Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Pan fyddwch chi ar incwm isel, mae'n anodd iawn cynllunio ar gyfer costau sy’n medru codi mewn argyfwng, costau angladd, costau babi newydd, neu daliadau unwaith yn unig ar gyfer eitemau mawr, er enghraifft, dodrefnu cartref. Fe allech hefyd fod mewn sefyllfa lle nad oes gennych unrhyw arian yn dod i mewn o gwbl. Mae yna arian ar gael ar gyfer y sefyllfaoedd hyn, er ei fod yn gyfyngedig. Gelwir yr arian hwn yn Gronfa Gymdeithasol. Mae'r Gronfa Gymdeithasol yn cynnwys taliadau angladd, grantiau mamolaeth, benthyciadau argyfwng, benthyciadau cyllidebu, grantiau gofal cymunedol a thaliadau tywydd oer. Mae taliadau tanwydd y gaeaf hefyd yn fath o daliad gan y Gronfa Gymdeithasol, ond maen nhw wedi eu cyfyngu at bobl sy'n 60 neu'n hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tanwydd gaeaf, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Os ydych chi ar incwm isel, efallai y byddwch hefyd yn medru cael budd-dâl i'ch helpu gyda'ch costau byw, eich rhent neu gostau tai eraill a'ch Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help ar incwm isel, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Mae grant mamolaeth (a elwir hefyd yn grant mamolaeth Cychwyn Cadarn) yn swm sefydlog o £500 wedi'i fwriadu i helpu pobl ar incwm isel i brynu dillad ac offer ar gyfer babi newydd-anedig. Nid oes rhaid ei ad-dalu. Ni does gwahaniaeth sut yr ydych chi'n defnyddio'r arian.
Os yw’r babi’n cael ei eni, mae disgwyl iddo gyrraedd, neu mae’n cael ei fabwysiadu, ar 11 Ebrill 2011, neu ar ôl y dyddiad yma, fe fyddwch ond yn medru cael grant mamolaeth os mai’r babi newydd yw’r unig blentyn dan 16 oed yn y cartref.
Fe allwch chi gael grant mamolaeth os ydych chi neu'ch partner yn cael Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu lwfans ceisio gwaith sy'n seiliedig ar incwm pan fyddwch chi'n gwneud y cais. Os ydych yn cael Credyd Treth Plant efallai y byddwch hefyd yn medru cael grant mamolaeth os ydych yn cael digon o Gredyd Treth Plant. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith gyda swm ychwanegol oherwydd anabledd, fe fydd hawl gennych i grant mamolaeth. Nid yw eich cyfalaf (er enghraifft, cynilion) yn effeithio ar grant mamolaeth.
Fe allwch chi hawlio grant mamolaeth os ydych chi neu eich partner o leiaf 29 wythnos i mewn i'r beichiogrwydd, neu wedi rhoi genedigaeth, mabwysiadu babi neu wedi cael plentyn trwy fam faeth o fewn y tri mis diwethaf. Mewn rhai amgylchiadau, fe allwch hawlio os mai chi yw mam-gu neu dad-cu’r babi ac rydych yn gyfrifol am y babi I hawlio grant mamolaeth, mae'n rhaid i chi ddangos eich bod wedi cael cyngor gan berson gofal iechyd proffesiynol hefyd. Ni ddylai’r babi fod yn fwy na deuddeg mis oed adeg dyddiad y cais.
Os ydych yn geisiwr lloches sy’n cael cymorth ceisiwr lloches y llywodraeth, ni allwch gael grant mamolaeth ond fe allwch gyflwyno cais i NASS am daliad unwaith-yn-unig o £300. Rhaid i chi gyflwyno cais cyn bod eich plentyn yn bythefnos oed.
Rwy'n cael Cymhorthdal Incwm ac mae fy nghariad yn feichiog. Dydyn ni ddim yn siarad llawer o Saesneg a dydyn ni ddim yn deall y system fudd-daliadau mewn gwirionedd. Ydyn ni'n medru cael help i brynu pethau ar gyfer y babi?
