Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Pobl ifanc a chyflogaeth

Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon



Beth sydd yn y wybodaeth yma

Yn y wybodaeth yma mae plentyn yn cyfeirio at rywun sy'n iau nag 14 mlwydd oed ac mae person ifanc yn cyfeirio at rywun sy’n 14 oed a throsodd ond sy'n iau na 18 mlwydd oed. Mae rhiant yn cyfeirio at rywun sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Nôl i’r brig


Rheolau cyffredinol ar gyflogaeth

Gelwir pobl ifanc sydd dros oed gadael ysgol ac yn iau na 18 yn weithwyr ifanc. Mae pobl ifanc yn medru gadael yr ysgol ar Ddydd Gwener olaf mis Mehefin yn ystod y flwyddyn ysgol y maen nhw’n 16 ynddi.

Mae yna gyfreithiau arbennig i warchod hawliau cyflogaeth gweithwyr ifanc. Mae’r rhain yn ymwneud â’ch iechyd a’ch diogelwch, pa waith y medrwch ei wneud, pryd fedrwch chi weithio, a sawl awr fedrwch chi weithio. Mae’r cyfreithiau hyn yn llym iawn a gellir erlyn cyflogwr am eu torri.

Os ydych yn hyn nag oed gadael ysgol ac yn weithiwr, fe fydd hawliau eraill gennych hefyd yn ychwanegol at hawliau gweithwyr ifanc sy’n cael eu trafod isod. Er enghraifft, mae yn erbyn y gyfraith i wahaniaethu yn eich erbyn yn y gwaith oherwydd eich oed.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith, gweler Gwahaniaethu ar sail oed yn y gwaith.

Am fwy o wybodaeth ynghylch hawliau eraill sydd gennych yn y gwaith fel gweithiwr, gweler Hawliau sylfaenol yn y gwaith.

Nôl i’r brig


Iechyd a Diogelwch yn y gweithle

Os ydych yn iau na 18, mae'n rhaid i’ch cyflogwr gynnal neu adolygu asesiad risg cyn eich cyflogi, gan roi sylw penodol i’r ffaith eich bod yn ddibrofiad neu eich anaeddfedrwydd a ffactorau eraill a allai beri risg i Iechyd a Diogelwch.

Os ydych yn iau nag oed gadael ysgol, mae'n rhaid i’r cyflogwr roi gwybodaeth i riant am y risgiau a ganfyddwyd yn yr asesiad ac unrhyw fesurau rheoli a osodwyd mewn grym er mwyn amddiffyn eich iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Nid oes rhaid i chi gael asesiad iechyd a diogelwch os ydych yn gwneud gwaith tymor byr neu achlysurol mewn busnes teuluol neu mewn tŷ preifat, ac ni ystyrir bod hyn yn niweidiol i chi.

Nôl i’r brig


Pa waith fedrwch chi ei wneud

Pobl ifanc 16 – 18 oed

Os ydych yn hyn nag oed gadael ysgol (gweler y pennawd Rheolau cyffredinol ar gyflogaeth) ac yn iau na 18, mae yna gyfyngiadau arbennig ar wneud mathau penodol o waith, sef:

  • gwaith nad ydych yn ddigon galluog i’w wneud yn gorfforol neu’n feddyliol
  • gwaith sy’n dod â chi i gysylltiad a chemegau, deunyddiau gwenwynig neu ymbelydredd
  • gwaith sy’n golygu perygl i iechyd oherwydd oerni, gwres neu ddirgryniad eithafol.

Fe fyddwch chi ond yn cael gwneud y gwaith uchod yn yr amgylchiadau canlynol:

  • ble mae’n angenrheidiol ar gyfer eich hyfforddiant , a
  • ble mae person profiadol yn eich goruchwylio , a
  • ble mae unrhyw risg wedi ei ostwng i’r lefel isaf sy’n rhesymol.

Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol os ydych chi’n gwneud gwaith byr dymor neu waith achlysurol mewn busnes teuluol neu dŷ preifat, ac os na ystyrir bod hyn yn niweidiol i chi.

