Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Nid cyfreithwyr yw'r unig bobl sy'n gallu darparu cyngor cyfreithiol. Gallech gael help cyfreithiol gan:-
Gallwch weithredu ar eich rhan eich hun mewn trefniadau llys neu, os ydych yn gweithredu ar eich rhan eich hun, gallwch gael ffrind neu gynrychiolydd lleyg i'ch helpu yn y llys.
Os oes angen cyfreithiwr arnoch, dylech ddewis un sydd â phrofiad ym maes perthnasol y gyfraith.
Mae manylion cyfreithwyr ar wefan Cymdeithas yn Gyfraith yn: www.solicitors-online.com, neu rhowch glic ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn: www.communityleagaladvice.org.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Iwerddon yn: www.nilsc.org.uk.
Dylai asiantaethau cyngor lleol fel canolfannau cyfraith neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth hefyd fod yn gallu argymell cyfreithwyr lleol sy'n brofiadol ym maes perthnasol y gyfraith.
Os ydych yng ngorsaf yr heddlu, neu os ydych wedi eich cyhuddo o drosedd lle mae dedfryd o garchar yn bosib, gallwch gael cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim o dan gynllun cyfreithwyr ar ddyletswydd.
Nid yw hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Yng Nghymru a Lloegr, fe fydd eich cais yn mynd at Ganolfan Alwadau Cyfreithwyr Amddiffyn. Neu, byddwch yn medru dewis eich cyfreithiwr eich hun ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am gyngor os oes cytundeb ganddynt gyda’r Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (CDS). Bydd y Ganolfan Alwadau yn cysylltu â’ch cyfreithiwr ar eich rhan.
Am fwy o wybodaeth ynghylch yr hyn sy’n digwydd os fyddwch chi angen cyngor cyfreithiol mewn gorsaf heddlu yng Nghymru a Lloegr, gweler Pwerau’r Heddlu.
Os ydych mewn llys ynadon neu lys ieuenctid, bydd y trefniadau ar gyfer darparu cyfreithiwr yn amrywio. Yng Ngogledd Iwerddon, Llys Ynadon Belfast yw'r unig lys ynadon gyda chynllun cyfreithiwr ar ddyletswydd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol mewn achosion troseddol, gweler Help gyda chostau cyfreithiol.
Os ydych angen mwy o wybodaeth ynglyn â chyfreithiwr ar ddyletswydd, dylech gysylltu ag asiantaeth cyngor lleol, fel canolfan gyfraith neu gynghorydd profiadol mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Pan fyddwch wedi dewis eich cyfreithiwr, bydd angen i chi wneud apwyntiad. Fel arfer, fe fydd hyn o fewn pum diwrnod gwaith. Os ydyw'n fater brys, dylai'r cyfreithiwr geisio trefnu apwyntiad cynharach.
Dylech fynd â phob dogfen berthnasol i'r apwyntiad ac efallai y bydd yn ddefnyddiol paratoi rhestr o gwestiynau ar gyfer y cyfreithiwr ymlaen llaw.
Ar gyfer rhai achosion, fe fydd y cyfreithiwr angen prawf o bwy ydych chi, cyn y gall weithredu. Mae hyn yn berthnasol, er enghraifft, ar gyfer gweithrediadau sy'n ymwneud â mwy na £10,000, er enghraifft prynu t. Fe all y prawf fod yn basport cyfredol, trwydded yrru neu lythyr hawl. Fe fydd yn rhaid i chi ddarparu iwtiliti diweddar hefyd. Os nad oes gennych y math yma o brawf i ddangos pwy ydych chi, dylech holi'r cyfreithiwr am y ffordd orau o brofi pwy ydych chi.
Mae'n rhaid i gyfreithiwr gydymffurfio â rheolau a safonau proffesiynol penodol a osodir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mae'n rhaid i'r cyfreithiwr, er enghraifft, roi gwybodaeth benodol i chi yn y cyfweliad cyntaf. Dylai'r wybodaeth gynnwys:-
Mae Cymdeithas y Gyfraith yn cynhyrchu canllawiau defnyddiol ar ddefnyddio cyfreithiwr ac fe allwch eu gweld ar eu gwefan: www.lawsociety.org.uk. Mae’r canllawiau ar gael mewn Braille, ar dâp sain neu ar Gryno Ddisg – ffoniwch Gymdeithas y Gyfraith ar 0870 606 2555.
