Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Gan ddibynnu ar eich incwm a'ch cyfalaf, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn yn ogystal â'ch pensiwn preifat neu Bensiwn Ymddeol y Wladwriaeth. Os ydych yn talu rhent am eich cartref, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Budd-dâl Tai hefyd. Os oes yn rhaid i chi dalu treth gyngor mae’n bosib hefyd eich bod yn gymwys i dderbyn Budd-dâl Treth Gyngor. Mae’r mwyafrif o bensiynwyr yn gymwys i dderbyn Taliadau Tanwydd y Gaeaf yn awtomatig bob blwyddyn ac mae pensiynwyr sydd ar Gredyd Pensiwn yn medru hawlio Taliadau Tywydd Oer pan ei bod hi’n oer iawn. Os ydych yn sâl neu’n anabl, mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn Lwfans Byw i’r Anabl neu Lwfans Gweini.
Fel pensiynwr mae’n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn costau iechyd di-dâl, er enghraifft presgripsiynau rhad ac am ddim. Os ydych yn 75 oed a throsodd gallwch gael trwydded deledu am ddim.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau i bobl oed pensiwn, gan gynnwys Credyd Pensiwn, gweler Budd-daliadau i bobl dros chwedeg.
Am fwy o wybodaeth ynghylch pensiynau, gweler Pensiynau.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dâl Tai.
Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dâl Treth Gyngor, gweler Help gyda'ch treth gyngor – Budd-dâl Treth Gyngor.
Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau os ydych yn sâl neu'n anabl, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.
Am fwy o wybodaeth ynghylch help gyda chostau iechyd, gweler Help gyda chostau iechyd.
Am fwy o wybodaeth ynghylch trwyddedau teledu rhad ac am ddim, gweler Trwyddedau teledu.