Ydych, efallai y cewch chi grant mamolaeth o £500 i'ch helpu i brynu dillad ac offer ar gyfer y babi. Dylai eich swyddfa budd-daliadau leol esbonio i chi, yn eich iaith eich hun, sut i hawlio. Neu fe fyddwch yn medru cael taflen ganddynt yn eich iaith eich hun. Fe fydd cynghorydd yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn medru eich helpu i hawlio ac yn medru eich helpu i ddeall unrhyw beth arall sydd ar gael i chi. Er enghraifft, fe fydd eich cariad yn medru cael talebau ar gyfer ffrwythau, llysiau a llaeth tra'i bod yn feichiog ac wedi geni'r babi fe fyddwch yn medru cael mwy o help ariannol.
Am fwy o wybodaeth ar grantiau mamolaeth, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.
Mae taliad angladd yn daliad i helpu pobl sydd ar incwm isel gyda chostau hanfodol angladd. Rhaid i chi ddangos eich bod wedi talu'r costau hyn. Nid oes rhaid i chi ad-dalu taliad angladd, er y gellir ei dynnu o ystâd y person a fu farw.
Fe allwch hawlio taliad angladd os ydych chi neu eich partner yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, budd-dâl tai neu fudd-dâl treth gyngor, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn. Os ydych yn cael Credyd Treth Plant ac mae eich dyfarniad yn ddigon uchel, fe allwch ofyn am daliad angladd. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith gyda swm ychwanegol ar gyfer anabledd, fe allwch hefyd ofyn am daliad angladd. Nid yw eich cyfalaf (er enghraifft, cynilion) yn effeithio ar daliad angladd.
Ni fyddwch yn cael taliad angladd dim ond am eich bod yn talu am angladd. Mae'n rhaid i'r Ganolfan Byd Gwaith dderbyn ei fod yn rhesymol i chi fod yn gyfrifol am gostau'r angladd ac nad oes unrhyw un arall a ddylai fod yn talu amdani. Os ydych yn hawlio costau angladd ar gyfer eich plentyn sydd wedi marw neu os mai chi oedd partner y person a fu farw, gellir talu taliad angladd i chi tra'ch bod yn cwrdd â'r amodau ar gyfer y budd-dâl. Mae hyn yn berthnasol i bartneriaid hoyw a lesbiaidd yn ogystal â phartneriaid gwahanrywiol. Mae hefyd yn berthnasol waeth a oeddech chi'n briod, mewn partneriaeth sifil neu'n cydfyw.
Os ydych yn berthynas agos, yn aelod o'r teulu neu'n ffrind i'r person sydd wedi marw, efallai y gallwch gael taliad angladd, ond fe fydd hyn yn dibynnu os oes unrhyw berthnasau eraill yn fyw sydd ddim ar fudd-daliadau. Os oes rhywun arall sy'n agosach neu'r un mor agos at y person a fu farw ac nid ydyw ar fudd-dâl, yna fel arfer ni fyddwch yn medru cael taliad angladd. Yn y sefyllfa yma, fe fydd y Ganolfan Byd Gwaith hefyd yn ystyried a yw'n rhesymol i chi dderbyn cyfrifoldeb tros gostau'r angladd. Fe fyddan nhw'n ystyried pa mor dda yr oeddech chi'n adnabod y person a fu farw.
Ni fydd taliad angladd yn cynnwys holl gostau angladd. Ni ellir talu am gostau sydd eisoes yn dod o dan gynllun angladd sydd wedi ei dalu ymlaen llaw.
Fel arall, fe all daliad angladd gynnwys:
Mae taliad angladd hefyd yn medru cynnwys hyd at £700 ar gyfer costau eraill, gan gynnwys:
Os oes cynllun taliad angladd preifat, mae yna derfyn o £120 ar gyfer unrhyw rai o'r costau eraill hyn sydd ddim yn dod o dan y cynllun angladd yn barod.
Fe fydd y taliad angladd yn gostwng yn sgil unrhyw asedion sydd ar gael o eiddo'r person a fu farw. Mae hyn yn golygu unrhyw adnoddau a oedd ganddynt y gellir eu defnyddio i dalu tuag at yr angladd, er enghraifft:
Rydych yn medru hawlio taliad angladd o ddyddiad y farwolaeth, hyd at dri mis ar ôl dyddiad yr angladd, hyd yn oed os ydych eisoes wedi talu bil yr angladd.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, rydych yn medru hawlio trwy:
Am fwy o wybodaeth ynghylch y Gwasanaeth Profedigaeth, gweler 'Dweud wrth y llywodraeth am y farwolaeth ' yn Beth i wneud ar ôl marwolaeth.
Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru cael ffurflen gan eich Swyddfa Nawdd Cymdeithasol leol neu'r swyddfa Swyddi a Budd-daliadau. Neu rydych yn medru lawrlwytho'r ffurflen oddi ar wefan adran o'r enw Department for Social Development yn: www.nidirect.gov.uk.
Os ydych wedi defnyddio trefnwr angladdau sydd heb gael ei dalu eto, fe arfer anfonir y taliad yn syth ato. Os ydych wedi talu’r trefnwr angladdau yn barod, fe fyddwch chi’n cael y taliad. Efallai na fyddwch yn medru hawlio costau llawn yr angladd.
Os gwrthodir rhoi taliad angladd i chi, neu os ydych yn credu bod eich dyfarniad yn is nag y dylai fod, fe allwch ofyn iddynt i ystyried y penderfyniad eto, neu fe allwch apelio. Dylech wneud hyn o fewn mis i'r penderfyniad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau angladd gan y Gronfa Gymdeithasol, rhowch glic ar wefan Directgov yn: www.direct.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau angladd gan y Gronfa Gymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, rhowch glic ar wefan Directgov Gogledd Iwerddon yn: www.nidirect.gov.uk.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gofyn am ailedrych ar benderfyniad neu apelio, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch taliad angladd, fe allwch hefyd ofyn i gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae taliadau tywydd oer yn helpu pobl ar incwm isel gyda chostau tanwydd yn ystod cyfnodau o dywydd oer. Nid oes gwahaniaeth ar beth yr ydych yn gwario'r arian, ac nid oes rhaid ei ad-dalu. Mae pob ardal cod post yn y wlad wedi'i gysylltu at orsaf dywydd a cheir taliadau ar gyfer cyfnodau o dywydd oer. Pan fydd gorsaf dywydd yn rhagddweud neu'n cofnodi tymheredd dyddiol cyfartalog o 0 gradd canradd neu lai am saith niwrnod yn olynol, fe fydd yna daliad.
Mae taliadau tywydd oer yn wahanol i daliadau tanwydd y gaeaf, a delir bob gaeaf i bobl sy'n hŷn nag oed pensiwn y wladwriaeth, waeth beth yw'r tymheredd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch taliadau tanwydd y gaeaf, a phwy sy’n medru eu cael, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Fe fydd hawl gennych i daliad tywydd oer os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm am o leiaf un diwrnod yn ystod y cyfnod o dywydd oer ac:
Mae hawl gennych hefyd i daliad tywydd oer os ydych yn cael Credyd Pensiwn ac nid ydych yn byw mewn cartref gofal.
Rydych yn medru cael taliad tywydd oer os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm ac:
Os oes hawl gennych i daliadau tywydd oer, fe fyddwch yn cael taliad awtomatig am bob cyfnod o dywydd oer. Mae’r taliad yma yn £25.00. Nid oes rhaid i chi ofyn am daliad tywydd oer, ond os ydych yn credu y dylech dderbyn y taliad ac nid ydych yn ei gael, fe allwch ofyn yn ysgrifenedig i'ch swyddfa budd-daliadau. Os ydynt yn gwrthod rhoi taliad i chi a chithau'n dal i feddwl bod hawl gennych i'r taliad, fe allwch ofyn am iddynt ailystyried neu fe allwch apelio i dribiwnlys annibynnol. Dylech wneud hyn o fewn mis i'r penderfyniad.
Am fwy o wybodaeth ynghylch herio taliad tywydd oer, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch taliad tywydd oer, fe allwch hefyd ofyn i gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Bwriad grantiau gofal cymunedol yw helpu gyda chostau fel y gall pobl fyw yn y gymuned ac fel y gall teuluoedd aros gyda'i gilydd. Mae grantiau gofal cymunedol yn rhai dewisol, sy'n golygu, hyd yn oed os ydych yn gymwys, y byddwch ond yn cael y grant os yw'r swyddfa budd-daliadau yn penderfynu bod eich angen yn bwysig ac mae yna ddigon o arian ar ôl yng nghyllideb Cronfa Gymdeithasol yr ardal. Nid oes rhaid ad-dalu grantiau gofal cymunedol, ac felly dylech wastad holi os fedrwch chi hawlio un pan fydd gennych gostau na allwch eu fforddio.
