Chwilio am ganolfan leol

(New window) Find your CAB

Diweddarwyd y safle:

Chwefror 12 af 2012

Mae fy mhartner ar fin cael babi. A oes gen i hawl i amser i ffwrdd o'r gwaith? A gaf i fy nhalu?

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Efallai y byddwch yn medru cymryd hyd at bythefnos o gyfnod tadolaeth gyda chyflog. Rhaid eich bod wedi bod yn gweithio i'r un cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad y mae disgwyl i'r babi gyrraedd.

Os oes disgwyl i’ch babi gyrraedd ar 3 Ebrill 2011, neu ar ôl y dyddiad yma, ac nid yw’ch partner yn cymryd ei holl gyfnod mamolaeth, efallai y byddwch chi’n medru cymryd cyfnod tadolaeth ar gyfer gweddill yr amser y mae hawl ganddi i’w gymryd.

Efallai bod hawl gennych i 13 wythnos o gyfnod rhiant heb gyflog hefyd os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr ers dros blwyddyn. Mae'n rhaid i chi gymryd cyfnod rhiant cyn bod eich plentyn yn bum mlwydd oed. Mae'r rheolau'n wahanol os oes anabledd gan eich plentyn – mae gennych yr hawl i 18 wythnos o gyfnod rhiant heb gyflog sy'n rhaid ei gymryd cyn i'r plentyn gyrraedd 18 oed. Mae gan y ddau riant hawl i'r cyfnod yma - mamau a thadau.

Os ydyw'ch partner yn dychwelyd i'r gwaith, bydd ganddi fynediad at yr un hawliau i gyfnod rhiant yn ychwanegol at unrhyw gyfnod mamolaeth sy'n ddyledus iddi.

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad ydych yn briod â mam y babi ac hefyd os ydych yn bartner sifil i fam y babi.

Mae rhai cyflogwyr yn rhoi cyfnod ychwanegol â chyflog ar gyfer genedigaeth plentyn newydd felly dylech wirio'ch cytundeb cyflogaeth.

Am fwy o wybodateh ynglyn â hawliau tadloaeth a mamolaeth, gweler Hawliau mamolaeth yn y gwaith.

 

Cwestiynau cyffredin eraill ynglŷn â chyflogaeth: