Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Fe fydd y budd-daliadau sydd ar gael i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.
Os ydych yn chwilio am waith, efallai y byddwch yn gymwys i hawlio Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau neu Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm. Os oes gennych blant, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Plant. Os ydych yn sâl neu’n anabl mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os ydych yn rhiant unigol neu'n gynhaliwr, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Cymhorthdal incwm. Mae’n bosib y cewch gymorth gyda’r rhent a threth y cyngor trwy wneud cais am Fudd-dâl Tai neu Fudd-dâl Treth Gyngor.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu yn prynu eich cartref eich hun ac yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm neu Gredyd Pensiwn, gallech fod yn gymwys i gael help gyda'ch costau tai, er efallai na fydd hyn ar gael yn syth.
Mae rhai budd-daliadau yn seiliedig ar gyfraniadau. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm a math y budd-dâl y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar faint a pha fath o gyfraniadau yswiriant gwladol yr oeddech yn eu talu tra'ch bod yn gweithio. Mae budd-daliadau eraill yn ddarostyngedig i brofion moddion. Mae hyn yn golygu y gwneir asesiad o’r incwm, cynilion neu gyfalaf sydd gennych.
Os ydych yn derbyn budd-daliadau, credydau treth neu os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn medru cael help gyda chostau eraill, er enghraifft, costau presgripsiwn.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau pan fyddwch chi’n chwilio am waith, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n chwilio am waith.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Cymhorthdal Incwm, gweler Help i bobl ar incwm isel – Cymhorthdal Incwm.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau os ydych yn sâl neu'n anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Help gyda'ch treth gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor neu yng Ngogledd Iwerddon, gweler Help gyda'ch trethi.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gweler Help gyda'ch rhent – Budd-dâl Tai neu yng Ngogledd Iwerddon, Help gyda'ch rhent – Budd-dal Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Credyd Treth Plant, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.