Fe allwch ofyn am grant gofal cymunedol os:
Fe fydd unrhyw grant gofal cymunedol sydd ar gael i chi yn gostwng os oes gennych chi, neu eich partner, gyfalaf (er enghraifft, cynilion) o fwy na £500 (£1,000 os oes un ohonoch yn 60 neu’n hyn). Os oes gennych fwy o gyfalaf na hyn, ond ddim digon i dalu am yr eitem neu’r gwasanaeth sydd ei angen arnoch, fe allwch ofyn am grant ar gyfer y gwahaniaeth.
Gellir ond rhoi grant gofal cymunedol os fydd yn helpu gyda sefyllfaoedd penodol. Fe allwch gael y grant ar gyfer costau a fydd yn helpu eich sefydlu chi, aelod o’ch teulu, neu rywun y byddwch yn gofalu amdano/i, yn y gymuned ar ôl cyfnod mewn gofal preswyl neu sefydliad, neu i aros yn y gymuned yn lle mynd i mewn i dderbyn gofal. Fe fyddwch hefyd yn medru cael un i leddfu pwyseddau neilltuol ar eich teulu, er enghraifft, os ydyw bod heb eitem hanfodol yn achosi pwysedd arnoch neu yn effeithio ar iechyd eich plant.
Gellir rhoi grant gofal cymunedol i’ch helpu chi neu eich partner i ofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sydd gartref am gyfnod. Fe fyddwch hefyd yn medru cael grant gofal cymunedol i’ch helpu i sefydlu eich cartref fel rhan o raglen ailgyfanheddiad sydd wedi ei chynllunio ar ôl cyfnod ansefydlog, er enghraifft, os ydych wedi bod yn ddigartref. Gellir rhoi grant gofal cymunedol i helpu gyda chostau teithio penodol sy’n helpu teuluoedd a phobl sy’n byw yn y gymuned, (gweler y pennawd Costau teithio, isod).
Er bod yr amgylchiadau’n ymddangos yn benodol iawn, mae yna lawer o sefyllfaoedd lle gallent fod yn berthnasol. Er enghraifft, os ydych yn rhiant unigol, ac wedi symud i dŷ newydd, efallai y bydd eich teulu o dan bwysedd neilltuol os na allwch gael arian tuag at eitemau newydd. Mae’n rhaid i chi esbonio beth allai ddigwydd os na chewch help.
Fel arfer, ni allwch gael grant gofal cymunedol os ydych wedi gofyn am daliad gan y Gronfa Gymdeithasol ar gyfer yr un eitem neu wasanaeth o fewn y 26 wythnos diwethaf.
Ni allwch gael grant gofal cymunedol os ydych wedi gofyn am yr un eitem neu wasanaeth o fewn y 12 mis diwethaf, onid yw'r amgylchiadau wedi newid.
Yng Ngogledd Iwerddon, ni ddylech fod wedi cyflwyno cais am yr un eitem neu wasanaeth o fewn y 28 diwrnod blaenorol.
Gellir hefyd rhoi grant gofal cymunedol i hybu gofal cymunedol trwy eich helpu chi neu aelod o’ch teulu gyda chostau teithio gan gynnwys cost llety dros nos, tra bod y daith o fewn y Deyrnas Gyfunol. Rhaid bod angen teithio i:-
Mae yna rai costau sydd ddim yn dod o dan grantiau gofal cymunedol ar unrhyw adeg. Ni ellir cynnwys unrhyw gostau tu allan i’r Deyrnas Gyfunol. Mae costau eraill na allwch ofyn am grant gofal cymunedol ar eu cyfer yn cynnwys cost gwisg ysgol, costau teithio i’r ysgol a chinio ysgol, costau meddygol, costau tai a chostau tanwydd.
