Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae yna gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu ar sail hil. Mae sail hil yn cynnwys lliw, hil, cenedligrwydd a tharddiad ethnig/cenedlaethol. Gall gwahaniaethu ddod o unrhyw gyfeiriad. Gallai fod yn gydweithiwr, yn oruchwylydd adran, eich rheolwr neu'ch cyflogwr. Nid oes rhaid profi bod y gwahaniaethu yn fwriadol – mae'r ffaith ei fod wedi digwydd yn ddigon i gymryd camau.
Os ydych yn teimlo bod cyflogwr yn eich trîn yn annheg, mae yna nifer o gamau yn gallwch eu cymryd. Os ydych yn credu eich bod yn cael eich trîn yn llai ffafriol nag eraill oherwydd eich lliw, hil, cenedligrwydd neu darddiad ethnig/cenedlaethol, y peth cyntaf i'w wneud yw darganfod a yw cydweithwyr eraill yn cael yr un driniaeth. Darganfyddwch a oes unrhyw un yn fodlon eich cefnogi. Os ydych yn medru, ceisiwch siarad yn bersonol â'r person sy'n gwahaniaethu yn eich herbyn a gofynnwch iddo/i stopio neu rybuddiwch y byddwch yn cwyno'n swyddogol. Dylech wneud hyn os ydych yn teimlo ei fod yn ddiogel. Efallai y byddai’n ddefnyddiol cael cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur gyda chi pan fyddwch yn gwneud hyn.
Dylech ddweud wrth eich rheolwr beth sy’n digwydd. Nodwch hyn yn ysgrifenedig a chadwch gopi. Mae gofyniad cyfreithiol i’ch cyflogwr eich amddiffyn chi rhag gwahaniethu ar sail hil. Os yw’ch rheolwr yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dywedwch wrth rywun sy’n uwch yn y sefydliad.
Dylech hefyd gasglu tystiolaeth. Fe allai hyn gynnwys cadw dyddiadur neu gofnod o ddigwyddiadau, dyddiadau, amserau a lleoliadau’r ymddygiad, yr hyn a ddywedwyd neu a wnaethpwyd, a oedd unrhyw dystion yn bresennol a thystiolaeth o unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn erbyn cydweithwyr eraill. Cofnodwch enwau a swyddi’r rheiny sydd wedi cael eu trin yn fwy ffafriol na chi, neu fanylion y rheol neu’r polisi sy’n eich gosod chi ar anfantais a pham.
Os na fydd pethau'n gwella, siradwch â’ch undeb os ydych yn aelod, neu â’ch adran personél. Efallai y byddan nhw’n medru eich helpu i stopio’r gwahaniaethu.
Os nad yw hyn yn helpu, efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda’ch cyflogwr. Er bod y gyfraith yn medru helpu eich diogelu, dylech sylweddoli, os ydych yn cwynio’n ffurfiol, y gallai hyn wneud eich bywyd yn y gwaith hyd yn oed yn fwy anghyffyrddus.
Os na fydd hyn yn gweithio, y cam olaf, efallai, fydd dwyn honiad o wahaniaethu ar sail hil gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Efallai y bydd angen i chi godi achwyniad ysgrifenedig gyda’ch cyflogwr yn gyntaf. Mae yna derfynau amser llym, felly mynnwch gyngor ar gam cynnar.
Nid oes angen eich bod wedi gweithio i’ch cyflogwr am unrhyw gyfnod penodol o amser cyn i chi fedru dwyn honiad o wahaniaethu ar sail hil. Os cawsoch eich diswyddo, efallai hefyd y byddwch yn medru honni diswyddiad annheg.
Fe fydd angen i chi brofi eich achos. Dyma pham mae casglu tystiolaeth mor bwysig. Fe fyddwch yn medru gofyn i’ch cyflogwr ddarparu gwybodaeth trwy weithdrefn holiadur. Fe fydd hyn yn medru helpu cefnogi eich achos. Mae yna derfynau amser llym ac fe fydd angen i chi gael cyngor i’ch helpu i wneud hyn.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu yn y gwaith, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith. Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler hefyd Beth fedrai wneud os yw fy nghyflogwr yn fy nhrin yn annheg oherwydd fy hil, yn y Taflenni ffeithiau ar wahaniaethu.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â diswyddiad annheg oherwydd gwahaniaethu, gweler Diswyddiad.
Am fwy o wybodaeth am weithdrefnau y dylech eu dilyn wrth wneud cwyn am wahaniaethu yn y gwaith, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gweler Datrys anghydfod yn y gwaith ac yng Ngogledd Iwerddon, gweler, Delio gydag achwyniadau, diswyddo a chamau disgyblu yn y gwaith.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil, gweler Cymryd camau ynglyn â gwahaniaethu ar sail hil.