Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon



Y gwledydd sy'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Creodd Cyfamod Maastricht (a ddaeth i rym yn 1993) yr Undeb Ewropeaidd (UE). Dyma'r gwledydd sy'n aelodau o'r UE:-

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Bwlgaria
  • Cyprus
  • Denmarc
  • Estonia
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Gweriniaeth Tsiec
  • Yr Almaen
  • Gwlad Pwyl
  • Groeg
  • Hwngari
  • Iwerddon
  • Yr Eidal
  • Latfia
  • Lithwania
  • Luxembourg
  • Yr Iseldiroedd
  • Malta
  • Portiwgal
  • Rwmania
  • Sbaen
  • Slofenia
  • Slofacia
  • Sweden
  • Y Deyrnas Unedig

Nôl i’r brig


Sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae gan yr Undeb Ewropeaidd bedwar sefydliad sy'n gwneud penderfyniadau:-

  • Cyngor y Gweinidogion
  • y Comisiwn Ewropeaidd
  • y Senedd Ewropeaidd
  • Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.

Cyngor y Gweinidogion

Mae Cyngor y Gweinidogion yn cynnwys gweinidogion sy'n cynrychioli pob un o aelodau-gwladwriaeth yr UE. Cyngor y Gweinidogion sy'n gwneud y penderfyniad cyfreithiol terfynol ar faterion pwysig ar sail, yn bennaf, cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r Cyngor yn cynrychioli buddiannau'r llywodraethau cenedlaethol amrywiol. Ers gweithredu Cyfamod Maastricht, mae'r Senedd Ewropeaidd hefyd yn chwarae rhan yn y broses o ddeddfu.

Mae llywyddiaeth yr UE yn cylchdroi pob chwech mis, yn nhrefn wyddor y gwledydd. Mae'r wlad sy'n dal llywyddiaeth yr UE hefyd yn llywyddu dros Gyngor y Gweinidogion am y cyfnod hwnnw. Caiff Cyngor y Gweinidogion ei gefnogi gan staff parhaol sydd wedi'u seilio ym Mrwsel.

Y Comisiwn Ewropeaidd

Y Comisiwn Ewropeaidd yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am sicrhau bod mesurau'r Cyfamod yn cael eu gweithredu. Caiff aelodau'r Comisiwn Ewropeaidd (comisiynwyr) eu henwebu am dymor o bum mlynedd gan bob aelod-wladwriaeth. Yn draddodiadol, mae'r DU yn apwyntio un comisiynydd o'r llywodraeth ac un arall o'r wrthblaid. Caiff llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ei apwyntio gan y llywodraeth o aelodau-gwladwriaeth. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi'i seilio ym Mrwsel.

Mae comisiynwyr ond yn medru gweithredu er lles yr UE ac maent ond yn atebol i'r Senedd Ewropeaidd. Nid ydynt yn medru cymryd cyfarwyddiadau gan unrhyw lywodraeth cenedlaethol na chorff arall, fel Cyngor y Gweinidogion.

Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd staff gweinyddol cymharol fach, wedi'u seilio ym Mrwsel yn bennaf, sydd wedi'i rannu i mewn i Gyfarwyddiaethau Cyffredinol (CCau). Mae pob CC yn cwmpasu maes penodol ac mae'n debyg i adran o lywodraeth y DU. Mae rhestr o'r CCau ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd, sef (New window) www.europa.eu.int/comm/dgs_en.htm.

Mae dyletswyddau'r Comisiwn Ewropeaidd yn cynnwys gweinyddu cronfeydd yr UE ac archwilio cwynion ynghylch aelodau-gwladwraeith sy'n torri deddfau'r UE.