Fe allwch geisio am grant gofal cymunedol ar ffurflen SF300 sydd ar gael o swyddfeydd budd-daliadau lleol. Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’r ffurflen hefyd ar gael ar-lein ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn www.dwp.gov.uk, er y bydd angen i chi argraffu’r ffurflen er mwyn ei harwyddo.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae’r ffurflen hefyd ar gael ar-lein ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn www.dwp.gov.uk, er y bydd angen i chi argraffu’r ffurflen er mwyn ei harwyddo. Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru lawrlwytho'r ffurflen oddi ar wefan adran o'r enw Department for Social Development yn: www.nidirect.gov.uk.
Am fod grantiau gofal cymunedol yn rhai dewisol, mae’n bwysig cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ar y ffurflen gais, ac esbonio beth fydd yn digwydd os na fedrwch chi dalu am eitem neu wasanaeth. Efallai y bydd gweithiwr cymdeithasol neu berson arall sy’n gweithio gyda chi yn medru eich helpu i lenwi’ch cais, neu fe allwch ofyn am help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Fel arfer, isafswm y grant gofal cymunedol y gellir ei roi yw £30. Nid oes uchafswm.
Os gwrthodir rhoi grant gofal cymunedol i chi, neu os ydych yn cael llai nag y gofynnwyd amdano, fe allwch ofyn i’r swyddfa budd-daliadau ailystyried y penderfyniad. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon gyda’r canlyniad, fe allwch ofyn am adolygiad gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ar gyfer y Gronfa Gymdeithasol (yr IRS). Mae hwn yn fudiad annibynnol sy’n gorff ar wahân i’r swyddfa budd-daliadau. Fe allwch ddarganfod mwy am yr IRS yn www.irs-review.org.uk.
Osydych yn ystyried herio penderfyniad ynghylch grant gofal cymunedol, dylech ofyn i gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Fe all fenthyciadau cyllidebu helpu gyda chostau un taliad hanfodol y mae’n anodd cynllunio ar eu cyfer pan rydych chi’n byw ar fudd-daliadau sy’n ddarostyngedig i brawf moddion. Rhaid ad-dalu benthyciadau cyllidebu i’r Gronfa Gymdeithasol, ond nid oes llog arnynt. Mae hyn yn golygu mai’r swm a fenthycwyd gennych sy’n rhaid ei ad-dalu yn unig. Ni fyddwch yn cael benthyciad cyllidebu dim ond am eich bod chi’n gymwys i ofyn am un Fe fyddwch yn cael gwybod beth yw’r penderfyniad wedi edrych ar eich amgylchiadau.
Fe allwch ofyn am fenthyciad cyllidebu os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn ar y diwrnod yr ydych yn gofyn. Hefyd, rhaid eich bod chi wedi bod ar un o’r budd-daliadau hyn am o leiaf 26 wythnos. Fe fydd unrhyw doriad o 28 diwrnod neu lai yn y cyfnod hawlio yn cael ei anwybyddu.
Ni allwch gael benthyciad cyllidebu llawn os oes gennych chi neu eich partner fwy na £1,000 mewn cyfalaf (£2,000 os ydych chi neu eich partner yn hŷn nag oed pensiwn y wladwriaeth). Os oes gennych chi gyfalaf o fwy na’r swm yma, fe fydd eich benthyciad cyllidebu yn cael ei ostwng gymaint â swm eich cyfalaf dros ben y terfyn.
Gellir ond rhoi benthyciad cyllidebu am eitemau neu wasanaethau hanfodol mewn categorïau penodol o gostau. Fe allwch ofyn am fenthyciad cyllidebu am help gyda dodrefn ac offer ar gyfer y cartref, dillad ac esgidiau. Fe allwch ofyn am help gyda rhent sy’n rhaid ei dalu ymlaen llaw neu gostau symud eich dodrefn i lety newydd. Fe allwch ofyn am help gyda chostau gwella, cynnal a chadw a diogelwch eich cartref. Fe allwch ofyn am help gyda chostau teithio hanfodol a chostau sy’n gysylltiedig â chael gwaith neu ddechrau gwaith. Fe allwch hefyd ofyn am help gyda thaliadau hurbwrcas a dyledion eraill, os benthycwyd yr arian ar gyfer costau yn unrhyw rai o’r categorïau eraill.