Cyflogi plant sy'n iau nag oed gadael ysgol (Cymru a Lloegr)

Ni chaniateir i unrhyw un sy'n iau nag oed gadael ysgol (gweler y pennawd Rheolau cyffredinol ar gyflogaeth) i weithio mewn gwaith heblaw am waith ysgafn. Ni chewch chi wneud gwaith sy’n debygol o fod yn niweidiol i’ch diogelwch, iechyd, datblygiad neu waith a fydd yn effeithio ar eich presenoldeb yn yr ysgol neu gymryd rhan mewn profiad gwaith. Ni chewch weithio:

  • mewn ffactri neu i wneud gwaith adeiladu
  • mewn trafnidiaeth
  • mewn pwll glo
  • ar long fasnach gofrestredig.

Efallai hefyd y bydd gan yr awdurdod lleol ble yr ydych chi’n byw rai rheolau ychwanegol, sef deddfau lleol, ynghylch cyflogi plant a phobl ifanc yn eich ardal chi. Dylech holi eich awdurdod lleol os ydych am ddarganfod beth yw’r rhain. Rhaid i ddeddfau lleol sy’n awdurdodi plant a phobl ifanc i weithio mewn masnachu ar y stryd ddweud pa ddiwrnodau, pa oriau, a’r mannau ble y gallant weithio.

Mae angen i gyflogwyr sydd am gyflogi plant neu bobl ifanc sydd o dan oed gadael ysgol gael trwydded gan yr awdurdod lleol. Rhaid i’r cyflogwr ac un o’ch rieni arwyddo’r drwydded.

Mae yna rai rheolau ychwanegol ynghylch cyflogi plant dan 14. Os ydych yn iau na 14, ni chewch weithio o gwbl heblaw am y mathau canlynol o waith:-

  • I gymryd rhan mewn chwaraeon, hysbysebion, modelu, dramâu, ffilmiau, teledu neu adloniant arall. Rhaid i’r cyflogwr wneud cais am drwydded oddi wrth yr awdurdod lleol
  • I wneud mân dasgau ar gyfer rhiant, perthynas neu gymydog
  • I warchod plant – gweler y pennawd Gwarchod plant.

Ond, mae pobl ifanc sy’n 13 oed neu’n hyn yn medru gwneud rhai mathau eraill o waith, gan ddibynnu ar ddeddfau lleol yr awdurdod lleol yn eu hardal nhw. Er enghraifft, efallai fod y deddfau lleol yn dweud y gall pobl ifanc 13 neu’n hyn wneud rownd bapur newydd neu y gallwch wneud gwaith ysgafn sydd ddim yn debygol o niweidio iechyd, diogelwch neu ddatblygiad plant.

Nôl i’r brig


Oriau gwaith a seibiannau

Pobl ifanc 16 – 18 oed

Os ydych yn hyn na'r oed gadael ysgol (gweler y pennawd Rheolau cyffredinol ar gyflogaeth) ac yn iau na 18 oed, mae’r gyfraith yn dweud na chewch weithio mwy nag wyth awr y dydd, a rhaid i chi beidio â gweithio mwy na 40 awr yr wythnos. Mae’n rhaid i chi gael o leiaf 12 awr o orffwys rhwng pob diwrnod o waith, yn ogystal â dau ddiwrnod gorffwys yn ystod pob wythnos waith. Mae gennych hawl hefyd i egwyl o 30 munud pan fyddwch yn gweithio mwy na phedair awr a hanner. Mae yna rai eithriadau (gweler isod).

Mae yna gyfyngiadau arbennig ar yr oriau y medrwch eu gweithio yn y nos. Fel arfer, ni chewch weithio rhwng 10yh a 6yb. Os ydyw eich cytundeb yn gofyn i chi weithio wedi 10yh, ni chewch weithio rhwng 11yh a 7 yb. Mae yna rai eithriadau ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn ysbytai, amaethyddiaeth, mân werthu, gwestai ac arlwyo, siop fara, dosbarthu post/papurau newydd, neu mewn cysylltiad gyda gweithgareddau diwylliannol, artistig, chwaraeon neu hysbysebu. Ni chewch weithio rhwng hanner nos a 4yb, ac eithrio o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol.