Y Senedd Ewropeaidd

Mae'r Senedd Ewropeaidd yn cynnwys aelodau sy'n cael eu henwebu gan y cyhoedd (ASE) o bob aelod-wladwriaeth. Cynhelir etholiadau bob pum mlynedd. Mae'r Senedd Ewropeaidd wedi'i rannu'n grwpiau plaid yn hytrach na grwpiau cenedlaethol, er enghraifft, y Grwp Sosialaidd, y Grwp Cristnogol Democrataidd a'r Blaid Werdd. Mae ASE yn dewis i ba blaid y maen nhw am berthyn.

Mae'r Senedd Ewropeaidd wedi'i seilio yn Strasbourg, ond mae ei bwyllgorau'n cwrdd ym Mrwsel ac mae gan staff swyddfeydd ym Mrwsel a Luxembourg. Gall y Senedd Ewropeaidd, mewn rhai amgylchiadau, argymell a phenderfynu ar ddeddwriaeth mewn meysydd pwnc penodol.

Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd

Mae Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd wedi'i leoli yn Luxembourg. Mae'n cynnwys barnwyr ac Hyrwyddwyr Cyffredinol, sy'n cael eu hapwyntio gan lywodraethau aelodau-gwladwriaeth.

Mae swyddogaethau Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys:-

  • archwilio dilysrwydd pethau a wneir gan sefydliadau'r UE
  • cymryd camau yn erbyn aelodau-gwladwriaeth sydd wedi torri cyfraith yr UE
  • eglurhau cyfraith yr UE, ar gais gan lysoedd cenedlaethol, trwy wneud dyfarniadau rhagarweiniol
  • cyflwyno safbwyntiau sy'n gyfreithiol orfodol ar gytundebau arfaethedig gyda chyrff rhyngwladol eraill.

Ni all unigolion sydd am herio deddfwriaeth yr UE neu orfodi aelod-wladwriaeth i weithredu deddfwriaeth yr UE, er enghraifft, ddwyn achos yn uniongyrchol at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid dwyn y mathau yma o achosion drwy system gyfreithiol ddomestig yr aelod-wladwriaeth berthnasol a bydd y llys domestig perthnasol, os oes angen, yn cyfeirio achosion at y Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd.

Nôl i’r brig


Yr Ombwdsman Ewropeaidd

Mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru archwilio i achosion o gamweinyddu yng ngweithgareddau sefydliadau a chyrff yr undeb Ewropeaidd. Mae'r cyrff hyn yn cynnwys Y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a'r Llys Cyfiawnder.

Mae enghreifftiau o'r math o broblemau y mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn medru ymchwilio iddynt yn cynnwys oedi gweinyddol, gwrthod rhoi gwybodaeth, gwahaniaethu a chamddefnyddio pwer.

Y cam cyntaf

Cyn i chi gwyno i'r Ombwdsman Ewropeaidd, dylech roi cyfle i'r sefydliad Ewropeaidd sydd o dan sylw ymchwilio i'r mater a cheisio ei ddatrys.

Sut i wneud cwyn

Mae gennych ddwy flynedd o'r dyddiad y daethoch ar draws ffeithiau'r broblem i gwyno i'r Ombwdsman Ewropeaidd. Nid oes angen i ASE gyfeirio'r gwyn at yr Ombwdsman Ewropeaidd. Nid oes tâl am gwyno i'r Ombwdsman Ewropeaidd, a dylai'r gwyn fod yn ysgrifenedig. Mae yna ffurflen sydd ar gael i'w llwytho oddi ar wefan yr Ombwdsman Ewropeaidd ac fe allwch gwblhau'r ffurflen a'i chyflwyno drwy'r e-bost. Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen i gyflwyno cwyn.

Cyfeiriad yr Ombwdsman Ewropeaidd yw:-

1, Avenue du President Robert Schuman
CS 30403
F-67001 Strasbourg Cedex
France
Ffôn: 00 33 388 172313
Ffacs: 00 33 388 179062
E-bost: euro-ombudsman@europarl.eu.int
Gwefan: (New window) www.ombudsman.europa.eu

Yr hyn y mae'r Ombwdsman yn medru ei wneud

Mae'r Ombwdsman Ewropeaidd yn archwilio cwynion ac yn cynnal ymchwiliadau. Fel arfer, nid yw cwynion yn cael eu trin yn gyfrinachol, ond os y gofynnwch iddo drin eich cwyn yn gyfrinachol, fe fydd y penderfyniad yn cael ei barchu mewn amgylchiadau unigol, os yn bosib.