Cyn i chi ofyn am fenthyciad cyllidebu, dylech holi i weld a fedrwch chi ofyn am grant gofal cymunedol, neu a oes hawl gennych i grant mamolaeth neu daliad angladd, oherwydd nid oes rhaid ad-dalu’r grantiau hyn. (Gweler y pennawd Grantiau mamolaeth, Taliadau angladd neu Grantiau gofal cymunedol.)
Fe allwch chi ofyn am fenthyciad cyllidebu ar y ffurflen SF500, sydd ar gael o swyddfeydd budd-daliadau lleol.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, rydych yn medru lawrlwytho copi o'r ffurflen oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn www.dwp.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn medru lawrlwytho'r ffurflen oddi ar wefan adran o'r enw Department for Social Development yn:: www.nidirect.gov.uk.
Am fod Benthyciadau cyllidebu yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n rhaid i chi ateb pob cwestiwn ar y ffurflen sy’n berthnasol. Nid oes rhaid i chi nodi’n union beth sydd angen arnoch na phâm, ond rhaid i chi nodi categori’r costau sy’n berthnasol i’r benthyciad a faint o arian sydd ei angen arnoch (gweler y pennawd Pa gostau gellir eu talu gyda’r benthyciad cyllidebu).
Os ydych chi eisiau help i ofyn am fenthyciad cyllidebu, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Isafswm y benthyciad cyllidebu y gellir ei roi i chi yw £100, a’r uchafswm yw £1,500. Gwneir y penderfyniad trwy edrych ar eich amgylchiadau, ar unrhyw fenthyciad cyllidebu sy’n ddyledus gennych ar y pryd, unrhyw gyfalaf sydd gennych dros ben y terfyn cyfalaf, a’ch gallu i ad-dalu’r benthyciad. Fe fydd y dyfarniad hefyd yn dibynnu ar gyllideb y Gronfa Gymdeithasol leol. Fe fydd y penderfyniad ynghylch y benthyciad cyllidebu yn dweud wrthych faint y gallwch chi ei fenthyg a beth yw’r cyfraddau ar gyfer ei ad-dalu - fe allai gynnig mwy nag un trefniant i chi. Fel arfer, dylid ad-dalu benthyciad o fewn 104 wythnos (2 blynedd).
Os gwrthodir rhoi benthyciad cyllidebu i chi, neu os ydych yn cael llai nag y gofynnwyd amdano, fe allwch ofyn i’r swyddfa budd-daliadau ailystyried y penderfyniad. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon gyda’r canlyniad, fe allwch ofyn am adolygiad gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ar gyfer y Gronfa Gymdeithasol (yr IRS). Mae hwn yn fudiad annibynnol sy’n gorff ar wahân i’r swyddfa budd-daliadau. Fe allwch ddarganfod mwy am yr IRS yn www.irs-review.org.uk.
Os oes angen cyngor arnoch ynghylch penderfynu rhwng cynigion o fenthyciad cyllidebu neu os nad ydych yn anhapus gyda phenderfyniad ynghylch benthyciad cyllidebu, dylech ofyn i gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae benthyciadau argyfwng yn cynnig help i bobl sydd angen arian yn gyflym oherwydd costau argyfwng neu drychineb. Maen nhw hefyd yn gallu helpu gyda rhent ymlaen llaw mewn rhai amgylchiadau. Rhaid ad-dalu benthyciadau argyfwng i’r Gronfa Gymdeithasol, ond nid oes llog arnynt. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi ad-dalu mwy na’r swm a fenthycwyd. Mae benthyciadau argyfwng yn ddewisol sy’n golygu na fyddwch yn ei gael dim ond am eich bod â hawl i ofyn. Fe fydd y swyddfa budd-daliadau yn penderfynu a yw’n mynd i roi unrhyw swm i chi ar sail yr arian sydd yng nghyllideb y Gronfa Gymdeithasol leol, a faint o angen sydd arnoch am help.
