Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Hawliau dynol

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban

Hawliau dynol yw'r hawliau a'r rhyddfreiniau sylfaenol sydd gan bob person yn y byd.

Mae enghreifftiau o'ch hawliau dynol yn cynnwys:

  • yr hawl i fyw
  • amddiffyniad rhag arteithio
  • amddiffyniad rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
  • yr hawl i barch at eich bywyd preifat a theuluol
  • amddiffyniad rhag gwahaniaethu.

Mae'r Gynhadledd Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn amddiffyn hawliau dynol pobl mewn gwledydd sy'n perthyn i Gyngor Ewrop. Mae hyn yn cynnwys y Deyrnas Unedig.

Os ydych chi'n teimlo y diystyrwyd eich hawliau dynol o dan y Gynhadledd Ewropeaidd, efallai y byddwch yn medru dwyn achos gerbron llys yn y Deyrnas Unedig. Fe fydd angen cyngor arbenigol arnoch.

Mae gwybodaeth bellach ynghylch hawliau dynol ar gael gan y Comisiwn Hawliau Dynol yn: (New window) www.equalityhumanrights.com.