Os nad yw'r achos yn cael ei ddatrys yn foddhaol, fe fydd yr Ombwdsman yn ceisio dod o hyd i ffordd o ddatrys yr achos trwy gamau cymrodedd er mwyn unioni'r mater a bodloni'r person sy'n cwyno. Os na fydd y camau cymrodedd yn llwyddiannus, fel all yr Ombwdsman Ewropeaidd gynnig argymhellion i'r sefydliad er mwyn datrys yr achos. Os nad ydyw'r sefydliad yn derbyn argymhellion yr Ombwdsman, fe all yr Ombwdsman gyflwyno adroddiad arbennig ar y mater i'r senedd Ewropeaidd.

Nôl i’r brig


Sut mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn gysylltiedig â chyfraith y DU

O dan ddeddfwriaeth y DU, nid oes modd herio Deddfau Seneddol onid ydynt yn gwrthdaro gyda chyfraith Ewropeaidd.

Ar wahân i Gyfamodau, mae yna ddau brif ffordd y gellir gwneud cyfraith Ewropeaidd:-

  • rheoliadau
  • cyfarwyddiaethau.

Mae rheoliad yn cael blaenoriaeth dros gyfraith ddomestig unrhyw aelod-wladwriaeth sy'n anghyson gydag ef. Nid oes angen i aelodau-gwladwriaeth wneud deddfau domestig ychwanegol i weithredu rheoliadau. Gall unigolion ddibynnu ar reoliadau mewn unrhyw achosion llys yn eu gwlad eu hun. Enghraifft o reoliad yw Reoliad 1408/71 sy'n ymdrin â hawl aelodau'r UE i fudd-dâl nawdd cymdeithasol pan mewn aelodau-gwladwriaeth eraill.

Mae Cyfarwyddiaethau'n gosod targedau sy'n rhaid eu cyrraedd erbyn dyddiad penodol. Mae aelodau-gwladwriaeth yn gyfrifol am lunio'u cyfreithiau eu hunain er mwyn cyrraedd y targed yma. Enghraifft o gyfarwyddeb yw Cyfarwyddeb Teithio Pecyn y GE, a ymgorfforwyd i gyfraith ddomestig y DU gan Reoliad Teithio Pecyn, Gwyliau Pecyn a Theithiau Pecyn 1992.

Nôl i’r brig


Ffynonellau eraill o wybodaeth

Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd (Brwsel)

Commission of the European Community
200 Rue de la Loi
B-1049 Brussels
Belgium
Ffôn: 0032 2 235 1111

Swyddya' r Comisiwn Ewropeaidd (DU)

Lloegr

Europe House
32 Smith Square
London
SW1P 3EU
Ffôn: 020 7973 1992

Yr Alban

9 Alva Street
Edinburgh
EH2 4PH
Ffôn: 0131 225 2058

Cymru

2 Caspian Point
Ffordd Caspian
Caerdydd
CF10 4QQ
Rhif ffôn: 029 2089 5020

Gogledd Iwerddon

74-76 Dublin Road
Belfast
BT2 7HP
Ffôn: 028 9024 0708

Swyddfa Gwybodaeth y Senedd Ewropeaidd (DU)

Europe House
32 Smith Square
London
SW1P 3EU
Ffôn: 020 7227 4300
Ffacs: 020 7227 4302
E-bost: eplondon@europarl.europa.eu
Gwefan: (New window) www.europarl.org.uk