Dylech sicrhau eich bod yn deall yr hyn a ddywedodd y cyfreithiwr wrthoch ac ni ddylech fod yn ofn holi cwestiynau.
Yn ystod yr achos, dylai'r cyfreithiwr sicrhau eich bod yn cael eich diweddaru'n gyson ynghylch cynnydd a chostau hyd yn oed os nad oes yna ddatblygiadau sylweddol.
Ar ddechrau'r achos, mae'n rhaid i'r cyfreithiwr roi gwybodaeth i chi ynglyn â chost debygol yr achos a sut mae'r costau yn cael eu cyfrifo, er enghraifft, ffi sefydlog, cyfradd yr awr neu ffi canran.
Mewn rhai achosion, er enghraifft, achosion o anaf personol, efallai y byddwch yn gwneud cytundeb ffi amodol gyda'r cyfreithiwr. Mae hyn yn golygu, os ydych yn colli'r achos, y bydd yn rhaid i chi dalu costau'r ochr arall ac, fel arfer, gofynnir i chi gymryd yswiriant allan er mwyn talu am hyn. Os byddwch yn ennill yr achos, yna fel arfer fe fydd eich cyfreithiwr yn ceisio cael yr ochr arall i dalu'r ffioedd, ar gyfradd uwch. Yn gyffredinol, dim ond pobl sydd ddim yn derbyn cymorth cyfreithiol sy'n medru gwneud cytundeb ffi amodol.
Os ydych yn ystyried gwneud cytundeb ffi amodol, mae'n rhaid i chi fod yn glir ynglyn â beth mae amodau'r cytundeb yn ei olygu, a dylech gysylltu â chynghorydd profiadol er enghraifft, Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Ym mhob achos, mae'n rhaid i'r cyfreithiwr drafod sut fydd y costau'n cael eu talu ac a ydych yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol. Os nad yw'r cyfreithiwr yn gwneud gwaith cymorth cyfreithiol, mae'n rhaid iddo/iddi esbonio manteision cymorth cyfreithiol i chi os ydych yn gymwys, a rhoi'r cyfle i chi fynd at gyfreithiwr sydd yn gwneud gwaith cymorth cyfreithiol.
Am wybodaeth ynglyn â chymorth cyfreithiol, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.
Mae'n rhaid i'r cyfreithiwr eich diweddaru ynglyn â'r costau trwy gydol yr achos.
Os yw'r cyfreithiwr yn dal eich arian, gellir ei gadw mewn cyfrif cadw ar wahân ac efallai fod hawl gennych i gael llog.
Mae yn erbyn y gyfraith i’ch cyfreithiwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, rhyw, rhywioldeb, hil neu grefydd. Hefyd, yn ôl rheolau proffesiynol cyfreithwyr, ni ddylai cyfreithiwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich oed. Rydych yn medru cwyno ynghylch gwahaniaethu gan:
Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno yn erbyn cyfreithiwr, gweler y pennawd Cwynion ynghylch cyfreithwyr.
Dylech gael eich bil o fewn cyfnod rhesymol ar ôl i'ch cyfreithiwr orffen y gwaith a wnaeth ar eich rhan, ac fe fydd yn cynnwys tair elfen: treuliau, TAW a ffioedd.
Y treuliau yw'r costau y bu'n rhaid i'r cyfreithiwr eu talu ar eich rhan, er enghraifft, ffioedd y llys a ffioedd bargyfreithwyr.
Mae'r ffioedd yn cynnwys y gwasanaethau proffesiynol a wnaeth y cyfreithiwr ar eich rhan. Os oedd y gwaith yn waith llys, mae'r ffioedd y mae'r cyfreithiwr yn medru eu codi yn ddarostyngedig i reolau llys. Nid oes graddfeydd sy'n rheoleiddio gwaith sydd ddim yn waith llys, ond mae'n rhaid i'r costau fod yn deg ac yn rhesymol. Codir TAW ar y ffioedd ac ar rai o'r treuliau.
Os ydych yn credu bod yn bil yn rhy ddrud, gallwch:-
Gallwch ysgrifennu at y cyfreithiwr yn gofyn am fanylion llawn ynglŷn â sut gafodd rhai o'r costau ar y bil, neu'r cyfan ohonynt, eu cyfrifo. Dylai'r llythyr yma hefyd gynnwys cais am ymateb ysgrifenedig.
