Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae’r tablau yn y wybodaeth hon yn dangos cyfraddau canrannol y dreth incwm sy’n cael eu gosod ar incwm trethadwy yn y flwyddyn gyfredol a’r chwe blynedd diwethaf.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i gyfrifo eich treth, gweler Treth Incwm.
Nid yw eich incwm trethadwy yr un fath â’ch cyfanswm incwm. Y rheswm am hyn yw bod caniatâd i bob trethdalwr i gael rhywfaint o incwm sy’n rhydd o dreth ( a elwir yn lwfans personol). Gall rhai pobol hefyd gael lwfansau eraill a gostyngiadau treth. Efallai y bydd gennych hefyd rhywfaint o incwm sy’n anrhethadwy.
Wrth ddefnyddio’r ffigurau yn y colofnau incwm trethadwy yn y tablau ar y dudalen hon, cofiwch eu bod yn cyfeirio at eich incwm trethadwy ac nid eich cyfanswm incwm.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag incwm sy’n anrhethadwy, gweler Incwm trethadwy ac anrhethadwy, am fanylion ynglŷn â gostyngaidau treth, gweler Gostyngiadau treth, ac am fanylion ynglŷn â lwfansau, gweler Lwfansau a symiau treth incwm.
Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill un flwyddyn tan 5 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol.
Gall y cyfraddau canrannol neu fandiau incwm trethadwy newid ar gyfer pob blwyddyn dreth.
| Incwm trethadwy | Cyfradd treth |
| 0 - £2,560 | 10 y cant (cyfradd cychwynnol i gynilion yn unig) |
| 0 - £35,000 | 20 y cant (cyfradd sylfaenol) |
| £35,001 - £150,000 | 40 y cant (cyfradd uwch) |
| Dros £150,000 | 50 y cant (cyfradd ychwanegol) |
Mae treth yn daladwy ar gyfradd sylfaenol o 20 y cant ar incwm trethadwy i fyny hyd at £35,000.
Os oes gennych fwy na £35,000 ond llai na £150,000 o incwm trethadwy, bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd uwch o 40 y cant o dreth ar yr incwm sydd yn uwch na £35,000 ac yn is na £150,000.
Os oes gennych fwy na £150,000 bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd ychwanegol o 50 y cant o dreth ar y swm sydd yn uwch na’r lefel hwn.
Er mwyn darganfod sut i gyfrifo faint o dreth sy’n daladwy, gweler Treth Incwm.
Sylwch os ydych chi ar incwm isel, bydd peth neu’r cyfan o’r incwm o’ch cynilion yn drethadwy ar 10 y cant. Gelwir hyn yn gyfradd cychwynnol ar gyfer cynilion. Mae incwm isel yn golygu os ydyw’ch incwm yn is na’ch lwfans personol plws £2,560 ar gyfer y flwyddyn dreth 2011/2012 (a £2,440 ar gyfer y flwyddyn dreth 2010/2011).
Nid yw’r gyfradd gychwynnol ar gyfer cynilion yn berthnasol os yw’ch incwm trethadwy (ar ôl i’r lwfansau gael eu tynnu i ffwrdd) yn fwy na £2,560 ar gyfer y flwyddyn dreth 2011/2012 (a £2,440 ar gyfer y flwyddyn dreth 2010/2011).
Fe allwch ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae incwm cynilion yn cael ei drethu ar wefan Ffurflenni Treth Grŵp Incwm isel yn: www.litrg.org.uk.
| Incwm trethadwy | Cyfradd treth |
| 0 - £2,440 | 10 y cant (cyfradd cychwynnol i gynilion yn unig – link to heading Cyfradd cychwynnol i gynilion) |
| 0 - £37,400 | 20 y cant (cyfradd sylfaenol) |
| £37,401 - £150,000 | 40 y cant (cyfradd uwch) |
| Dros £150,000 | 50 y cant (cyfradd ychwanegol) |
| Incwm trethadwy | Cyfradd treth |
| 0 - £2,440 | 10 y cant (cyfradd cychwynnol i gynilion – link to heading Cyfradd cychwynnol i gynilion) |
| 0 - £37,400 | 20 y cant (cyfradd sylfaenol) |
| Dros £37,400 | 40 y cant (cyfradd uwch) |
| Incwm trethadwy | Cyfradd treth |
| 0 - £2,320 | 10 y cant (cyfradd cychwynnol i gynilion) |
| 0 - £34,800 | 20 y cant (cyfradd sylfaenol) |
| Dros £34,800 | 40 y cant (cyfradd uwch) |
O 6 Ebrill 2008, diddymwyd y gyfradd gychwynnol o 10 y cant ar gyfer incwm sy ddim yn gysylltiedig â chynilion.
| Incwm trethadwy | Cyfradd treth |
| 0 - £2,230 | 10 y cant |
| £2,231 - £34,600 | 22 y cant |
| Dros £34,600 | 40 y cant |
| Incwm trethadwy | Cyfradd treth |
| 0 - £2,150 | 10 y cant |
| £2,151 - £33,300 | 22 y cant |
| Dros £33,300 | 40 y cant |
| Incwm trethadwy | Cyfradd treth |
| 0 - £2,090 | 10 y cant |
| £2,091 - £32,400 | 22 y cant |
| Dros £32,400 | 40 y cant |
Os ydych chi’n derbyn incwm o gyfranddaliadau cwmni o’r DU neu ddosraniadau o ymddiriedolaethau buddsoddi-trwy-unedau (ond nid llog), caiff hwn ei drethu ar gyfraddau gwahanol i incwm arall. Fe allwch ddarganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â hyn ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.