Europe Direct

Mae'r gwasanaeth yma'n darparu gwybodaeth a chyngor ynglyn â hawliau dinasyddion yn yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, i weithio, byw neu astudio yn un o wledydd eraill yr UE. Fe allwch archebu canllawiau a thaflenni ffeithiau manwl yn cwmpasu testunau penodol drwy ffonio'r linell rhadffôn neu anfon e-bost drwy'r wefan – gweler isod. Am wybodaeth bellach, fe allwch ffonio'r wifren boeth er mwyn cael eich cyfeirio at wasanaeth ‘Arwyddo'r Ffordd' sy'n cael ei staffio gan dîm o gyfreithwyr aml-iaith ym Mrwsel. Fe fydd aelod o'r gwasanaeth yn cysylltu yn ôl o fewn pedwar diwrnod gwaith.

Llinell rhadffôn: 00800 6789 1011
Gwefan: (New window) ec.europa.eu/eurodirect

Canolfannau Gwybodaeth Ewropeaidd (DU)

Mae yna 26 Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd yn y DU. Weithiau, cyfeirir atynt fel Canolfannau Gwybodaeth Busnes Ewropeaidd. Fel arfer, maent wedi eu seilio mewn sefydliadau sydd eisoes yn bodoli ac sydd â chysylltiadau â'r gymuned fusnes. Eu swyddogaeth yw darparu gwybodaeth ar yr UE sy'n debygol o fod yn werthfawr i fusnesau bach a chanolig. I gael cyfeiriad y Ganolfan Wybodaeth Ewropeaidd agosaf, dylech gysylltu â'ch Siambr Fasnach leol, neu wirio gwefan Rhwydwaith Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd Cenedlaethol.

Gwefan: (New window) www.euro-info.org.uk

Canolfannau Dogfennaeth Ewropeaidd (DU)

Mae gan Ganolfannau Dogfennaeth Ewropeaidd gasgliad sylweddol o ddogfennaeth yr UE sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae yna 44 Canolfan Dogfennaeth Ewropeaidd yn y DU, wedi'u seilio yn bennaf, mewn llyfrgelloedd prifysgolion. Mae rhai ohonynt yn darparu gwasanaeth gwybodaeth a bydd rhai yn darparu llungopïau o, er enghraifft, cyfarwddebau a rheoliadau perthnasol. Ni allant gynnig cyngor cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt Canolfann Dogfennaeth Ewropeaidd yn y DU ar wefan yr Undeb Ewropeaidd.

Gwefan: (New window) ec.europa.eu/comm/relays/edc_en.htm

Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd

Mae yna Ganolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd (CDE) ar draws mwyafrif aelodau-gwladwriaeth yr UE. Maen nhw'n gallu darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion defnyddwyr yr UE a chymorth os ydych wedi prynu nwyddau neu wasanaethau mewn gwlad arall sy'n aelod o'r UE. I gysylltu â CDE y DU, ewch at (New window) www.ukecc.net, neu ffoniwch 08456 040503.

Canolfannau Cyngor ar Bopeth (CAB)

Gall Canolfannau Cyngor ar Bopeth roi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion ac mae ganddynt wybodaeth ynghylch sefyllfaoedd lle mae gan gyfraith Ewropeaidd effaith ar gyfraith y DU. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriadau a rhifau ffôn eich Canolfan Cynghori lleol yn y llyfr ffôn, neu ar wefan CAB, sef (New window) www.citizensadvice.org.uk. Yn yr Alban, gallwch ddod o hyd i gyfeiriad a rhif ffôn eich Canolfan Cynghori lleol yn y llyfr ffôn neu ar wefan Citizens Advice Scotland, sef (New window) www.cas.org.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ddod o hyd i gyfeiriad a rhif ffôn eich Canolfan Cynghori agosaf yn y llyfr ffôn neu ar wefan Cymdeithas Canolfannau Cynghori Gogledd Iwerddon (NIACAB), sef (New window) www.citizensadvice.co.uk.

Nôl i’r brig