Mae'r weithdrefn hon ond yn berthnasol i filiau sydd wedi eu dyddio cyn 11 Awst 2009 ac sydd ddim yn cynnwys gwaith llys. Gallwch, o fewn mis i dderbyn y bil, ofyn i'r cyfreithiwr gael tystysgrif cydnabyddiaeth sy'n ei gymeradwyo neu'n ei ostwng. Nid oes tâl am hyn. Mae'n rhaid i chi dalu hanner y bil a TAW a threuliau cyn gwneud cais am dystysgrif cydnabyddiaeth. Ni ellir cwestiynu treuliau. Mae yna derfyn amser ar gyfer gwneud cais am y dystysgrif cydnabyddiaeth. Fel arfer, un mis yw'r terfyn amser ond gallai fod yn hirach na hyn o dan rai amgylchiadau. Efallai y bydd y cyfreithiwr hefyd yn cytuno diystyru'r terfyn amser. Dylech holi i weld beth yw’r terfynau amser perthnasol – holwch y Gwasanaeth Cwynion Cyfreithiol. Ewch at eu gwefan yn: www.legalcomplants.org.uk. am fwy o wybodaeth ynglyn â Thystysgrifau Cydnabyddiaeth.
Gall Cymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon eich cynghori ynglyn â dadlau ynghylch bil cyfreithiwr. Fodd bynnag, yn gyntaf dylech ofyn am gael cyfarfod gyda'r cyfreithiwr ac os ydych yn dal i fod yn anfodlon, gallwch gysylltu ag Adran Tystysgrif Cydnabyddiaeth Cymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon yn:-
The Renumeration Certificate Department
The Law Society of Northern Ireland
Law Society House
96 Victoria Street
Belfast
BT1 3GN
Ffôn: 028 9023 1614
Ffacs: 028 9023 2606
Ebost: info@lawsoc-ni.org
Gwefan: www.lawsoc-ni.org
Gellir defnyddio'r drefn hon ar gyfer unrhyw waith a wnaethpwyd gan gyfreithiwr, gan gynnwys gwaith llys, a chyfeirir ato fel asesu.
Gall y llys archwilio'r bil cyfan, a gall naill ai ei gymeradwyo neu ei leihau. Os yw'r gostyngiad yn fwy na phumed ran, ni fyddwch yn talu costau'r asesu.
Ar gyfer gwaith sydd ddim yn waith llys, y llys sy'n asesu'r bil yw'r Uchel Lys yn Llundain. Lle mae gwaith llys yn gysylltiedig, bydd y bil yn cael ei drethu gan y llys â ddeliodd â'r achos. Os ydych yn cael Cymorth Cyfreithiol, gall y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol asesu eich bil.
Os ydych yn gofyn am gael asesiad o fewn mis i gael y bil, mae'n rhaid i'r llys ei asesu. Rhwng un mis a blwyddyn, mae'r llys yn penderfynu p'un ai i gytuno i asesu'r bil ai peidio; ar ôl blwyddyn, mae'n anarferol iawn i'r llys gytuno.
Ni all y llys gytuno i asesiad os yw'r bil wedi'i dalu a mwy nag un flwyddyn wedi mynd heibio.
Gallwch ofyn i'r llys archwilio'r bil hyd yn oed os ydych wedi arwyddo cytundeb ffi amodol.
Os ydych yn cael trafferth i dalu bil cyfreithiwr, efallai y bydd y cyfreithiwr yn mynnu eich bod yn talu ar unwaith. Gallai hefyd godi llog ar fil am waith sydd ddim yn waith llys ar ôl mis. Fodd bynnag, fe allai adael i chi dalu'ch bil mewn rhan-daliadau.
Fel arfer, byddwch angen help cynghorydd profiadol i asesu p’un ai y dylech herio bil cyfreithiwr ai peidio. Rydych yn medru siarad â chynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agoaf, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy’r e-bost, cliciwch ar arwydd CAB.
Yng Nghymru a Lloegr, rydych hefyd yn medru dod o hyd i gyfreithiwr costau ar wefan Cymdeithas Drafftsmyn Costau Cyfreithiol yn www.alcd.org.uk.
Efallai eich bod yn anfodlon gyda'ch cyfreithiwr am nifer o resymau, er enghraifft, efallai eich bod wedi cael problemau gyda chymorth cyfreithiol a/neu eich bod yn anfodlon gyda chanlyniad yr achos. Ni allwch gwyno ynglyn â'r pethau yma i'ch cyfreithiwr. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon gyda'r modd y cafodd eich achos ei drîn gan y cyfreithiwr, er enghraifft, oedi, gwahaniaethu neu eich cyfreithiwr yn colli dogfennau neu arian, gallwch wneud cwyn.