Fe allwch ofyn am fenthyciad argyfwng os ydych yn 16 neu’n hyn ac nid oes gennych yr adnoddau i gwrdd â’ch anghenion tymor byr chi a’ch teulu. Rhaid eich bod chi yn y sefyllfa hon adeg gwneud y penderfyniad am eich cais am fenthyciad argyfwng. Nid oes yn rhaid i chi fod ar fudd-daliadau, ond ni ddylai fod gennych unrhyw arian ar gael y byddai’n bosib i chi ei ddefnyddio yn lle. Mae rhai pobl wedi eu heithrio rhag cael benthyciadau argyfwng, ac felly, yn ychwanegol at hyn, ni ddylech fod yn un o’r bobl hynny sydd wedi eu heithrio rhag cael benthyciad argyfwng. Ni ellir rhoi benthyciad argyfwng os ydych wedi gofyn am yr un eitem neu wasanaeth o fewn y 12 mis blaenorol, onid yw'r amgylchiadau wedi newid. Yng Ngogledd Iwerddon, ni ellir rhoi benthyciad argyfwng i chi os ydych wedi cyflwyno cais am yr un eitem neu wasanaeth o fewn y 28 diwrnod blaenorol onid yw’ch amgylchiadau wedi newid.
Rydych chi wedi eich eithrio rhag cael benthyciad argyfwng ac ni ellir eich talu os ydych:-
Mae yna rai grwpiau eraill o bobl sydd ond yn medru cael benthyciad argyfwng mewn amgylchiadau neilltuol, er enghraifft rhai myfyrwyr, pobl ar streic a phobl y gwrthodwyd rhoi budd-daliadau eraill iddynt. Fe fydd eich statws mewnfudo hefyd yn effeithio ar y penderfyniad i roi benthyciad argyfwng i chi.
Os nad ydych siŵr a fedrwch chi gael benthyciad argyfwng, dylech ofyn i gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Gellir talu benthyciad argyfwng ar gyfer rhai costau penodol sydd wedi codi oherwydd argyfwng neu drychineb. Rhaid mai’r benthyciad argyfwng yw’r unig ffordd y gallwch osgoi niwed neu risg difrifol i’ch iechyd neu ddiogelwch chi neu aelod o’ch teulu. Mae enghreifftiau o argyfwng yn cynnwys tân neu lifogydd.
Mewn argyfwng, fe fyddwch ond yn medru cael benthyciad argyfwng ar gyfer:
Os bydd argyfwng yn codi, fel tân neu lifogydd, yn ogystal â’r treuliau y soniwyd amdanynt yn barod, efallai y byddwch hefyd yn medru cael benthyciad argyfwng i dalu costau eraill, fel prynu eitemau newydd ar gyfer y cartref neu ddillad newydd yn lle rhai a ddifrodwyd.
Mewn rhai amgylchiadau, gellir rhoi benthyciad argyfwng i dalu rhent ymlaen llaw hyd yn oed pan na fydd trychineb neu argyfwng.
Os yw’r benthyciad argyfwng ar gyfer rhent ymlaen llaw, rhaid ei fod yn daladwy i landlord tai cymdeithasol neu breifat, ac nid i awdurdod lleol. Fe allwch ond cael benthyciad argyfwng am rent ymlaen llaw os ydych wedi cael grant gofal cymunedol i sefydlu eich hun yn y gymuned wedi i chi adael gofal preswyl neu ofal mewn sefydliad (gweler y pennawd Grantiau gofal cymunedol), neu am fod angen i chi dalu’r rhent er mwyn osgoi niwed neu risg i chi neu eich teulu ar ôl argyfwng neu drychineb. Os ydych yn cael trafferth talu rhent ymlaen llaw ac nid yw’r amgylchiadau hyn yn berthnasol, efallai y medrwch gael help trwy fenthyciad cyllidebu yn lle (gweler y pennawd Benthyciadau cyllidebu).
Mae rhai costau wedi eu heithrio rhag benthyciadau argyfwng. Er enghraifft, ni allwch gael benthyciad argyfwng am unrhyw gostau tu allan i’r Deyrnas Gyfunol, costau gwisg ysgol, costau teithio i’r ysgol ac yn ôl, cinio ysgol, costau meddygol, neu gostau a allai ddod o dan grant mamolaeth neu daliad angladd.