Nid yw’r rheolau yma’n berthnasol yn yr achosion canlynol:-

  • Mae eich cyflogwr eich angen chi i weithio er mwyn cynnal parhad gwasanaeth neu gynhyrchiad, neu i ymateb i dwf sydyn mewn galw: ac
  • Ni fyddai cyflawni’r gwaith yn effeithio ar eich addysg neu hyfforddiant; ac
  • Ar gyfer gwaith yn ystod y nos, eich bod yn cael eich goruchwylio gan oedolyn a’ch bod yn cael cyfnod o orffwys fel iawndal.

Os ydych yn cael gweithio yn y nos, rhaid i chi gael asesiad rhad ac am ddim o’ch iechyd a’ch gallu i wneud y gwaith yn gyntaf. Dylid ailadrodd yr asesiad yn rheolaidd.

Ni chewch weithio fwy nag wyth awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr.

Plant a phobl ifanc dan oed gadael ysgol (Cymru a Lloegr yn unig)

Mae yna gyfyngiadau llym ar yr oriau y mae plant a phobl ifanc dan oed gadael ysgol yn cael eu gweithio (gweler y pennawd Rheolau cyffredinol ar gyflogaeth). Ni chewch weithio:-

  • yn ystod oriau ysgol neu ar ddiwrnod ysgol
  • am fwy na dwy awr ar unrhyw ddiwrnod ysgol neu fwy na 12 awr mewn unrhyw wythnos lle mae gofyn i chi fynychu’r ysgol
  • am fwy na dwy awr ar Ddydd Sul
  • am fwy nag wyth awr (pum awr os ydych yn iau na 15 oed) ar unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod ysgol nac yn ddydd Sul
  • Cyn 7y.b neu wedi 7y.h
  • am fwy na 35 awr (25 os ydych yn iau na 15 oed) mewn unrhyw wythnos lle nad oes gofyn i chi fynychu’r ysgol
  • am fwy na phedair awr ar unrhyw ddiwrnod heb doriad o un awr
  • ar unrhyw adeg, os yn ystod y 12 mis yn cychwyn ar Ionawr y 1af, fod gweithio wedi golygu nad ydych wedi cael (neu na fyddech chi wedi cael) dwy wythnos o wyliau yn olynol o’r ysgol.

Nôl i’r brig


Cyflogi plant sy'n iau nag oed gadael ysgol (Gogledd Iwerddon)

Os ydych yn iau nag oed gadael ysgol gorfodol gellir ond eich cyflogi ar gyfer galwedigaethau penodol a ganiateir:

  • dosbarthu papurau newydd, llaeth, bwydydd, blodau neu nwyddau dilladaeth
  • gwaith swyddfa, ac eithrio mewn adeilad sy’n drwyddedig i werthu gwirodydd meddwol, betio neu hapchwarae
  • gwaith mewn gwesty neu arlwyo ac eithrio mewn cegin neu rannau o’r adeilad sy’n drwyddedig i werthu gwirodydd meddwl
  • gwaith fel cynorthwy-ydd mewn siop, ac eithrio unrhyw adeilad sy’n drwyddedig i werthu gwirodydd meddwl, betio neu hapchwarae
  • gwaith domestig
  • gwaith amaethyddol ysgafn neu waith garddwriaethol i’ch rieni.

Ni ellir cyflogi unrhyw un sy'n iau nag oed gadael ysgol ar gyfer gwaith ar wahân i waith ysgafn, hynny yw, gwaith sy’n debygol o fod yn niweidiol i ddiogelwch, iechyd, datblygiad plentyn, neu waith a fydd yn effeithio ar bresenoldeb y plentyn yn yr ysgol neu gymryd rhan mewn profiad gwaith. Os ydych yn iau na 14 oed rhaid i chi beidio â gweithio:-

  • am gyfnod hirach nag un awr cyn mynd i’r ysgol a rhaid i’r cyfnod gwaith ddod i ben o leiaf hanner awr cyn i’r ysgol gychwyn
  • am fwy na dwy awr ar Ddydd Sul
  • rhwng y 1af o Orffennaf a’r 31ain o Awst heb bythefnos yn olynol o wyliau
  • heb ganiatâd ysgrifenedig eich rhieni ar gyfer eich cyflogaeth
  • heb ddillad ac esgidiau addas os ydych yn gweithio yn yr awyr agored.