Yn gyntaf, dylech geisio datrys y gwyn trwy drafod y gwyn gyda'r cyfreithiwr. Mae'n rhaid i bob cwmni cyfreithiwr gael trefn gwyno ysgrifenedig a bydd y cwmni yn dweud wrthoch pwy i gysylltu â hwy os oes gennych broblem gyda'r cyfreithiwr a oedd yng ngofal yr achos. Mae'n rhaid i'r cyfreithiwr roi copi o'r drefn gwyno i chi os ydych yn gofyn amdano.
Os nad yw hyn yn datrys y mater, yng Nghymru a Lloegr, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cwynion Cyfreithiol (The Legal Complaints Service) (y LCS). Mae gan y LCS linell gymorth sy'n medru eich cynghori a oes yna sail i wneud cwyn, ac os felly, sut i fynd ati. Fe fydd angen i chi gysylltu â'r LCS o fewn chwe mis i ddiwedd y gwaith a wnaeth eich cyfreithiwr, neu o fewn chwe mis i'r dyddiad y darganfuwyd bod yna broblem.
Os ydych yn dymuno parhau gyda'r gwyn, dylech lenwi ffurflen arbennig sydd ar gael gan y LCS. Dyma'r cyfeiriad:-
The Legal Complaints Service
Victoria Court
8 Dormer Place
Leamington Spa
Warwickshire CV32 5AE
Llinell gymorth: 0845 608 6565
Ffôn: 01926 820082
Ffacs: 01926 431435
Gwefan: www.legalcomplaints.org.uk
Gall y LCS ddarparu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill. Os rowch wybod iddynt pa un yw eich dewis iaith, gallant drefu siarad gyda chi ar y ffôn ym mhresenoldeb cyfieithydd, neu gallant gyfieithu eu llythyron a’u taflenni i’ch dewis iaith chi.
Fe fydd y LCS yn ystyried y gwyn, ac, os yn briodol, mae'n medru gofyn i'r cyfreithiwr:-
Os yw'r cyfreithiwr wedi torri unrhyw reolau ymddygiad proffesiynol, efallai y bydd y LCS yn cyfeirio eich cwyn at yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Mewn achosion eithafol, efallai y bydd y cyfreithiwr yn cael ei ddisgyblu neu ei wahardd rhag bod yn gyfreithiwr.
Os yw'ch cyfreithiwr wedi bod yn esgeulus, neu wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch yn medru cymryd camau cyfrethiol yn erbyn y cyfreithiwr a chwyno i'r LCS. Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol. Efallai y byddwch yn medru cael Cymorth Cyfreithiol ar gyfer hyn.
Am fwy o wybodaeth, yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Ngogledd Iwerddon.
Yng Ngogledd Iwerddon, Cymdeithas y Gyfraith Gogledd Iwerddon sy'n ymchwilio i gwynion yn erbyn cyfreithwyr. Dylech roi’r cyfle i’ch cyfreithiwr ddelio gyda'ch cwyn yn gyntaf. I gysylltu â Chymdeithas y Gyfraith, ysgrifennwch at y Prif Weithredwr yn:-
Law Society House
96 Victoria Street
Belfast
BT1 3GN
Ffôn: 028 9023 1614
Ffacs: 028 9023 2606
Ebost: info@lawsoc-ni.org
Gwefan: www.lawsoc-ni.org
Os bydd Cymdeithas y Gyfraith Gogledd Iwerddon yn amddiffyn eich cwyn, gallai orchymyn i'r cyfreithiwr:-
Nid yw Cymdeithas y Gyfraith yn medru gorchymyn i’r cyfreithiwr dalu iawndal i chi. Os nad ydych yn fodlon gyda chanlyniad eich cwyn at Gymdeithas y Gyfraith, gallwch ysgrifennu at yr Arsylwydd Lleyg:
The Lay Observer for Northern Ireland
Londonderry House
21 Chichester Street
Belfast
BT1 4JJ
Ffôn: 028 9024 5028
E-bost: a.maclaughlin@btinternet.com
Gwefan: www.layobserveri.com
Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch dewis cyfreithiwr a/neu gynghorydd cyfreithiol arall, rhowch glic ar wefan Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn: www.communitylegaladvice.org.uk.
Yng Ngogledd Iwerddon, ewch at wefan Gwasanaethau Cyfreithiol Gogledd Iwerddon yn www.nilsc.org.uk.