Os ydych chi am holi pa gostau sydd wedi eu heithrio rhag benthyciad argyfwng, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Cyn gofyn am fenthyciad argyfwng, dylech holi i weld os ydych yn gymwys i gael grant gofal cymunedol neu a oes hawl gennych i grant mamolaeth neu daliad angladd, oherwydd nid oes rhaid i chi ad-dalu’r rhain.
Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, fe allwch ofyn am fenthyciad argyfwng ar un o’r ffurflenni canlynol:
Fe allwch lawrlwytho’r ffurflenni hyn oddi ar wefan Directgov yn www.direct.gov.uk. Os oes gennych anghenion brys, efallai y byddwch yn medru hawlio dros y ffôn neu ar radffôn 0800 032 7952, neu, os oes anawsterau lleferydd neu glyw gennych, ar ffôn testun 0800 032 7958.
Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch lawrlwytho copi o ffurflen hawlio’r benthyciad argyfwng oddi ar wefan NI Direct yn: www.dsdni.gov.uk, fe allwch gasglu ffurflen SF 401 o’ch swyddfa Nawdd Cymdeithasol neu Swyddi a Budd-daliadau leol, neu fe allwch ffonio llinell gymorth rhad ac am ddim Benthyciadau Argyfwng ar: 0800 028 8822.
Ni ddylid gwrthod cyfle i chi geisio am fenthyciad argyfwng, a dylai’r swyddfa budd-daliadau roi ffurflen gais i chi os ydych yn gofyn am un. Os ydyn nhw’n gwrthod, dylech gwyno i’r Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y swyddfa ranbarthol.
Am fod benthyciadau argyfwng yn ddewisol, mae’n bwysig cynnwys yr holl wybodaeth sy’n berthnasol ar y ffurflen gais. Os ydych chi angen help i ofyn am fenthyciad argyfwng, dylech ofyn i gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth.
Os ydych wedi ceisio am help gyda’ch costau byw ddwy waith neu fwy yn y 12 mis diwethaf, fel arfer fe fydd yn rhaid i chi fynd i gyfweliad yn Swyddfa’r Ganolfan Byd Gwaith.
Fe fydd y swyddfa budd-daliadau yn dweud wrthych a ydyn nhw’n gallu talu unrhyw swm i chi, ac, os yn berthnasol, faint sy’n bosib i chi ei gael. Nid oes isafswm. Yr uchafswm yw £1,500 ond mae yna uchafsymiau penodol hefyd ar gyfer costau byw. Ar gyfer costau eraill, yr uchafswm yw cost resymol yr eitem neu wasanaeth sydd ei angen arnoch. Wrth benderfynu faint i’w roi i chi, fe fydd y swyddfa budd-daliadau yn ystyried faint y medrwch chi fforddio ei ad-dalu. Fel arfer, dylid ad-dalu benthyciadau o fewn 104 wythnos (2 blynedd).
Os gwrthodir rhoi benthyciad cyllidebu i chi, neu os ydych yn cael llai nag y gofynnwyd amdano, fe allwch ofyn i’r swyddfa budd-daliadau ailystyried y penderfyniad. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon gyda’r canlyniad, fe allwch ofyn am adolygiad gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ar gyfer y Gronfa Gymdeithasol (yr IRS). Mae hwn yn fudiad annibynnol sy’n gorff ar wahân i’r swyddfa budd-daliadau. Fe allwch ddarganfod mwy am yr IRS yn www.irs-review.org.uk.
Os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad ynghylch benthyciad argyfwng, y swm a gynigiwyd i chi neu’r gyfradd ar gyfer ei ad-dalu, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy'n rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.
Mae yn erbyn y gyfraith i rywun wahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft, oherwydd eich hil, rhyw, crefydd, rhywioldeb neu anabledd pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn delio gyda'ch cais am help gan y Gronfa Gymdeithasol. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef gwahaniaethu, rydych yn medru cwyno am hyn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch cwyno, gweler Problemau gyda budd-daliadau a chredydau treth.
Am fwy o wybodaeth ynghylch gwahaniaethu, gweler ein tudalennau ar wahaniaethu.
Os ydych chi angen gwybodaeth am y Gronfa Gymdeithasol mewn ieithoedd eraill, fe allwch fynd i’ch swyddfa budd-daliadau leol. Maen nhw’n medru darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.