Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae'r llys sirol yn delio ag achosion sifil sy'n cael ymdriniaeth gan farnwr neu farnwr dosbarth. Gellir dechrau achos mewn unrhyw lys sirol ond gellir ei drosglwyddo i lys lleol y diffynnydd. Os amddiffynir yr achos ac mae'r cais ar gyfer swm sefydlog o arian, caiff yr achos ei drosglwyddo'n awtomatig gan y llys i lys lleol y diffynnydd (os yw'r diffynnydd yn unigolyn ac nid yn gwmni). Mewn achosion eraill, gall y diffynnydd ofyn am gael ei d/throsglwyddo.
Mae'n rhaid i unrhyw gais sy'n deillio o gytundeb credyd sydd wedi'i reoleiddio gychwyn yn y llys sirol, waeth beth fyddo'r gwerth.
Am fanylion ynglyn â chredyd sydd wedi'i reoleiddio, gweler Credyd.
Gall llysoedd sirol ddelio gydag amrywiaeth eang o achosion, ond y rhai mwyaf cyffredin yw:-
Yng Nghymru a Lloegr, os bydd achos yn cael ei amddiffyn, bydd yn cael ei drin mewn un o dri ffordd. Bydd y llys yn penderfynu pa weithdrefn sy'n berthnasol ac yna'n trosglwyddo'r achos i'r 'trac' perthnasol. Dyma'r tri trac:-
Fel arfer, trac ceisiadau bach yw'r trac arferol ar gyfer ceisiadau sydd â gwerth o £5,000 neu lai. Mae'r weithdrefn yn yn trac ceisiadau bach yn fwy syml nag mewn traciau eraill ac yn y mwyafrif o achosion, ni fydd yn rhaid i'r person sy'n colli dalu costau'r person arall.
Mae yna un trac i geisiadau bach yng Ngogledd Iwerddon ar gyfer ceisiadau gyda gwerth o £3,000 neu lai.
Am fwy o wybodaeth, gweler Ceisiadau bach.
Mae gan wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi offeryn defnyddiol sy'n eich helpu i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llys sirol lleol. Mae hefyd yn rhoi manylion am y llys, er enghraifft os oes toiledau a mannau parcio i’r anabl yno. Rhowch glic ar www.hmcourts-service.gov.uk.
Mae'r Llys ynadon yn delio ag achosion troseddol a rhai achosion sifil, a bydd achosion naill ai'n cael eu trin gan ynadon heddwch, sydd ddim â chymhwyster ac sy'n derbyn costau yn unig, neu gan Farnwyr dosbarth (Llysoedd Ynadon) sy'n derbyn tâl. Yng Ngogledd Iwerddon, ynadon a delir sy'n gwrando ar achosion yn unig. Fel arfer mae Llysoedd Ynadon ond yn delio gydag achosion sy'n codi o fewn eu hardaloedd eu hunain. Yng Ngogledd Iwerddon, mewn achosion neilltuol, gallant ddelio gyda throseddau sy'n digwydd mewn nifer o ardaloedd. (Er enghraifft, lle mae sawl achos o ddwyn wedi cymryd lle ar draws nifer o ardaloedd), er enghraifft, ble mae sawl achos o fyrgleriaeth wedi cymryd lle ar draws nifer o ardaloedd.
Mae pob achos troseddol yn dechrau yn y llys ynadon.
Mae rhai achosion yn dechrau yn y llys ynadon ac yna'n mynd at Llys y Goron yn awtomatig i gael prawf gan reithgor.
Mae achosion eraill yn dechrau ac yn gorffen yn y llys ynadon. Mewn achosion o'r fath, nid oes hawl gan y diffynnydd i brawf gan reithgor. Gelwir y rhain yn dramgwyddau diannod. Mae tramgwyddau diannod yn golygu cosb bennaf o chwe mis o garchar a/neu ddirwy o hyd at £5,000 (£2,000 yng Ngogledd Iwerddon).
Mae Ynadon hefyd yn delio â throseddau lle gall y diffynnydd ddewis prawf gan reithgor ond lle gall benderfynu cael gwrandawiad gerbron y llys ynadon. Os yw'r diffynnydd yn dewis prawf gan reithgor, caiff yr achos ei basio ymlaen at Llys y Goron.
Mae'r llys ieuenctid yn delio â phobl ifainc sydd wedi troseddu ac sydd rhwng 10 ac 17. Mae'r llys ieuenctid yn ran o'r llys ynadon ac mae yna hyd at dri ynad sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig yn gwrando ar yr achos. Os ceir person ifanc yn euog o drosedd difrifol iawn, lle mewn achos oedolyn mae cosb o 14 mlynedd o garchar neu fwy, gall y llys ieuenctid ei g/chyflwyno ar brawf i Lys y Goron.