Yn ogystal, os ydych yn iau na 15 oed rhaid i chi:

  • beidio â gweithio am fwy na phum awr ar ddydd Sadwrn neu ddiwrnod lle nad oes ysgol
  • beidio â gweithio am fwy na 27 awr yr wythnos
  • gael cyfnod gorffwys o dair awr yn olynol yn ystod pob cyfnod o 12 awr
  • gael hawl wrth un awr ar gyfer prydau bwyd a gorffwys wedi pedair awr o waith ar ddydd Sadwrn, ac wedi tair awr o waith ar unrhyw ddiwrnod arall.

Os ydych yn 15 oed ond nad ydych wedi cyrraedd yr oed gadael ysgol eto rhaid i chi:-

  • beidio â gweithio am fwy na saith awr ar ddydd Sadwrn neu ddiwrnod heb ysgol
  • beidio â gweithio am fwy na 37 awr yr wythnos
  • gael hawl wrth un awr ar gyfer prydau bwyd a gorffwys wedi pedair awr o waith.

Os ydych yn 13 oed a throsodd, ond o dan oed gadael ysgol rhaid i chi beidio â chael eich cyflogi:

  • cyn diwedd oriau ysgol ar unrhyw ddiwrnod pan fo disgwyl i chi fynychu’r ysgol
  • am fwy na dwy awr ar unrhyw ddiwrnod pan fo disgwyl i chi fynychu’r ysgol
  • cyn 7.00y.b neu wedi 7.00y.h ar unrhyw ddiwrnod
  • am fwy na dwy awr ar Ddydd Sul
  • i fasnachu ar y stryd.

Nôl i’r brig


Gwyliau o'r gwaith â chyflog

Os ydych yn iau nag oed gadael ysgol, nid oes hawl cyfreithiol gennych i gael gwyliau â chyflog.

Os ydych yn hŷn nag oed gadael ysgol, mae gennych hawl cyfreithiol i wyliau â chyflog yn yr un modd â gweithwyr eraill. Mae gennych hawl i 5.6 wythnos o wyliau â chyflog bob blwyddyn. I gyfrifo sawl diwrnod o wyliau fedrwch chi ei gymryd bob blwyddyn, mae angen i chi luosi 5.6 wrth y nifer o ddiwrnodau yr ydych yn eu gweithio mewn wythnos.

Er enghraifft:

  • os ydych yn gweithio pum niwrnod yr wythnos, mae gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau â chyflog bob blwyddyn (5.6 X 5).
  • os ydych yn gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos, mae gennych hawl i 14 diwrnod o wyliau â chyflog bob blwyddyn (5.6 X 2.5).

I weld a ydych chi yn hŷn neu’n iau nag oed gadael ysgol, gweler y pennawd Rheolau cyffredinol ar gyflogaeth.

Nôl i’r brig


Cyflog

Os ydych yn 16 neu’n hyn (ac yn hyn nag oed gadael ysgol) mae hawl gennych i ennill lleiafswm incwm. Gelwir hwn yn Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ac ar gyfer gweithwyr o dan 18 mae’n £3.68 yr awr.

Os ydych yn iau na 16, nid oes hawl gennych i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

I weld a ydych chi yn hyn neu’n iau nag oed gadael ysgol, gweler y pennawd Rheolau cyffredinol ar gyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gweler Hawliau i gyflog.

Nôl i’r brig


Amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer astudio neu hyfforddiant

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed, mae gennych chi hawl wrth amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith i astudio neu i dderbyn hyfforddiant os nad ydych wedi cyrraedd safon benodol mewn addysg neu hyfforddiant eto. Dylech dderbyn cyflog am yr amser i ffwrdd ar y raddfa fesul awr arferol.

