddwyd y drwydded yn:

Awstralia
Barbados
Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
Canada (Trwydded GB yn unig)
Ynysoedd y Falkland
Hong Kong
Japan
Monaco
Seland Newydd
Gweriniaeth Corea (ac eithrio trwyddedau beiciau modur)
Singapor
De Affrica (Trwydded GB yn unig)
Y Swistir
Zimbabwe

Os nad ydych yn cyfnewid eich trwydded cyn i’r cyfnod 12 mis ddod i ben, fyddwch chi ddim yn gallu gyrru. Sut bynnag, mae gennych gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad y mynediad olaf i’r DU o fewn i’r hwn y gallwch gyfnewid eich trwydded ac yna dechrau gyrru eto. Os nad ydych yn cyfnewid eich trwydded o fewn y cyfnod hwn bydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded dros dro yn y ffordd arferol - gweler o dan y pennawd Sut i wneud cais am drwydded yrru.

Os oes gennych drwydded yrru a roddwyd mewn gwlad ar wahan i’r rhai a restrir uchod, rhaid i chi i gymryd prawf gyrru'r DU er mwyn derbyn trwydded lawn GB os ydych yn bwriadu gyrru ar ôl y cyfnod cychwynnol o ddeuddeg mis. Rhaid i chi dderbyn trwydded dros dro GB cyn trefnu prawf gyrru.

Nôl i’r brig


Cymorth ychwanegol

Fe allwch hi gael mwy o wybodaeth am drwyddedau gyrru o wefan directgov yn: (New window) www.direct.gov.uk.

Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am drwyddedau gyrru o wefan nidirect yn: (New window) www.nidirect.gov.uk.

Nôl i’r brig