Gall ynadon ddelio â nifer cyfyngedig o achosion sifil, fel a ganlyn:-
Mae gan wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi offeryn defnyddiol sy'n eich helpu i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llys ynadon lleol. Mae hefyd yn nodi manylion mynediad y llys, er enghraifft a oes toiledau a mannau parcio i’r anabl yno. Rhowch glic ar www.hmcourts-service.gov.uk.
Mae Llys y Goron yn delio â'r math canlynol o achosion:-
Mae carcharu a dirwyon yn Llys y Goron yn fwy llym na mewn llys ynadon.
Mae gan wefan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi offeryn defnyddiol sy'n eich helpu i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Llys y Goron lleol. Mae hefyd yn rhoi manylion am y llys, er enghraifft os oes toiledau a mannau parcio i’r anabl yno.
Rhowch glic ar www.hmcourts-service.gov.uk.
Mae'r Uchel Lys yn delio ag achosion sifil, gwrandawiadau ac apeliadau mewn achosion troseddol, ac mae ganddo hefyd y pwer i adolygu gweithredoedd unigolion a chyrff i sicrhau eu bod wedi ymddwyn yn gyfreithlon ac yn gyfiawn. Mae gan yr Uchel Lys dair adran, fel a ganlyn:-
Mae Adran y Teulu'n delio ag achosion cymhleth o ysgariad sydd wedi eu hamddiffyn, terfynu partneriaethau sifil, wardiaeth, mabwysiadu, trais yn y cartref ayb. Mae hefyd yn delio ag apeliadau gan ynadon a llysoedd sirol mewn achosion priodasol.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Adran y Teulu hefyd yn delio â materion pobl sydd ag afiechyd meddwl a materion profiant syml.
Mae Llys Adrannol Mainc yn Frenhines yn delio â cheisiadau mawr a/neu gymhleth am iawndal. Mae hefyd yn delio â nifer cyfyng o apeliadau gan lysoedd ynadon neu Lysoedd y Goron, yn ogystal ag adolygu gweithredoedd cyrff i weld a ydynt wedi ymddwyn yn gyfreithiol, a gyda chamau enllib ac athrod.
Mae Adran y Siawnsri'n delio ag achosion yn ymwneud ag ymddiriedolaethau, ymryson ynghylch ewyllysiau, dirwyn cwmnïau i ben, methdalu, morgeisi, elusennau, ymryson ynghylch refeniw (fel arfer treth incwm) ayb.
Yng Ngogledd Iwerddon, gellir defnyddio'r Uchel Lys ar gyfer achos os yw gwerth y cais yn fwy na £15,000. Mewn rhai amgylchiadau, gellir anfon achos dros £15,000 i'r llys sirol ac yn yr un modd, gellir trosglwyddo achos sy'n llai na £15,000 i'r Uchel Lys o'r llys sirol.
Mae'r Llys Apêl yn delio ag apeliadau silfil a throseddol yng Nghymru a Lloegr. Mae apeliadau o’r Uchel Lys a'r llys sirol yn cael eu trin yn ogystal ag apeliadau o rai tribiwnlysoedd fel Tribiwnlys Apêl Cyflogaeth. Mae apeliadau troseddol yn cynnwys apeliadau yn erbyn euogfarnau yn Llys y Goron, materion y gyfraith sy'n cael eu cyfeirio gan y Twrnai Gwladol yn dilyn rhyddfarniad yn Llys y Goron neu lle roedd y ddefryd a roddwyd yn or-drugarog.
Yng Ngogledd Iwerddon, gall fod yna ailwrandawiad o achos llys sirol yn yr Uchel Lys ac apêl oddi yno os caiff yr achos ei anfon at y Llys Apêl.
Mae Llys Goruchaf y Deyrnas Unedig yn delio gydag apeliadau sifil a throseddol gan y Llys Apêl, neu, mewn rhai achosion, yr Uchel Lys ble mae’r achos yn ymwneud â mater cyfraith neu os yw o bwys i’r cyhoedd.
Os ydyw eich problem yn un sy'n dod o dan gyfraith Ewropeaidd fe ellir cyfeirio eich achos at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd, yn Lwcsembwrg. Fe allai hyn ddigwydd os nad ydyw llywodraeth genedlaethol wedi gweithredu deddfwriaeth Ewropeaidd yn iawn, os oes dryswch dros ei dehongliad, neu os ydyw wedi ei hanwybyddu.
Yn gyntaf, mae'n rhaid i chi fynd â'ch achos drwy'r system gyfreithiol genedlaethol, ond fe all y llys cenedlaethol (mewn rhai achosion mae'n rhaid iddo) gyfeirio mater at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd am arweiniad (dyfarniad). Yna, caiff yr achos ei anfon yn ôl at y llys cenedlaethol er mwyn gwneud penderfyniad ar sail dyfarniad Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Llys Hawliau Dynol Ewropeaidd, yn Strasbourg yn delio ag achosion lle mae person yn meddwl bod eu hawliau dynol wedi eu torri ac nad oes datrysiad cyfreithiol o fewn y system gyfreithiol cenedlaethol.