Nôl i’r brig


Gweithio mewn bar

Os ydych yn 16 neu’n 17oed, ni ddylai daliwr trwydded eich cyflogi i weithio mewn bar pan ei fod ar agor i werthu neu i yfed alcohol, oni bai fod y gwaith a wneir yn ran o gynllun hyfforddiant cymeradwy. Os bydd y daliwr trwydded yn eich cyflogi o dan yr amodau yma, y daliwr trwydded, ac nid y chi, fydd yn cyflawni trosedd.

Nôl i’r brig


Gweithio i’r Lluoedd Arfog

Os ydych yn iau na 18 oed, yn gyffredinol bydd angen caniatâd y ddau riant arnoch er mwyn ymuno â’r Lluoedd Arfog. Os yw eich rhieni wedi gwahanu neu wedi ysgaru, dim ond caniatâd y rhiant yr ydych yn byw gyda fydd angen.

Mae gan y Lluoedd Arfog eu cyfyngiadau oedran nhw eu hunain sy’n adlewyrchu’r anghenion recriwtio presennol. Mae manylion ar gael oddi wrth y Swyddfa Gyrfau Lluoedd Arfog perthnasol.

Nôl i’r brig


Gwarchod plant

Yng Nghymru a Lloegr, rydych yn medru gwarchod plant ar unrhyw oedran, p'un ai eich bod yn derbyn tâl ai peidio. Yng Ngogledd Iwerddon, rhaid eich bod yn dair ar ddeg, o leiaf. Cewch warchod plentyn o unrhyw oed. Fodd bynnag, os credir bod risg i blentyn oherwydd goruchwyliaeth annigonol, gellir dwyn achos yn erbyn rhieni’r plentyn neu gymryd camau i rhoi’r plentyn mewn gofal.

Os ydych yn hyn nag 16, gellir eich cyhuddo o drosedd os ydych yn ymosod ar blentyn yn eich gofal yn fwriadol, yn ei d/thrin yn wael neu'n gadael y plentyn ar ei b/phen ei hun.

Nôl i’r brig


Undebau llafur

Mae mwyafrif yr undebau llafur yn caniatau i bobl ifanc ymuno yn 16 oed, ond mae rhai yn derbyn aelodau iau.

Nôl i’r brig


Cynlluniau Hyfforddiant

Am wybodaeth ynglyn â chynlluniau hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc, gweler Cynlluniau cyflogaeth y Llywodraeth.

Nôl i’r brig


Gwybodaeth bellach i bobl ifanc

Mae mwy o wybodaeth ynghylch hawliau cyflogaeth ar wefan TheSite.org, sydd wedi'i hanelu'n benodol at oedolion ifanc. Mae'r testunau'n cynnwys cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, bwlio yn y gwaith, pwysedd sy'n gysylltiedig â gwaith a goroesi wedi cael y sac. Os ydych rhwngt16 a 25 oed, rydych yn medru e-bostio cwestiwn ynglŷn â gwaith a materion eraill at askTheSite, a chael ateb personol yn ôl.

Rhowch glic ar: (New window) www.thesite.org.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch hawliau plant a phobl ifanc mewn mannau eraill yn Adviceguide.

Am wybodaeth ynghylch hawliau cyffredinol plant a phobl ifanc, gweler Hawliau pobl ifanc.
Am wybodaeth ynghylch tai, gweler Pobl ifanc a thai.
Am wybodaeth ynghylch materion teuluol, gweler Pobl ifanc a theulu.
Am wybodaeth ynghylch arian a hawliau defnyddwyr, gweler Pobl ifanc – arian a hawliau defnyddwyr.
Am wybodaeth ynghylch budd-daliadau, gweler Pobl ifanc a budd-daliadau.
Am wybodaeth ynghylch iechyd a materion personol, gweler Pobl ifanc – iechyd a phersonol.
Am wybodaeth ynglyn â'r gyfraith a phobl ifainc, gweler Pobl ifanc a'r gyfraith.
Am wybodaeth ynghylch cludiant, gweler Pobl ifanc – teithio a chludiant.
I ddarllen taflen ynghylch astudio a gweithio, gweler (New window) Helpwch eich hun os ydych rhwng 18 a 24.

Nôl i’r brig